Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Breese, Edward

Beuno (Richard Williams) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Davies, Edward

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Breese
ar Wicipedia

BREESE, EDWARD (1835—1881).—Cyfreithiwr, llenor, hynafiaethydd, ac awdwr: ail fab i'r Parch. John Breese, Caerfyrddin, lle y ganed ef, ar y 13eg o Ebrill, 1835. Derbyniodd ei addysg athrofaol yng Ngholeg Lewisham, Kent; astudiodd y gyfraith. Yn 1857 symudodd i Borthmadog, at ei ewythr, brawd ei fam—Mr. David Williams, Castell Deudraeth—i ddilyn ei swydd gyfreithiol, a daeth yn fuan, oherwydd ei alluoedd a'i gysylltiad â'i ewythr, i fod yn un o gymeriadau amlycaf y Dyffryn. Ar ymddiswyddiad ei ewythr o fod yn Ysgrifennydd yr Heddwch dros Sir Feirionnydd, ac fel Clerc i Arglwydd Raglaw y Sir, a Chlerc Ynadon Eifionnydd, ar y 22ain o Fedi, 1859, penodwyd ef yn olynydd iddo. Bu hefyd am gyfnod pwysig yn brif oruchwyliwr Ystâd Madocks—y cyfnod cyn dyfodiad yr etifedd—F. W. A. Roche, Ysw.,—i'w oed; a phan oedd sefyllfa'r ystâd yn ddyrus, a'r swydd yn anodd ei chyflawni. Bu a rhan hefyd gyda phob symudiad o bwys a gymerodd le ym Mhorthmadog yn ystod ei arhosiad ynddi. Eglwyswr ydoedd o ran enwad, a Rhyddfrydwr mewn gwleidyddiaeth. Gweithiodd yn egniol dros ymgeisiaeth Mr. Williams yn ei etholiadau ym Meirion; a thros Mr. Holland yn Etholiad 1870. Efe hefyd fu'n brif offeryn i ddwyn allan Syr Love Jones Parry, Barwnig, i wrthwynebu'r Anrhydeddus G. Douglas Pennant yn 1868, pan ddychwelodd Arfon Ryddfrydwr i'w chynrychioli am y waith gyntaf yn Senedd Prydain Fawr. Gallasai Mr. Breese fod wedi ei ddewis yn ymgeisydd seneddol ei hunan pe dymunasai; ac edrychai Meirion yn ffyddiog ato fel olynydd i Mr. Holland pan ddeuai'r galw. Ond bu farw cyn i'r cyfle ddod. Yr oedd yn siaradwr effeithiol, ac ar brydiau yn finiog iawn. Fel llenor, ysgrifennodd lawer ar faterion hynafiaethol i'r "Bye-gones" a'r "Archæologia Cambrensis." Ond ei brif waith llenyddol ydyw "The Kalendars of Gwynedd," gyda nodiadau gan W. W. E. Wynne o Beniarth, a gyhoeddwyd gan J. E. Hotten, Llunden, 1873. Gwnaed ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethol. Bu farw ar y 10fed o Fawrth, 1881, yn 46 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys y Drindod, Penrhyndeudraeth. Yno hefyd y claddwyd ei briod, Ion. 9fed, 1891. Ffurfiwyd ysgoloriaeth er cof am dano yn yr Ysgol Ganolraddol yn y dref.—("Bye—gones," tud. 206; "Arch. Cambrensis," 1881, tud. 171: "Boosie's Modern Biog.).

Nodiadau

golygu