Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant/Hanes

Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant

gan Twm o'r Nant

Cerdd

HANES &c

—————————————

YN gymaint ag i amryw ddynion fy annog i ysgrifenu Hanes fy Mywyd o'm genedigaeth, neu yn hytrach o'r hyd yr wyf yn sicr o gofio; minnau, gan obeithio na bydd yn dramgwydd i neb, nag yn ddianrhydedd i'r Hollalluog, yr hwn a'm gwaredodd o amryw o ddamweiniau peryglus o'r pryd yr oeddwn yn ddwy flwydd a hanner oed hyd heddyw, oblegid i mi glywed fy nhad a mam, ac eraill, oedd yn hollol wybodus o'm dechreuad, mi anturiaf osod i lawr gynifer o'r pethau neilltuol a glywais ac a brofais yn fy nghoffadwriaeth am danaf fy hun. Yr wyf yn gyntaf-anedig i dad a mam, ac yn tarddu o genhedlaeth tu mam trwy Prysiaid Plas Iolyn, ac o du tad o hil trigolion Dyffryn Clwyd, sef Cawryd, Cadfan, ac eraill, hyd onid aethant fel yn wehilion y genedl honno cyn i mi ddeillio o honynt, sef gan mwyaf yn dylodion ac yn annysgedig, o ran medru ar lyfrau, ond y medr oedd ynddynt yn ol natur gyffredin, fel creaduriaid eraill. Ac o lwynau pa rai fe y'm dygwyd i'r byd mewn lle a elwir penparchell[1] Isaf, yn mhlwyf Llannefydd, ar dir ag a fu yn etifeddiaeth Iolo Goch, arglwydd Llechryd, sef ei dŷ ef oedd Coed y Pantwn, ac ef a'i feibion a gladdwyd ym monachlog Eglwysegl, gerllaw Llangollen.

Ond i ddyfod at fy addewid, mewn perthynas i'm treigliad yn y blaen: mae yn debygol ddarfod blino ar gwmpeini o'r fath ag oeddym ni yn nhŷ fy nhaid a'm nain; fe orfu iddynt symud i'r naill gŵr i'r tir, i le a elwir Coed Siencyn, lle buwyd gylch blwyddyn neu ragor, a hynny cyn y Rhew Mawr, pryd yr oedd y farchnad yn ddrud iawn, a'r gwanwyn canlynol fe ddaethpwyd i'r Nant, gerllaw Nantglyn, yng nghwrr plwyf Henllan, lle mae lle a'i enw Cwm Pernant, neu Gwm Abernant, lle bu un Sion Parry, prydydd ag oedd yn perchenogi y lle hwnnw. A'r Nant sydd ganol o dri thy yn y cwm hwnnw, sef y Nant Isaf. Ac yn y Nant Uchaf yr oedd pobl a chanddynt fachgen at yr un pryd ag yr oeddwn innau yn dechreu codi allan; ac oblegid eu bod hwy yn fwy ardderchog o ran pwer ac ablwch, gan nad oedd yno ond dau blentyn, ac o honom ninnau ddeg, ac o barthed hynny fe'm galwyd i yn Dwm o'r Nant, ac yntau yn Domas Williams. Ond cyn neidio yn rhy bell o'r dechreu, yr wyf yn cofio, pan oeddwn ychydig dros dair blwydd oed, a myfi yn dyfod gyda fy mam oddi wrth y pistill o nol dwfr, ac yr oedd ar gornel y ty ysgol galchu wyth lath o hyd, ac wedi ei rhoddi i rwystro y gwynt godi y to; minnau, yn lle dilyn fy mam, aethum i ben uchaf yr ysgol. Ac ewythr imi, frawd fy nhad, a'm tâd bedydd innau, ddaeth heibio. Minnau a ddywedais, "Edrych yma, tada bedun, lle dw i." Yntau, gan ddywedyd yn deg wrthyf, rhag i mi ddychrynu a thorri'n ngwddwf, a ddaeth ac a'm cymerodd i lawr; ac ni chafodd fy mam ddim gwybod pryd hynny rhag iddi gael dychryn gan ei bod yn feichiog ar y trydydd plentyn.

Gwedi hynny ar fyrr, pan oedd fy mam wedi fy ngadael i a'm chwaer yn y gwely y boreu, a myned i ryw neges i dŷ cymydog, pan ddeffroais i a dechreu galw Mam, heb neb yn ateb, mi a gymerais fy esgidiau ar fy nhraed, a'm het am fy mhen, ac aethum i dŷ fy nain yn noeth lymun. Ond fy nain a'm cymerth ac a'm rhoddes mewn gwely cynnes. A chyn pen hir dyma fy mam yn dyfod, wedi amm eu pa le gallwn fod, a'm dillad yn ei ffedog, a'r wialen fedw yn ei llaw. Fe fu yno ffwndwr mawr; un am fy achub a'r llall am fy ngheryddu; ond, beth bynnag, mi gefais fy hoedl gyd rhyngddynt. Yr oedd fy mam yn fy ngwarchae, fel ag y daethum yn y blaen; ni feiddiwn i na thyngu nac enwi Duw yn ofer; ac yn wir, drwy drugaredd, fe safodd yr addysg honno wrthyf byth.

Pan oeddwn yn blentyn, fe fyddai arnaf ofn Duw; ac ofn, pe buasai i mi alw y cythraul, y daethai i'm nol yn y funud.

Ond ymhen ychydig, oddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn; mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythyrenau. Ond yr oedd llawer o son ymysg hen wragedd cyfarwydd y wlad y byddai iddynt fyned a'r holl blant i ffordd pan ddelent yn fawrion, oblegid eu bod yn rhoi eu henwau i lawr; ond beth bynnag, ni chlywais i un o honom fyned. Ond fe aeth y frech wên a myfi adref yn sal; ac yn ol gwella o honno yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol; fe orfu i mi ddysgu gyrru yr ychen i aredig a llafurio yn hytrach na dysgu darllen; ond fe fyddai fy mam yn adgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch wyth oed; a'r haf hwnnw mi gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos; a phan gyntaf y dysgais ysbelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifenu; mi heliais gnotiau yr ysgaw i wneyd inc, ac a dreuliais hynny o ochrau dalennau llyfrau ag a ddown o hyd iddynt. Ond o ddamwain fe aeth siop yn dref ar dân, ac a losgodd gan mwyaf oll, ond ambell ddarn a safiwyd; ac ym mhlith y darnau llosgedig fe gafodd fy mam am geiniog ryw gynnifer o bapurlenni llosgedig eu corneli, ac a wniodd i mi gopi. Minnau aethum at y gof i Waen Dwysog, ac fe ysgrifenodd yr egwyddor ymhen uchaf y dalennau; a gofalus iawn a fum yn canlyn ar lanw yr holl bapur, yn gyffelyb i ol traed brain. Cael papur ac inc, ac ambell gopi gan hwn a'r llall, hyd oni ddysgais ddarllen Cymraeg, ac ysgrifenu ar unwaith.

Mi a ysgrifenais lawer o gerddi, a dau lyfyr interlude, cyn bod yn naw oed; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu fe ddaeth hwn a'r llall i edliw i'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saesneg; ond wrth hir addaw hwy a'm gadewsant i fyned i'r dref i'r ysgol, lle bum am bymthegnos yn dysgu Saesneg; a dyna'r cwbl. Fe orfu imi ddyfod adref i wneyd rhywbeth am fy mara, a thuag at gynnal y plant eraill.

Ond gan faint oedd fy awydd i ddysgu, mi a ganlynais arni o hyd. Pan ddown o'r maes i'm pryd bwyd, mi awn at dresser, lle yr oedd drawer a phapurau gennyf, ac ysgrifenwn, er allent hwy yn peri imi gymmeryd bwyd; a'm heithaf lawer pryd oedd cipio tamaid o frechdan yn fy llaw, a hynny gydâ llawer o ddrwg, eisieu bwyta llaeth neu botes, yn lle yr ymenyn. Ond ar un tro, wrth yru y wedd gydâ'r clawdd, fe rwygodd draenen neu fieren fy labet oddiwrth fy nghoat, fe'm tarawodd fy nhad, gan fy rhegi, ac edliw mai gwell oedd gennyf drin fy mhapurau c——l na thorri'r mieri oedd yn rhwygo fy nillad ac yn tynnu gwlân y defaid. Minnau tan ysnwffian crio ac yn addunedu os fi â'i byth i'r ty y llosgwn i yr holl bapurau. Ac yn fy ystyfnigrwydd y noswaith honno mi losgais ryw becyn o ysgrifeniadau, o'r fath ag oeddynt hwy.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch deg oed; ac er llosgi y llyfrau, yr oedd yr hen natur yn llosgi ffordd arall am gael canlyn ymlaen ar drin papurau; mi aethum yn gyfaill a hen Gowper gerllaw Nantglyn, yr hwn oedd yn fawr ei athrylith am ysgrifenu gwaith prydyddion, sef cerddi a charolau, &c.

Ac ar fyr amser wedi hyn, mi aethum yn gyfaill âg un arall, o'r un fath natur am hel llyfrau, sef hên ddyn oedd yn Mhentre'r Foelas, yn darllen yn y capel y Suliau ac yn clocsio amserau eraill. Cefais fenthyg hên lyfrau gan hwnnw lawer gwaith. A thrwy bob peth a'u gilydd, mi ddysgais ysgrifenu yn lled dda yn y cyffredin o'r gymydogaeth hono.

Yn ganlynol, mi aethum yn gyfaill ag un arall oedd yn brydydd, heb fedru darllain nag ysgrifenu; ac yr oedd ef yn un naturiol iawn o ran llithrigrwydd ei awen am y mesurau tri neu bedwar bar. Efe a gyfenwyd Twm Tai yn Rhos. Fe wnaeth imi englyn, i'w roi mewn llyfyr oedd gennyf o gasgliad cerddi:—

Twm Ifan, wiwlan alwad—yn bwer
A biau'r darlleniad;
Heliai gerdd i lenwi'r wlâd.
Dew gywaeth rhwng dau gauad.


Twm, neu Thomas Evan, yr oeddwn i yn ysgrifenu fy enw cyn myned y pymthengnos hynny i'r dref i ddysgu Saes'neg; dyna'r pryd i'm cyfenwodd hwnnw fi yn Thomas Edwards, oblegid mai Evan Edwards oedd enw fy nhad, ac na fyddai ond basdardiaid yn myned ar ol yr enw cyntaf. Peth bynnag, mi gefais yr anrhydedd o fod yn ysgrifenydd i'r hên brydydd; pan wnai ef gân, fe ei cofiai hyd nes deuwn ato. A phan fyddai yr hên wr yn dywedyd ei waith, mi godwn weithiau i ymresymu âg ef, oni byddai y peth yn well ffordd arall; braidd nad oedd ef yn eiddigeddu wrthyf, rhag fy mod yn gwneyd artaith ar ei waith ef.

Ond cyn fy mod yn ddeuddeg oed, fe gododd saith o lanciau Nantglyn i chwareu interlude, a hwy a'm cymerasant innau gyda hwynt, rhwng bodd ac anfodd i'm tad a'm mam, i chwareu part merch; oblegid yr oedd gennyf lais canu a'r goreu ag oedd yn y gymydogaeth. Mi gefais y part i'w ddysgu mewn cwrw gwahawdd i ddyn tylawd, yn y Fach, yn agos i Felin Segrwyd, lle y telais y tair ceiniog cyntaf erioed am gwrw. Felly ni a ddysgasom chwareu yn ganolig yn ol y dull ag oedd y pryd hynny. Minnau yn hogyn â'm holl ddymuniad ar ddarllain ac ysgrifenu, oeddwn yn athrylithgar iawn at ganu; mi wnaethum interliwd (ar y llyfyr elwir Priodas Ysbrydol," gan John Bunyan) braidd i ben, a hynny heb wybod i neb; ond fe ddaeth rhyw lanc o sir Fon heibio y Nant, ac a gafodd letty; ac ef oedd ysgolhaig, a thipyn o'r natur ynddo, minnau mewn caredigrwydd yn dangos pob peth iddo ag oedd gennyf, yntau wrth fyned ymaith a ddygodd gan mwyaf o'm llyfyr. Braidd Braidd na ddigalonaswm y pryd hynny rhag prydyddu rhagor.

Mi aethum gyda llanciau eraill o gylch Nantglyn i chwareu drachefn, pan oeddwn gylch 13 oed. Yr oeddwn erbyn hyn, os yr un, yn ddoethach na hwy oblegid y mater. Fe ddaeth fy natur yn rhy gref i'w gorchuddio; yr oedd hwn a'r llall yn dechreu taenu fy mod yn brydydd, a nhad a mam yn ysgyrnygu yn arw rhag fy mod yn fy ngwneyd fy hun yn brixiwn. Ond pe buaswn fwy gwaradwydd neu bricsiwn, i'm fy hun a'm cenedl, hynny fu.

Mi wnaethum interlude cyn bod yn 14 oed yn lân i ben; a phan glybu nhad a mam nid oedd i mi ddim heddwch i'w gael; ond mi beidiais a'i llosgi; mi a'i rhoddais i Hugh o Langwm, prydydd enwog yr amser hwno; yntau a aeth hyd yn Llandyrnog, ac a'i gwerthodd am chweugain i'r llanciau hynny, pa rai a'i chwareuasant yr haf canlynol. Ond ni chefais i ddim am fy llafur, oddi eithr llymaid o gwrw gan y chwareuyddion pan gwrddwn â hwynt. Yr oedd hyn, i ganlyn pethau eraill, yn anogaeth i'm dal yn ol rhag prydyddu, pe buasai ddim yn tycio.[2]

Ond yn ganlynol, fel yr oedd fy natur i fal yn anorchfygol, mi a wnaethum Interlude drachefn, ar y testyn "Jacob yn dwyn bendith Esau:" a honno a actiwyd gan lanciau Nantglyn a minnau.

Ac yn ol hynny gwnaethum Interlude "Jane Shore." Hono a actiwyd yn gyntaf gan lanciau Llannefydd; ac yn ganlynol gan lanciau Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Ac yn ol hynny, pan oeddwn gylch 20 oed, gwnaethum interliwd ynghylch "Cain ac Abel," i'w hactio rhwng pedwar dyn; ac mi a fum yn bedwerydd gyda llanciau Llansannan; ac ni a ganlynasom arni am flwyddyn.

Ac yn ol hynny, oblegid euogrwydd cydwybod, ac hefyd fy mod yn caru merch oedd yn tueddu at grefydd, wrth i mi ddyfod o le a elwir y Ro Wên, gerllaw Tal y Cafn, mi a daflais y cap cybydd tros ochr yr ysgraff i Afon Gonwy.

Ac yn 24 o oedran mi a briodais fy ngwraig, ar y 19 ddydd o Chwefror, yn y flwyddyn 1763. A merch inni a anwyd yn yr un flwyddyn, Rhagfyr 26.

Ni a gychwynasom sefydlu ein bywoliaeth yn y Bylchau, ar fin y ffordd o Nantglyn i Lansanan, tyddyn ag oedd yn perthyn i'r Nant; ond fy mhobl i, yn enwedig un chwaer, oedd yn erbyn i ni aros yno; a minnau a gymerais ryw le bach islaw tref Ddinbych, a elwid yn Ale Fowlio. Buom yno gylch dwy flynedd, yn cymeryd gwair a phorfa oddiamgylch, ac yn cadw tair buwch a phedwar ceffyl, a'm gwaith oedd cario coed o Waenynog i Ruddlan. Ac yr oeddwn yn rhagori ar bawb o'r cariers eraill ar lwytho ac ar bob triniogaeth oedd yn perthyn i drin coed; ac o ran hynny byddai rhaid i mi helpu a ffwndro gyda hwynt yn y coed, hyd oni aeth fy ngwraig i rwgnach fy mod mor ffol a chadw y ceffylau oddi wrth eu bwyd, a'm poeni fy hunan gyda phobl eraill.

Felly, fy ngwraig a'm cynghorodd i ddyfod i lwytho brydnawn, pryd na byddai neb arall, y deuai hi gyda myfi i'm helpu; ac felly fu. Ond wrth hir ddal at hynny, a hithau yn feichiog, ac yn anystwyth i droi yn rowel y crane gyda throsolion heiyrn, mi a ddyfeisiais fachu y ceffylau wrth y rhaff i godi y coed i'w llwytho. Ac yn ol dysgu y ceffylau i dynnu ac i ddal, yr oedd llwytho yn dyfod yn esmwythach i'r wraig a minnau; a dyna'r bachu cyntaf wrth raff crane yng Nghymru nac yn Lloeger. Ac yn ganlynol yr oeddym yn cael llonyddwch a hwylustra, o ragor bod trafferthu ymysg y cariwrs eraill.

Rhyw dro, ni a aethom i'r coed, ac a edrychasom am lwyth; beth a welwn yn ochr y nant Gwaenynog ond llawer o ol traed ceffylau, ac arwydd fod yno drafferth fawr yn ceisio pren i fyny, ac yn lle iddo ddyfod, fe aeth ymhellach i'r Nant nag oedd yn y dechreu: a bu gorfod i ddau gariwr, ac wyth o geffylau, ei adael yno. Minnau a synnais beth uwchben y pren; ac yna, gyda fy nhri ceffyl a pheth ysgil, mi a'i tynnais allan ac a'i llwythais,—dim ond y wraig, y ceffylau, a minnau.

A Chalanmai, ymhen y ddwy flynedd, ni a ddaethom o'r Ale Fowlio i Ben Isa'r Dref, i ryw hen dŷ; ac mi ail adeiledais hwnnw, ac a wnaethum ystablau a chyfleustra yno.

A'r hâf canlynol, yr oedd coed Bachvmbyd i'w cario, a chyda rheiny y bum hyd ddiwedd y flwyddyn honno; ac yna fe ddaeth y clafr ar y ceffylau, a'r rheiny yn meirw, a'r gusp neu'r staggers i orphen, a chwedi hynny y rhent, a'r merchant oedd arno arian gwedi myned i'r môr; ac fe redwyd arnaf am yr ardreth; a'r pryd hynny mi guddiais ddau geffyl, ac fe brynodd cyfaill y waggon, ac fe'm trystiodd am dani; ond fe werthwyd y cwbl oedd yn y tŷ; nid oedd gennyf un gwely i orwedd, ond gwellt, a rhyw faint o ddillad a brynnodd un o'r cymydogion, a'u benthyca i ni am dro. Yna nid oedd gennyf ddim i'w wneyd, ond cymeryd rhyw ddynan, ag oedd ganddo dri cheffyl, yn rhannog, ei dri ef a'r ddau oedd genyf finnau, a rhoi gwedd ar gerdded. ac efe yn dweyd mai efe oedd bia honno, ond ei fod ef yn talu i mi am help i lwytho, Felly cario yr oeddym i Dreffynnon a manoedd eraill; ac yr oedd yno walch o ŵr boneddig a elwid Mostyn o Galcoed, ac yr oeddwn yn ddyledus i hwnnw am beth rhent am borfa; ond nid oedd ef yn medru cael craff ar y wedd, gan ei bod yn enw un arall.

O'r diwedd mi a drewais wrth finars o swydd Fflint, a hwy a'm denasant i wneyd Interlude, minnau a wnaethum ar "Weledigaeth Cwrs y Byd" yn nechreu y Bardd Cwsg; a chwareu buom, bedwar ohonom; ac wrth chwareu, fe'm daliwyd yn y Brickill, tros Mostyn Calcoed, i fyned i'r jail. Minnau a roddais feichnafon tan y sesiwn; a rhwng hynny oedd y wedd yn ei ennill, a minnau wrth chwareu, mi a delais yr arian, gyda llawer o gost.

A phan ddaeth hi yn ddiwedd blwyddyn, mi a gedwais y waggon, ac un ceffyl, ac mi roddais heibio chwareu gyda rhai hynny, ac a wnaethum Interlude i'w hactio rhwng dau, ac mi a ganlynais honno dros flwyddyn, ymhell ac yn agos, ac enillais lawer o arian. Ei thestyn oedd, "Ynghylch Cyfoeth a Thlodi."

Ac yn ol hynny, mi a wnaethum un arall rhyngom ein dau, "Am Dri Chydymaith Dyn, ef y Byd, a Natur, a Chydwybod," ac a'i dilynasom mor ddyfal a'r llall.

Ac wedi blino ar honno, mi a wnaethum un ar destun, "Y Brenin, a'r Ustus, a'r Esgob, a'r Hwsmon," ac ni a ganlynasom lawer ar honno.

Mi a fyddwn yn arfer, pan ym min troi heibio chwareu, mi a'i hargraffwn, ac a'i gwerthwn; a gwerth hwylus oedd arnynt, a thâl da oddi wrthynt.

Ac yn ol blino yn canlyn chwareu, mi a godais wedd, ac a aethum i gario o Gaer i dref Ddinbych, i siopwyr ac eraill. Yr oeddwn erbyn hyn yn lled gryno, gwedi cael pethau yn tŷ, a gwêdd ganolig i gario. Ac felly dal at gario y bum hyd onid aeth y wagen sengl yn wagen ddwbl, a chwech o geffylau da yn ystlysau eu gilydd; phedwar o rai gweddol wrth y waggon gul. Fe dynnai y chwech bum tunell o bwysau; a'r waggon arall o gylch dwy dunell a hanner. Mi a fum felly yn dal i gario o Gaer cylch 12 mlynedd, nes y daeth rhyw genedl wenwynig o'r dref i ymryson ac i ostwng ar y cyflog, ac i wneyd pob cenfigen a ellynt.

Yna mi a aethum yn lled ddifater am Gaer, ac a dröais i gario coed. Mi a fum yn cario am hanner blwyddyn o Goed y Fron, sef coed Rug, oddiwrth Gorwen i Ruddlan, ac ambell waith i Gaer; ond yr oeddwn y pryd hynny, drwy pob peth, o gylch gwerth 300p o'm heiddo fy hun. Ond fel yr oeddwn yn ffyrnig am wneyd fy ngoreu, mi a ymroddais i gario coed o lawer o fannau pan aeth cario Caer yn waeth.

Mi a fum yn cario coed mawr o Bathafarn, a Pharc Pysgodlyn, ac Euarth, a'r Plas Uchaf Llanfair, ac o'r Gyffylliog, ac o Fachymbyd Bach, a'r Fronheulog, a thrachefn o'r Waenynog a'r Segrwyd Uchaf, ac o'r Ty'n y Pwll, ac amryw fannoedd eraill.

Ac ar ryw dro pan oeddwn, fel y brenin Dafydd ar nen ei dŷ, yn ysgafala gartref, fe ddaeth ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad bedydd innau, i'r dref, gwedi ei ddal i fyned i Ruthyn am 30p o ddyled, ac yr oedd ef yn ddigon abl i dalu ond cael peth amser; felly fe yrwyd am danaf i fyned yn feichiau iddo ympirio y sesiwn. Felly yr aethum, a phan ddaeth yr amser mi a aethum ag ef at ei wr o gyfraith, yr hwn a'i daliasai, i Wrexham, a hwnnw a'i cynghorodd ef a minnau dalu iddo fel y gallai, y cymerai ef nhwy felly, yn swm bychan, a hynny a fu. Ond beth bynnag, yr hen wr oedd yn oedi talu, a'r cyfreithiwr yn rhoi cost bob tro hyd nes yr aeth yr arian yn fwy, ac o'r diwedd fe dorrodd fy ewythr i fyny: ac yna fe ddaeth ataf finnau dri o failiaid, minnau yn lled gyfrwysddrwg yn fy meddwl a ddywedais yn deg wrthynt, ac a'u meddwais, a'r un oedd a'r writ ganddo a ddaeth i'm gwely i at y gwas i gysgu; a phan gysgodd mi a hwyliais forwyn oedd gennyf i nol ei bocket book ef i gael i mi'r writ, ac felly fu. Ac ar fyrr mi a ofynnais i'r bailiaid pa le yr oedd eu pwer i aros yno; ac yna hwythau, gan edrych ar eu gilydd, a'r naill yn rhegi'r llall; a chwedi y cwbl, nid oedd ond troi cefnau y tro hwnnw. Minnau aethum at yr hwn yr oedd fy ewythr yn ddyledus, ac a gytunais i'm hewythr a minnau dalu yr arian iddo ef fel y gallem; a hynny a fu. A'r cyfreithiwr a yrrodd gennad bwrpasol o hyd nos at y gofynnwr drachefn, yntau a roddes ei law wrth ryw bapur i'r atwrnai gyda'r gennad yn ol. Yna y cyfreithiwr a wnaeth writ â'i law ei hun, heb un Sirydd na Deputy wrthi, ond ei waith ef ei hun. Minnau a insistiais am gael ei gweled, ac adnabum, ac eraill gydâ mi, a'r hen writ yn tystio llaw y sirydd. Beth bynnag, mi yrrais, gyd-rhyngwyf âm cymdogion, chwech neu saith o geisbyliaid i ffwrdd ar unwaith.

Beth bynag, rhwng fod cario o Gaer wedi mynd yn waeth, a blinder ac ofn y gwalch hwnnw, mi a gymerais goed gan un Sion Stokes, o Groes Oswallt, a'r coed oedd ar dir Dolobran, yn sir Drefaldwyn. Mi a gymerais y coed a'r ffarm hefyd, ac yno yr aethum. Yr oedd yno ffarm dda, a melin yn ei chanlyn, ac heb fod yn rhy ddrud. Mi a fum yno yn cario ac yn hwylio i drin y tir, a gosod llawer o hono. Ond yng nghanol y cwbl, yr oedd y diawl ar waith, a chanddo dwrnel i bobi i mi yno fara lefeinllyd. Fe gafwyd yno writ yn fy erbyn; minnau a ddeallais ac a ddaethum at gyfreithiwr Dinbych, i ddeisyf heddwch am amser—fy mod mewn cychwynfa bywoliaeth yn y wlad honno; yntau a ysgrifenodd i mi lythyr, ac yn bur fwyn wrthyf, a pheri imi ei roddi â'm llaw fy hun i'r twrne hwnnw, byddai pob peth yn burion. Minnau yn llawen aethum ar gefn fy merlen adref; ac yno mi a ystyriais beth a allai fod yn y llythyr ; cymerais goes pibell ac a'i dodais yn tân ac a chwythais trwyddi i egoryd y sel; a phan egorais yr oeddwn fel rheiny a'r arian yn ngeneuau'r ffetanau, yr oedd yno yn gynwysedig am i'r gwalch hwnnw ganlyn arnaf, mai goreu y cam cyntaf, fy mod yn ddigon abl i dalu.

Pan welais beth oedd yno, mi losgais y llythyr, ac a gymerais y carnau i'r Deheudir, at wr o'r Eglwysfach oedd gwedi prynu coed Abermarlais yn swydd Gaerfyrddin. Yr oedd ym Meifod, (y plwyf lle yr oeddwn), Exciseman o'r wlad honno, cefais ddirection o'r ffordd, ac ymaith a mi. Cychwynais ddydd Sadwrn, ac yno nos Sul, heb son wrth neb o'm teulu ond wrth fy merch hynaf.

Ac ar ol lled gytuno am waith cario, am 6ch. y droedfedd, o'r coed i Gaerfyrddin, daethum adre gynta gellais, ac a heliais y waggon ddwbl a'r ceffylau, wyth ohonynt, ac a wnaethym y goreu o'r ffordd. Ac mi adewais y waggon fach yno a'r teulu, dim ond y llanc a minnau aeth pryd hynny; yr oedd yn rhy hwyr gennyf gychwyn o sir Drefaldwyn. Ac yn ol cyrraedd yno, mi a gefais le da i'r ceffylau, a gadewais y llanc a hwythau yno, ac a ddaethum i nol fy ngwraig a'm tair geneth. Pacio rhyw betheuach i'w rhoi gyda charrier i Fachynlleth; yr oedd gennyf lonaid cŵd llestraid o lyfrau, a dillad hefyd mewn sachau. Ar ol i mi a'r merched ddyfod i ffordd, ni welais fyth ddim o'r eiddo, y wagon, na'r dillad, na'r llyfrau. Gyda llawer o flinder a thrymder calonnau, ni a ddaethum oll i ben ein siwrneu yn lled iach. Ni a fuom am ryw hyd heb gael lle i settlo i fyw heblaw ar aelwyd eraill; ond trwy ryw ragluniaeth fe ddarfu ein meistr, y timber merchant, gymeryd gate turnpike am 108p yn y flwyddyn o rent; y ni i gael arian y gate at ein bywoliaeth, a setlo y rhent wrth gario. Buom felly yn dechreu bwrw ein henflew yn rhyfedd, a minnau yn cario coed mawr iawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad honno mo'u cyffelyb, nac yn odid wlad arall, am a glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac aethum a hwy i ben eu siwrneu; rhai yn 100 troedfedd, a 150, a 200, yn un darnau; a'r mwyaf, oeddynt yn ei alw brenin-bren, oedd yn 244 troedfedd. Yr oedd gennyf dri phar o olwynion yn cario hwnnw; y wagen oedd a dau fraich cryfion ar ei hyd, a rowel ar y canol, a'r trydydd par o'r tu ol yn cŷd-gario, fel pe buasai ond pedair olwyn. Ond wrth ddyfod i'r coed i lwytho y pren hwnnw fe gododd pobl y wlad, o'r llannau a'r ffyrdd, fel pe buaswn yn y wlad yma yn chwareu Interlude, a llawer o'r bobl gyfarwydd yn dywedyd na lwythwn byth mono, na ddaliai'r taclau ddim i godi y fath bwysau. Yr oedd ef 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn lân: minnau a godais y crane uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth; ac yna rhedais y par olaf mor belled ag y medrwn dano; ac yna symud y crane at ei ben bôn, a deisif ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon; ac yna codi'r bôn a'i lwytho ar y wagan; ac yna gyrru ymlaen ac ail setlo yr olwynion olaf; yna myned i'r ffordd ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thorri link tres. Ond wedi myned i'r dref, at Borth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch; dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechreu ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth ffordd honno; minnau, gwedi synnu peth, a gefais gan rai oedd yno, trwy addo yfed atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn eu holau; ac felly trwy fod amryw yn taro llaw ar y peth, mi a'i cefais hi yn ol; a chwedi hynny ni aethom, dri neu bedwar, i Yard yr Ivy Bush, tŷ tafarn, lle yr oedd crystiau coed (yslabs) ac a gawsom eu benthyg, ac mi a'u gosodais hwynt o flaen yr olwynion olaf, yn glwt i godi y rheiny, fel y byddai i'r pen arall ostwng tan y bwa maen, ac felly y bu, a'r edrychwyr a roddasant fonllef groch wrth weled y fath beth, ac amryw o honynt a yfodd at y llanc a minnau, am ein gwyrthiau.

Gwedi yr holl bethau hyn, yr oedd yr hen gancr yn perthyn i mi etto. Beth a'm cyfarfu un diwrnod ond tri o'r hen deulu, ceisbyliaid sir Drefaldwyn; hwy a ddechreuasant ymaflyd yn y wedd, a myned a hi i'r ty tafarn yn Llandeilo Fawr, yn agos i'r lle yr oeddwn yn cadw'r gate; minnau a aethum yn greulawn am i'r ceffylau gael mynd i'w ystabl eu hunain, ac iddynt hwythau setlo drannoeth. Beth bynnag, yn ymrafael yr aeth hi, a dechreu ffusto a wnaethum, ac mi gefais ddau i lawr, ac a ddeliais i guro; gyda hynny, dyma'r trydydd yn dyfod. Pan welodd hwnnw ei gyfeillion ar lawr, fe ddaeth tu cefn i mi, ac a ddechreuodd fy mesur; ond digwyddodd i hen was Rice, o'r Dref Newydd, ddyfod yno, ac fe gafwyd heddwch; a'r bailiaid a fynasant gonstabliaid, a chyda hwy y bum i yn ddrwg fy nghwrs trwy'r nos. A chyfeillion i mi oedd o amgylch y drysau: pe cawsent ryw faint o gyfleustra, hwy a fuasent yn dibenu y tri cheisbwl maes o law; ond Ustus heddwch yn y dref a ddeisyfodd arnaf fod mor heddychol ag y medrwn, y mynnai ef wastadâu y mater y boreu—ac felly y bu. Fe roddwyd ar ddau wr, un o'u tu hwy, ac un o'm tu finnau; a gofyn yr oeddynt oedran y ceffylau, minnau yn eu rhoi yn hen iawn, a rhai yn ddeillion, fel y rhoid digon bychan o bris—ac felly fu. Mi a ddaethum yn well nag y disgwyliais; un yn prynnu a'r llall yn gwerthu, mi a'u cefais yn ol, trwy dalu ynghylch 50p.

Ar ol hynny, mi a ddaethum yn fwy adnabyddus ac yn fwy fy mharch ymhlith estroniaid nag o'r blaen, trwy iddynt ddeall mai cam oeddwn yn ei gael.

Y gate oedd y flwyddyn gyntaf yn lled gwla o ran profit; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi; ond yr ail flwyddyn hi a dalodd yn bur dda; a'r drydedd fe godwyd arni 15p, ond nid drwg oedd hi yno.

Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw cyheureth neu ledrith; weithiau herses a mourning coaches, ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw nos.

Mi welais fy hun, ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harness, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio.

Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate,"Edrwch acw," eb ef, "dacw ganwyll gorph yndyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw; felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod, megys o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall enyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig bu raid i gorph ddyfod yr un ffordd ag yr oedd y ganwyll; oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o'eira.

A tiro arall rhyfedd am hên ŵr o Gaefyrddin, a fyddai yn cario pysgod i Aberhonddu, a'r Femmi, a Monmouth ac yn dyfod a Gloucester cheese teneuon gantho yn ol; yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ei daith, ac yr oedd yr hîn yn ddrycinog iawn, o wynt ac eira luchio; a chanol y nôs, fe glywai fy merched i lais yr hên ŵr yn y gate, a'u mam a'u galwodd hwynt i agor ar frys, ac erchi'r hen ŵr ddyfod at y tân. Codi a wnaeth y ferch; orbyn myned allan nid oedd yno neb; a thranoeth dyma gorph yr bên ŵr yn dyfod ar drol, wedi marw yu yr eira ar fynydd Tre'r Castell: a dyna'r gwir am hwnw.

Llawer yn rhagor a ellid adrawdd o'r fath bethau; ond nid ydynt ddim gwerth eu hadrodd, am nad oes fawr a'u coeliant.

Ond ar ol y drydedd flwyddyn y gate mi a gymmerais lease yn Llandeilo Fawr, ac a wuaethum dŷ i'r merched gadw tafarn, a minnau o hyd yn cario coed; fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu long fechan, a gariai o gwmpas 30 neu 40 tunell; fe a'i gwnaeth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddiwrth Afon Tywi, pa un fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin; ond hon a wnaed yn rhy drom i'w lusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gwr yn bwriadu; sef i bobl ei llusgo, o ran sport; fe roes grî mewn pedair o lanau, bod llong yn Abermarlais i gael ei launchio ryw ddiwrnod pennodol, ac y byddai fwyd a diod, i bawb-a ddelai i roi llaw at yr achos. Felly fe ddarllawodd bedwar hobaid o'n mesur ni yu Ninbych, sef dau dêl yno; ac fe bobwyd ffwrnaid fawr o fara, ac a brynwyd rhyw lawer o gaws ac ymenyn, a chig i'r bobl oreu, ac yr oedd y llong gwedi rhoi pedair olwyn tani fal pedair o fothau troliau mawr, a'u cylchu â haiarn, ac echelau mawr yn y bowliau hyny, a chwedi eu hiro erbyn y dydd cysegredig. Minnau oeddwn yn dygwydd bod yn llwytho yn y coed y diwrnod hwnnw; ac ar ol gyru y wêdd yn y blaen, mi arosais yno i weled yr helynt; a helynt fawr a fu: bwyta yr holl fwyd, yfed yr holl ddiod, a thynu y llong o gylch pedwar rhwd o'i lle, a'i gollwng i ffos clawdd ddofn. Erbyn hyny, yr oedd hi agos yn nôs, ac ymaith a'r gynulleidfa: rhaf oeddynt. yn o feddwon, ac amryw o'r lleill ag eisiau bwyd, a llawer o chwerthin oedd y'mhlith y dorf. A'r merchant a dorodd i gwyno, o ran er ffolineb yn gwneyd y fath beth, ac yn dywedyd wrthyf y byddai raid ei thynu oddiwrth ei gilydd cyn byth y caid hi o'r clawdd.

Minnau a ddywedais y medrwn fyned â hi i'r afon, ond cael tri neu bedwar o ddynion i'm halpu; yntau a ddywedodd y cawn y peth a fynwn, os medrwn fyned a'r llong i'r afon, A deisyf yr oedd armaf am, ddyfod y boreu dranoeth, os gallwn; minnau a ddaethum, a'r llange a phedwar o'r ceffylau; a mi ddaethum o flaen y wedd, ac a roddais y dynion ar waith, i dori twll mewn bên wal fawr, oedd megys o flaen y llong; ac yno rhoi darn o bren ar draws y twll y tu pellaf i roi chain i fachu y tacl, sef rhaff a blociau, a bachu y pen arall wrth y llong, a rhoi y ceffylau. wrth y rhaff i dynu. Felly hi ddaath o'r clawdd ya lled hwylus ; ac yno bachu drachefn wrth bren yn tyfu, a dyfod y'mlaen felly; ond pan ddoed i dir meddal, yr oedd rhaid rhoi plangciau tan yr olwynion o ran y pwysau, ac ar ol tynu i ben blaen y planciau, symyd y rhai olaf y'mlaen, ac felly o hyd; alle na byddai cyfle i fachu wrth bren yn tyfu, byddai raid rhoi post yn llawr, i fachu; ac o bost i bared hi aeth i'r afon, mewn ychydig ddyddiau; ac addaw i minnau gyflog da, ond ni chefais i yn y diwedd un ddimai byth, ond addaw, a'm canmawl: rhai pobl a fyddai yn dyfod i edrych arnom ac yn rhoi peth arian i ni geisio cwrw, a dyna y cwbl. A phan ddarfu hyny cario fy ngorau a wnaethym i.

Pan aeth coed Abermarlais yn wag, mi aethum i Daliaris, ac i Allt y Cadno, a Chil y Cwm, a Myddfai, Llangenyrch, a Gwal yr Hwch, a Llanedi.

Mi a fu'm yn cario i forge Llandyfan, ac i Bont ar Ddulas, ac i Abertawe, ac o Aberafon i Gastell Nedd, ac yn cario o le a elwir y Ffrwd, i Gaerfyrddin, ac o Wenpa i Gaerfyrddin; ac o amryw leoedd eraill nad wyf ddim yn cofio.

Fe fu farw i mi yn Ninbych gwmpas 50 o geffylau, ac yn swydd Gaerfyrddin 27. Ac ar ol yr holl helyntion, fe aeth y merchant coed' yn ol llaw yn y byd, ac fe droes yn bur gnafus ac anonest yn ei gyfrif ac yn ei dâl. Fe aeth oddi arnaf ar unwaith wrth geisio settlo, 54p. 6s. fe fu lawer o'm ffrindiau yn y wlad hono yn ceisio ganddo beidio a gweud cam âg un oedd wedi dyfod o'r un wlad ag yntau, ac wedi cario coed na chariasai neb oedd yn y wlad hono mo'nynt. Gwedi yr holl gythryfwl nid oedd genyf ond wyło weithiau, a chreuloni waith arall, a dywedyd wrtho ef un tro, nad oedd dim help, y byddwn i yn Dwm o'r Nant yn y North, pryd na byddai ef ddim yn Feistr Lewis, nag yne nag yma; ac felly fu, Mi a gefais yr anrhydedd o'i weled ef ar geffyl yn Ninbych gyda'r bailiaid, yn myned i garchar Rhuthyn, ac a ddywedais â llef uchel, mai dyna yr olwg oreu a ddymunwn weled arno, oni b'ai i mi gael yr olwg arno yn myned o'r Jail i'r Gollegfa, lle y byddid yn crogi lladron.

Ond yn mhen ennyd fe ga'dd ef fyned yn fankrupt, i safio talu i neb; ac y mae fe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes gorphen talu byth. A rhyfedd mae pob peth yn tynu i'w elfen: yr wyf yn cofio i mi settlo gyd ag ef yn Llandeilo; ac yr oedd ganddo orders i ddal chweugain oedd arnaf yn ferry 'Tal y Cafn pan fuaswn yn myned âg organ i Fangor, a minau a settlais âg ef am hwnw; mae y cyfrif i'w weled etto yn y llyfr lle yr oeddym yn cyfrif; ni thalodd ef ddim; fe fuwyd yn fy ngofyn yn mhen saith mlynedd, minnau a ddangosais y llyfr, fy mod wedi settle iddo ef: a llawer o'r cyffelyb bethau a wnaeth ef â mi ac eraill. Ond ni waeth tewi-adref y daethum i o Ddeheubarth, heb na cheffyl na waggon; ac nid oedd dim genyf i droi atto, oddeithr gwneud Iuterlude: a hyny a wnaethum. Yn gyntaf, mi aethum i Aberhonddu, ac a breintiais Interlute "Y Pedwar Penaeth? sef Brenin, Ustus, Esgob, a Hwsmon," a dyfod at fy hen bartner i chwareu hono, a gwerthu y llyfrau.

Yr oeddwn gyda hyny yn cynull subscribers at argraffu llyfr caniadau: sef, "Gardd o Gerddi." Fe argraffwyd hwnw yn Nhrefecca; mi a delais am hyny 52p. ac a ymadewais à dwy fil o lyfrau.

Ac yn ganlynol, mi a wnaethum Interlude "Pleser a Gofid, ac a chwareusom hono.

Trachefn gwnaethum Interlude yn nghylch. "Tri Chryfion Byd, sef 'Tylodi, Cariad, ac Angeu

Canlyn hyny yr oeddwn i, a'm teulu yn Llandeilo yn gorphen cadw tafarn, a gorphen hefyd hyny oedd o eiddo.

Mi a ddaethum a'r ferch ganol o'r tair gyda myfi i'r North yn gyntaf, ac a'i prentisiais yn. Nghaer yn Filiner, ac a'i cedwais â chyunaliaeth bwyd a dillad, wrth chwareu. Ac o'r diwedd fe ddaeth y wraig adref, gyd â'r ddwy ferch eraill, ac a baciasant ryw faint o bethau, gwely, a dillad, a llyfrau; ac fe aeth y pac trwy Lundain; fe gostiodd am eu cario y'nghylch cynmaint: ag a dalent.

Ond fe ddygwyddodd i mi: gael arian, oedd: ar Cynfrig o Nantclwyd i mi, am gario coed: o Ruddlan pan oeddwn yn cario coed o Rug; ac hefyd arian am gario center pont Rhydlanfair: o Gaer. Yr oedd hyny, gydâ. chwareu, yn dipyn o help at gynnal y teulu. Pan ddaethom i Ddinbych, nid oedd un tŷ, nes y dygwyddodd i mi gael rhyw ddau dŷ bychain, a minnau a'u gwnaeth yn un, ac a'u taclais; a dyna. lle yr wyf fi am gwraig etto.

Ac yn oedd gan fy nhad dŷ a thipyn o dir, rhwng Nantglyn a Llansanan; ond pan fu fy nhad farw fe aetb cyfreithiwr Dinbych, am yr hen felldith, ac a droes fy mam i'r mynydd, ac a feddiannodd y tin; a chyda chwaer i mi wrth Lanelwy, y bu fy. mam farw.

Ac ar fyr gwedi hyny, fe ddaeth clefyd, ar y cyfreithwr; minnau a ysgrifenais atto yn lled erchyll, ac a ddechreuais osod rhai o ddychrynfeydd uffern ger ei fron; ynniffyg na byddai i mi gael fy nhir, y byddai fy melldith yn ei gnoi dros dragwyddoldeb yntau, oedd mewn cyflwr truenus yn yr ystafell lle yr oedd ei wely, yn gwaeddi, ac yn drewi gan ryw ffieidd-dra a oedd yn dyfod allan o'i gorph; yr: oedd yn gorfod i'r dyn ag oedd yn tendio arno daflu finegr hyd y llofft, cyn y gallai fyned yn. agos atto Nid oedd un forwyn na doctor yn. myned ar ei gyfyl yn y diwedd; ac felly yr oedd ef yn ysgrechian yn ofnadwy, ac yn gwaeddi ar y mab i'w glyw, ac yn dywedyd, Ow! y tir i Dwm o'r Nant; ac felly fu.

Mae y tir genyf, drwy drugaredd, ac a brynais y leni werth 118p ato o'r mynydd. Ond, fal y dywed Solomon, "Gwae a adeiliado ei. dy ag arian rhai eraill:" felly fe orfu i minnau fenthycoa; ac eto y mae arnaf ofid yn fy nghynnal fy hun i walio a chloddio, o'i amgylch; ond yn enw Duw mi wnaf hyny, os caf fi fywyd ac iechyd.

Mi a ddaethum drwy'r byd yn rhyfedd hyd yn hyn: mi a fu'm rhwng Sir Drefaldwyn: a Deheubarth saith mlynedd: myned o'm gwlad mewn ofn a phrudd-der, a dyfod yn fy ol dan chwareu, gwedi ymadael ag ofn a'r achos o hono, o ran y byd, ond bod achos pwysig i ofni a chrynu o herwydd pechod; ac achos mwy i ddiolch ei bod hi cystal arnaf, ac fal y gallasai hi fod yn waeth.

Mi a gefais fy iechyd yn lled ryfedd, trwy bob troion hyd yma; ond yn unig pan aeth y waggon ar fy nhraws wrth bont Rhuddlan, lle cefais brofedigaeth fawr, a gwaredigaeth fwy. Pan godais, ar ol i'r olwyn fyned! troswyf; mi a esteddiais ar ganllaw y bont, ac yna y clywn lais eglur yn dywedyd, wrthyf, "Dos, ac na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fo gwaeth ac felly yn dal i ddywedyd hyd oni ddaeth pobl attaf. Mia ofynais i'r rheiny a oeddynt hwy yn clywed ddim llais? hwythau a ddywedasant, nag ydym ni.

A phryd arall y cefais waredigaeth neillduol wrth lwytho pren mawr yn nghoed Maes y Plwm. Yr oedd cario y pryd hyny cyn unioni y ffyrdd, a'u gwneud yn durnpikes, ar waggons a ffram arnynt, a rowler ar y canol tebyg i'r peth aelwir bowlster; minnau oeddwn yr ochr nesaf i nant ddofn, yn troi yn y rowel, gyda throsol haiarn cryf ar olwg; fe dorodd hwnw yn nhwll y rowel, onid oedd y dynion ag oedd yn edrych, yn fy ngweled yn troi fel mountebank, ac yn disgyn yn nghanol tomen o gordwood, ag oedd gwedi eu taflu ar eu gilydd y'ngwaelod y nant. Mi a gefais beth dychryn, ond ni friwiais i ddim, gymaint a thori crimog.

Felly trwy ryw ragluniaethau, mi a gefais fy achub hyd yn hyn. Hi a fu yn lled gyfyng arnaf lawer gwaith; ond yr oedd i mi beth ffafr, mewn gweithio pan finais yn chwareu.

Mi a fu'm y blynyddoedd cyntaf ar ol dyfod o'r Debeudir, yn Saer Maen, yn cymeryd gweithiau, ae yn cadw gweithwyr; ac un haner blwyddyn, mi aethym at y bricklayers i Lan y wern, i ddysgu peth o'r gelfyddyd hono; ac felly mi a ddysgais weithio'n lew ar briddfeini.

Ac yn awr, er's pedair neu bump o flynyddoedd, fy ngwaith yw gosod ffyrnau haiarn, neu bobtŷau, medd rhai: ac hefyd gosod ffwrneisiau, at bob achos, a gratiau, a stoves, a boilers; ac aml iawn y byddaf yn smoak doctor.

Yr wyf yn ennill cyflog lled fawr; ond yr ydwyf yn fwy methiantlyd am weithio, rhwng henaint ac argraff ambell godwm a gefais, yn fy nghorph i'm coffau yn fynych.

Yn mhen blwyddyn ar ol i mi ddyfod o'r Deheudir, mi a darewais wrth hen gariwr coed a fuasai gyda myfi lawer gwaith yn cyd gario; ac yn yr Hand yn Rhuthyn yr oeddym, gydag amryw eraill: ond ar ryw ymddiddan, ebe fy ngyfaill wrthyf, Twm yr wyt yn llawer gwanach nag oeddit pan oeddym yn cyd gario coed. Minmau a attebais, fy mod i yn meddwl nad oeddwn ddim gwannach: ac yn y cyfamser fe ddygwyddodd fod sacheidiau o wenith yn y neuadd hono, i fyned i Gaer gyda waggon y cariwr: ac yr oeddynt â thri mesur yn mhob sach; mi ddywedais, os cawn dair sach ar y bwrdd, a'u c'lymu y'nghyd, y cariwn hwynt yn ol ac y'mlaen i'r ystryd; ac felly gwnaethum ; ac fe ffaeliodd pob un arall ag oedd yno.

A rhyw dre arall, pan oeddwn yn Nghaer, mi a godais faril o borter i ben ol y waggon o'r ystryd, o nerth cefn a breichiau.

Mia fu'm, dro arall, yn cario wyth droedfedd o bren derwen ar fy nghefn; a llawer o ryw wag wyrthiau felly a wnaethum, nad wyf ddim gwell heddyw.

A thu hwnt i bob peth, mi a fu'm yn euog, wrth gario o Gaer, a chwareu Interludes, o drin ar y mwyaf ferched anllad, yr hyn arfer, medd y gwr doeth, sydd yn gwanychu dynion gymmaint neu fwy, na dim arall; a'r pechod o hyny sydd gyffredin yn y byd erioed; yn enwedig ar y gwyr oedd fwyaf enwog y'mhob oes. Ac oblegyd hyny mae achos mawr i mi ystyried fy ffyrdd, ac ymofyn am Waredwr, gan na allaf mo'm gwared fy hun, heb gaffael adnabyddiaeth o deilyngdod y Cyfryngwr; yn yr hwn, gobeithio, y bydd i mi derfynu fy amser byr ar y ddaear, yn heddwch Duw i dragywyddoldeb. Amen.

THOMAS EDWARDS

Nodiadau

golygu
  1. Y gair Penporchell sydd o gam ddywediad am y lle; canys Pen Parc Llwyd a ddylai fod; oblegid Iorwerth Llwyd oedd enw Iolo Goch, a pharc iddo ef oedd y dref ddegwm honno; ac hi a gyfenwid cyn i dafodau pobl y wlad gam dreiglo y gair o Benparcllwyd yn Benporchell.
  2. Mi a wnaethum ddwy interlude, un i bobl Llanbedr, Dyffryn Clwyd, a'r llall i lanciau Llanarmon yn lal, un ar destyn "Gwahanglwyf Naaman." a'r llall ynghylch "Hypocrisia." megys ail wneuthuriad o waith Richard Parry o'r Ddiserth. Pan oeddwn yn ieuangc, yr oedd cymaint o gynddaredd, neu wylltineb ynof, am brydyddu, mi a ganwn braidd i bob peth a welwn; a thrugaredd fu i mi na buasai rhai yn fy lladd, neu yn fy llabyddio am fy nhafod ddrwg. Llawer a beryglodd fy rhieni arnaf, mai hynny a fyddai, oni chymerwn ofal rhag dilyn y ffordd honno. Rhyw dro yr oeddwn gyda chyfeillion drwg fel fi fy hun, mi a ddigwyddais daflu gair penrhydd, lle yr oedd tri neu bedwar o garwyr, oedd yn arfer o gadw cwmpeini merch ieuanc o'm cymydogaeth, oedd yn byw mewn lle a elwid Ty Celyn. Minnau a ddywedais mewn dysgwrs mai c——d y Ty Celyn oeddynt hwy. Fe glybu'r ferch, ac a gymerodd yn angharedig oblegid fy ngeiriau drwg; ac yr oedd iddi frawd o ymladdwr creulawn. Fe gymerodd hwnnw blaid neu bart ei chwaer i'm ceryddu; ac ryw nos Sul fe a'm gwaetiodd yn dyfod o Nantglyn ac yr oedd ffordd pob un i ddyfod gyda'n gilydd hyd y llwybr adref; ac ef oedd a'i fwriad ganddo am fy nghuro, ac yr oedd ganddo ddarn o bren derwen taclus at yr achos; ac ar ol ymdderu peth hyd y ffordd, fe daflodd y pren i lawr, ac a dynnod yn noeth lymun, minnau a dynnais fy nghwat a'm cadach, ac a gymerais ei bren ef yn fy llaw, yntau a aeth i'r gwrych ac a gymerodd bawl, a churo wnaethom yn ffyrnig iawn. Erbyn euro ennyd, yr oedd y prennau yn ddelft, ac yn lled. fyrion. Yr oeddem weithiau ar lawr, a dal i guro er hynny; ond fe ddaeth rhagor o edrychwyr i feddwl ein rhwystro; ac ni fynnai ef mo'i rwystro. Felly ni a gytunasom i dynnu polion ffres a churo a fu, hyd nes oni aeth i fethu sefyll: mae y creithiau arno ef a minnau hyd heddyw. Ond yn y diwedd, yn llawn o waed colledig, fe ddarfu i'w gymydogion ei gynllwyn ef adref, a sal iawn a fu, a rhai yn barnu y byddai farw; a thrannoeth fe ddaeth alarwm o'i blegid; minnau a ddiengais dros y mynydd i Bentre'r Foelas, at vr hen Sion Dafydd, i drin hen lyfrau. Ac wrth ddarllen rhyw bethau ar gist wrth y ffenestr, yr oeddwn yn arogli drewi mawr; meddwl weithiau fod gan yr hen wr ryw ffieidd-dra tu cefn i'r gist; ond erbyn chwilio'r mater, fy mraich i oedd yn drewi, ar ol cael ei bydru wrth ymladd. Oddivno, ar ol i ryw wraig ymgeleddu peth arnaf, mi a fum yn ffoadur bythefnos neu ragor, ym mhlwyf Bryneglwys yn fal, mewn lle a elwir Pennau'r Banciau, weithiau yn dyrnu, weithiau yn dal aradr a chloddio, a phob peth angenrheidiol, as yn cymeryd gofal o hyd rhag i neb wybod fy helynt. Ond o'r diwedd mi aethum adref; yr oedd yntau yn dechreu codi allan. Fe fynnwyd peth cyfraith arnaf, ond nid llawer. Ac yn ganlynol i'r cythrwfwl hwn, a dymuniad fy mam, mi a beidiais ag ymladd ar ol hynny, rhag digwydd ini beth a fyddai gwaeth.