Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Gair o gynghor

Rhagoroldeb Heddwch ar Rhyfel Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn

gan David Morris (Eiddil Gwent)

Anerchiad cyflwynedig i Mr. D. Morris, (Eiddil Gwent). Ar ei 70ain mlwydd oed


GAIR O GYNGHOR

Os yw y byd yn cicio,
Paid byth a bod mor ffol,
A rhoi y goreu iddo—
Rho iddo gic yn ol;
Rho gwff am gwff a chic am gic,
Ni phery'r ymdrech fawr,
A thal eu dda am bob hen dric,
Gan gadw'i ben i lawr.

"Dyw'r byd i mi ond tegan—
Yn llawn o ffwdan ffol,
Os caf beth ganddo heddyw,
Fe'i mhyn e foru 'nol;
Pob tamaid bach a gefais—
Oedd gan rhagluniaeth Ior,—
Caf eto, os bydd angen,—
Mae'i 'stên yn llawn o stor.


Nodiadau

golygu