Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Dechreuad Gwaith Haiarn Tredegar

Tredegar Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn

gan David Morris (Eiddil Gwent)

Yr Adeiladydd, ac Ereill


PEN. IV.

DECHREUAD GWAITH HAIARN TREDEGAR

Wedi i Mr. Munkas, mewn cysylltiad a Mr. Fothergill, gael addewid am afaelrwym (lease) ar y man lle saif Gwaith Haiarn Tredegar arno, yn ffodus iawn, daeth Mr. Humphrey, Penydaren, i mewn i fod yn rhanfeddianydd o Weithfa Tredegar. A chan fod Mr. Humphrey yn frawdynghyfraith i Sir CHARLES MORGAN, TREDEGAR FAWR, llwyddasant i gael gafaelrwym (lease) ar y fan ddewisedig ganddynt. Ond wedi iddynt daflu golwg gyffredinol ar y lle, fel man cyfleus i adeiladu Gweithfa Haiarn, siomwyd hwy yn fawr, canys yr oedd rhyw fân diroedd mewn cysylltiad ar man dewisedig, yn eiddo i un Paul Harri, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw mewn amaethdy bychan, gerllaw y lle mae ystablau Tredegar yn nawr. Y'ngwyneb hyn nid oedd dim yw wneyd ond ceisio denu yr hen wr i werthu ei afaelrwym, lease. Ond yr oedd yr hen Baul yn parhau i nachâu o hyd, nes o'r diwedd i'r masiwn, yr hwn oedd yn adeiladu y Ffwrnesi, i ddenu yr hen wr ar y cruse, fel y dywedir. Ac yn llechwraidd fel hyn llwyddodd arno i werthu ei hawlfraint o'r tir, hwyrach ag oedd wedi bod am ganoedd o flynyddoedd yn meddiant ei deulu,a hyny am ryw swm fechan o arian ar lawr, ynghydag wyth swllt yr wythnos tra byw!! Ond nid efe yw'r unig Esau y'mhlith y Cymry, a werthodd ei enedigaeth fraint am un saig o fwyd. Wedi cael pob peth i gyddaro fel hyn, awd ymlaen a'r gorchwyl o adeiladu. Adeiladwyd y tair Ffwrnes gyntaf rhwng y flwyddyn 1800 a 1801, ond ni ddichreuwyd eu gosod dan Flast cyn y flwyddyn 1802. Cadarnheir ni yn hyn, pan ystyriom nad oedd holl drigolion plwyf Bedwellty yn y flwyddyn 1801 ond 619. Gwel Pigot's Directory am y flwyddyn 1831, tudalen 665. Ac yn y flwyddyn 1811, y'mhen naw mlynedd wedi i Waith Tredegar gael ei ddechreu yr oedd trigolion plwyf Bedwellty yn 4,590, ac yn y flwyddyn 1821 yn 6,384, eto yn 1831 yr oedd rhif y trigolion yn 10,637, a bernir fod yr hanereg, moiety, yn perthyn i Dredegar. Gwel yr un llyfr, sef Pigot's Directory, a'r un tudalen. Mae yn ddiamheuol fod yn rhwyddach adeiladu wyth ffwrnes mewn blwyddyn yn awr nag adeiladu tair ffwrnes yn Nhredegar driugain mlynedd yn ol. Yn ngwyneb pob anfanteision, ie, anfanteision o'r mwyaf, yr adeiladodd Cymdeithion, Company, Tredegar, y gwaith sydd yn awr yn destyn ein hymchwiliadau. Yr oedd celfyddyd y pryd hwnw y'mhell iawn yn ol, at beth yw hi 'nawr yn ein dyddiau ni. Yn yr amser hwnw, driugain mlynedd yn ol, yr oedd cymaint o draul ar y Cwm'ni am gludo un Chwythbeiriant, Blast Engine, o Fonachlog Castelnledd i Dredegar, ac yw gwerth y peiriant yr amser presenol. Canys, am nad oedd Tollffyrdd, turnpike, yr amser hwnw, o Feni na Merthyr ychwaith i Dredegar, gorfu iddynt dalu am gludo'r horse-head, prif ysgogydd y peiriant, o'r Fonachlog i Gasnewydd, ac o Gasnewydd i'r Feni, ac o'r Feni, dros y mynydd, i Dredegar. Ac wrth ystyried mai un cymal o'r peiriant oedd hwn, a bod y cymalau eraill ar ol, gwelwn ar unwaith fod traul aruthrol arnynt pan yn adeiladu y Gwaith ar y cyntaf rhagor yn awr. Heb law hyn, yr oedd anhawsderau eraill ar y ffordd, sef dyfrlynoedd i fwydo'r Peirianau, a chledrffyrdd i gludo'r mwn a'r glo tua'r ffwrnesi. Yn herwydd hyn buont yn ymboeni am rhyw amser, gan wneuthur y goreu o'r gwaethaf. Cloddiasant ddyfrlyn bychan, y'nghyda man gwteri, idd y dyben o fwydo y llyn, pond. Wel, yr oedd hyny yn ateb o'r goreu yn y gauaf, ond pan ddeua'r haf nid oedd o fawr werth canys yr oeddynt yn gorfod talu am gario dwfr i'r llyn, yr hwn a alwent yn Cawnel Ond trodd y rhôd er daioni i filoedd heblaw'r Cwmpeiui trwy iddynt, mewn cysylltiad a Chwmpeini Sirhowy, gael caniatad gan y Duke of Beaufort i wneyd dyfrffos trwy ei dir ef:hefyd i wneyd gored tuag at droi dwfr yr afon i'r ddyfrffos, feeder, at wasanaeth Sirhowy a Thredegar. Dyma'r tro cyntaf a gafodd yr afon i weinyddu ei chymwynasau di—dor ac anmhrisiadwy. Dyma'r amser hefyd y gwnawd y llyn a elwir Pownd y Gwaith.

Nodiadau

golygu