Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfihangel-Din-Sylwy
← Plwyf Llaniestyn | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanddona → |
PLWYF LLANFIHANGEL-DIN-SYLWY
Ymddengys fod enw y plwyf yma yn tarddu oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St Michael: ac oddi wrth y Castell oedd gan yr hen Frythoniaid, yr hwn a fu yn ddefnyddiol i'r Rhufeiniaid yn y cwr yma o'r ynys.
Gelwid ef "Din," neu "Dinas Sylwy," h.y., castell i edrych allan neu i wylio. Gelwid yr amddiffynfa hon yn "Fwrdd Arthur;" ystyr y gair Arthur yw dyn cryf. Rai blynyddau yn ol cafwyd yma amryw ddarnau o arian bathol, a rhai eilunod Rhufeinig.