Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Rhagymadrodd
← Cynhwysiad | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Codiad, Cynnydd, a Dadblygiad y Dref → |
PENNOD I.
RHAGYMADRODD.
Lle llithra'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r Traeth,
Wrth borth yr hen Gymwynas, hoff drigfa'r awen ffraeth,
Mae'r meddwl yn ymsynnu, mae'n mynnu gwneuthur hynt
Yng nghwmni glân fyfyrdod i fro yr amser gynt.
O'n blaen mae'r traeth, ond erbyn hyn mae'n forfa—
Y lle cregina yn feillioneg borfa;
A morglawdd hir yn dangos yn ardderchog
Eangder ysbryd anturiaethus Madog.
Mae'r weilgi ffromwyllt wedi cael ei ffrwyno,
A'r fan lle byddai'r wylan lwyd yn cwyno,
Yn cael ei sangu gan y gwartheg blithion,
A threfi'n awr lle chwarai'r nwyfus wendon.
—GLASYNYS.
DYWED gwyddonwyr mai o'r mynyddoedd y daeth y dyffrynnoedd. Wedi cyfnod y Rhew Mawr, daeth cyfnod y meirioli a'r dadmer, ac fel yr elai'r meirioli'n mlaen, llithrai'r rhew i lawr yn araf, a chariai gydag ef wahanol ronynnau natur i'r pantiau a'r hafnau islaw, y rhai a welir heddyw'n ddyffrynnoedd o ddolydd a gweirgloddiau ffrwythlon, a thoreithiog. Felly hefyd y gellir dweyd am Gymdeithas, bu amser, pan yr oedd preswylwyr yr ucheldiroedd yn llawer lluosocach na thrigolion y gwastadeddau. Yr oedd ochrau'r bryniau a llethrau'r mynyddoedd, yn dir cynnyrch, pan ydoedd y dyffrynnoedd yn goedwigoedd tewfrig, a'r gwaelodion yn fforestydd llawn drysni. Yr oedd i'r Hafod a'r Hendre unddas yng Nghymru cyn bod Maer nac Ustus. Ond yn araf ymadawodd eu gogoniant; dechreuwyd arloesi'r fforestydd, a chlirio'r coedwigoedd; daeth trigolion y mynyddoedd yn breswylwyr y gwastadeddau. Rhoddodd y trefi a'r pentrefi ffordd i'r trefi a'r dinasoedd, a daeth y cantrefi yn blwyfi ac yn Siroedd. Ond ni raid taflu'r golwg yn ol felly gyda Dyffryn Madog a'i drefi. Nid yw ond megis echdoe er pan rydiwyd y Traeth Mawr, gan droi'r draethell dywodlyd yn ddyffryn; ac nid yw ond megis doe er pan sylfaenwyd y trefi. a chyda'r gwyll neithiwr y noswyliodd eu harwyr.
Saif Porthmadog yn ystlys ddwyreiniol Eifionnydd, a'i chefn ar sawdl y Gest,
"Lle llithra'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r Traeth."
O'i blaen, yng nghysgod y graig, y llecha Tremadog. I'r dde a'r aswy, ymleda Dyffryn Madog ei ddwy aden, a thu cefn i'r Dyffryn ymgyfyd yr Eryri, yn fryn ar fryn, clogwyn uwch glogwyn; a moelydd wrth foelydd yn ymgydio ynghyd, a mynydd ar ol mynydd yn estyn eu breichiau cyhyrog allan i'r de ac i'r dwyrain. Y Wyddfa a'r Aran, Y Cnicht, Y Moelwyn Mawr, a'r Ardudwy gan ymffurfio'n amddiffynfa gadarn a mawreddog. Tu ôl i'r dref a Moel y Gest y gorwedd Cantre'r Gwaelod yn ei wely llaith. O'i blaen, ar ochr Meirionnydd i'r Traeth, y mae ardal dawel Llanfrothen —bro mebyd yr Esgob Humphreys, cymhellydd a noddwr Elis Wyn o Lasynys ac Edward Samuel—dau o lenorion gloewaf Cymru yn y ddeunawfed ganrif, a dau o gymwynaswyr pennaf ein cenedl. Dros y morlan, ar y llethrau draw, y mae Dyffryn Ardudwy, gyda swyn y Mabinogion yn ei lygad a phrudd-der Llyn y Morwynion ar ei ruddiau. I fyny'r Traeth, ar hyd y Laslyn a thros adwy'r Gymwynas, y gorwedd Beddgelert â'i ramant hud; ac ar y dde iddo, ar y bryniau draw, y mae bro Dafydd Nanmor a Rnys Goch Eryri. Dywed traddodiad mai o Forfa Madog y mordwyodd Madog ab Owen Gwynedd, wedi brwydro'n hir, dros foroedd y gorllewin i chwilio am wlad heddychlon. Ond cysylltir enw Porthmadog ein dyddiau ni âg enw Mr. W. A. Madocks—gwr o athrylith feiddgar ac o ysbryd anturiaethus. Mr. Madocks a'i sylfaenodd, ond nid efe yw awdwr y drychfeddwl o wneuthur morglawdd, er atal y môr i anfon ei lanw ysbeilgar dros wyneb y Morfa. Perthyn yr anrhydedd hwnnw i'r boneddwr Cymroaidd Syr John Wynne o Wydir. Ond bychan oedd ei brofiad ef o anturiaethau o'r fath, ac yr oedd yn bur amddifad o unrhyw syniad o'r draul a olygai'r fath ymgymeriad.
Ar y cyntaf o Fedi 1625 cawn Syr John Wynne yn anfon y llythyr canlynol at ei gefnder—y Barwnig enwog Syr Hugh Middleton, cynlluniwr a gwneuthurwr Gwaith Dwfr cyntaf Llunden—"The New River" fel y gelwid ef,—gorchestwaith ei fywyd.
Wir deilwng Syr, fy nghywir gar, ac un o anrhydeddusaf wyr y Genedl.
Deallaf am orchwestwaith a gyflawnwyd gennych yn Ynys Wyth, yn ennill dwy fil o erwau oddiar y môr, a gallaf finnau ddweyd wrthych chwi, yr hyn a ddywedodd yr Iddewon wrth Grist: Y pethau a glywsom ni eu gwneuthur mewn lleoedd eraill, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.
Y mae dwy draethell yn Sir Feirionnydd, ag y gorwedd rhan o'm heiddo ar eu glannau, a elwir Traeth Mawr a Traeth Bychan, yn cynnwys arwynebedd mawr o dir, ac yn rhedeg i'r môr yn un aber nad yw'n filldir o led ar ben llanw, ac yn hynod o fâs. Y mae'r llifogydd o ddwfr croew a redant i'r môr yn fawrion a grymus, a chludant i'w canlyn lawer o dywod; heblaw hynny chwyth y Deheuwynt yn gyffredin yn deg i enau'r hafan, gan gludo gydag ef gymaint o dywod fel ag i orchuddio rhanau helaeth o'r tir cylchynol. Y mae yma, ac hefyd yn y gwledydd cyffiniol, ddigonedd o goed, a mangoed, a defnyddiau eraill cymhwys i wneud cloddiau, y gellir eu cael am bris isel iawn, a'u dwyn yn hawdd i'r lle; a chlywaf eu bod yn gwneud hyn yn Sir Lincoln i gau allan y môr. Bychan yw fy medr, a'm profiad yn ddim mewn materion o'r fath, eto dymunwn erioed roi help llaw i'm gwlad, gyda'r fath weithredoedd ag a fuasent er ei llwydd hi, ac yn gof am fy ymdrechion innau. Ond oherwydd fy rhwystro gan faterion eraill, ewyllysio'n dda'n unig a wnawn heb wneud dim. Yn awr, os gwel Duw yn dda eich dwyn i'r wlad hon, dymunaf arnoch gymeryd eich taith hyd yma, gan nad yw'r lle ymhellach na thaith diwrnod oddiwrthych, ac os gwelwch y peth yn briodol i ymgymeryd ag ef, yr wyf yn foddlon i anturio deucant o bunnau i ymuno a chwi yn y gwaith.
Y mae gennyf blwm yn fy nhir mewn cyflawnder mawr, a mwnau eraill yn ymyl fy nhy; os gwelwch yn dda ddod yma, gan nad yw'n ychwaneg na thaith deuddydd oddiwrthych, chwi a gewch groeso caredig,—hwyrach y gwelwch yma rywbeth a fo er eich mantais chwi a minnau. Pe gwybyddwn yn sicr pa ddiwrnod y deuech i weled y Traeth Mawr cawsai fy mab Owain Wyn ddod i'ch hebrwng, a'ch harwain oddiyno i fy nhŷ. Gan derfynu gyda chofion caredig atoch. Gorffwysaf eich anwyl gâr a chyfaill, J. WYNN."[1]
Pe llwyddasai Syr John yn ei ymgais i gael help a chynhorthwy Syr Hugh i gario'r gwaith allan nid oes a ŵyr beth fuasai hanes Dyffryn Madog heddyw. Buasai cysylltiad gŵr o safle Syr Hugh Middleton â'r gwaith yn sicr o dynnu sylw cyfoethogion tuagat y lle, a thrwy hynny beri cynnydd a dadblygiad yng nghyfoeth mwngloddiau'r broydd. Ond nid felly y bu yr oedd y galwadau oedd arno gyda'i wahanol orchwylion yn gwneud hynny'n anmhosibl; ac yntau yn rhagweled yr anhawsderau lu oedd yn wynebu'r fath anturiaethgwaith a ofynai am "ddyn a llaw hollol rydd, a chôd fawr." Yr oedd efe wedi dysgu trwy ei brofiad helaeth gyda Gwaith Dwfr Llunden mor siomedig a thwyllodrus oedd anturiaethau o'r fath. Yr oedd efe pan ymgymerodd â hwnnw yn ddyn cyfoethog, â'i lôg blynyddol oddiwrth fwnau yng Nghymru'n unig yn ddwy fil o bunnau, a chymerodd iddo bedair blynedd a hanner i gwblhau'r gwaith, a chostiodd iddo ef yn bersonol y swm o £160,000, tra'r oedd yr holl draul yn bum can mil. Ond pan y'i gorffennodd, leied o werth a welai'r Llundeinwyr ynddo, fel mai prin y cyrhaeddai'r llog blynyddol oddiwrth gyfranddaliadau canpunt, ddeuddeg swllt! Am hynny anfonodd yr atebiad canlynol at ei gefnder o Wydir,
Anrhydeddus Syr,
Derbyniais eich caredig lythyr, ychydig yw'r pethau a wnaethpwyd gennyf fi, ac i Dduw y rhoddaf y gogoniant am danynt. Dichon y bydd yn dda gennych ddeall mai ymhlith fy mhobl fy hun y bu fy ymgais gyntaf gyda gwaith cyhoeddus, o fewn llai na milldir i'r lle y'm ganed, bedair neu bum mlynedd ar hugain yn ol, sef ymchwil am lo i dref Dinbych.
O berthynas i'r tiroedd a orchuddiwyd â dwfr yn ymyl eich eiddo, y mae llawer o bethau i'w hystyried ynglyn â hyn. Os am eu hennill, prin y gellir gwneud hyn heb feini mawrion, ac yr oedd digon o honynt yn yr Ynys Wyth, yn gystal a choed; a symiau mawrion o arian i'w gwario,—nid cannoedd ond miloedd; ac yn gyntaf oll rhaid cael cefnogaeth ei Fawrhydi. Am danaf fy hun, yr wyf yn tynu ymlaen mewn dyddiau, ac yn llawn prysurdeb yma, yn y mwngloddiau, gyda'r afon yn Llunden, ac hefyd mewn mannau eraill; y mae fy nghyfrifoldeb wythnosol dros ddeucant, yr hyn a'm gwna yn bur anfoddlon i ymgymeryd ag unrhyw waith arall; ac y mae'r lleiaf o'r rhain, pa un bynnag ai'r tiroedd gorchuddiedig, ai'r mwngloddiau, yn gofyn dyn i gyd â phwrs mawr ganddo. Anrhydeddus Syr, y mae fy awydd i'ch gweled mor fawr, fel ag i'm tynu lawer pellach ffordd: eto amled yw fy ngorchwylion ar rai adegau yma, er cwblhau y gwaith mawr hwn, fel mai prin y gellir fy hebgor un awr mewn diwrnod. A chan fod fy ngwraig yma hefyd, ni allaf ei gadael mewn bro estronol. Eto dichon i'm cariad at waith cyhoeddus, a'm hawydd i'ch gweled chwi (os caniata Duw), ryw adeg arall fy nenu i'r parthau yna.
Felly gyda dymuniadau calonog cyflwynaf chwi a'ch holl ddymuniadau da i Dduw. Eich cywir ac anwyl i'w orchymyn,
HUGH MIDDLETON.
Nid oes genym hanes i Syr John Wynne wneud dim ychwaneg gyda'r syniad.
Ond er marw'r awdwr, ni ddiflanodd y drychfeddwl —gadawodd hwnnw'n gynysgaeth ar ei ôl, i fod o ddefnydd i'r sawl a welai werth ynddo. Cyhoeddwyd yr ymdrafodaeth yn "Nheithiau yng Nghymru" Pennant yn 1778, ymhen canrif a hanner. Yr oedd yn niwedd y ganrif honno, yn ardal dawel a rhamantus Llanelltyd, rhwng mynyddoedd Meirion, ŵr ieuanc cyfoethog pedair ar hugain oed, coeth a diwylliedig ei feddwl, ac anturiaethus ei ysbryd, oedd newydd orffen ei yrfa addysg ddisglaer yn y prif Golegau, ac wedi prynu iddo'i hun le o'r enw Dol y Melynllyn. Yno daeth o hyd i lyfr Pennant: darllenodd ef gyda dyddordeb mawr, syrthiodd ei olygon ar drafodaeth y Morglawdd, a swynodd y syniad ef yn fawr, a phenderfynodd ymweled â'r lle, i edrych ai ymarferol y cynllun. Yn 1798 gwelodd fod amryw o ffermydd y Traeth Mawr, o eiddo Mr. Price y Rhiwlas, a Mr. Wynne o Beniarth, i fyned ar werth. Penderfynodd gynnyg am danynt, a llwyddodd yn ei ymgais. Wedi cyflawni amodau'r pryniant, ymbaratodd i wynebu'r anturiaeth.
Y gorchwyl cyntaf yr ymgymerodd âg ef ydoedd ennill y rhan orllewinol o'r Dyffryn, sef Morfa'r Wern, oedd tua dwy fil o erwau o fesur—trwy wneuthur clawdd pridd o Drwyn y Graig, Prenteg, i Glog y Berth. Wedi llwyddo yn yr ymgais honno, dechreuodd adeiladu Tremadog, gan fwriadu iddi fod yn brif dref y cwmwd, ac yn dref marchnad y broydd. Agorwyd y Farchnad yno ar yr 8fed o Dachwedd, 1805, ac erbyn diwedd y flwyddyn 1809 yr oedd yno gynifer a 68 o dai, ynghyda Marchnadfa, Melin, Fatri, a Phandy, a'r preswylwyr yn 303. Yn 1806 efe a adeiladodd yr Eglwys, —neu'n fanylach, gapel anwes, i arbed i'r Eglwyswyr gerdded i Eglwys y plwyf—Ynys Cynhaiarn. Cymaint oedd llwyddiant Mr. Madocks gyda Thremadog, a chryfed oedd yr ysbryd anturiaethus ynddo, fel y penderfynodd ennill y gweddill o'r Dyffryn, oedd eto heb ei feddiannu oddiar y dyfroedd rheibus, trwy wneud morglawdd gadarnach o gerrig, ar draws y Traeth, o Ynys Dowyn i Drwyn y Penrhyn. I gyflawni'r gwaith hwn, yr oedd yn rhaid iddo—fel yr hysbysodd Hugh Middleton, J. Wynne—wrth Ddeddf Seneddol; ac yn y flwyddyn 1807, cyflwynodd T. Parry Jones-Parry, Ysw., A.S., fesur i'r perwyl hwnnw o flaen y Senedd. Wele grynhodeb o'r Ddeddf,
Geo. 3. Session 2. Chapter 36.
Vested sands of Traethmawr in Counties of Carnarvon & Meirioneth in W. A. Madock from 1 Aug. 1807.
Sands extended from Pont Aberglaslyn to Point of Gest it also provided "that so much of the tract of sands from the point of Gest to Pont Aberglaslyn as shall be protected from the influx of the sea by the said W. A. Madock his heirs & assign's shall be granted to him in fel simple,[2] this grant did not include Marsh lands adjoining the Sands & which had hitherto been occupied or enjoyed as pasturage.
Benjamin Wyatt of Lime Grove Bangor was appointed Commissioner to determine boundries.
Two roads were to be made
(1) From Llidiart Ysbytty to Ynys Hir
(2) Prenteg to Ynysfawr = both public roads to be repaired by W. A. Madock
The Embankment to be begin within 10 yrs & finished within 20 yrs.
ActGeo. 3. Sess. 2. Cap. 71.8 Aug. 1807 for Improvement of Ynys Congor on the Coast of Eifionnydd by
(1) Building pier or rampart to protect it from S. W. wind & by building a quay.
Authority for W. A. Madock to
(1) Make pier
(2) Limits of pier to be
"Circular line circumscriberis the head of the pier and distance therefrom 1 mile & no more and that all vessels lying within 1 mile of the head of the Pier shall be deemed to be within the Harbour.
(3) Power to charge rates, harbour dues,
(4) In case channel or river shall shift, ¾ of duties shall not be payable until the channel is restored.
(5) No authority to divert Traeth Bach river.
Dechreuodd Mr. Madocks ar y gwaith ym mis Mawrth, 1808, ac yn fuan yr oedd ganddo o dri i bedwar cant o weithwyr. o bob rhan o Gymru, gyda'r gorchwyl, ac yn eu plith, yr oedd Twm o'r Nant yn oruchwyliwr y gwaith maen. Bu'r gwaith yn un caled. Yr oedd yr anhawsderau yn llawer, ac yn anhawdd i'w gorchfygu; ond er cymaint y rhwystrau, yr oedd y Morglawdd wedi ei orffen ymhen tair blynedd. Aeth son am yr anturiaeth ymhell, a chlod yr arwr yn fawr gan bawb a welodd ei orchestwaith neu a glywodd am dano, ac nid oedd odid neb drwy Ogledd Cymru na wyddent rywbeth am dano, ac na theimlent ddyddordeb ynddo. Yr oedd Siroedd Arfon a Meirion yn curo dwylaw, gan ogoneddu'r cymwynaswr a ddiddymodd y gwahanfur dyfrllyd oedd gynt rhyngddynt, fel na byddai mwyach unrhyw rwystr i gyfathrach y trigolion â'u gilydd, nac i drafnidiaeth eu masnach. Dywedir fod y Morglawdd mewn rhai mannau yn gan troedfedd o uchder o'i sylfaen, ac yn 400 troedfedd o led yn ei waelod. Drwy'r anturiaeth hon ennillodd Mr. Madocks 2,700 o aceri o dir, yn ychwanegol at y ddwy fil a enillasai yn flaenorol.
Tra y meddyliai pawb fod pob perygl drosodd, ac na welid byth mwy y môr yn marchogaeth y Dyffryn, na'i donnau'n ysbeilio'r eiddo, teimlai Mr. Madocks y gallai ymddiried y lle i ofal ei oruchwyliwr—Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch,—brodor o Fôn, ac aeth oddicartref am ychydig seibiant, â'i fron yn ysgafn, heb feddwl nad oedd eto wedi sefydlu'n llwyr ei fuddugoliaeth. Ar y 14eg o Chwefrol, 1812, cyfododd tymestl fawr, a chymaint ydoedd ymchwydd y tonnau, fel y cwympodd y Morglawdd, gan roddi ffordd iddynt. Wrth gefnu ar y lle, gwyddai Mr. Madocks ei fod yn gadael ei eiddo yng ngofal gwr abl i'w wylio drosto, sef Mr. John Williams. Dyn rhagorol ydoedd efe, un ydoedd, fel y dywed Mr. Owen Morris am dano,—"ag enaid mawr ganddo—enaid a ddyrchafai uwchlaw anhawsderau, ac enaid na welai mewn rhwystrau ond gwrthrychau i'w goresgyn." Yn hytrach na rhoddi ei ysbryd i lawr mewn anobaith, gan ddisgwyl am ddychweliad ei feistr—fel y gwnelsai rhai llai gwrol nag ef ymwrolodd ac ymgryfhaodd; galwodd ei gyfeillion ynghyd, ac ymgynghorodd â hwy. Anfonwyd cylchlythyr i bawb a allai estyn cymhorth, a chymaint oedd tosturi a chydymdeimlad y wlad âg ef, a chryfed yr awydd i'w helpu, fel,
"O gariad bonedd a gwerin—mudwyd
I'r Madog yn ddiflin;
Bu cariad, Mawrhad a'u rhin,
Brinach i lawer brenhin,"
fel y dywed Dewi Wyn, oedd yn un o honynt. A chan fod gan y bobl galon i weithio, daeth llwyddiant i'r golwg yn fuan. Ond nid help dynion, meirch, ac offer yn unig oedd eisiau. Cymaint oedd y difrod a wnaed, fel ag yr oedd yn rhaid wrth lawer o arian tuag at brynu defnyddiau newyddion. Trwy offerynoliaeth y bardd Seisnig Shelley, a oedd yn aros ar y pryd yn Nhan yr Allt, llwyddodd i sicrhau y gefnogaeth honno hefyd. Aeth Shelley ei hunan o amgylch, i gymell ac argyhoeddi'r bobl, a chyfrannodd hanner canpunt at yr amcan. Ym mis Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod yn Baron Hill, Beaumaris, o dan lywyddiaeth Arglwydd Bulkeley, i'r un diben, ac agorwyd cronfa i gyfarfod â'r golled, a derbyniwyd yn rhwydd symiau yn amrywio o bumpunt i ganpunt.[3] Gyda'r fath garedigrwydd a brwdfrydedd, llwyddwyd eilwaith i gyfannu'r rhwyg erbyn tua diwedd y flwyddyn 1814, ac ni syflwyd mohono eilwaith. Yr oedd holl draul anturiaeth y Morglawdd yn gan mil o bunnau.
Dyn eithriadol ydoedd Mr. Madocks. Dyn ydoedd ag ysbryd mawr afonydd a di-ildio ynddo: gwr ag yr oedd esmwythyd yn anioddefol iddo. Yr oedd bob amser â'i lygaid yn agored am waith, a chyn gorphen un peth, cynlluniai un arall. Cawn ef, ar y 9fed o Ragfyr, 1814, yn ysgrifennu at Mr. J. Williams, o Aberystwyth, gan ei sicrhau ei fod yn meddwl yn barhaus am welliantau ag yr oedd yn dyheu am eu cynllunio, a'u cario allan, os yn bosibl, cyn ei farw. Gwelai fod yn rhaid parhau i weithio'n galed cyn y sylweddolid ei ddelfrydau yn llawn. Yr oedd llawer o bethau eto i'w gwneud cyn y deuai anturiaeth y Morglawdd i dalu. Yr oedd yn rhaid wrth well moddion trafnidiol,—yn dirol a morwrol; tuag at hynny ymbaratodd i berffeithio'r ffyrdd, trwy gael y Ddeddf Seneddol a ganlyn:—49 Geo. II. Chapter 188. (20 June 1809).
"An Act for making and maintaining road from Barmouth to Traeth Mawr."
Ac ar y 21ain o Fehefin, 1809, anfonodd a ganlyn at Mr. Williams:
My Dear John,
The Act of Parliament for building a bridge over Traeth Bach, received the Royal assent this day. I have much trouble about it, and ten days ago thought I could not have carried it. However, Ministers have not been able to jokey me this time.—
Yours, &c.,
W. A. M.