Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Roberts, John (1849—1890)

Probert, Lewis Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Roberts, John Prichard

ROBERTS, JOHN (1849—1890).—Blawd fasnachydd a cherddor. Ganwyd ef ym Mangor ar y 9fed o Fedi, 1849. Mab ydoedd i Mr. M. Roberts, Fferyllydd, o'r dref honno. Symudodd i Borthmadog yn ieuanc, at ei ewythr, i'r Felin. Ymunodd yn fuan â chôr y Tabernacl—y pryd hynny, yn ol ei dystiolaeth ei hun, heb fedru nodyn o gerddoriaeth. Cafodd ei benodi'n ysgrifennydd i'r côr. Ymroddodd i ddysgu elfennau cerddoriaeth, a gwnaeth gynnydd buan. Ar farwolaeth Mr. J. Jones, yr arweinydd, dewiswyd Mr. Roberts yn olynydd iddo. Priodolai ef ei hun ei lwyddiant gyda cherddoriaeth i ddylanwad Ieuan Gwyllt a Mr. Curwen. O dan ei arweiniad ef daeth y côr yn Gymdeithas Gorawl—y Choral Society—i ddadganu gweithiau clasurol y prif feistri. Yn y flwyddyn 1870, sefydlodd y Gerddorfa Linynawl—y String Band —gyda chynhorthwy Mri. William Griffith (Eos Alaw), R. G. Humphreys (R. o Fadog), a'r diweddar Hugh Williams, Llyfr-rwymydd; a bu'r Gerddorfa yn chware yng nghymanfaoedd cerddorol y trefi o amgylch. Mr. Roberts, yn anad neb, y mae sefyllfa bresennol cerddoriaeth leisiol ac offerynnol ym Mhorthmadog i'w briodoli. Efe a ddaeth a'r Sol-ffa i arferiad cyffredinol yn y dref, trwy ffurfio dosbarthiadau i'w ddysgu; a rhoddodd lawer o'i amser a'i gyfoeth tuag at ddiwyllio y dref mewn cerddoriaeth. Bu hefyd yn gyd-ysgrifennydd â Mr. O. O. Roberts i Gylchwyl Dirwestol Ardudwy. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Gerddorol Cymru, ac yr oedd wedi ei ddewis yn un o feirniaid cerddorol Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1891; ond bu farw ar y 18fed o Ragfyr, 1890. Claddwyd ef yn y fynwent gyhoeddus, a'r flwyddyn bresennol (1912) rhoddodd ei blant, y rhai sydd i gyd ar wasgar o'u tref enedigol, gofadail o wenithfaen hardd ar ei feddrod, ac arni'n gerfiedig:—

In Loving Memory of
JOHN ROBERTS,
Llys Alaw, Portmadoc.
Born September 9th, 1849,
Died December 18th, 1890.

He set our minds to Music,
As Nature had set his own.
—Eifion Wyn.


(Y Cerddor, 17, 1891).

Nodiadau

golygu