Hanes Sir Fôn/Plwyf Llandyfrydog

Plwyf Llanerchymedd Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Gwredog

PLWYF LLANDYFRYDOG.

Saif y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gogleddddwyrain o Lanerchymedd-tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Tyfrydog, ap Arwystl Gloff; a Dyf ferch Amlalawdd Wledig ei fam. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif."

Lleidr Dyfrydog.—Enw ar faen mawr ac uchel, oddeutu milldir o'r pentref. Tardda yr enw, yn ol traddodiad sydd ar lafar gwlad, oddiwrth fod dyn wedi dwyn Beibl o'r eglwys, ac iddo ei gario ar ei ysgwydd hyd y fan hon; ac iddo syrthio yn y fan yma oddiar ei ysgwydd; ac fod y lleidr wedi cael ei daro a barn, a'i wneud yn golofn gareg yn ebrwydd.

Dyma benillion a glywais eu hadrodd gan yr awdwr yn Eisteddfod Llanerchymedd:

TUCHANGERDD "LLEIDR DYFRYDOG."
Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, Awst, 1871.

Rhyw noson oer Glan-Gauaf, wrth oleu ffiamau 'r tân,
Fy nhaid eisteddai'n ddedwydd, gan fygu pibell lan:
Y gwynt oedd gryf chwibanog, a'r gwlaw yn dod i lawr,
Gan wneyd taranau erchyll, o fewn i'r simneu fawr;

Ystyrid ef y goreu o bawb am stori gron,
Ond iddo gael ei bibell, a dawnsio blaen ei ffon.
"Mae 'n noson 'stomus heno," dywedai nhaid yn syn,
"Eiff pawb i'w gwely'n gynar, ond Will ac Wmffra 'r Glyn:"
"Maent hwy o eppil—"Lleidr Dyfrydog" sydd yn awr
Mewn cae yn ymyl Clorach, yn golofn gareg fawr,
Pan glywo'i glustiau cerig y gloch yn tincian saith,
Mi glywais, rhedai 'r lleidr o gylch y cae dair gwaith.

Ychydig oedd o lyfrau yn oes hen daid fy nhad,
Ychydig fedrai ddarllen pryd hyny yn y wlad:
Ceid Beibl a Llyfr Gweddi mewn Eglwys yn mhob plwy',
Yn rhwym wrth ddur gadwyni, i'w diogelu hwy.
Yn Eglwys Llandyfrydog, 'roedd amryw lyfrau da
At esmwythau y llwythog, a gwella'i fynwes gla;
A byddai Will llaw flewog—o deulu Wmffra 'r Glyn,
Yn myned yno weithiau i'w darllen y pryd hyn;
Ond gwelwyd ef rhyw noswaith yn tori drwy y ddôr
I fewn, gan chwilio'r gangell yn Nheml lân yr Iôr,
Gan wneuthur sypyn trefnus o'r llestri cymun drud,
Yn mrethyn coch yr allor—a'r llyfrau ynddo'n nghyd.

Ar ol eu rhwymo 'n drefnus wrth denyn ar ei gefn,
Daeth ymaith nerth ei sodlau dros gamdda'r gareg lefn,
Nes myn'd i feusydd Clorach lle'r 'roedd ffynonau'r Saint,
A gwelai ysbryd Mynach, fel derwen fawr o faint,
Yn dyfod i'w gyfarfod, gan grynu'r llawr a'i draed,
Nes oedd ei wallt yn sefyll, a chwyddai wythi gwaed;
Gofynai Will, "Pwy ydwyt"? gan roddi erchyll reg;
Ond yn y fan nis gallodd byth gau yn ol ei geg.
Tarawyd ef a'r llyfrau, yn golofn gareg gref,
Lle gwelir ef hyd heddyw yn nod o ŵg y nef:
A chylywais na bu llwyddiant i un o'i eppil byth,
Fod ysbryd drwg Llanallgo, yn gwneyd y teulu'n nyth.
D. M. AUBREY (Meilir Mon.)

Yn agos i'r maen yma, mewn fferm o'r enw Clorach, y mae dwy ffynon yn cael eu galw Ffynon Cybi, a Ffynon Seiriol. Tardda yr enwau oddiwrth St. Cybi a St. Seiriol,—noddwyr Caergybi ac Ynys Seiriol.

Dywedir y byddai y ddau sant yn arfer cyfarfod yma ar amserau penodedig, i ymgynhori pa fodd oreu i ddwyn achos crefydd yn mlaen yn y wlad; ac anog eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. A chan y byddai yr haul yn wastad i wyneb Cybi wrth ddyfod yn y boreu, ac wrth ddychwelyd yn yr hwyr, ac yn wastad i gefn Seiriol wrth fyned a dychwelyd: felly galwyd y neill "Seiriol Wyn," a'r llall yn "Cybi Felyn," medd traddodiad. Ac, oherwydd yr arferiad yma y galwyd y ffynonau wrth yr enwau blaenorol.

Coed Goleu.—Bu yma frwydrau gwaedlyd gan y Brythoniaid a'r Daniaid oddeutu y fl. 872. Gelwir hi weithiau Bangoleu yn Môn. Tybia y Parch. O. Jones, yn "Hanes y Cymry," mai yn nghymydogaeth Pen y Greigwen y cymerodd hon le; ond fod y fuddugoliaeth wedi ei henill gan Rhodri yn y lle a elwir Manegid yn Môn.

Y mae Coed Goleu wedi derbyn yr enw oddiwrth Bangoleu, yr hwn fu yn gwersyllu yma. Ceir amryw leoedd yn terfynu ar y plwyf hwn sydd wedi derbyn eu henwau oddiwrth y frwydr hen—Bryn goleu, oddiwrth Bangoleu; Gadfa, oddiwrth y frwydr; Pant y moch, oddiwrth Pant yr Och. Yn agos i Tre'r Beirdd y mae colofn fawr a elwir Maenaddwyn, h.y., colofn fendigedig; neu hawddgar-saif yn uchel iawn; tybia Mr. Rowlands ei bod yn un o'r Meini Gwyr.