Hanes Sir Fôn/Plwyf Tre' Gaian

Plwyf Llan Gefni Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llantrisant

PLWYF TRE' GAIAN.

Saif y plwyf bychan hwn ar derfyn y tri cwmwdMalltraeth, Menai, a Tindaethwy. Y Rhandir Tre' Gaian sydd yn nghwmwd Menai, a'r Arddreiniog yn Tindaethwy. Yr oedd y ddau hyn ar y cyntaf yn rhan o randir Ednyfed Fychan, gweinidog a chadfrīdog i Llewelyn ap Iorwerth. Rhoddodd ef y tri rhandir Pen Mynydd, Tre' Castell ac Arddreiniog, i'w fab Gronw; a Thudur Hen ap Grow a ddosranodd ei etifeddiaethau rhwng ei dri mab, Gronw, Howel, a Madoc. Etifeddiaeth Tudur oedd Pen Mynydd, lle y trigodd am amryw flynyddau. Bu farw yn Friars, Bangor, yr hwn le a adeiladwyd ac a waddolwyd ganddo ar y 9fed dydd o Hydref, 1311. Bu Howel ei fab farw heb hiliogaeth. Madoc oedd Archddiacon Môn, ac yn ben ar fynachlog Conwy. Gronw, y mab ieuengaf, a gafodd etifeddiaeth ei frawd Howel. Claddwyd y Gronw hwn yn Bangor, Rhagfyr 11eg, 1331, a gadawodd ei fab Tudur yn etifedd-a'r Tudur hwn, yr hwn a fu byw yn Tre' Castell, a adawodd bump o feibion ar ei ol, rhwng pa rai y rhanodd efe ei etifeddiaeth; claddwyd ef yn Friars, Bangor, Mai 9fed, 1367. Ei feibion oeddynt Gronw, Ednyfed, Gwilym, Meredith, a Rhys. Gronw oedd etifedd Pen Mynydd; i'r hwn yr oedd merch, yr hon a briododd William Griffith, ap Gwilym o Penrhyn, Bangor; a mab o'r enw Tudur Fychan.

Ednyfed ail fab Tudur ap Gronw, a enillodd Tre' Castell yn dref-dadaeth. Gadawodd yntau ddwy ferch yn gyd-etifeddion, sef Anghared a Myfanwy. Anghared, yr hon oedd yn meddu Tre' Castell yn etifeddiaeth, a briododd gyda Evan ap Adda, ap Iorwerth Ddu o Tegengl, yn sir Fflint; a'u mab Evan Fychan a briododd Anghared merch Howel ap Tudur, o Fostyn, lle y preswyliodd wedi hyny yn nghyd a'i hiliogaeth hyd o fewn deng mlynedd yn ol, os nad hyd heddyw, ac yn cymeryd meddiant o'r lle.

Mae hiliogaeth Gwilym, trydydd mab Tudur ap Gronw, wedi darfod, neu nad oes gwybodaeth am danynt.

Meredith, y pedwerydd mab, oherwydd rhyw achos neu gilydd, a adawodd ei gartref, ac yn y cyfamser ganwyd ei fab Owen (o weddw Harri V). Ei bumed mab, Rhys, a ddaeth yn feddianol o Tre' Gaian a'r Arddreiniog; yr hwn a addawodd ei eiddo i'w ferch Gwerfil, yr hon a briododd Madoc ap Evan, ap Einion o Penarth, Abercyn, yn Eifionydd, yr hwn a adawodd y lle i'w fab Howel ap Madoc; ac yntau a'i gadawodd i'w fab Rhys, oddiwrth yr hwn y disgynodd i'w fab Rhydderch. Yr oedd y cyntaf o holl deulu y Rhydderchiaid a'r Prytherchiaid oedd yn yr ynys. Bu Rhys ap Tudur ap Gronw farw, a chladdwyd ef yn Friars, Bangor, yn y fl. 1412.

Bu dyn yn byw yn y plwyf hwn o'r enw William ap Howel ap Iorwerth, oddeutu y fl. 1580, yn gant a phump oed. Priododd dair o wragedd, a chafodd dri-a-deugain o blant o honynt: o'r gyntaf dau-ar-hugain, a rhwng yr ieuengaf a'r hynaf yr oedd 81 o flynyddau. A chyn ei farw, yr oedd yn meddu uwchlaw tri chant o hiliogaeth! Cysylltwyd capel Tre' Gaian a pherigloriaeth Llangefni. Noddwr y fywioliaeth ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gaian, yn y bumed ganrif; yr ystyr yw "Llan-y-rhwyd-fan-bysg."