Hanes Sir Fôn/Plwyf Penrhos Lligwy

Plwyf Llanallgo Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Rhosbeirio

PLWYF PENRHOS LLIGWY.

Y mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r gogledd-ddwyrain o Lanerchymedd: cysegrwyd yr eglwys i St. Michael. Tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. "The head or upper end of the Common, near the river Lligwy." Dywed Mr. Rowlands fod St. Mechyll wedi ei gladdu yn mynwent y lle hwn oddeutu y seithfed ganrif. Efe (St. Mechyll ap Echwydd) a adeiladodd eglwys Llanfechell. Yr oedd "Capel Lligwy" yn y plwyf hwn, ond yn awr y mae yn adfeilion.