Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Mclean, John Charles

Lewis, John Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Morrice, James Cornelius

MCLEAN, JOHN CHARLES.—Mab i Mr. a Mrs. McLean, Bank Place. Derbyniodd ei addysg gyda Mr. Grindley, o dan gyfundrefn y Bwrdd Addysg. Ni fwriadodd ei rieni iddo gymeryd cerddoriaeth yn alwedigaeth: meddylient hwy iddo fyned "y tu ol i'r cownter," lle y bu am bedair blynedd. Ond yr oedd cerddoriaeth yn rhy ddwfn yn ei waed iddo aros yno'n hwy. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan organydd ei gapel, Mr. W. T. Davies—Ton y Pandy yn awr. Ar ymadawiad Mr. Davies, yn 1894, dewiswyd Mr. McLean yn olynydd iddo. Yn ystod y cyfnod hwn derbyniai wersi cerddorol gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac. (Cantab), Mr. T. Westlake-Morgan, a Dr. F. A. Challinor; a llwyddodd mewn amryw arholiadau. Penderfynnodd fyned am gwrs o addysg i Lunden—a hynny heb gymhorth unrhyw ddyn. Treuliodd ddwy flynedd yn y Royal College of Music, gan astudio o dan yr athrawon, canlynol,—Organ, Syr Walter Parratt; Piano, Mr. Marmaduke Barton; Counterpoint, Syr Frederick Bridge. Mynychai hefyd ddosbarthiadau Dr. James Higgs, Dr. Charles Wood, Dr. F. J. Read, Dr. W. S. Hoyte, a Mr. F. A. Sewell—yr olaf yn neillduol ar Pianoforte Accompaniment. Yn Ionawr, 1901, ennillodd Diploma A.R.C.O. Yn 1902 daeth yn ol i Borthmadog, gan ymsefydlu yn athraw cerddorol, ac yn organydd eglwys Salem. Penodwyd ef yn athraw cerddorol (lleisiol) yn yr Ysgol Ganol-raddol, ac yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl a'r Gerddorfa. O dan ei arweiniad y mae'r Gymdeithas wedi rhoddi perfformiadau, gyda cherddorfa lawn, o weithiau'r prif awduron, megis,—"May Queen (Bennett); "42nd Psalm " (Mendelssohn); "Ode to the Sea (Challinor); Elijah" (Mendelssohn); "The Messiah" a "Judas Maccabaeus (Handel); "The Creation" (Haydn); "The Last Judgment (Spohr), &c. Yn 1904 ennillodd y radd o F.R.C.O. Yn 1906 ymbriododd â Miss Anna Owen—chwaer Mr. J. R. Owen, Aelygarth. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn organydd a chôr-feistr eglwys y Tabernacl, Aberystwyth, lle y llafuria gyda llwyddiant. Y mae wedi ennill amryw wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfansoddi—yn Llanelli yn 1903, a Rhyl, 1904; am chware'r organ ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898; am chware "2nd Oboe" ym Mlaenau Ffestiniog, 1908, a Rhyl yn 1904. Y mae a fynno â Chyfarfodydd Llenyddol a Cherddorol Porthmadog er yn forefel cystadleuydd, cyfeilydd, a beirniad. Y mae wedi llenwi'r swydd o feirniad mewn cylchoedd pwysig eraill gyda llwyddiant ac anrhydedd. Ei brif gyfansoddiadau hyd yn hyn ydynt,—"The Skylark S.S.A. (cyhoeddedig gan Mri. Novello)—darn a fu'n gystadleuol yn Eisteddfod Llunden, 1909; "Clodforaf Di"—anthem fuddugol Eisteddfod Llanelli, 1903; Fantasia i'r organ ar "Aberystwyth"; Unawd, "Hwiangerdd Sul y Blodau," i lais Soprano (Orpheus Publishing Co.).—(Y Cerddor, Gorffennaf, 1912).

Nodiadau

golygu