Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Madocks, William Alexander

Jones, William Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Mair Eifion (Mary Davies)

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Alexander Madocks
ar Wicipedia

MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER (1774—1828).Gwleidyddwr, gwladgarwr, a gwr o ysbryd anturiaethus, ac o ynni diderfyn—sylfaenydd Tre a Phorthmadog. Y trydydd mab ydoedd i John Madocks, St. Andrew's, Holborn, a'r Fron Yw a Glan y Wern, Sir Ddinbych—yntau'n un o enwogion ei oes, yn ddadleuydd amlwg yn Llys y Chancery, ac yn aelod seneddol dros Westbury, yn swydd Wilts (1786—80). Ganed y mab ar y 17eg o Fehefin, 1774. Cafodd fanteision addysg goreu ei ddydd. Aeth i Goleg Crist, Rhydychen, ac aeth yn llwyddiannus trwy Arholiad y Matriculation ar y laf o Fawrth, 1790. Graddiodd yn B.A. yn 1793, ac yn M.A. yn 1799, a bu'n Gymrawd o Goleg yr All Souls (1794—1818). Tua'r flwyddyn 1798 bu farw'i dad, gan adael iddo yntau gyfoeth Ymsefydlodd gyntaf yn ardal Llanelltyd, ger Dolgellau, gan brynu lle o'r enw Dolmelynllyn (Dolmenllyn, ar lafar gwlad). Tra yno darllennodd "Teithiau yng Nghymru" Pennant, a gwelodd ynddo'r ohebiaeth a fu rhwng y ddau Farwnig, John Wynne a Hugh Middleton, ynghylch ennill y Traeth Mawr oddiar y môr. Swynodd y syniad ef, ac ymbaratodd i'w gario allan—a llwyddodd. Yn 1798 prynodd ystad Tan yr Allt, adeiladodd blasty yno, a symudodd yno i fyw. Yn ei flynyddoedd diweddaf symudodd i Duhwnt i'r Bwlch a Morfa Lodge—y ddau ar y cyd. Erbyn 1810 yr oedd wedi adeiladu Tremadog. Yn 1807 cafodd hawl gan y Goron, yr hyn a gadarnhawyd gan Ddeddf Seneddol, i wneud morglawdd, tua milldir o hyd, ar draws y Traeth Mawr, er ennill iddo ef a'i etifeddion oddeutu pum mil o erwau o dir. Anturiaeth lafurfawr a fu hon iddo. Treuliodd ei nerth a'i ynni er mwyn eraill. Ei arwyddair teuluaidd ydoedd, "Nid dyn iddo'i hun yn unig "; a chariodd hynny allan hyd at dylodi ei hunan. Parhaodd hyd y diwedd i ddadblygu Dyffryn Madog, ac i harddu'r gymdogaeth trwy lafurio'r Traeth a phlannu coedwigoedd yn Tan yr Allt, Tremadog, a Thuhwnt i'r Bwlch. Carai'r cain, edmygai'r prydferth, a hoffai rwysg a defosiwn. Er yn gymeriad cryf a phenderfynol, yr oedd yn nodedig o dyner, ac yn helaeth o dosturi. Ymwelai uchelwyr âg ef. Croesawai feirdd a llenorion o dan ei gronglwyd, a noddai eu cynyrchion. Dan ei nawdd ef y cynhaliwyd Eisteddfod Tremadog, 1811, ac efe a ddygodd ei holl dreuliau. Bu'n cynnal chwareufa (theatre) yn Nhremadog, a rhedegfeydd ceffylau ym Morfa Bychan.

Yr oedd yn wleidyddwr pybyr, a bu'n aelod seneddol am ddwy flynedd ar hugain,—un ar bymtheg dros Fwrdeisdref Boston, yn Swydd Lincoln, etholaeth a'i phoblogaeth ar y pryd yn 12,819—a chwech dros Fwrdeisdref Chippenham, yn Swydd Wilts. Wele ganlyniadau etholiadau Boston,—yr oll yn rhai cyffredinol. Dwy sedd.

Ion. 10fed, 1802.

W. A. Madocks (W.)...... 355
Thomas Fydel (jun.) (C.) 316
Lieut.-Gen. Ogle (C.)... 165


Tach. 3, 1806.

W. A. Madocks (W.) .....253
Thomas Fydel (C.) ...... 237
Major Cartwright (C.)... 59


Mai 8fed, 1807.

Thomas Fydel (C.) ......... 229
W. A. Madocks (W.)....... 196
Hon. Burrell (W.)............ 149
Major Cartwright (C.)........ 8


Hydref 8fed 1812.

W. A. Madocks (W.) ...... 263
P. R. D. Burrell (W.) ...... 223
Sir A. Hume, Bt. (C.) .... 206


Mehefin 18fed, 1818.

 P. R. D. Burrell (W.) .......299
W. A. Madocks (W.)........ 288
— Ellis (C.)..................... 270


Gwelir ei fod yn sefyll yn uchaf mewn tair o'r etholiadau, a'i fod yn ail yn y ddwy arall. Dengys hyn mai nid yn Nyffryn Madog yr oedd ei holl glodydd, a bod ei edmygwyr a'i gefnogwyr yn lliosog, a'i lafur yn werthfawr mewn rhannau eraill o'r wlad.

Whig ydoedd o ran ei ddaliadau gwleidyddol, a chymerai ran amlwg yng ngweithrediadau'r Senedd. Ar yr 11eg o Fai, 1809, daeth a chyhuddiad o lwgrwobrwyaeth mewn etholiad yn erbyn dau o weinidogion y Goron, sef Arglwydd Castlereagh, a Spencer Percival. Efe hefyd, ar y 15fed o Fehefin, yr un flwyddyn, a eiliodd Syr Francis Burdett gyda'r mesur cyntaf i ddiwygio'r gyfundrefn etholiadol a ddygwyd ger bron y Senedd.

Er iddo gael ei ddychwelyd dros Boston yn etholiad 1818, nid ydoedd yn aelod o'r Senedd ddilynol. Pa beth ydoedd y rheswm am hyn, nid yw'n hysbys. Ond ar yr 8fed o Fawrth, 1820, etholwyd ef yn gydaelod â John Rock Grossett dros Fwrdeisdref Chippenham, Swydd Wilts, a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd senedd-dymor 1826, pryd y cefnodd yn gyfangwbl ar wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

Yn y flwyddyn 1818 ymbriododd â Mrs. Gwynne, Tregynter Hall, Brycheiniog, merch i Thomas Harris, ail frawd Howel Harris, Trefecca,—a bu iddynt un ferch, a aned ar y 14eg o Ebrill, 1822. Treuliodd Mr. Madocks y rhan fwyaf o'i flynyddoedd olaf yn Hay, ym Mrycheiniog, gan ymweled yn achlysurol â Dyffryn Madog.

Wele'n dilyn ddau ddifyniad o'i lythyrau. Dodir hwy i mewn yma yn engraifft o'i ddull rhwydd a naturiol o ysgrifennu; ac hefyd am eu bod yn nodweddiadol o gymeriad eu hawdwr. Difyniad yw'r naill, o lythyr at Mr. John Williams, a ysgrifennwyd tra'r oedd Mr. Madocks yn anterth ei ddydd; ac er ei fod y pryd hynny wedi cwblhau gorchestwaith ei fywyd, yr oedd ei alluoedd yn llawn ynni, a'i feddwl mawr yn llawn cynlluniau, er gwella ei hoff lannerch, a dadblygu cyfoeth ei broydd. Difyniad yw'r llall, o un o'i lythyrau at Mr. John Etheridge, tra'r oedd ei haul ar fachludo. Wele'r cyntaf:

Aberystwyth,
9th December, 1814.

My Dear John,
I assure you I employ my mind incessantly in thinking how to compass those important objects necessary to complete the system of improvements in Snowdonia, any one of which wanting, the rest lose half their value. If I can only give them birth, shape, and substance before I die, they will work their own way with posterity. They would never enter into the head of posterity, or if they will, posterity might want the heart and hand to execute them,—have neither inclinations, or means, or if one, want the other. There is another important consideration too at the present moment—the precarious state of the property; for if it does not advance, it will recede. It will not be stationary like the mountains around it. It will go backward if not forward, and the further it goes into decay, and more rapidly at last will it arrive at destruction. These are important considerations to add to the inducements to complete the system in all its parts, and to reckon nothing done, till the harbour and the railroad, which includes all additions and repairs necessary to the perfect security of the bank are established, and the road to Harlech, with the Traeth Bach Bridge opened, a line to Trawsfynydd following of course. Nor until the clay—burning system is introducted generally—the very best means of improving the agriculture, nor until means are taken to attract sea—bathers, for which the steam—boats from Liverpool have made so good an opening. None of these things will be done by posterity, and they are all so dependant on each other, that many of them, separately, would not have their due effect, unless the most part were done. .

Yours, &c.,

W. A. M.

Wele'r llall:—

17th February, 1828.

John,
I am sorry your paper was so small, you could not say all you had to say, but get another large sheet of paper and write me a full answer to my two last letters, many parts of which you have not answered yet. Let me know if any grass is growing on the sands before the old embankment, from where the road from Tre Madoc goes over it, to the corner, or angle of Port-treudden marsh, and so on southward and eastward towards Ynys Cerig Duon and down to the River Glaslyn. I mean the lower part of the sands towards the Embankment, not up to where John Williams' cattle were two years ago. Let me know all the parts where the grass has increased within the last two years. You have said nothing to me about planting Ivy all round the Church, and putting young larches 3 feet high in the long walk, and in the plantation at the North Sluice Tower. Does the plantation behind Pentre Nelly[1] want thinning? though we shall all be with you in May. Answer my two last letters fully, and explain all about the grass on the sands. Will there be a good crop of strawberries this year? in the garden—and raspberries. How are the young fruit trees? In my next I will send you full directions about the new nursery and money to build it with, &c., if you are not too much engaged with Mr. Barton, where does he live now? How soon will his new house at Cae Canol be ready for him? Answer all this, and my two last letters to Messrs. Morlands, Pall Mall, London. Hoping to see you soon, that is, in May. Believe me,

Your sincere friend,

W. A. MADOCKS.

Yr oedd erbyn hyn mewn anhawsderau ariannol, a chasglaf mai y "Messrs. Morlands " y cyfeiria atynt, oeddynt y cyfreithwyr a reolent ei eiddo yn y blynyddoedd hyn, gyda'i frawd, Mr. John Madocks. Nid yw'n ymddangos iddo ymweled â Dyffryn Madog yn ol y bwriad uchod, oherwydd ni sonia am hynny mewn llythyr diweddarach at J. Etheridge, dyddiedig y 25ain o Ebrill; ond rhydd gyfarwyddiadau iddo yn hwnnw o berthynas i Morfa Lodge, ac ar fod popeth yn barod erbyn Gorffennaf ac Awst. Ond y mae'n amheus a fu yma'r pryd hynny ychwaith, gan iddo ymneillduo i'r Cyfandir, lle y bu farw. Bu ei stât yn y Chancery.

Y mae'n syn meddwl nad oes neb heddyw a wyr hyd sicrwydd ddyddiad nac amgylchiadau ei farwolaeth, nac ychwaith y man y gorwedd ei lwch. Nid oes gofnod o gwbl am dano ym mynwent nac eglwys Llangar—lle y claddwyd ei briod a'i ferch—a'r unig nodiad sy'n meddiant neb o'r teulu yw nodiad moel, "Died 1828," yn llawysgrif ei nai. Mr. John Madocks,[2] mewn llyfr achau sy'n meddiant Major H. J. Madocks, Llunden,—prif gynrychiolydd teulu Madocks ar hyn o bryd. Dywed un awdwr Seisnig o bwys—" Dict. of National Biography "—iddo farw ym Mharis, ym mis Medi, 1828. Ond dywed y bywgraffwyr Cymreig, bron yn ddieithriad, mai yn y flwyddyn 1829 y bu farw. Ond y mae'r gwahaniaeth mawr sy'n eu plith o berthynas i'r lle y bu farw, yn profi nad oedd unrhyw wybodaeth bendant o fewn eu cyrraedd. Dywed rhai o honynt mai ym Mharis, eraill mai ar y Cyfandir, eraill mai ym Mharis, neu'n yr Eidal. Felly, ar bwys tystiolaeth Mr. J. Madocks, tueddir fi i gredu, ar ol chwilio llawer, mai y "Dict. of National Biography" sy'n gywir. Felly, yn debyg i lawer arwr arall, y bu tynged y dyngarwr, a'r gwladgarwr a'r cymwynaswr hwn. Rhoddodd ei athrylith a'i ddiwylliant at wasanaeth ei oes, a threuliodd ei gyfoeth lawer er dwyn trysorau'i wlad i sylw'r byd, yna bu farw, yn ddim ond 54ain mlwydd oed, mewn bro estronol, heb ond dieithrddyn i dalu iddo'r gymwynas olaf! Y mae cenedlaethau lawer yn y broydd hyn wedi manteisio'n helaeth o ffrwyth ei lafur, ac ymgyfoethogi'n fawr arno; ond nid oes neb, hyd yn hyn, wedi talu'r deyrnged ddyladwy iddo, trwy godi cofgolofn, na sefydlu ysgoloriaeth, na dim arall teilwng o hono.

Arafwch, arbwylledd, a llawn hunanfeddiant
Oedd cuddiad ei gryfder a sylfaen ei glod;
Amynedd yw mamaeth gwroldeb ddiffuant,
Na fynnai encilio nes cyrhaedd y nôd;
Yng nghanol ffrwydriadau teimladau cynhyrfus
Y safai ein Madog mor dawel a'r graig,
Yr hon a ddirmyga y stormydd digofus,
A chwardd yn ddigyffro pan ruo yr aig.

Bu'n noddwr caredig i feibion yr awen,
Ymgasglai llenorion o amgylch ei fwrdd;
Ac yno bu Shelley a Dafydd Ddu'n llawen
Yn ceisio alltudio trafferthion i ffwrdd;
A gwr ei ddeheulaw oedd Twm o'r Nant fedrus;
Croesawai'r hen Ionawr, a bardd Nantyglyn;
Derbyniodd gan' diolch gan Gwyndaf a Pheris,
Bu'n plethu y llawryf ar ben Dewi Wyn.


Ond angau yw terfyn daearol wrthrychau,
Yn hwyr neu yn hwyrach, awn bob un i'r bedd;
Mae'r ddaear agorodd i dderbyn ein tadau
Yn agor ei dorau i ninnau'r un wedd.
Daeth heibio i Madog, er maint ei ragoriaeth,
Nis gallai doethineb, na golud, na ffydd,
Gyfodi un morglawdd rhag llanw marwolaeth
Rhaid ymladd âg angau,—rhaid colli y dydd.

Ow! na chawsai feddrod ym mynwes gwlad Eifion,
Yng nghysgod y bryniau a'sangai mor fflwch;
Pob cwys a ennillodd o feddiant yr eigion
A geisia'r anrhydedd o gadw ei lwch;
Yn lle ocheneidiau, mae awel tir estron
Yn suo'n ddideimlad ar fangre ei fedd;
Boreuwlith tramorwlad, nid dagrau cyfeillion,
A wlychant y llanerch lle'r huna mewn hedd.
—Emrys.


Wele'n dilyn raglen o un o. Redegfeydd Ceffylau Tremadog. Cynhelid hwy ar y Morfa Bychan. Byddai platform y Winning Post, sef llwyfan y beirniaid, y tu ol i Gefn y Gadair; ac adnabyddir y fan heddyw wrth yr enw Cefn y Gadair. Ceir nodiad yn "y Gestiana" am redegfeydd a gynhaliwyd yn 1810. Ond nid oes wybodaeth am ba hyd y cynhaliwyd hwy.

TRE-MADOC RACES, 1808.
Some time in August.

{{c|The Gentlemen's Subscription Plate of 50l.

For 3 and 4 Year olds, 3 Year olds carring a Feather, 4 Years old 7st. 5lbs. Mares and Geldings allowed 3lbs. A Winner of one 50l. Plate in the Year 1808 to carry 3lb. extra; two, 5lb.; three, or more, 8lbs. Two-mile heats.

The Ladies' Purse, Value Fifty Pounds.

For all Ages. 3 Year olds carring 7st.; 4 Year olds, 8st. 91b.; 5 Year olds, 9st. 3lb.; 6 Year olds, 9st. 10lb..; Aged, 9st. 12lb. Mares and Geldings allowed 3lb. The Winner of one 501. Plate in the Year 1808, to carry 3lb. extra; two, 5lb.; three, or more, 8lb. Two-mile heats.

A Plate, Value Fifty Pounds.

The gift of Sir W. W. Wynn, Bart., and Sir Thomas Mostyn, Bart.


A Cup, Value Fifty Pounds.
The Gift of W. A. Madocks, Esq.

For all Ages, 3 Year olds carrying a Feather; 4 Years old, 7st. 5lb. Mares and Geldings allowed 3lb. A Winner of one 501. Plate in the Year 1808, to carry 3lb. extra; two, 5lb.; three, or more, 81b. Three—mile heats. To be run for on the fourth day of the Races.

The Traeth Mawr Stakes of 10gs. each.

For all Ages. 3 Year olds carrying a Feather; 4 Year olds, 7st. 61b.; 5 year olds, 8st. 5lb.; 6 Year olds, 8st, 91b.; Aged, 8st. 121b. Mares and Geldings allowed 3lb. Four—mile heats. Maiden at the Time of nameing. To close and name on the 1st of May, 1808. Sir W. W. Wynn, Bart., Sir Thomas Mostyn, Bart., F. R. Price, Esq., E. Lloyd, Esq., T. P. J. Parry, Esq., W. A. Madocks, Esq., John Jones, Esq., John Madocks.

The Snowden Welter Stakes of 5gs. each.

For Horses bona fide the Property of the Subscribers, carring 13st. each. Mares and Geldings allowed 3lb. Two—mile heats. The Winner to be sold for 150 Guineas, if demanded within a Quarter of an Hour after the Race, the Owner of the second Horse being first entitled. To be named on the first day of TreMadoc Races, 1808. Sir W. W. Wynn, Bart., Sir Thomas Mostyn, Bart., W. A. Madocks, Esq., F. R. Price, Esq., E. Lloyd, Esq., John Madocks Esq. John Nanney, Esq., R. W. Price, Esq., Joseph Madocks, Esq., Sir Robert Williams, Bart., John Wheatley, Esq., Lord Kerwall.

The Tan-yrAllt Stakes of 5gs. each.

For all Ages. 3 Year olds, 6st.; 4 Year olds, 7st. 71b.; 5 Year olds, 8st. 71b.; 6 Year olds, 9st.; Aged, 9st. 21b. Mares and Geldings allowed 3lb. Two—mile heats. Sir W. W. Wynn, Bart.. Sir Thomas Mostyn, Bart., R. B. Dean, Esq., E. Lloyd, Esq., W. A. Madocks, Esq., F. R. Price, Esq., John Madocks, Esq., T. P. J. Parry, Esq., R. Morris, Esq., Joseph Madocks, Esq., G. LI. Wardle, Esq., E. Ll. Lloyd, Esq., John Jones, Esq., William Roberts, Esq.

The Vron-Yw Stakes of Five Guineas each.

To carry 9st. The Winner to be sold for 30 Guineas, if demanded." Once round the Course. Sir W. W. Wynn, Bart., Sir Thomas Mostyn, Bart., F. R. Price, Esq., H. W. Williams Wynn. Esq., Hon. J. Pleydell Bouverie, E. Lloyd, Esq., John Madocks. Esq., T. P. J. Parry, Esq., Joseph Madocks, Esq., Richard Puleston, Esq., W. A. Madocks, Esq.

On the Last Day,
A Handicap for beaten Horses, 5gs. each.
Once Round the Course.

Sir W. W. Wynn, Bart., Sir Thomas Mostyn, Bart., W. A. Madocks, Esq., F. R. Price, Esq., E. Lloyd, Esq., John Madocks, Es, Joseph Madocks, Esq.

All the Stakes to be made up the Money required by Law, or no Race.

SIR WATKIN WILLIAMS WYNN, Bart.
SIR THOMAS MOSTYN, Bart.
Stewards.

Ordinaries and Plays every Day.

Wrexham Printed by J. Painter.

Wele hefyd raglen chwareufa a gynhaliwyd yr un adeg:—

THEATRE, TRE-MADOC.

On Wednesday, Aug. 30, 1808.
Will be presented Mr. Sheridan's celebrated Comedy called
THE RIVALS

Sir Anthony Absolute — Mr. Jos. Madocks.
Captain Absolute — Mr. Dawkins
Acres — Mr. Sheath.
Sir Lucius O'Trigger —Mr. Rookwood.
Faulkland — Mr. Fenton.
Fag — Mr. John Madocks.
David — Mr. Bovcott.
Coachman — Mr. Frost.
Mr. Malaprop —Mrs. Fenton.
Lydia Languish — Mrs. W. Fenton
Julia — Miss Fenton
Lucy — Mrs. Wellman


After which will be performed the interlude of
SYLVESTER DAGGERWOOD.

Sylvester Daggerwood — Mr. Dawkins
Fustian. —Mr. W. A. Madocks
Servant —Mr. John Madocks


The whole to conclude with THE PRIZE.

Dr. Lenitive — Mr. Rosswood.
Mr. Dawkins — Mr. Sheath
Mr. Caddy —Mr. W. A. Madocks.
Captain Hartwell — Mrs. Caddy
Label—Master Fenton
Juba —Mr. Jos. Madocks
The Old Bronze — Mr. John Madocks
Young Bronze — Mrs. Wellman


Nodiadau

golygu
  1. Penrhyn heli?
  2. Yr oedd Mr. John Madocks hefyd yn Aelod Seneddol. Cynrychiolai Sir Ddinbych, fel Whig, hyd Ionawr, 1835. Bu farw yn ei breswylfod, Glan y Wern, Dinbych, ar yr 20fed o Dachwedd, 1837, yn 52 mlwydd oed. Yn yr arwerthiant a fu ar ran o stât Kinmel, ym mis Gorffennaf, prynodd Major H. J. Madocks blas Glan y Wern am saith mil o bunnau.