Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Yr Eglwys Wladol

Y Bedyddwyr Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Addysg

EGLWYS SANT IOAN.

Dechreu'r Achos.1859
Adeiladu'r Eglwys 1873-6
Adeiladu'r Ficerdy 1889
Twr, Clychau a Festri 1900
Neuadd Eglwysig 1900
Ychwanegu dwy Gloch 1902


Y Ficeriaid.

Y Parch. D Lloyd Jones 1884-1888
Y Parch. Ll. R. Hughes, M.A 1888-1902
Y Parch. J. E. Williams, M.A. 1902


O'r flwyddyn 1795 hyd 1863 yr oedd Plwyf Ynyscynhaiarn yn gysylltiedig â phlwyfi Treflys, Llanfihangel y Pennant, a Chriccieth, ac yn ffurfio un fywoliaeth eglwysig. Yn 1863 gwahanwyd y Pennant oddi wrthynt, gan adael y tri plwyf arall i barhau'n un fywoliaeth. Yn ystod y cyfnodau hyn preswyliai'r ficeriaid yng Nghriccieth. Yn 1884 gwahanwyd drachefn blwyf Ynyscynhaiarn,—a gynhwysai y ddwy dref ddegwm—Y Gest ac Uwch y Llyn—oddi wrth blwyfi Treflys a Chriccieth; a bu felly hyd 1908, pan y gwnaed Porthmadog yn blwyf eglwysig annibynol ar Ynyscynhaiarn (neu Uwch y Llyn).

Un o Eglwyswyr mwyaf aiddgar Dyffryn Madog, hanner can mlynedd yn ol, ydoedd Mr. R. Isaac Jones (Alltud Eifion); ac iddo ef a Mr. John Thomas y Cei y mae'r Eglwyswyr i ddiolch fod gwasanaeth eglwysig wedi ei ddechreu ym Mhorthmadog pryd y gwnaed, sef yn y flwyddyn 1859. Cyn hynny, nid oedd gan yr Eglwyswyr Cymreig a ddeuent i sefydlu yno unrhyw fath o fanteision crefyddol yn eu hiaith eu hunain. Er y bu am gyfnod byr,—yn ystod arhosiad y Parch. D. Walter Thomas, M.A.,—un gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnal yn Nhremadog; ar wahan i hynny, Seisnig a gwannaidd oedd yr achos—dim ond gwasanaeth Seisnig ar fore a phrydnawn Sul, a'r person yn byw yng Nghriccieth. Nid oedd gwasanaeth hwyrol yn cael ei gynnal y pryd hynny trwy holl ddeoniaeth Eifionnydd. Wedi dyfodiad Mr. Thomas i Borthmadog yn y flwyddyn 1850—ac efe'n Eglwyswr selog—nid oedd ganddo ddim i'w wneud ond boddloni ar fyned i Dremadog. Ond gan na cheid yno yr un gwasanaeth Cymraeg ar ol ymadawiad y Parch. D. Walter Thomas i Benmachno o herwydd diffyg cydymdeimlad y Saeson a fynychent y lle â'r gwasanaeth Cymraeg—dechreuodd Alltud Eifion a Mr. Thomas wasanaeth lleygol yn y Neuadd Drefol, a pharhaodd hwnnw am tua pymtheg mis.

Yn y flwyddyn 1859 cafwyd cynhorthwy y Gymdeithas Fugeiliol, Llunden, a gwasanaeth y Parch. Eliezer Williams—Llangybi ar ol hynny—yn gurad; a chafwyd yn fuan gydweithrediad yr arweinwyr eglwysig yn y lle. Dechreuwyd cynnal y gwasanaeth yn yr Ysgol Genedlaethol, lle y buont yn ymgynnull am gyfnod o bedair blynedd ar ddeg. Y curadiaid eraill a fuont mewn gofalaeth o'r lle oeddynt y Parchn. Owen Lloyd Williams—Llanrhyddlad yn awr; Robert Williams, Daniel Jones, Alban Griffith, a F. Thomas—y Fallwyd yn awr. Cynhelid gwasanaethau Cymraeg fore a hwyr, a Saesneg yn y prydnawn. Yn y flwyddyn 1864 derbyniodd yr Eglwyswyr gynhorthwy parod a gwerthfawr yn nyfodiad Mr. Grindley; a bu Glasynys hefyd yno am ychydig yn amser ei briodas â Mrs. S. Jones, y Sportsman Hotel ond nid oedd efe'n gurad.

Yn ystod y blynyddoedd hynny, wrth weled yr achos yn cynyddu, meddyliai'r rhai oedd a chyfrifoldeb y mudiad arnynt am y priodoldeb o gael eglwys deilwng o'r lle, a sicrhawyd tir mewn lle manteisiol tuag at hynny.

Ar y 24ain o Dachwedd, 1871, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Ysgol Genedlaethol, pryd yr oedd yn bresennol—Esgob Bangor, y Parch. Erasmus Parry, Major Mathews, Mri. E. Bresse, John Casson, S. Holland, A.S., Griffith Owen, B. Wyatt, Owen Griffith, Richard Norman, Thos. Casson, Morris Richards, R. Isaac Jones, John Parry, J. H. Jones, Samuel Vaughan, J. Thomas, ac eraill. Daethpwyd i benderfyniad unfryd i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Rhoddwyd y tir ar ran ystad Madocks gan Mr. E. Breese, ar


EGLWYS SANT IOAN.

yr amod y buasai'r swm o ddwy fil o bunnau yn cael eu casglu cyn dechreu adeiladu arno. Erbyn y flwyddyn 1873 yr oedd y trefniadau wedi eu cwblhau. Gosodwyd hi i'w hadeiladu i Mr. John Roberts, adeiladydd, o dan arolygiaeth Mr. Thomas Roberts, C.E., Porthmadog. Y penseiri oeddynt—Mri. Axniam a Parrott, 7, John Street, Adelphi, Llunden; a Mr. Roberts ei hunan. Gosodwyd y garreg sylfaen i lawr ar yr 21ain o Hydref, 1873, gan Francis W. Alexander Roche—ŵyr i Mr. Madocks ac yn unol â'r arferiad wrth adeiladu eglwysi, rhoddodd Mr. Casson botel, yn cynnwys Beibl Cymraeg, Llyfr Gweddi Gyffredin Cymraeg a Saesneg—copi o'r North Wales Chronicle, Baner y Groes, Amddiffyniad yr Eglwys, ynghyda memrwn ac arno enwau'r Pwyllgor; hefyd botel fechan arall, yn cynnwys y darnau, deuswllt, swllt, chwech, ceiniog, a ffyrling, ac a'u dododd mewn lle a naddesid yn y garreg. Yr oedd holl draul yr adeilad yn £4,619 6s. 5c. Cysegrwyd hi (yn ddi—ddyled) ar y 4ydd o Fai, 1876. Y curad y pryd hwn ydoedd y Parch. John Morgan sy'n awr yn Edeyrn; dilynwyd ef gan y Parch. John Morgan Jones; ac yn olynydd iddo yntau daeth y Parch. David Lloyd Jones.

Ar yr 1leg o Awst, 1884, caed caniatad oddiwrth yr awdurdodau i wahanu trefi'r Gest ac Uwch y Llyn —sef Ynyscynhaiarn—oddi wrth Griccieth a Threflys, gan eu gwneuthur yn un plwyf at wasanaeth eglwysig, a gwnaed y Parch. D. Lloyd Jones yn ficer. Yn 1888 symudodd Mr. Jones i fywoliaeth Amlwch, a dilynwyd ef gan y Parch. Llewelyn R. Hughes, M.A., yr hwn oedd ar y pryd yn gurad yng Nghaernarfon. Ar yr 21ain o Ragfyr, 1908, gwnaed Porthmadog yn fywoliaeth ar wahan i'r Ynys—cyn hynny nid ydoedd ond Eglwys Dosbarth (District Church), a'r Ynys yn Eglwys y Plwyf, ym mywoliaeth Ficer Criccieth. Yn y flwyddyn 1889 adeiladwyd Ficerdy, ar y draul o £1,563, 15s. 8c. Yn y flwyddyn 1897, anrhegodd Mr. F. S. Percival yr eglwys ym Mhorthmadog â Festri, a Thwr, a chwech o glychau ynddo, y rhai a gysegrwyd yn 1900. Ymhen dwy flynedd ychwanegwyd dwy gloch arall; cyfanswm y drauli Mr. Percival, oddeutu £3,000. Yn 1899 adeiladwyd Neuadd Eglwysig yn Terrace Road, ar y draul o £1,399 18s., a chysegrwyd hi'r un amser a'r clychau. Cynhelir yn y neuadd hon wasanaeth Saesneg ar nos Suliau, a chyfarfodydd eraill perthynol i'r Eglwys yn ystod yr wythnos.

Yn 1902 ymadawodd y Parch. Ll. R. Hughes i Landudno, a dilynwyd ef gan y Parch. J. E. Williams, M.A., oedd yn ficer ym Mhont Ddu.

Yn 1903—4, trwy garedigrwydd Mr. Griffith Owen, Bryn Glaslyn, dechreuwyd ar y gwaith o gasglu gwaddoliad er mwyn codi cyflog y ficer i £200, a sicrhawyd i'r amcan y swm o £1,400 (ond sydd erbyn hyn yn £2,000), a gallwyd drwy hyn wneuthur Porthmadog yn fywoliaeth ar wahan i Ynyscynhaiarn, yr hyn a wnaed yn niwedd 1908, er galluogi Mr. Williams i gyfyngu ei wasanaeth i Borthmadog er nad i dref Porthmadog yn unig.

Y flwyddyn ddiweddaf symudwyd ymlaen i adeiladu eglwys ym Mhorth y Gest. Rhoddwyd y tir yno gan Arglwydd Harlech, ac ar y 24ain o Ionawr, 1912, gosodwyd y garreg sylfaen. Pwyllgor y symudiad ydynt: Capten Jones, Borth; Mr. A. Thomas, Mr. G. Yates, Mr. William Jones, a'r Parch. J. E. Williams, M.A. Ar gyfer y Cymry'n bennaf yr adeiladwyd Eglwys Sant Ioan. Y mae gwasanaethau deg y bore a chwech yr hwyr ar y Sabathau, yn cael eu cynnal yng Nghymraeg.

Gellir dweyd fod holl draul yr Eglwys ym Mhorthmadog—gan adael allan roddion hael Mr. Percivaltua deng mil o bunnau.

Rhif y cymunwyr, y Pasg, 1912, 400. Aelodau'r Ysgol Sul, 250.

Pwyllgor yr Eglwys—Cadeirydd: Lieut. Colonel J. S. Hughes, V.D. Trysorydd: Mr. W. H. Edwards. Ysgrifennydd Mr. A. G. Edwards.

Clerigwyr:

Y Parch. J. E. Williams, M.A.
Y Parch. R. Hughes, M.A.
Y Parch. W. Walter Jones, B.A.
Y Wardeniaid.—Mr. D. Breese, Mr. R. Parry.


Nodiadau

golygu