Hanes Sir Fôn/Plwyf Llechgynfarwydd

Plwyf Llandrygarn Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfihangel yn Nhowyn

PLWYF LLECHGYNFARWYDD.

Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu tair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Y mae gwahanol farnau o berthynas i darddiad yr enw hwn: tybia rhai iddo darddu oddiwrth yr hen Sant Cynfarwydd ap Awy, ap Lleurawg, tywysog Cernyw; eraill a dybiant i'r enw darddu oddiwrth Gwenafwy, merch Caw Cawlyd. Dywedir fod eglwys wedi ei chysegru iddo oddeutu y chweched ganrif-pa le ni wyddis, os nad hon ydyw,-ond y farn gyffredin yw, mai i'r hen sant crybwylledig y cysegrwyd hi.

Y mae'r gair "llech" yn nechreuad yr enw, fel blaen-ddod, wedi ei gymeryd oddiwrth gareg fawr a godwyd yn gofgolofn goffadwriaethol, yr hon a fu, hyd yn ddiweddar, yn ansigledig ers oesau lawer; ond a dynwyd i lawr ers tro bellach—a gresyn oedd hyny.

Y mae y fywiolaeth eglwysig y plwyf hwn mewn cysylltiad â phersonoliaeth Llantrisant, yn archdeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor. Y mae yma leoedd addoliad gan y Trefnyddion Calfinaidd a'r Wesleyaid. Derbynia blant tlodion y plwyf eu haddysg yn Ysgol Genedlaethol Llanerchymedd. Rhoddodd un o'r enw Mrs. Margred Wynne, yn ei hewyllys, ran o dir bychan—cynyrch yr hwn a neillduodd i gynorthwyo un hen wreigan oedranus ac anghenus. Rhoddodd un arall, Mrs. Catherine Roberts, yn ei hewyllys, 50p. yn arian at gynorthwyo dwy ddynes dlawd yn cadw tŷ; ac felly y mae yma ychydig roddion elusenol er bûdd i'r tlodion. Mewn cae yn gysylltiedig a'r eglwys hon yr oedd y maen Llechgynfarwydd, yr hwn oedd uwchlaw naw troedfedd o uchder; ond sydd wedi ei dynu ymaith fel yr awgrymwyd, ac ymddangosai ei fod yn dra henafol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 185p. 5s. 0c.

Tref Ddo, neu efallai, Tref Bold.—Y mae hwn yn un o'r palasau hynaf yn yr ynys, (neu yn yr ardal hon, beth bynag.) Yny fl. 1600, Rhys Bold, ysw., a breswylid ynddo. Yr oedd enw hwn y pryd hyny yn anrhydeddus drwy yr holl wlad: a dywedir fod ei briod Helena yn un o'r merched glanaf yn Nghymru. Yr oedd ganddynt fab o'r enw William, yr hwn a enillodd serch, parch, ac edmygedd trigolion Môn yn gyffredinol-a dywedir fod y plwyfolion mor barchus o hono, fel o'r braidd nad addolasant ef. Yn amser y ryfel waedlyd rhwng Charles a Chromwell, pan ddaeth Cromwell a'i fyddin drwodd ar eu ffordd i'r Iwerddon, dywedir iddynt wersyllu yn y lle hwn; a phan ddinystrwyd holl feddianau y boneddigion cymydogaethol, rhoddwyd gorchymyn pendant i'r fyddin gan ei blaenor, na chyffyrddent mewn modd yn y byd a dim o eiddo Bold. A'r traddodiad yw iddynt gynal gwleddoedd rhwysgfawr anarferol; ac yr oeddynt yn ymhyfrydu mewn tywall gwaed dynol, a dinystrio meddianau y trigolion. Cafwyd yr hen benillion canlynol (mewn ysgrifen) ag sydd yn profi hyny:

"Galar mawr, a dwfn och'neidio
Trwy bob parth o Ynys Fôn;
Gruddfan glywir, a swn wylo
Prudd yw 'r gân, a dwys yw'r dôn.

Yntau, Cromwell, yr archelyn,
Gyda Bold Treddol yn llon,
In mwynwledda ar ddigonedd,
Heb un blinder dan eu bron."

Wedi i'r ymgyrch fod rhwng Charles a Chromwell, ac i Bold fod yn bleidiwr i'r diweddaf, collodd lawer o'i barch cyntefig: a hyny yn unig oherwydd iddo lochesu a chroesawu eu gormeswr creulon.

Adeiladwyd croes ganddo yn eglwys Llechgynfarwydd, yn y fl. 1664, yr hon sydd yn golofn goffadwriaethol iddo hyd y dydd hwn.

Cae'r Fordir, neu a gamenwir yn bresenol yn Gae'r fortir. Tebygol yw i'r nantle a'r gwastadedd sydd gerllaw yma fod unwaith yn orchuddedig gan ddwfr; ac y mae olion y cyfryw beth i'w weled yn eglur: gelwir y tir sydd yn terfynu arno yn "Ynys Dodyn." Efallai i'r dywededig lanerch fod wedi ei hamgylchu â dwfr, ac felly fod yr enw wedi tarddu oddiwrth hyny-dyna y syniad sydd ar lafar gwlad yn mysg y brodorion.

Bod Ychain, neu yn fwy priodol, Bod Ychen.—Y mae yr enw wedi tarddu oddiwrth breswylfod un o'r enw Ychen; pwy ydyw nid yw yn hysbys. Y mae y lle hwn yn un o'r rhai hynaf yn yr ynys. Yma yr oedd Rhys ap Llewelyn ap Hwlcyn yn byw; efe oedd y sirydd cyntaf, a pharhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn byw yma oddentu y f. 1500. Yr adeg neillduol yr hynododd y gwron Cymreig hwn ei hun oedd, yn mrwydr waedlyd a bythgofiadwy "Maes Bosworth "—yr oedd ei fedr fel llywydd yn ei hynodi yn ddirfawr yn mhlith ei gyd-ymladdwyr, fel yr oedd yn cael ei edmygu i'r graddau pellaf. Derbyniodd gan y brenin uchel deitl, a'r enw a ddewisodd oedd Bodychen, sef enw ei breswylfod.

Yn y plwyf hwn yr oedd Carchar y Sir, ac y trinid pob math o achosion o bwys yn eu cysylltiad a heddwch ac a rheolath yr ynys. Y mae rhanau o'r carchar i'w gweled, fel colofnau i ddangos yr hyn a fu yn yr adeg a aeth heibio.

Bryn-y-Crogi.—Y mae yn ymddyngos fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth y mynych ddienyddiadau fyddai yn cymeryd lle yma. Y mae yn cael ei alw ar yr enw yma hyd heddyw.

Gefnithgraen.—Terfyna y lle hwn ar Bryn-y-Crogi. I'r maes hwn y byddid yn dwyn y troseddwyr i weinyddu cosb y gyfraith arnynt, trwy eu fflangellu a'u cefnau yn noethion, ac felly cafodd y lle yr enw. Yr enw priodol ydyw, "Cefn y noeth groen."