Hanes Sir Fôn/Cwmwd Menai
← Plwyf Llan Sadwrn | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llangeinwen → |
II. CWMWD MENAI.
Y mae y gair cwmwd yn tarddu o'r geiriau cyd a bod (to dwell together); ac o'r gair cwmwd y tardda y gair cymydog.
O berthynas i ystyr a tharddiad yr enw Menai, ceir amrywiol farnau, fel yr awgrymwyd ar y dechreu. Nid yw yr olrheiniad manylaf ond amcan-dyb ar y goreu. Cydnabydda yr holl hynafiaethwyr fod rhandir yn yr ynys hon yn cael ei alw wrth yr enw Cwmwd Menai; ond braidd y cydunant mewn dim arall o berthynas i'r lle. Tybiai Mr. Rowlonds, yn ei ymchwyliad i wreidd-darddiad yr enw hwn, iddo darddu oddiwrth y gair "Fretum," am gulfor sydd yn gorwedd rhwng Môn ac Arfon. Arwydda'r enw yn ei natur a'i ansawdd "narrow water," (main-au); hefyd dywed fod eau neu au yn y Ffrancaeg, yn sefyll am ddwfr. Parablir ef Maene neu Menai. Nid yw hyn yn anghredadwy, pan ystyrir fod y Rhufeiniaid wedi tori i lawr a newid llawer o enwau eraill oddiwrth eu seiniau dechreuol; nid yw yn annhebygol iddynt alw y dwfr hwn yn mæna, neu menai (h.y., Aqua Maenae), ac iddo mewn canlyniad gael ei alw felly hyd heddyw.
Hefyd, ceir amryw eiriau cyfansawdd yn terfynu yn au ac aw, y rhai a gynwys y meddylddrych o ddwfr, megys—Manaw (Isle of Man) Llydaw, (Armonica); Gene-au (Geneva) h.y., "genau y llyn," Llyn Llwydaw, yn sir Gaernarfon; Alaw, afon yn Môn; Gwlaw (rain.) Dywedir nad yw yn afresymol i ni dybied fod y gair au neu aw yn yr iaith Geltaidd yn arwyddo dwfr. Gellir hefyd, weithiau, ychwanegu y terfyniadau trwy gysylltu llythyren ychwanegol atynt, i amrywio ac i arwyddo rhyw neilluolrwydd, megys awy; fel y ceir yn yr Iwerddon awy-duff, am ddyfn-ddwr. Neu, yn fwy cyfyngedig wy, megys yn Nghymru, lle y mae yn derfyniad i amryw eiriau cyfansawdd am afonydd, megys Dyfrdwy, Y mae Elwy, Medwy, Lligwy, Conwy, Gwy, &c. yr engreifftiau a nodwyd yn sail digonol i'r dybiaeth yma o berthynas i ystyr yr enw Menai.
Mae yn amlwg fod yr enw main-au, neu yn fwy llygredig maene, yn cael ei fynych arfer a'i gymhwyso at amryw leoedd; ac, i gadarnhau hyn, nodir tri cul-for (fretum) o amgylch ynys Prydain, a elwir maene hyd y dydd hwn. Y mae y cyntaf yn Kent, ar gyfer Normandy, yn Ffrainc; yr ail yn sir Benfro, yn Nghymru; a'r trydydd yn agos i Mul of Galway, yn yr Ysgotland. Y Brythoniaid a alwant y culfor, lle yr anturiodd Cæsar i Brydain, wrth yr enw Pwyth, neu Porth meinlas, a dywedir fod y gair Groeg Limen yn cael ei wneud i fyny o ddau sill, lle a main; h.y., lle main—porth, neu ferry. Oddiwrth y sylwadau hyn am darddiad enw Menai, casglid yn naturiol mai main aw yw yr ystyr, fel y barnai Mr. Rowlands.
Am ychwaneg o fanylion yn nghylch tarddiad ac ystyr yr enw Menai, gwel "Mona Antiqua," tudal. 188.[1]
Taflen o'r plwyfydd yn ghnwmwd Menai, yn nghyd a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:—
Plwyf. | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llangeinwen | 600 | 11 Llanddwyn (Merch Brychain Brycheiniog Seren Ddydd y Cymry) |
500 | |||
2 Llangaffo | 600 | 12 Llanfihangel Ysgeifiog | anhysbys | |||
3 Llangefni | 620 | 13 Rhoscolyn. | 629 | |||
4 Rhan o Treguian | 141 | 14 Rhan o Llantrisant | 570 | |||
5 Llanidan | 509 | 15 Rhan o Llangwyllog | 601 | |||
6 Llanddeinioll Fab | 740 | 18 Rhan o Llanerchymedd | 403 | |||
7 Llanedwen | 610 | 17 Ceryg Ceinwen | anhysbys | |||
8 Llanfair y Cwmwd | 1237 | |||||
9 Newborough | 500 | |||||
10 Llanffinan | 609 |