Hanes Sir Fôn/Plwyf Coedana

Plwyf Gwredog Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Ceidio

PLWYF COEDANA.

Saif y plwyf hwn rhwng Llangefni a Llanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Anne, neu Aneu, neu Anef ap Caw Cawlwyd. Ond dywed eraill mai boneddiges Gymreig o'r enw Anne ydoedd. Hefyd, tardda oddiwrth lwyn o goed. Yr ystyr yw "Llwyn, neu Goedwig raslawn."