Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanbeulan

Plwyf Aberffraw Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llangadwaladr (Eglwysael)

PLWYF LLANBEULAN.

Y mae rhan o'r plwyf hwn yn Nghwmwd Llifon, rhan yn Malltraeth, a rhan yn Twrcelyn. Saif oddeutu chwe' milldir i'r de-orllewin o Langefni; derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Beulan, yn y chweched ganrif—mab Pawl hen o Fanaw.

Ystyr yr enw yw Llan Heddychol. Y fywioliaeth sydd berigloriaeth, mewn cysylltiad sefydlog a churadiaethau Cerchiog, Llanerchmedd, Llechylched, a Taly-llyn, yn archdeoniaeth Môn, a than nawdd Esgob Bangor. Trethid ef yn King's books yn 22p. 3s. 11½c. Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 197p. 13s Roddodd un o'r enw David Jones yn ei ewyllys 10p., a dymunodd i'w llôg gael ei ranu rhwng y ddau berson hynaf ag sydd yn meddu cymeriad da yn y plwyf hwn.