Hanes Sir Fôn/Plwyf Llangaffo

Plwyf Llangeinwen Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llan Idan

PLWYF LLANGAFFO.

Saif y plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Cysegrwyd yr eglwys i St. Caffo, mab i Caw o Brydain, yn y chweched ganrif, ac oddiwrth hwn y cafodd y plwyf yr enw.

Cynwysai y maesdrefi canlynol:-Tref Iossith, Rhandir Gadog, Tref Irwydd, a Dinam.

Tref Irwydd, neu Ferwydd.—Dywed un hynafiaethydd fod yn ymddangos iddo ef i'r enw hwn darddu oddiwrth lwyn o dderw oedd yn y lle, yn mhlith y rhai y byddai yr hen Dderwyddon yn preswylio. Dywed eraill iddo darddu oddiwrth enw dyn—Merwydd Hen, yr hwn oedd unwaith yn dal y tir; megys yr oedd Caer Edris yn tarddu oddiwrth Aeneas ap Edris, yr hwn oedd ryddddeiliad yma yr un modd a Merwydd Hen.

Hefyd, ceir lle yn mhlwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, o'r enw Caer-irwydd; am yr un rheswm a'r Tref Irwydd hon.

Tref Iosseth (Weithiau Tref Asseth).—Tybir ei fod yr un ag Asaph, mab Sawyl Benuchel, ap Pabo Post Prydain. Os hwn ydoedd, yr oedd yn ddyn da, ac yn bregethwr enwog: ysgrifenodd lyfrau buddiol at wasanaeth myfyrwyr ei Goleg: yr oedd yn byw oddeutu y bumed ganrif.

Tref Dinam, neu Dunam.—Y mae'r gair Din, neu Tin, yr un ystyr a dinas; ymddengys ei fod ar y dechreu yn arwyddo (fel y mae E. Llwyd yn meddwl) 'bryn,' neu le uchel wedi ei gadarnhau, megys y gwelir wrth y gair Dinbren a Tinbren,—tref lle y mae Castell Dinas Bran, yn sir Ddinbych, yn sefyll; hefyd, oddiwrth Din Orwic, yn sir Gaernarfon, a Din, neu Tin Sylwy, yn Môn. Dywed yr awdwr—"Hence, the Roman Dinum, Dinium and Dunum, frequent terminations of the names of Cities in Gaul and Britain, and the old English Tune now Don, Ton, Town, &c., and our modern British Dinas, (a City.) Dun in the Irish signifies a 'fool,' and Dunam, 'to shut up,' to inclose."

Yr oedd y dref hon yn perthyn i freninoedd Lloegr hyd amser y frenhines Elizabeth, pan y dosranwyd hi yn ddwy ran. Gwerthwyd un ran i Hugh William, Glany-gors; ac yr oedd yn eiddo i Coningsby Williams yn 1710. Trefnwyd y rhan arall i William Jones, mab i John ap William Pugh, yr hwn oedd yr amser yma yn dir-feddianydd. Trefnwyd terfynau Dinam mewn côflyfr—oddiwrth Rhyd Dinam hyd y ffordd fawr i Cae'r Slatter; oddiyno i Crochan Caffo, ac yn mlaen i Malltraeth; yna i Lon Goed, ac yn mlaen hyd y ffordd i Hen Shop: oddiyno drachefn trwy'r ffordd i Ben-yr-orsedd, yn mlaen hyd y ffordd i Sarn Dudur, hyd afon Bodowyr, a therfyna yn Rhyd Dinam.