Hanes Sir Fôn/Plwyf Llaneugrad
← Plwyf Llaneilian | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanallgo → |
PLWYF LLANEUGRAD.
Saif y plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r dwyrain o Lanerchymedd. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Eugrad, mab Caw Cawlwyd, ac felly y tarddodd yr enw ar y plwyf yma. Bu yma frwydr waedlyd yn y fl. 873-yr hon ydoedd brwydr Bangoleu, sef rhwng y Brythoniaid a'r Daniaid, pryd y gwaethpwyd lladdfa fawr gan Rhodri (Rodri the Great.)
Lligwy.—Fferm yn y plwyf hwn; y mae y gair wy neu gwy sydd yn derfyniad i'r enw hwn, yn arwyddo hylfi (fluid) felly nid anmhriodol ei arferyd am afon, &c.