Hanes Sir Fôn/Bettws Llanbadric, Neu Cemaes
← Plwyf Llanbadric | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanrhwydrys → |
BETTWS LLANBADRIC, NEU CEMAES.
O berthynas i ystyr y gair Bettws, yr hwn sydd i'w weled yn fynych yn yr ynys hon, y mae amrywiol farnau. Dywed un y cyfenwai Gwyrfaiensis yn y Brython ef a'r gair Bead house, o'r hwn y mae yn llygriad.
Dywed y Parch. Edward Llwyd, Rhydychain, nas gallai efe bendefynu beth allai arwyddo―ond iddo dderbyn llythyr oddiwrth foneddwr o swydd Drefaldwyn yn sicrhau nad yw amgen na'r gair Beatu (dedwydd) wedi eu Gymreigo, a'i fod yn dwyn perthynas a sefydliadau crefyddol St. Beuno. Barna eraill mai ei ystyr yw Abalis, lle a berthynai i Abatty, neu Briordy. Eraill a dybiant ei fod yn arwyddo lle canolog rhwng dyffryn a bryn, neu fynydd uchel—" Bod gwys"—lle cysgodol.
Credwn y byddai yn werth i hynafiaethwyr Cymru wneud ymchwyliad pellach i'w ystyr.