Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam (testun cyfansawdd)

Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam (testun cyfansawdd)

gan Edward Francis, Wrecsam

Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam



HANES

DECHREUAD A CHYNYDD

Y
METHODISTIAID CALFINAIDD

YN NGWRECSAM,

Er oddeutu'r flwyddyn 1769, hyd y flwyddyn 1870.

GAN EDWARD FRANCIS,
Un o Ddiaconiaid y Lle.





GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN YR AWDWR.

CYNNWYSIAD.

Y CYFNOD CYNTAF

YN CYNNWYS

ARWEINIAD i mewn—Coed y Glyn—Ann a John Jones, o Goed-y-Glyn—Ann Jones yn gadael cartref—ei nhodwedd grefyddol—yr erledigaeth a ddioddefodd—yn ymadael â'i gwasanaeth—ei mynediad i Lundain—yn gwrando ar Whitfield a Romain—Y gwr ieuangc o Landdyn, ger Llangollen—ei ddygiad i fyny—ei alwedigaeth yn nhŷ ei dad—nerth penderfynol ei feddwl—yn myned i Lundainyn gwrando ar Whitfield â Romain—ei ddychweliad at grefydd—yn dyfod i gyfarfyddiad a chymdeithas â Miss Jones—yn priodi—y ddau yn dychwelyd i Wrecsam—yn dechreu masnach yn y dref—eu llwyddiant—yn offerynau i sefydlu Methodistiaeth yn y dref—rhagluniaeth yn y tro—eu caredigrwydd at yr achos.

MAE olion ambell i hen ddinas wedi suddo mor ddwfn, neu ynte wedi eu gwasgaru yn y fath fodd, fel y mae yn anhawdd nid yn unig canfod yr adfeilion, ond penodi i sicrwydd y llanerch ar ba un y safai. Rhywbeth tebyg i hyn ydyw hanes dechreuad Methodistiaeth yn nhref Gwrecsam. Er nad oes ond llai feallai na chan' mlynedd er pan ddaeth y Trefnyddion Calfinaidd cyntaf i'r dref; eto, y mae amser mor fyr â hyny, wedi taenu y fath len o dywyllwch ar y blynyddoedd cyntaf, fel y mae yn anhawdd erbyn hyn, ïe o'r braidd yn anmhosibl a dyfod o hyd i ddim, ond yn unig trwy ymbalfalu oddi tan ein dwylaw. Mae amser wedi amharu cymmaint ar ddalenau hanesiaeth yn y lle, fel y mae yn anhawdd i'r un mwyaf craff ei olygon eu deall na'u darllen y ffaith ydyw, y mae'r oll o'r bron wedi ei lwyr ddileu: fodd bynag, odditan yr amgylchiadau, 'does dim i'w wneuthur bellach ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Mae rhai traddodiadau eto yn y dref, ac ychydig ar gael o gofnodau, y rhai wrth eu cymharu â'u gilydd, ac â phethau ereill hefyd, ydynt yn cynnorthwyo ychydig arnom i roddi bras hanes am bethau, er nad i'r eglurdeb a'r boddlonrwydd ag y buasem yn dymuno.

Anffawd fawr erbyn hyn ydyw, na buasai rhywun wedi cymmeryd hyn o orchwyl mewn llaw ddeugain mlynedd yn ol, oblegid yr oedd amryw oraclau byw yr amser hyny ar gael, y rhai a allasent yn hawdd hysbysu llawer o bethau, y rhai, erbyn hyn, sydd wedi myned yn ddirgelwch.

Mae gerllaw Gwrecsam, ffordd yr eir o'r dref i Erddig, hen balas lled wych, yr hwn ar hyn o bryd sydd wedi dyfod yn breswylfod Peter Walker, Yswain, diweddar Faer y dref, yr hwn, ychydig fisoedd yn ol, a roddodd y swm dymunol o BUM GINI at adeiladu ein capel newydd yn y dref. Enw yr hen balas ydyw Coed-y-Glyn. Saif yn ymyl fforestty a choedwig Simon Yorke, Yswain, Erddig Hall; oddeutu hanner milldir o'r dref, yn nghyfeiriad y deau-orllewin: saif hefyd ar wastadedd bychan, oddiar pa un y gellir gweled amryw olygfeydd prydferth. Mae ei sefyllfa o herwydd amryw bethau yn un a fawr hoffir. Ond yr hyn sydd yn gwneyd y lle yr un mwyaf dymunol i ni ydyw, am mai yn y fangre hon o'r ddaear y preswyliai un, yr hon a anwyd yn 1747, a fu wedi hyny yn un o'r offerynau cyntaf, yn llaw rhagluniaeth ddwyfol, i osod i lawr gareg sylfaen Methodistiaeth yn y dref.

Merch ieuangc oedd hon o'r enw Ann Jones, yr hon a adwaenid yn well y pryd hwnw wrth yr enw Miss Jones, Coed-y-Glyn. Yr oedd hefyd ar y pryd frawd iddi o'r enw John. Mae yn ymddangos, ïe, yn lled sicr o ran hyny, fod Miss Jones, yn nghyd a'i brawd Mr. Jones, pan yn ieuaingc, yn aelodau o'r hen eglwys Fethodistaidd yn Adwy'r Clawdd.

Yn Nghoed-y-Glyn yn y dyddiau hyny y byddai amryw o'r hen bregethwyr, hwy a'u ceffylau yn cael lletty; ymborth; ymgeledd; a phob caredigrwydd. Rhywbryd ar ol tyfu i fyny, fe aeth Ann Jones, Coed-y-Glyn, yn fath o lady's maid i foneddiges ag oedd yn preswylio mewn palas heb fod yn mhell o Adwy'r Clawdd. Mae yn ymddangos fod y ferch rinweddol hon wedi derbyn argraffiadau gwir grefyddol ar ei chalon pan yn ieuaingc, a bod effeithiau yr argraffiadau hyny yn amlwg yn y fuchedd, mewn pob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn mhob man lle y byddai. Mynych a chyson y cyrchai Miss Jones i hen gapel Adwy'r Clawdd, i'r cyfarfod eglwysig, ac hefyd i wrando hen enwogion y dyddiau hyny yn pregethu.

Yr oedd yr hen weinidogion hyny fel comets mawrion yn yr awyrgylch grefyddol; yn neheu-barth Cymru yn benaf, y rhai hefyd a wibdeithient yn awr ac eilwaith i ogledd-barth y Dywysogaeth. Diau i'r ferch ieuangc hon fod yn gwrando ar yr hen ddiwygwyr cyntaf, sef Harris, Trefeca; Rowlands, Llangeitho; y diweddaf o'r ddau ydoedd hen 'Apostol' enwog y Cymry. Diau hefyd iddi fod yn gwrando ar Dafydd Morris; Jones, Llangan; Williams, Pant-y-Celyn, ac eraill, hen dywysogion cyntaf y cyfundeb. Mae yn ddigon hysbys erbyn hyn, fod Adwy'r Clawdd yn un o'r lleoedd cyntaf yn Ngogledd Cymru a groesawodd Fethodistiaeth.

Yn mhen rhyw gymmaint o amser, fe ddeallwyd yn y palas oddiwrth ddifrifwch y ferch ieuangc, ac hefyd oddiwrth ei gwaith yn mynychu myned i gapel yr Adwy, ei bod yn un o'r 'penaucryniaid,' oblegid fel hyny, o wawd, yn y dyddiau hyny y cam-enwid y Methodistiaid. Y canlyniad o hyn fu i erledigaeth godi yn y palas yn erbyn y ferch ieuangc, yr hyn a derfynodd mewn peri iddi ymadael â'r lle. Yn fuan ar ol hyn, meddyliodd am droi ei hwyneb tua Llundain, a hwylio ei chamrau tuag yno, ac felly y bu, oblegid i Lundain yn fuan yr aeth.

Nid oes wybodaeth eglur yn mha le yn Llundain y gwnaeth ei chartref crefyddol tra y bu yno, mwy na bod amgylchiadau a gymmerasant le yn y cyfamser yn peri i ni gasglu mai gyda Whitfield yn benaf, a Romain, y rhai ar y pryd oeddynt gyfeillion calon i'r diwygiad yn Nghymru. Er fod Harris a Rowlands, ac eraill, yn ymweled yn fynych â'r brif ddinas yn y blynyddoedd hyny, eto, prin feallai yr oedd Methodistiaeth wedi ymffurfio yn y lle yn eglwys reolaidd. Er hyny, dichon fod yno deulu bychan Cymreig o honynt yn rhywle, ac felly y mae yn bur debygol i un ag oedd mor serchog a selog yn Adwy'r Clawdd, fwrw ei choelbren yn eu plith hwythau hefyd yn Llundain. Gan y bydd amgylchiadau eto yn galw arnom i grybwyll enw Miss Jones, ni bydd i ni ymhelaethu ar hyn o bryd.

Oddeutu yr un amser ag yr oedd y ferch ieuangc y crybwyllwyd am dani yn cael ei dwyn i fyny yn nghymmydogaethau Gwrecsam ac Adwy'r Clawdd, yr oedd hefyd fachgenyn ieuangc yn cael ei ddwyn i fyny yn Llanddyn, gerllaw Llangollen, o'r enw Richard Jones. Mab ydoedd y bachgen, neu y gwr ieuangc, i amaethwr parchus o'r lle hwnw. Yr oedd y bachgen Richard yn un o yspryd lled ddewraidd, wedi cael dygiad i fyny da, a chael mwy o ysgol a manteision eraill, o bosibl, na rhai o'i gyd-gyfoedion. Mae yn ymddangos mai rhan fawr o orchwyl Richard pan gartref oedd bugeilio defaid ei dad. Nid oedd dringo llechweddau serth y mynyddoedd gerllaw y tŷ, a'r creigiau danneddog ag sydd eto yn aros, dioddef poethder yr hâf, a gerwin oerwyntoedd y gauaf, yn rhyw ddygymmod â'r awyddfryd angherddol ag oedd yn ei yspryd am weled y byd, a meddiannu mwy o hono. Pan yn syn-fyfyrio wrtho ei hun ar y pethau hyn, daeth i'r penderfyniad diysgog o roddi i fyny fugeilio, gadael ei gartref, a threio am gysur a llwyddiant ffordd arall. Yr oedd ganddo ar y pryd ewythr yn Llundain, penderfynodd gan hyny fyned i Lundain, gan obeithio y byddai y dyfodol yn well na'r presenol. Yr oedd eto un anhawsdra mawr ar ei ffordd cyn y gallai gyflawni ei fwriad a'i benderfyniad, yr hyn hefyd nas gallai lai na bod iddo yn brofedigaeth lem, hyny ydoedd, un deunaw swllt o arian oedd yr oll a feddai yn ei logell i wynebu ar ei daith hirfaith. Modd bynag, calonogodd ei hunan, gwregysodd ei lwynau, hwyliodd ei gerddediad tua'r brif ddinas, ac i brif ddinas Llundain y cyrhaeddodd yn llwyddiannus, a dim yn ei logell wrth gychwyn y daith ond yn unig y deunaw swllt. Wedi dyfod o hyd i'w ewythr, efe a geisiodd iddo le i wasanaethu fel cludiedydd (porter). Yr oedd hyn nid yn ychydig o gyfnewidiad i'r gwr ieuangc a ddygasid i fyny mor barchus. Pa fodd bynag, yr oedd penderfyniad diysgog ei feddwl y cyfryw, fel yr ymwrolodd yn ei feddwl i fyned trwy bob rhwystrau, fel ag i allu cyraedd ei amcan; yr hyn hefyd a wnaeth i raddau helaeth, o'r bron anhygoel; canys fe ddywedir iddo, tra yn Llundain, ddyfod yn berchen da lawer. Yn mhen rhyw gymmaint o amser wedi iddo fyned i'r brif ddinas, tueddwyd ef i fyned i wrando ar Whitfield a Romain, ac eraill, gweinidogaeth effro y rhai fu yn fendithiol, trwy yr Yspryd Glân, i wneuthur argraffiadau crefyddol dyfnion yn ei galon.

Dedwydd derfynodd hyny yn ei wneuthur yn gristion gostyngedig a hunan ymwadol—yn weithiwr ffyddlon a difefl—ac yn addurn i grefydd yr efengyl hyd ddiwedd ei oes.

Rywbryd tra yn Llundain, daeth Miss Jones, Coed-y-Glyn, ac yntau i gyfarfyddiad a chymdeithas, yr hyn yn fuan a derfynodd mewn glân ac anrhydeddus briodas. Dychwelodd y ddau i Wrecsam, a hyny yn ol y casgliad ydym yn ei wneuthur, ryw ychydig o amser cyn y flwyddyn 1770. Tybir fod Mr. Jones wedi bod yn Llundain flynyddoedd rai, o flaen yr un a ddaeth wedi hyny i fod iddo yn briod.

Yn High-street yn y dref, dechreuasant y fasnach o ironmongery. yr hyn tan nawdd a bendith rhagluniaeth, a drodd allan yn hynod lwyddiannus. Mae yn debyg, ac yn deilwng o sylw hefyd; yn ol pob tebygolrwydd, y pâr ieuangc hwn, a roddasant yn y blawd, yn Wrecsam, lefen cyntaf Methodistiaeth Cymreig. Er fe allai na thylinwyd y blawd yn glamp toes ar y pryd, hyny ydyw, ni ffurfiwyd 'yn y lle eglwys reolaidd am beth amser ar ol hyn: ond y gwir ydyw erbyn hyn, y mae'r blawd a'r clamp toes wedi myned yn dorthau lawer.

Ond ystyried yn deilwng yr holl ddygwyddiadau yn eu cysylltiad â'r pâr ieuangc hwn, a'r modd y bu iddynt gael eu harwain i ymsefydlu yn y dref, y mae yn anhawdd peidio a gweled daionus ddoeth law rhagluniaeth Duw yn y cwbl, fel y cawn eto ddangos yn helaethach. Nid yn unig ynddynt hwy y dechreuwyd yr achos yn y dref, ond ar eu hysgwyddau hwy yn hollol o'r bron, am flynyddau lawer, yr oedd yr holl faich yn gorphwys. Eu tŷ annedd hwy am hir amser oedd unig letty, swccwr, a thŷ ymgeledd y pregethwyr yn y lle. Hyd yn hyn, y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn ffeithiau, gan mwyaf, y rhai trwy ymchwiliad a llafur y daethom o hyd iddynt. Yn awr yr ydym yn wynebu ar gyfnod, amserau yr hwn a'i bethau ydynt i raddau yn orchuddiedig gan niwl a thywyllwch.

YR AIL GYFNOD.

(Yspaid saith-ar-ugain o flynyddoedd,-sef o'r amser y tybir i Mr. Jones, ironmonger, ymsefydlu yn y dref, oddeutu'r flwyddyn 1770, hyd yr amser yr adeiladwyd Capel Pentrefelin, yn 1797.)

CYNNWYSIR YN Y CYFNOD HWN

Y CRYBWYLLIAD cyntaf am Mr. Jones—tyb am ei fynediad i Lundain—ei ddychweliad i Wrecsam—yr achos yn ei fabandod—mewn cysylltiad ag Adwy'r Clawdd—y profion o hyny—yr ystafell gyntaf i addoli ynddi—y cyfarfodydd eglwysig yn Adwy'r Clawdd—tristyd na buasai yr hanes wedi ei wneyd yn gynt—oesoedd tywyll.

GAN mai Mr. Jones, ironmonger, mewn cysylltiad â'i briod gyntaf, oedd y prif offerynau, fel yr awgrymwyd, yn dwyn Methodistiaeth i'r dref, mae ei enw ef gan hyny mewn cysylltiad â hyn o hanes yn beth o bwys. Y crybwylliad cyntaf sydd genym am Mr. Jones ar ol ei ddychweliad o Lundain i'r wlad hon ydyw, ei fod yn un o ymddiriedolwyr capel a adeiladwyd yn Rhosllanerchrugog, yn y flwyddyn 1770. Yn yr hanes a ddyry Mr. Hughes yn y 'Methodistiaeth' am y Rhos, ni a'i cawn ef, fel y dywedwyd, yn crybwyll enw Mr. Jones. Pa hyd y bu efe yn Ngwrecsam cyn hyny, y mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd.

Ganwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1740. A chaniatau ei fod wedi myned i Lundain pan yn 14 oed, efe a aeth yno feallai yn y flwyddyn 1754.

Dychwelodd i'r wlad hon, fel y gellir tybied, oddeutu y flwyddyn 1769, neu fe ddichon ychydig yn gynt, ar ol bod o hono yn Llundain oddeutu 15eng mlynedd. Mae'r ffaith ei fod yn y flwyddyn 1770, yn gweithredu fel un o ymddiriedolwyr capel yn y Rhos, a hyny fel yr oedd yn wr o Wrecsam, yn profi yn ddiddadl i'n tyb ni, ei fod yn y wlad hon ar y pryd, ac hefyd yn nhref Gwrecsam. Er mwyn rhagflaenu rhyw bethau a ddichon ymddangos yn anghyson o barth i'r amser y daeth Mr. Jones o Lundain i Wrecsam, yr ydym yn dymuno yn y lle hwn roddi gair yn helaethach mewn ffordd o eglurhâd. Mae yn ymddangos oddiwrth yr hanes a ddyry y Parch. J. Hughes yn y ' Methodistiaeth,' yr hwn hanes a gasglwyd gan y Parch. O. Thomas pan yn Llundain, mai yn y flwyddyn 1774 yr ymgymmerodd Methodistiaeth yn y lle hwnw â'r ffurf o fod yn eglwys reolaidd, er fod Harris a Rowlands yn pregethu yno yn achlysurol flynyddau lawer cyn hyny. Wrth gydmaru yr amser tybiedig y dychwelodd Mr. Jones o Lundain â'r amser y dechreuwyd yr achos yno, yr ydym yn cael fod Mr. Jones felly wedi gadael brif ddinas bedair neu bum' mlynedd cyn fod Methodistiaeth wedi dyfod i un math o ffurf eglwysig.

Yn awr, gan i Mr. Jones a'i briod ddyfod i Wrecsam yn Fethodistiaid trwyadl, yn dwyn gyda hwy farworyn poeth oddiar allor y diwygiad yn Harries a Rowlands, y mae yn beth posibl o'r hyn lleiaf, y dichon Methodistiaeth fod yn Llundain mewn gwedd angyhoedd cyn y flwyddyn 1774. Modd bynag, y mae ffeithiau lawer ar gael, fod rhywbeth cyffelyb i hyn wedi bod yn Nghymru lawer gwaith. Os bu brawdoliaeth Fethodistaidd felly yn Llundain cyn y flwyddyn 1774, mae lle cryf i gasglu fod Mr. Jones a Miss Jones (ei briod ef wedi hyny) yn perthyn i frawdoliaeth fechan felly, ac yn dwyn mawr sêl drosti.

Yn awr, wrth gymmeryd i ystyriaeth yr amrywiol bethau hyn, y casgliad naturiol sydd yn ymgynnyg i ni ydyw, y dichon fod Methodistiaeth, yn ei chysylltiad â Mr. Jones a'i briod gyntaf ef, yn nhref Gwrecsam er ys pedwar ugain a deg o flynyddau, neu ragor. Isel, mae'n wir, oedd ei gwedd yn y 15eng mlynedd cyntaf, fel y ceir gweled eto.

Mae pob sicrwydd fod yn y dref, hyd yn nod yn y blynyddoedd cyntaf y cyfeiriwyd atynt, ryw gynnifer o frodyr crefyddol wedi ymuno, heblaw Mr. a Mrs. Jones. Ychydig, y mae'n rhaid addef, ydyw'r hanes sydd genym am bethau y tymmor hwnw.

Adwy'r Clawdd, yn benaf, oedd cartref yr ychydig frodyr yn Wrecsam yn nechreuad yr achos, ac i'r Adwy y byddent yn arfer cyrchu. Yr oedd hen frawd yn Adwy'r Clawdd o'r enw Hugh Morris, Hugh Morris y teiliwr, fel y gelwid ef. Hen wr cywir a geirwir. Bu yr hen frawd hwnw fyw i fyned yn agos i bedwar ugain a chwe' blwydd oed, a bu farw rywbryd oddeutu'r flwyddyn 1847.

Clywsom yr hen frawd hwnw yn dyweyd ei fod yn cofio yr amser yn dda, pryd y byddai yr ychydig frodyr a chwiorydd, ag oedd yn Ngwrecsam, yn dyfod i fyny i'r seiat i Adwy'r Clawdd. Dyma hefyd, yn ol tystiolaeth Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, yr hwn sydd eto yn fyw, oedd sefyllfa pethau pan y daeth ef gyntaf i'r gymmydogaeth, yn 1802 neu 1803.

Er, fel yr hysbyswyd, mai Adwy'r Clawdd oedd eu Jerusalem, ac mai yno yr oedd eu teml; eto, y mae pob sicrwydd ar gael fod ganddynt eu synagog yn y dref hon, sef ystafell fechan i addoli ynddi, cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin.

Mae hen wraig o'r enw Martha Thomas, yr hon sydd wedi ei geni a'i magu yn y dref, yr hon hefyd yn niwedd y flwyddyn hon, 1869, fydd yn llawn pedwar ugain a naw mlwydd oed (89).

Fe ddywed yr hen wraig hono wrthym ei hunan, ei bod yn cofio y Welsh Calvinistic Methodists yn ymgyfarfod i addoli mewn hen dy yn Castle-yard, a hyny cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin. Hen balasdy mawr ydyw y Castell, fel y'i gelwir, yn yr un gymmydogaeth a'r Capel. Wrth gefn y Castelldy hwnw yr oedd yr hen dŷ y cyfeiriwyd ato. Mae yr hen wraig hono, Martha, yn cofio yn dda am briod gyntaf Mr. Jones, ironmonger.

Hefyd, y mae gwr arall o'r enw Mr. Smith, yr hwn fel Martha sydd yn frodor o dref Gwrecsam. Mae hwn hefyd, er ei fod dipyn yn ieuengach na'r llall, yn cyd-dystiolaethu i wirionedd y ffaith. Dywed y gwr hwn, ei fod yn cofio fod yr ystafell wedi ei gwyngalchu, a'i bod yn edrych yn wèn a glân. Dywed hefyd i ryw un roddi llawr newydd i'r tŷ, ar ol i'r gynnulleidfa fechan ymfudo i'w capel newydd. Yr ydym yn crybwyll y pethau syml diweddaf hyn, er mwyn adgofio i laweroedd, fel y gwyddant eu hunain, beth ydyw 'côf plentyn.' Fe ddywed Mr. Smith wrthym hefyd, y byddai nifer y gwrandawyr a gyrchent i'r lle, can lleied yn aml a deuddeg, neu bymtheg. Y lle gwael hwn, a'r nifer bychan a enwyd, oedd dechreuad gwan y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.

Gan fod pethau yn y sefyllfa a'r cysylltiadau y cyfeiriwyd atynt, dichon fod y frawdoliaeth fechan ag oedd yn Ngwrecsam, yn treulio un rhan o'r sabboth yn y dref, a'r rhan arall yn Adwy'r Clawdd.

Yr oedd amryw o'r cyfarfodydd eglwysig yn y blynyddoedd hyny yn yr Adwy ar foreu sabboth. Pa un ai cyn, neu ar ol pregethau, neu y cyfarfodydd gweddïo, nid ydym yn gwybod. Dichon mai dyma yr unig foddion o râs fyddai yn eu plith, ar brydiau o leiaf, ar foreu sabboth. Mae yn debyg yn y blynyddoedd cyntaf hyny, nad oedd y brodyr yn Ngwrecsam wedi ymffurfio yn eglwys reolaidd, oblegid yn un peth, fod eu nifer mor fychan, ac hefyd oblegid nad oedd y cymmwysderau a'r doniau, i fagu a meithrin mewn pethau ysprydol, mor helaeth a chyflawn ag y buasid yn dymuno. Yn y wedd yma, fe ddichon, y bu pethau am flynyddau, sef fod y brodyr yn Ngwrecsam yn ystyried eu hunain yn rhan o, ac mewn undeb â'r eglwys yn yr Adwy.

Mae hen wraig arall yn ein tref, yr hon sydd yn awr yn fyw, ac os da yr ydym yn cofio, yn agos i bump a phedwar ugain oed: hen wraig sydd a'i chymmeriad yn sefyll yn uchel fel un i ymddibynu arni am wiredd yr hyn a ddywed. Ei henw ydyw Mrs. Rowland. Clywsom hefyd â'n clustiau ein hunain, yr hen wraig hon yn adrodd wrthym, ei bod yn cofio yn dda, pan oedd hi yn eneth ieuangc, y byddai y Welsh people in the town, fel y galwai hi hwy, yn arfer cadw cyfarfodydd gweddïo yn y tai, ac y byddai hithau ar brydiau, er nad oedd yn deall nemawr ddim o'r iaith, yn myned i'r cyfarfodydd hyny er mwyn clywed y canu; ac mi dybiwn weithiau wrth yr hyn a ddywedai yr hen wraig, rywbeth tebyg i orfoledd crefyddol.

Gallai hyny fod, debygem, cyn adeiladu capel Pentrefelin, sef yn y blynyddoedd hyny pryd y byddai y pererinion hyn yn teithio i hen gapel Adwy'r Clawdd.

Buasai yn dra dymunol a dyddorol pe buasai genym fwy o ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos yn y cyfnod hwn; y gwir ydyw, nid ydym wedi bod yn alluog i gael allan ond ychydig, er yn ddiammeu bod llawer pe deffroasid yn brydlon. Mae gorchudd amser wedi ei dynu rhyngom â llawer o bethau, fel nas gallwn erbyn heddyw eu gweled. Mae pob oracl mor ddystaw wrthym, o'r bron, â'r meirw sydd yn y beddau mae pob llaw, llygad, tafod a gwefus, fel pe wedi eu selio i fyny. Ar ol gwneuthur yr hyn a allem mewn ffordd o ymchwiliad, mae yn ddrwg genym ddyweyd, ein bod yn gorfod gadael y cyfnod hwn yn yr hanes, i raddau pell oddiwrthym, yn orchuddiedig gan niwl a thywyllwch.

Mae rhai canrifoedd wedi myned heibio yn hanes y byd, y rhai a adwaenir erbyn heddyw wrth yr enwad, 'oesoedd tywyll.' Ein teimlad galarus ninnau ar hyn o bryd ydyw, pan yn ceisio ymbalfalu i ddyfod allan o niwl y cyfnod y buom ynddo, ein bod wrth droi drach ein cefnau i geisio ail edrych arno yn gorfod ei restru, i raddau, yn mhlith yr oesoedd tywyll.' Gwnaethom ein goreu pan ynddo i osod i fyny rhyw lamp fechan, ond gwan iawn yw y llewyrch sydd yn ymwasgaru o honi.

Yn awr yr ydym yn dyfod i gyfnod yn yr hanes, lle yr ydym yn cael fod y niwl ag oedd o'r blaen yn cuddio oddiwrthym rai pethau pwysig, yn awr yn dechreu chwalu a diflanu, a mwy o oleuni ffeithiau yn ymwasgaru. Cawn o hyn allan, nid ymbalfalu yn y tywyllwch, ond rhodio yn y goleuni.

Y TRYDYDD CYFNOD.

(Sef o'r amser yr adeiladwyd Capel Pentrefelin, yn 1797, hyd y flwyddyn 1821, pryd yr adeiladwyd Capel Abbot-street.)

CYNNWYSIR YN Y CYFNOD HWN

DDYFOD o hyd i lease Capel Pentrefelin—yr ymddiriedolwyr—y lle y safai y capel arno—ansawdd yr achos ar ei agoriad—profedigaeth yr eglwys—Mr. Jones, Coed-y-Glyn—ei nodwedd—yn gadael Methodistiaeth rhesymau am hyny—Mr. Jones, ironmonger, yn ail briodi—gair am ei brïod ef—Golwg obeithiol ar yr achos—Mr. Jones, ironmonger, yn marw—ei farwolaeth yn golled a phrofedigaeth i'r eglwys—Marwnad i Mr. Jones, ironmonger—crybwylliad ynddi am Rowlands, Llangeitho—Harris, Trefecca—Dafydd Morris—Williams, Pant-y-Celyn—Jones, Llangan—Llwyd—Pearce—Robert Roberts, Clynog—Ail ddychweliad at yr hanes—Y blaenor cyntaf ar ol Mr. Jones—ei nodwedd fel cristion—ei gwymp—y gwarth a dynodd ar grefydd—profedigaeth yr eglwys yn y tro—ei edifeirwch —ei adferiad—ei brofedigaethau—ei farwolaeth—Gair yn mhellach am Mr. Jones, ironmonger—Mr. Evans, Adwy'r Clawdd—Taith sabbothol—Cyrchu i foddion grâs—ymddyddan am y pregethau—Yr hen bregethwyr fyddai yn y daith—John Prydderch a Christmas Evans —Cyfarfodydd blynyddol yn Ngwrecsam—y pregethwyr yn eu cynnal y cyfarfodydd eglwysig ar y pryd—John Elias yn Nghapel Stryt Caer—Yr hen aelodau hynaf—Cati Thomas, a Thomas Edwards —Dyfodiad Mr. Hughes i'r dref yn dechreu ei ysgol—dechreu cyfnod newydd ar yr achos—pregethwyr yn yr ysgol—Foulk Evans yn syrthio i'r afon—Prïod gyntaf Mr. Hughes—ei chystudd—ei marwolaeth—Llafur a ffyddlondeb Mr. Hughes—pregethu yn y cymmydogaethau —Gweddw Mr. Jones, ironmonger—ei charedigrwydd ei gostyngeiddrwydd a'i hunanymwadiad yn croesawu pregethwyr—yn talu ymweliad â hen Gapel Pentrefelin—hen flaenoriaid y lle—Crybwylliad am y pregethwyr fu mewn cysylltiad â'r achos yn y dref

BUOM am amser maith, er pob trafod, chwilio ac ymofyn, yn methu dyfod o hyd, er boddlonrwydd, i ddim ag oedd yn ein harwain i wybod pa flwyddyn y dechreuwyd addoli yn Nghapel Pentrefelin. Pan oeddym o'r bron wedi llwyr anobeithio yn ein holl ymchwiliadau, daethom o'r diwedd o hyd i weithred (lease), yn yr hon y mae hen adeiladau yn Mhentrefelin yn cael eu hardrethu am yr yspaid o unmlynedd-ar-ugain, i'w hadgyweirio, a'u gwneuthur yn addoldy. Mae copi o'r lease yn awr ar y bwrdd ger ein bron, yr hon, erbyn hyn, sydd yn ddeuddeng mlynedd a thriugain oed. Mae yr yspaid maith hwn o amser wedi ei anmharu yn fawr, oblegid y mae ei lliw wedi llwydo a melynu. Yn ddamweiniol y dygwyddodd i ni gael awgrymiad yn ei chylch; ac wedi cael hyny, cafodd y perchenog gryn lawer o droi a throsi ar hen bapyrau, cyn dyfod o hyd iddi, a gosod ei law arni. Yr oedd yn llawenydd mawr genym ei chael, serch ei chael yn y wedd sydd arni. Dyddiwyd hi ar y cyntaf o Chwefror, yn y flwyddyn 1797. Enw perchenog y lle ar y pryd oedd, Edward Jackson, lliwiwr, o'r dref hon (Gwrecsam). Enwau yr ymddiriedolwyr yn y lease ydynt fel y canlyn:—Mr. Richard Jones, ironmonger, Wrecsam; Parch. Thomas Charles, Bala; Parch. Thomas Jones, Wyddgrug (Dinbych wedi hyny); Parch. Robert Ellis, Cymau (Wyddgrug wedi hyny); Parch. John Edwards, Gelli-gynan (Plas Coch wedi hyny).

Nid anfuddiol fe allai cyn myned yn mhellach, rhag os dygwydd hyn o hanes ddisgyn i ddwylaw y dyeithr, fyddai rhoddi iddo ryw awgrymiad pa gwr o'r dref ydyw 'Pentrefelin.'

Wrth i'r ymdeithydd gychwyn oddiwrth y bont ar y ffordd i Riwabon o'r dref, a cherdded rhagddo ar hyd Brook-street, yn lled fuan mae yn dyfod at y felin a'r llyn, y rhai ydynt ar y llaw ddeau iddo. Ar y llaw aswy iddo, nid yn wyneb yr ystrŷd, ond yn y cefn, y mae ysgwâr lled helaeth o dai, yr hon ysgwâr a elwir yn Nailors'-yard. Yn awr, rhan o'r ysgwâr hono ydoedd yr hen gapel: y siop sydd yn awr yn wyneb yr ystrŷd, gyferbyn â'r felin, ydoedd tŷ'r capel gynt, oblegid yno y byddai yr hen bregethwyr yn gorphwys ychydig, yn ysmocio, ac yn dadymluddedu. Nid oedd o ddrws cefn y siop, hyd i ddrws y capel, ond oddeutu pymtheg llath. Mae'r parth hwnw o'r dref yn y gorllewin iddi, ac felly y rhan agosaf at Adwy'r Clawdd.

Lled isel, debygid, oedd yr achos yn y dref ar agoriad y capel newydd yn Mhentrefelin, ac ychydig oedd nifer y rhai a broffesent. Dyma, er hyny, oedd yr amser mwyaf arbenigol, ac y rhoddwyd yn y priddellau, yn Ngwrecsam, fesen gyntaf Methodistiaeth Gymreig, (yr oedd yr achos yn y dref o'r blaen mae'n wir, fel rhyw lefen yn y blawd, fel y coffawyd eisoes). Fe eginodd y fesen yn lled fuan; ac fe flaendarddodd, eto eiddil a llesg oedd yr olwg arni am rai blynyddoedd: ond erbyn heddyw, mae yr un a welwyd yn flaguryn eiddil wedi tyfu yn bren mawr. Mae'r dderwen yn gref, ei gwraidd wedi lledu, ei phaladr yn braff, ei cheingciau yn estynedig, ei brigau yn uchel, a'i dail yn wyrddleision.

Fe gyfarfyddodd y cyfeillion yn Ngwrecsam à phrofedigaeth danllyd yn y flwyddyn 1793, sef pedair blynedd cyn agoriad y capel; oblegid yn y flwyddyn hono y bu farw Mrs. Jones, gwraig gyntaf Mr. Jones, ironmonger, yn 50 mlwydd oed. Er nad oedd ond ieuangc mewn ystyr, eto, er hyny, yr oedd yn fam yn Israel. Yr oedd dwyn un ag oedd mor anwyl, o fynwes teulu ag oedd mor fychan, yn rhwyg ac yn archoll ddofn. Yr oedd colli chwaer ag oedd mor serchog, caredig, ac o gymmeriad mor uchel, yn gristion mor ostyngedig a hunanymwadol, yr hon hefyd oedd wedi rhoi cychwyniad i'r achos crefyddol yn y lle, yn ddiau yn archoll ddofn, ac yn golled annhraethadwy. Mae hen flaenor Adwy'r Clawdd, o'r enw John Griffiths, yn mhen blynyddoedd ar ol ei marwolaeth, mewn math o alarnad i'w phriod, yn gwneuthur crybwylliad am dani hithau hefyd. Fel hyn y dywed, 'Gorphwysed eich marwol ran yn ngwely 'r bedd, yn ochr eich priod gynt, un o fil; cydostyngedig oedd a'r isel radd, hi garai'r saint i gyd â chariad pur.' Fe ddywedodd hen frawd arall o Adwy'r Clawdd wrthym, yr hwn oedd yn gyd-aelod â hi yn y lle, ei bod yn nodedig am ei duwioldeb, ac at achos crefydd, yn bob peth a allesid ei ddymuno. Ar ol marwolaeth Mrs. Jones, cafwyd yn ei llogell sypyn o arian wedi eu gwneyd i fyny, y rhai yn ol tyb ei phriod, a fwriadwyd ganddi at ryw achos crefyddol arbenig. Rhyw bryd yn nghorph y dydd hwnw, efe a safai uwchben ei gweddillion marwol, a'r arian yn ei ddwylaw. Tra yn y modd hwnw yn edrych arni, ac yn wylo 'r dagrau yn hidl, efe a ddywedai, 'O na wyddwn at ba achos yr oeddych wedi bwriadu i'r arian hyn fyned, fel y cawswn yr hyfrydwch calon o'u rhoddi at y peth hwnw.' Erbyn hyn nid oedd yr un oracl ar wyneb y ddaear a allasai ddatguddio'r dirgelwch. Buasai yn dda genym pe buasai ar gael fwy o hanes y chwaer rinweddol hon, ond gan ei bod wedi marw er's cymmaint o flynyddoedd, y mae rhoddi mwy o'r hanes yn beth nas gallwn ei wneuthur. Cofied y darllenydd mai hi ydoedd y Miss Jones, Coedy-Glyn, y soniasom am dani o'r blaen.

Fe allai, cyn myned o honom ddim pellach yn mlaen gyda'r hanes, mai priodol yn y lle hwn fyddai gwneyd crybwylliad helaethach am ei brawd, Mr. Jones, Coed-y-Glyn. Mae yn ymddangos fod Mr. Jones wedi marw er y flwyddyn 1815, neu rywbryd oddeutu yr amser hwnw. Ychydig, os dim, sydd genym o hanes Mr. Jones yn ei ddyddiau diweddaf, a'r rheswm am hyny debygid ydyw, am ei fod, flynyddau rai, cyn ei farwolaeth, wedi priodi boneddiges o'r enw Miss Myddelton, Gwanynog, ger llaw Dinbych, yr hon oedd yn aelod dichlynaidd yn Eglwys Loegr. Yr oedd ei briod fel yntau yn gristion gloew a lluaws mawr o rinweddau yn perthyn iddi. Cafodd y tlawd a'r cleifion yn ei marwolaeth golled fawr. Tebyg ydyw i Mr. Jones, ar ol priodi, adael Methodistiaeth a myned gyda'i wraig i'r eglwys sefydledig. Bu'r ddau fyw yn grefyddol hyd ddiwedd eu hoes. Claddwyd y ddau yn eglwys Gwrecsam. Oddi mewn, yn agos i'r allor, yn yr adgyweiriad fu ar yr hen eglwys yn 1867, daethant o hyd i eirch y ddau, ochr yn ochr, a'r plates arnynt yn fresh, y rhai yn awr sydd yn meddiant clochydd y lle. Er fod Mr. Jones, fel y tybir, wedi cefnu ar Fethodistiaeth, oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd, ac ymuno ag Eglwys Loegr, eto nid oes achos i neb feddwl yn llai am ei grefydd, oherwydd amgylchiadau yn hollol a barodd hyny. Yr oedd priod Mr. Jones yn Saes'nes hollol. Mae yn ymddangos iddo ddangos llawer o garedigrwydd at Fethodistiaeth, pan oedd ei gwedd yn isel, a llawer yn edrych arni gyda gradd o ddirmyg a diystyrwch. Mae'r hanes a gawsom am Mr. Jones yn profi ei fod yn gristion unplyg a gostyngedig. Dyn isel, dirodres, hynod ddiymhongar ydoedd. Yr oedd ei ddoniau gyda chrefydd yn fychain iawn. Yr un weddi fyddai ganddo agos bob amser wrth gadw'r ddyledswydd deuluaidd; o'r hyn lleiaf byddai yn debyg iawn. Maddeued y darllenydd i ni am aros cyhyd gyda Mr. Jones, Coed-y-Glyn, a'i briod; dychwelwn yn awr yn fwy uniongyrchol at yr hanes.

Yn mhen tua phedair blynedd ar ol marw gwraig gyntaf Mr. Jones, ironmonger, efe a ail briododd un o'r enw Miss Phillips, Ty'n-rhos, merch i amaethwr parchus heb fod yn mhell o Groesoswallt. Megys yr oedd ei briod gyntaf ef yn wraig ddymunol, rinweddol a ffyddlon, felly hefyd yr oedd y ddiweddaf; ac yn fwy felly, yn gymmaint a bod y maes a'r manteision iddi hi yn helaethach nag i'r gyntaf, Cawn gyfleusdra eto cyn diwedd yr hanes i goffäu am y chwaer rinweddol hon.

Gan fod y lease y cyfeiriwyd ati yn cael ei harwyddo yn nechreu y flwyddyn 1797, ond odid nad agorwyd y capel hefyd yn y flwyddyn hono; oblegid nid oedd y gorchwyl o adgyweirio yr hen adeiladau hyn, a'u gwneuthur ar wedd capel, ond bychan.

Yr oedd golwg siriol a gobeithiol debygid at y dyfodol ar yr achos, er, ar hyny o bryd, nad oedd eu nifer ond bychan. Parhaodd pethau yn ddymunol am ysbaid o amser; y brodyr yn y dref a'r brodyr yn yr Adwy yn ymserchu llawer yn eu gilydd. Cyrchent lawer at eu gilydd, a chymdeithasent, serch fod capel y dref wedi ei agoryd, a hyny yn unig er mwyn maeth ac adeiladaeth yn mhethau ysbrydol crefydd. Yn mhen ychydig o flynyddoedd ar ol hyn, pan oedd yr awyrgylch eto yn glir debygid, wele gwmmwl arall yn ymgasglu ac yn ymhofian uwch eu penau, llawer duach na'r un cyntaf, ac yn bygwth ymdywallt arnynt ei gynnwys ofnadwy; yr hyn hefyd a wnaeth; oblegid yn y flwyddyn 1805, sef yn mhen wyth mlynedd ar ol agoryd o honynt eu capel, bu farw Mr. Jones, gan adael ei ail wraig, a phump neu chwech o blant bychain, i alaru ar ei ol. Am mai Mr. Jones oedd yr unig flaenor yn eu plith am a wyddom, a chan mai ar ei ysgwyddau ef, o'r bron, yr oedd holl bwys yr achos yn gorphwys, mae yn rhaid i ni gredu fod ei farwolaeth ar y fath amser, a than y fath amgylchiadau, yn ddyrnod trwm iawn.

Fe deimlodd yr ychydig gyfeillion yn y lle eu serch a'u hanwyldeb yn cael archoll ddofn, a'u gobeithion hefyd yn y dyfodol fel yn cael eu siomi yn ddirfawr. Fel y crybwyllasom o'r blaen, yr oedd hen flaenor yn Adwy'r Clawdd, o'r enw John Griffith, yr hwn ag oedd yn gyfaill mynwesol i Mr. Jones, ac hefyd wedi bod lawer yn nghyfeillach ei wraig gyntaf ef. Mae mynwes yr hen frawd hwnw, ar yr achlysur o farwolaeth ei anwyl gyfaill, fel yn ymlenwi i fyny o alar hyd yr ymylon, ac o herwydd hyny yn ymdywallt allan yn ffrwd mor gref nes cario ymaith y darllenydd fel heb yn wybod iddo ei hun. Mae John Griffith hefyd yn yr alarnad hon yn cyfeirio yn bruddaidd at Rowlands, Llangeitho; Howel Harris; Dafydd Morris; Williams, Pant-y-celyn; Jones, Llangan; ac un o'r enw Pearce; ac yn ddiweddaf oll, Robert Roberts, o Glynog, Arfon. Mae y farwnad yn fath o raiadr, yn ymdywallt ar gopa y darllenydd, nes ei guro o'r bron allan o wynt. Mae dullwedd ei chyfansoddiad dipyn yn wahanol i'r hyn a welir yn gyffredin. Mae yn werth ei hargraffu yn y graig dros byth, â phin o haiarn ac â phlwm. Mae yr alarnad grybwylledig yn meddiant Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, yn llawysgrif John Griffith ei hunan, ac iddo ef yr ydys yn ddyledus am ei benthyg, fel ag i'w hail ysgrifenu.

Nid oes yr un rhagddalen (title page) o fath yn y byd i'r cyfansoddiad. Mae'r awdwr, fel Jeremiah gynt, yn cael ei wefreiddio yn y fan; ac heb un math o ragymadrodd mwy nag yntau, yn bwrw allan ffrwd galar ei galon gyda rhyw nerthoedd sydyn ac aruthrol, ac yn dyweyd

'OCH y byd sydd mor lawn o gyfnewidiadau trist!
Ddoe yn addaw rhyw baradwys wych;
Ond heddyw yn dwyn y cwbl sydd yn fy rhan.
Paham y cais fy nghalon wag ddedwyddwch yn
Y byd, lle nad oes ond gorthrymderau trist!

Mor wag ac mor siomedig yw,
Pob peth o dan y nefoedd, ond fy Nuw.

A oedd raid marw Jones,
Marw Jones, ffyddlonaf ddyn?
Och angau du, Och elyn dynolryw,
Pa'm nad aethost i'r goedwig fawr,
I blith torf o annuwiolion byd,—
Rhai diddefnydd a diles, a thori myrdd
O'r rhain i lawr, a gadael Jones,
Ffyddlonaf Jones, i aros yn y byd?
Toraist, do, angau taerddrwg, nid rhyw gangen wywedig, wag,
Ond colofn o naddiad Naf.
Addurnwyd ef yn hardd â grâs y nef.
Nid rhyw ddadleuwr gwag ar byngciau dileshäd oedd efe,
Nid rhyw ymrysonwr cyndyn; cyndyn; gwag;
Am gael ei bwnge i ben;
Ond ffyddlon oedd yn ngwaith ei Dduw.

O ddedwydd Jones! aeth i'r baradwys fry,
I blith torf o ddedwydd rai,
I blith cymdeithas llawer gwell na'r rhai
Sydd yma yn y byd;
Aeth yn goncwerwr llawn o'r maes;
Aeth, a'r goron ar ei ben.

Ffarwel Jones, darfu yma enwau'r byd—
Enwau tad, a phlant, a phriod,
A pherthynasau cnawdol byd:
'Does yna ddim ond canu a chanmawl Iesu mwy,
A hoeliwyd ar y bryn, a drywanwyd ar y groes.
Rhedodd dwfr a gwaed yn bur o'i ystlys,
I olchi aflan rai.
O ddedwydd nefolaidd gôr!
Pa fath fwynhâd sydd i'w ganmol ef,
Gynt a wisgwyd mewn cadachau ?
Pa fath ganiadau yna sydd,
Gan luoedd maith y nef
Seintiau ac angylion pur, yn dorf ddirif o flaen yr orsedd lân,
Yn seinio anthem bur o fawl i'r Oen?


Pa fath ryfeddu'r iachawdwriaeth bur,
A drefnodd Tri yn Un, sydd yn y nef,
Gan dorf rifedi gwlith y wawr?
Arfaethwyd hon cyn creu y byd,
I fod yn syndod dynion, ac angylion nef—
I ryw syn ryfeddu'r grâs oedd yn y Duwdod mawr,
Yn rhoi ei Fab i wisgo cnawd yn mru y wyryf Mair,
A'i eni yn Bethlehem d'lawd, a marw ar Galfari.
Ffarwel, addfwynaf Jones, nis gwelaf mwy
Mo'ch gwedd, ni chlywaf mwy mo'ch llais
Yn blaenori'r gân o dan y pulpud bach.
Af i ryw ddirgel fan, yn mhell o olwg dyn,
A galaraf yno wrthyf fy hun,
Tywalltaf hefyd ddagrau yn llif,
Mewn hiraeth am fy nghyfaill pur.

Ffyddlonaf Jones, aeth o'r anialwch maith,
A'r 'stormydd oll i gyd:
Aeth adref i'w wlad ei hun;
Darfu yna gario'r groes; darfu du gymmylog nos,
Darfu ocheneidiau trist; darfu galar a phob gwae;
'Does yna ddim ond llawenhau
Yn ngwydd yr addfwyn Oen.

Gorphwysed eich marwol ran yn ngwely'r bedd,
Yn ochr eich priod gynt, "Un o fil,"
Cyd-ostyngedig oedd â'r isel rai,
Hi garai'r saint i gyd â chariad pur:
Cysgwch yna dawel hûn, yn ystafell ddystaw'r bedd,
Yn ngraean Maelor deg,
Yn mhell o dwrf terfysglyd fyd.
Chwi ddowch i fyny pan ddel cri yr Angel cryf,
Ac udgorn Duw: rhydd floedd o uchder nen i'r llawr I ddeffro meirw byd.
Ac yna daw torf ddirif,
Mil amlach nac yw'r tywod mân ar lan y môr;
Hwy ddônt i'r lan. Dônt yn aneirif lu,
Holl epil Adda i gyd—a fu, y sydd, a ddaw;
Llwyth, iaith, pobl a chenedl

Fydd yno yn dorf o flaen yr orsedd fawr, lân:
Derbyniant yno eu barn, eu dedfryd o enau baban Mair.

Daw Cæsar fawr, Pompey, a Herod elyn hy',
Bydd Alexander yntau, a Philat yn y llu,
Brenhinoedd mwya'r ddaear, a chawri uchel fryd,
Fydd yno wrth yr orsedd, yn niwedd hyn o fyd.

Mewn miloedd mwy o ofnau, o ddychryn aeth a braw,
Na hwy fu gynt yn sefyll wrth odrau Seinai draw,
Yn crynu o flaen y Barnwr fel dail yr eithen lâs,
Heb grynu erioed ar amser, yn nydd efengyl gras.

O'r fath olwg yno fydd,
Ar dorf o annuwiolion byd,
Yn sefyll wrth yr orsedd bur,
Mewn euog wedd: llefain wnant ar greigiau serth,
A mynyddoedd uchel i syrthio arnynt mewn
Un dydd, a'u cuddio o wydd yr Oen.

Ddedwydd Jones, huno a wnaeth yn Nghrist,
Mewn gwir dawelwch llawn. Ni thristâf
Am dano ef fel un heb obaith mwy:
Daw o ffwrn y bedd ryw ddedwydd foreuddydd,
Fel llestr newydd pur, yn hardd ar ddelw ei Dduw.
Chwithau ei weddw brudd, sydd mewn galar trist,
Ei addfwyn briod olaf ef
(Arwyddion dedwydd sydd eich bod yn dilyn ol ei draed).
Nac wylwch mwy, ond glynwch wrth ei Dduw,
A cherwch ef; aroswch dan y groes,
Gan deithio'r llwybr cul, sy'n arwain tua'r wlad,
Lle mae dedwyddwch pur yn hyfryd wedd eich Duw.
Rho'wch eich amddifaid mân i ddoeth ragluniaeth nef,
Y rhagluniaeth hono sydd yn cyfrif gwallt eich pen,
Yn porthi cigfrain duon, ac yn gofalu am adar y to.
Rho'wch arno eich pwys, fe'ch tywys ar eich taith,
Nes delo'r dedwydd ddydd, i fyn'd o'r anial maith;
Fe dderfydd gofal byd, 'nghyd a'i helbulus boen,
Fydd draw ar ben y daith, ddim gwaith ond moli'r Oen.


O wag, siomedig, a darfodedig fyd,
A'i ddull yn myned heibio sydd,
Fel cwmmwl yn myned heibio,
Fel cysgod gwag yn pasio,
Fel niwl yn llwyr ddiflanu;
Fel mwg yn cael ei chwalu gan yr awel wynt
Yw'r oll sydd yma dan yr haul.
P'le mae fy nhadau enwog fu
Fel udgyrn arian nefoedd fawr,
Yn cyhoeddi hyfryd Jubili, i wael dlodion caeth?
P'le mae Rowlands, cenad nef,
O ryw seraphaidd ddawn?
Fel angel ehedai yn nghanol nef,
I efengylu'n wych i waelaf rai.
Iachaol fel balm o Gilead oedd
Dy weinidogaeth di i glwyfus ddyn;
Ond cleddyfau i galon iach:
Codai y tlawd o'r llwch,
A thynai y balch hunanol, cryf i lawr,
Difwyno coron balchder wnai,—
Ysprydol falchder dyn, a gwneuthur dyn yn ddim.
Cyfiawnder angau'r groes, ac aberth Calfari,
A gallu gras y nef, i gynnal gwan heb rym,
A bur gyhoeddai ef, i dlawd golledig ddyn, heb ddim.
Dygai i'r golwg fawr drysorau gras a hedd,
Nes rhoi'r euog caeth, a'r ofnus gwan
Dan fil o ofnau, i lawenhau
Fel gwyliwr lluddedig blin wrth weled y wawr,
Neu'r caeth pan â'i o'r rhwymau'n rhydd,
A syrthio ei holl gadwyni i'r llawr.

Rowlands, ddedwydd ddyn! nid hela i'w gyfran[1] 'roedd,
Na chasglu trysor byd—ar aur ni roddai fri:
Ni phrisiai arian glâs ddim mwy na'r graean mân
Ar fin yr afon sydd.
Nid mawrion rai y byd, na'r cyfoethogion bras
Oedd ei gyfeillion ef, os rhai di Dduw:
Gyda'r tlodion gwnaeth ei drigfa,

Arhosodd hefyd yn eu plith,
A gwnaeth gyfeillion hoff o bawb ysbrydol ddawn,
Tra byddai yn teithio wyneb daiar.

Mae'r awdwr yn rhoddi hanesyn byr a glywsai am Mr. Rowlands, yr hwn hefyd yn wir sydd yn werth ei roddi ar gof a chadw. Fel hyn y dywed efe, 'Clywais ddywedyd am Mr. Rowlands, ddarfod iddo gael cynnyg ar fywoliaeth (living) ar ol iddo gael ei fwrw allan o'r eglwys; ac iddo ar y cyntaf led gydsynio â'r peth; ond diwrnod neu ddau cyn yr amser penodol i gymmeryd meddiant o'r lle, iddo dderbyn llythyr oddiwrth wraig dlawd o gynnulleidfa eglwys Llangeitho, yr hwn a fu yn foddion iddo lwyr newid ei feddwl, ac iddo hefyd ddywedyd, "Gyda'r tlodion; gyda'r tlodion y gwelais i fwyaf o Dduw, a thrwy gymhorth, gyda'r tlodion yr arosaf."'

Yn awr, mae ein hawdwr yn gadael Apostol mawr y Cymry, ac yn symmud rhagddo, i goffau am ereill o dywysogion y cyfundeb, a hyny gyda galar a hiraeth sylweddol a diffuant. Mae yn dechren gyda Williams, Pant-y-Celyn, 'peraidd ganiedydd Cymru.' Mae yn dechreu hefyd tan ddylanwad cyffrous calon hiraethlon trwy ofyn

'P'le mae Williams, ganiedydd pêr?
Wyt heddyw'n iach ar ben dy daith,
Yn canu Salmau fwy.
Gadewaist drysor i ni o'th ol
Dy bêr ganiadau rhodd i'r eglwys ynt.
Cystadlu a wna â Watts, Horne, a Milton;
Yn eu mysg y mae dy wir ganiadau di.'

Yn nesaf, mae yn coffau am Jones, Llangan, a hyny dan effeithiau yr un hiraeth angherddol ag am y ddau ereill.

P'le mae Jones, wir efengylwr pur?
Diferodd bendithion fil fel gwlith
Ar lysiau mân o'th enau di-bendithion roddwyd gan dy Dduw
Wyt heddyw yn gweled yr Oen
Bregethaist yn y byd;
Gwelaist ef trwy ffydd yma,

Ond yna wyneb yn wyneb
Y gweli ef megys ag y mae.

Y nesaf y cyfeiria ato ydyw Dafydd Morris; tan weinidogaeth yr hwn ni dybiem yr argyhoeddwyd ac y dychwelwyd ef, oblegid yn nyfnder ei alar efe a'i geilw ef yn 'dad.' Mae yn dechreu ar hwn eto gyda'r un dull o gwestiyna yn gyffrous â chyda'r lleill.

P'le mae Morris ddoniol ddyn, o fawr arddeliad Nef?
'Fy nhad' y galwaf ef.
Cofia'r fan, a chofia'r ardal,
Cofiaf hefyd am y dydd
Y clywais gyntaf sain dy eiriau di—
Geiriau gwresog, grymus, miniog,
Udgorn seiniai, llymion saethau,
Swn taranau, min cleddyfau ae'nt i mi—
Geiriau nerthol, pwysig, effro,
O arddeliad Nef ei hun.
Nid hir areithiau llyfnion, hardd,
(Nid anhardd chwaith,) o gerfiad dynol ddawn—
Nid rhes o ryw drefniadau gwych,
Na llu o eiriau fferllyd meirw,
Mor oer â'r eira mân,
Ond gwir arfau nerthol Duw
Yn bwrw cestyll i'r llawr.

Ffarwel, Dafydd! darfu'th groesau,
Darfu amser o ryfela:
Darfu'th boen, a darfu'th ofid,
Darfu'th lafur oll i gyd:
Sychwyd ymaith dy holl ddagrau,
Nid rhaid galaru mwy:
Wyt heddyw yn iach ar ben dy daith,
Yn seinio'r anthem, yn mhlith y dyrfa faith,
Sydd yna ar Seion fryn.

Ffarwel, Dafydd! darfu'th yrfa,
Darfu dyddiau 'th orthrymderau;
Ti ei'st adref i dir y gwynfyd,
Byth i wisgo coron bywyd.

Cofiaf dy bregethau gwresog,
Cafiaf 'th weinidogaeth finiog,
Buost im' yn dad ffyddlona',
Fe'm maethwyd megys wrth dy frona'.

Y nesaf y crybwylla John Griffith am dano ydyw gwr o'r enw Pearce. Pregethwr oedd hwn yn ei gychwyniad cyntaf, os nad ydym yn camgymmeryd, o Sir Drefaldwyn; wedi hyny, yn ei ddyddiau diweddaf, o Arfon.

Fe ddywedodd Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, wrthym, iddo glywed John Griffith yn dyweyd am y Pearce hwnw, ei fod yn un o bregethwyr hynotaf ei oes. Yr oedd ei ddawn, rywfodd, yn ddawn hollol ar ei phen ei hun. Nid cymmaint, debygid, fel pregethwr mawr yn y pulpud ydoedd, ond hynod iawn yn y cyfarfodydd eglwysig. Yn ol y desgrifiad a roddai Mr. Evans o hono, byddai fel rhyw genad ysbrydol yn cael ei anfon o lŷs y nefoedd: cerddai yn araf trwy holl ystafelloedd cydwybod ac ysbryd dyn, a lamp danllyd o'r nef yn ei law. Yn y modd yma byddai yn chwilio allan, ac yn dyfod o hyd i holl ddirgel ddrygioni calon, ac yna yn ei ddwyn allan, ac yn ei ddangos i'r dyn, nes peri iddo wrido a chywilyddio. Fel y canlyn, gydag ymofyniad, y mae ein hawdwr yn coffau am y brawd hynod, Pearce.

'P'le mae Pearce, ffyddlonaf ddyn?
Treulio ei ddyddiau yn effro a wnaeth,
Fel milwr diwyd ar y mur:
Yn yr eglwys yr oedd ei ddoniau
Fel cerfiwr o fewn y tŷ.
Prin y meddwn heddyw ei ddawn
Dawn chwilio i hen lochesau,
Conglau tywyll calon dyn,
Ac olreinio hyll fwystfilod,
Y rhai yn difa yr egin mân y sydd.'

Pwy ydyw y nesaf y crybwylla John Griffith am dano, nid ydym yn gwybod. Fel hyn yr ymofyna efe:—

'P'le mae Llwyd a'i euraidd lais,
A'i ddawn ennillgar?
Ni chlywaf mwy o hono ef.'


Yr olaf y crybwylla am dano ydyw y diweddar Barch. Robert Roberts, Clynog, Arfon. Mae yn gwneuthur hyny tan gymmaint o ddylanwad galar a hiraeth ag am y lleill o'i flaen.

'P'le mae Roberts a'i beraidd sain,
A'i ddawn nefolaidd?
Mewn dyddiau, ieuengach oedd,
Ond nid y lleiaf gyda'i Dduw.
P'le mae llawer gyda'r rhai'n,
Mwy nag a enwaf fi?
Nid marw ynt, ond byw.

Fy meddyliau gwag sy'n gwibio,
Ac yn gweu fel gwenyn mân;
Gan hiraethu yn fy nghalon,
Am frodyr aeth i Salem lân.

Minnau, bryfyn, yn y frwydr,
Lle mae hedfan saethau fil,
Temtasiynau atgas, chwerw,
Câs ddeniadau'r ddraig a'i hil.

Daw y boreu, saeth hedegog,
O rhyw wenwyn câs yn llawn,
A rhyw groes flinedig, chwerw,
Caf ei phrofi cyn prydnawn.

Angau frenin sy'n teyrnasu,
Ar y ddaear fawr o ddeutu,
Epil Adda yw ei ddeiliaid,
Pysg, ymlysgiaid, anifeiliaid.

Ac ni all llwyddiant byd, na'i synwyr maith,
Na doniau clodfawr, gwych,
Ddim attal gyrfa angau du,
Na pwlu min ei gleddyf:
Ac ni all aur—Diana fawr y byd.
Aur sydd yn rhoddi'r byd i gyd ar dân,
Yn gwneyd rhyfeloedd maith,
Yn codi cestyll gwych i'r nen,
Yn gwneyd palasau gwych,[2], a thyrau uchelfrig:

Aur sydd yn gwneyd priodasau rif y dail:
Harddwch wnant ar hagr wynebpryd,
A synwyr llawn i'r ymenydd gwag:
Gwnant yr annoeth, dwl, yn ddoethaf ddyn,
Rho'nt y flaenoriaeth llawn o fewn y byd.
Chwi farnwyr gwych, ardderchog ddewrion byd,
A gedwch neb o'ch ffyddlon weision
Rhag marwol saeth yr angau llym?
Angau eiff yn hyf i fewn
I'r palasau gwych at foneddigion byd,
Fel i fwthyn gwael y beggar gwan,
A dwg y rhai'n a'u lliain main,
A'u porphor drud, a'u gwisgoedd sidan gwych,
Yn garcharorion caeth i'r nychlyd fedd.
Pa sawl un coronog, gwych, a thywysog uchel waed?
Pa sawl cyfoethog iawn a fwriodd ef i'r llwch?
Pa nifer o areithwyr talentog,
Y gwych ddadleuwyr ffraeth, a lwyr ddistawodd ef?

Enaid, dysg wersi doethineb
Gan yr areithiwr[3] mud,
Sy'n llefain wrthyt o'r llwch: a llefain mewn dystawrwydd maent,
Oll gyda sain llithoedd o dragwyddoldeb i ni:
Annogant fi i gyfrif fy nyddiau;
A rhybuddiant fi o fy ymddattodiad agosaol:
Mynegant i mi mewn iaith
Ddilafar, mai ymdeithydd ydwyf yn y byd,
Ac alltud fel fy holl dadau.'

Wedi i ni, ychydig yn ol, hysbysu marwolaeth Mr. Jones, a'r effeithiau o hyny, gadawsom yr hanes am ychydig er mwyn rhoddi lle i'r farwnad wir effeithiol hon. Dychwelwn yn awr yn y lle hwn eilwaith at yr hanes.

Nid ydym yn gallu penderfynu i sicrwydd a oedd blaenor arall yn y lle, yn yr amser y bu Mr. Jones farw: casglu yr ydym oddiwrth yr amgylchiadau, nad oedd.

Yr ydym yn gwybod i sicrwydd am wr ieuangc o Adwy'r Clawdd, hwn oddeutu yr amser hwnw a aeth i Wrecsam, yr hwn hefyd a wnaed yn flaenor yn y lle. Yn ol pob peth a allwn gasglu oddiwrth hanes pethau, mae yn ymddangos i ni, mai efe oedd y blaenor cyntaf ar ol Mr. Jones. Bu hyn yn radd o sirioldeb i'r achos am ysbaid, a chynnyrchwyd yn y cyfeillion obeithion am bethau gwell yn y dyfodol. Yr oedd y gwr ieuangc hwnw, yn ol pob peth ag oedd yn ymddangos ar y pryd, yn ddyn duwiol a difrifol, yn gristion profiadol a gweithgar, yn berchen hefyd tipyn o dda'r byd hwn, ac felly yn debyg o fod yn llawer o swccwr i'r achos yn ei amgylchiadau allanol; yn fyr, yr oedd ynddo lawer o bethau ag oeddynt yn ei gymhwyso i flaenori yn y lle.

Cyn pen hir, ar ol ymsefydlu o hono yn y lle, fe'i temtiwyd ef fel Dafydd, ac fe'i hudwyd ef fel yntau, i gyflawni anwiredd ysgeler. Yr oedd hyn yn ddyrnod trwm i'r achos, yr hwn eto nid oedd ond eiddil a gwan. Bu y tro galarus hwn yn achlysur i elynion crefydd gablu, gwawdio, ac erlid yn y modd mwyaf haerllug. Yr oedd cryn lawer mwy o wahaniaeth y pryd hwnw rhwng y wir eglwys a'r byd annuwiol nag sydd yn awr. Yr oedd y naill yn fwy hardd a phêraroglaidd yn rhinwedd ei grasau, a'r llall yn fwy amlwg yn ei lygredigaeth a'i ddrygsawredd. Yr oedd y tro galarus hwn, nid fel rhoddi tom ar dom, ond fel rhoddi tom ar wely'r perlysiau, yr hyn a barai i'r aflendid ymddangos yn llawer ffieiddiach ac atgasach. Yr oedd yr ychydig gyfeillion yn y lle ar y pryd yn teimlo cymmaint yn herwydd y.gwarth hwn a ddaeth arnynt, nes peri iddynt osod llwch megys ar eu penau, a gwisgo sach-liain a lludw. Ar ol i'r eglwys ymlanhau oddiwrth y bryntni hwnw yn eu plith, sef trwy fwrw'r troseddwr i satan, i ddinystr y cnawd, fe drefnodd y Brenin Mawr, a hyny yn fuan, iddynt flodeuo a pherarogli lawn cymmaint ag o'r blaen.

Teg, ni dybygem, ydyw i ni hysbysu, i'r Duw trugarog ymweled drachefn â'r plentyn drwg hwnw yn ngoruchwyliaethau ei Ysbryd, a hyny trwy fflangellau a ffonodiau trymion; oblegid archollwyd ei ysbryd, a drylliwyd ei esgyrn. Taflwyd ef i ddyfnder mawr yn herwydd ei bechod, a'r gwarth a dynodd ar grefydd. Wedi cael ei anadl ato, llefodd oddiyno; cyfodwyd ef hefyd; maddeuwyd ei bechod, iachawyd ei esgyrn, a rhoddwyd iddo 'drachefn,' fel Dafydd, 'orfoledd yr iachawdwriaeth.' Adferwyd y brawd hwn i'w swydd yn lled fuan, mewn eglwys arall, a bu yn flaenor eglwysig am uwchlaw triugain[4] mlynedd. Yr oedd y goruchwyliaethau llymion a gafodd, a'r triniaethau a deimlodd yn ei ysbryd, mewn canlyniad i'w gwymp, ac ar ol ei adferiad, wedi ei gymhwyso yn rhyfedd i ymddiddam â, rhybuddio, cynghori, cyfarwyddo a chysuro y rhai y cyfarfyddai â hwy mewn profedigaethau. Yr oedd ei oes ar ei hyd, ar ol ei gwymp, yn oes o brofedigaethau, siomedigaethau, colledion mewn masnach, dyryswch mewn amgylchiadau, afiechyd a thlodi at ei ddiwedd.

Dywedodd ddegau o weithiau wrth hoff gyfaill iddo, a'r dagrau ar ei ruddiau, ei fod, fel Dafydd, wedi tynu'r cleddyf i'w dŷ, ac mai cyfiawn iawn oedd goruchwyliaethau yr Arglwydd tuag ato, er eu bod yn chwerwon. Bu farw rhwng 70 a 80 oed, yn mwynhau gobaith, hyder, cysur, a thangnefedd yr efengyl, a hyny yn nghanol iselder a thlodi mawr.

Dylasem ddyweyd gair yn helaethach am Mr. Jones, y blaenor cyntaf yn Ngwrecsam, ond gwnawn hyny yma eto. Yr oedd Mr. Jones nid yn unig yn ddyn am wneuthur lles yn ei gartref, ond hefyd am lesäu ei genedl yn gyffredinol. Efe oedd y prif offeryn i ddwyn Mr. Evans i Adwy'r Clawdd, i fod yn ysgolfeistr. Mr. Jones a anfonodd gyntaf i'w gyrchu o Lanrwst i Wrecsam, er mwyn cael ei weled ac ymddyddan ag ef. Efe hefyd a'i hanfonodd at foneddwr o'r enw Robert Burton, Yswain, Minera Hall, canys yr oedd Mr. Burton yn cymmeryd rhyw gymmaint o ddyddordeb yn addysgu'r gymmydogaeth. Fe ddywedodd Mr. Evans ei hunan wrth yr ysgrifenydd, iddo weled yn y cyfamser, yn y parlwr yn Minera Hall, un peth bychan a dynodd ato ei sylw yn neillduol, sef gweled y foneddiges barchus, Meistres Burton, yn troi'r droell ac yn nyddu llin. Ar ol i Mr. Evans gael rhyw gymmaint o ymddyddan â Mr. Burton, anfonwyd ef gan Mr. Jones i'r Bala, at Mr. Charles, i gael ymddyddan ag yntau hefyd. Wedi bod am beth amser yn nghyfeillach Mr. Charles, dychwelodd i Wrecsam, ac yn fuan ar ol hyn ymsefydlodd yn Adwy'r Clawdd fel ysgolfeistr. Mae Mr. Evans yn y cymmydogaethau hyn er's yn agos i 66 o flynyddoedd bellach. Gwr ieuangc oddeutu 17 oed oedd efe pan y daeth gyntaf i'r gymmydogaeth.

Byddai Mr. Jones yn gwneuthur ymdrech i wneyd argraff ar feddyliau'r bobl, ei fod yn llawer henach nag ydoedd, a hyny yn unig er mwyn iddo fod yn fwy effeithiol a dylanwadol. Yr oedd ymddangosiad, dysg, penderfyniad meddwl, dewrder, a dylanwad Mr. Evans yn gyfryw, pan nad oedd ond 17 oed, fel ag y gallasai llawer un ei gymmeryd am un a fuasai yn 25 mlwydd oed. Fe fu Mr. Evans fel athraw, ac fel gwr cyhoeddus, mewn llawer ystyr, yn fwy effeithiol, bendithiol a dylanwadol yn y cylch yr ydoedd yn troi ynddo, na neb fu yno o'i flaen, nac ar ei ol chwaith. Mae ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad hon i'w briodoli, yn benaf, i'r awyddfryd angherddol oedd yn Mr. Jones am lesâu plant ei gydgenedl yn y dref a'r wlad.

Ar ol adgyweirio yn Mhentrefelin yr hen adeiladau y soniasom am danynt o'r blaen, a'u gwneuthur yn rhyw fath o addoldy, fe wnaed Gwrecsam, Adwy'r Clawdd, a Rhosllanerchrugog, yn daith sabbothol; ac felly y bu am flynyddau lawer. Prin yr oedd yr ysgolion sabbothol wedi eu sefydlu ar hyny o bryd; o'r hyn lleiaf, nid oeddynt wedi gwreiddio ac ymledu, na dyfod mor gyffredinol ag ydynt yn awr. Byddai llawer o'r rhai fyddai yn gwrando pregeth y boreu yn y blynyddoedd hyny, yn dilyn y pregethwr ar hyd y sabboth. Dyddorol iawn gan yr ysgrifenydd, pan yn Gristion[5] bychan, fyddai dilyn y fintai, a gwrando arnynt yn adrodd y pregethau, eu syniadau, a'u profiadau. Yr ydym yn barnu, yn ostyngedig, y byddai crefyddwyr y dyddiau hyny yn rhagori llawer ar rai y blynyddoedd hyn, yn y peth hwnw. Yr oedd un hen wraig, o Adwy'r Clawdd, yn arfer teithio fel hyn i'r oedfaon o'r bron yn ddidor. Byddai yr hen frawd a'r blaenor, John Griffith, yn dyweyd yn ddigrifol am dani,—'Mae holl grefydd Hannah Llwyd yn ei thraed.' Er fod llawer o bethau canmoladwy yn nghrefyddwyr y blynyddoedd hyny, eto nid oeddynt hwythau yn lân oddiwrth weddillion rhyw hen ddaroganau fyddai yn Nghymru yn y cyn oesoedd.

Mae rhai eto yn fyw, ond odid, yn cofio y seren gynffon fawr a ymddangosodd yn yr ehangder, yn y flwyddyn 1811. Yr ydoedd yn debyg o ran ei llun i ysgub fawr o wenith. Yr oedd ei maint, i'r llygad noeth, yn ymddangos yn llawer iawn mwy na'r un o'r cyffelyb fodau a welsom ar ol hyny. Mae rhai o'r seryddwyr yn dyweyd fod ei chynffon yn gan' miliwn o filldiroedd o hyd. Yr oedd daroganau fil yn ei chylch, bron trwy yr holl wlad. Mae Dr. Herschel yn dyweyd fod traws-fesur y seren wib hono (comet) yn un cant a saith-ar-ugain o filoedd o filldiroedd; a bod ei chynffon uwchlaw can' miliwn o filldiroedd o hyd ac hefyd, fod lled y gynffon yn bymtheg miliwn o filldiroedd. Yr oedd ei chynffon, nid fel llosgwrn ambell i anifail, yn hir unedig, ond yn ymwahanu neu yn lledu tua'r blaen, yn gywir fel yr ymwahana ysgyb o wenith wedi ei rhwymo yn agos i'w phen. Yr oedd yr olwg arni, hyd yn oed i'r llygad noeth, yn wir ardderchog a mawreddog. Yr oedd mor hawdd i'w gweled ar noson ddi-gwmmwl ag ydyw gweled yr haul. Fel yr awgrymwyd o'r blaen, yr oedd y daroganau yn ei chylch, yn peri llawer iawn o bryder ac ofn, yn mhlith rhyw ddosbarth o bobl. Dywedai rhai ei bod yn rhyw ragarwyddlun o ddinystr mawr ac ofnadwy ag oedd yn fuan i ddyfod ar y byd. Rhai a ddaroganai mai gwres a phoethder anoddefadwy fyddai hwnw, yr hwn a ddeifiai bob peth o'i flaen. Ereill a haerent mai newyn tost oedd i ddilyn, ac y byddai y trigolion yn meirw wrth y miloedd. Yr oedd rhai yn dyweyd am ryfel Ffraingc, yr hwn ar y pryd ag oedd yn creu mawr ddychryn, y byddai hwnw yn diweddu yn ein llwyr ddinystr. Yr ydym yn cofio wrth ddychwelyd o oedfa o Rhosllanerchrugog un noson, mai dyma oedd yn cael ei ddarogan a'i ofni. Yr oedd pryder meddwl rhai yn fawr yn herwydd y peth, yr hyn oedd yn creu ofn a dychryn yn mynwes ysgrifenydd hyn o hanes, yr hwn ar y pryd oedd yn bur ieuangc. Maddeued y darllenydd, am i ni fel hyn grwydro oddiwrth ein pwngc.

Y pregethwyr hynaf ydym yn eu cofio yn y daith sabbothol yr awgrymwyd am dani, er ys 60 mlynedd yn ol, oeddynt John Edwards, Gelli-gynan; Peter Roberts, Llansanan; John Llwyd, Llansanan; Mr. Jones, o Ddinbych; Mr. Ellis, o'r Wyddgrug; John Jones, Treffynon; John Davies, o Nantglyn; John Humphreys, o Gaerwys; William Jones, o Ruddlan; Evan Llwyd, Adwy'r Clawdd; Robert Roberts, Llanelwy (Rhos wedi hyny); Thomas Owens, Adwy'r Clawdd; Mr. Parry, Caerlleon; Edward Watkin a Jeremiah Williams. Hefyd, ychydig yn ddiweddarach, John Hughes, Llangollen; John Hughes dduwiol, a John Hughes ddoniol, y ddau o Adwy'r Clawdd. Byddai hefyd ambell i gomed fawr ac aruthrol yn rhoddi tro trwy ein hawyrgylch yn awr ac eilwaith, megys Elias o Fôn; Charles o'r Bala; John Evans, New Inn; Ebenezer Morris; Ebenezer Richards, a'i frawd Thomas; &c. Yr oedd nid yn unig oleuni yn y bodau hyny, ond yr oedd ganddynt hefyd wres mawr; a theimlid ei effeithiau tymmherus ac adfywhaol am fisoedd lawer ar ol eu dychweliad. Byddai parch mawr yn cael ei ddangos at weinidogaeth yr efengyl yn y dyddiau hyny, a byddai yr arddeliad fyddai arni ar brydiau yn wir nerthol ac effeithiol. Yr ydym yn cofio yn dda fod wedi bod yn gwrando ar yr holl enwogion a enwyd, yn hen gapel isel—wael Pentrefelin. Oddeutu'r flwyddyn 1811, ar noson waith, yr oedd John Prytherch, o Fôn, yn pregethu yn yr hen synagog. Tra yr ydoedd Mr. Prytherch yn gweddïo, fe ddaeth Christmas Evans i fewn. Cawsom bregethau tanllyd gan y ddau. Yr oedd peiriant dychymmygol Christmas, y noson hono, yn nerthol ac aruthrol, ond yn brydferth ac effeithiol. Yr oedd angenrheidrwydd mawr yn y dyddiau hyny am bregethu teithiol, oblegid dyma yr unig foddion iachawdwriaeth, o'r bron, oedd yn y wlad yn nghyraedd pawb. Yr oedd yr ysgolion sabbothol yn y blynyddoedd hyn megys yn eu mabandod; y Beiblau hefyd oeddynt yn anaml, a'r rhai a allent eu darllen yn dda yn anaml hefyd. Fel hyn yr oedd gwrando pregethu'r efengyl, a theithio llawer i'w gwrando, o angenrheidrwydd wedi dyfod yn beth cyffredin.

Priodol yn y lle hwn ydyw gwneyd crybwylliad am gyfarfodydd blynyddol ein tref, a gedwid yn y dyddiau hyny yn Jones's Hall, neu yn hytrach Jones's Square. Lle ydoedd hwn yn yr awyr agored, yn Queen-street, yn nghwr y dref, ffordd yr eir i'r Rhos-ddu. Mawr fyddai y cyrchu iddynt o bell ac agos. Byddai cymmydogaethau Llangollen, Rhosllanerchrugog, Adwy'r Clawdd, Caergwrle, &c., yn cyrchu yno yn fynteioedd lluosog iawn. Fe fyddai y cyfarfodydd hyn yn y blynyddoedd hyny yn dra bendithiol i'r cymmydogaethau cylchynol. Nid yn unig byddent yn fendithiol i ddychwelyd lluaws, ond hefyd i adeiladu yr eglwysi mewn pethau ysprydol, a chysuro'r saint ar daith eu pererindod. Adwaenid y cyfarfodydd hyn yn yr holl gymmydogaethau wrth yr enw 'Sasiwn y dref.' Yr oedd yr enw wedi dyfod mor ymarferol a chartrefol genym â'r enw 'Sasiwn y Bala.'

Enwau'r pregethwyr cyntaf ydym yn gofio yn dyfod i'r cyfarfodydd hyn ydynt, Mri. Charles, o'r Bala; Jones, o Ddinbych; Jones, Dôly-fonddu; Ebenezer Morris; Ebenezer a Thomas Richards; John Roberts, Llangwm; Michael Roberts; Evans, New Inn; John Elias; Thomas Edwards, Lerpwl; a Mr. Llwyd, Bala. Byddai amryw o Saeson y dref yn arfer dyfod i'r cyfarfodydd hyn i wrando John Elias, heb fod yn deall bron un gair o'r iaith. Yr oedd rhywbeth yn ngwedd Elias; yn ei lygaid; yn ysgogiad ei fraich a'i law; yn ei edrychiad: gosodai ei law ar ei fynwes weithiau; codai ei olygon i'r nefoedd ar y pryd, a gweddïai mewn hanner dwsin o eiriau, nes creu difrifwch a dychryn ar y mwyaf anystyriol. Bryd arall ymattaliai am hanner munyd heb ddyweyd un gair, a hyny yn yr amser y byddai ei fater, ei athrylith, a'i eiriau yn fwyaf nerthol ac ofnadwy. Byddai ei law yn ysgogi yn ol a blaen yn nghanol yr holl ddystawrwydd ymdorai wedi hyny yn fellt a tharanau ar ei wrandawyr nes byddai y bobl yn gwelwi, ac ar ddarfod am danynt. Estynai atynt wedi hyny gostrel yr efengyl, nes eu bywhau a'u hadloni. Byddai y Sais yn gweled y peth ofnadwy, er na byddai yn deall: a diammeu genym i lawer un adael y lle ac argraff o ddifrifwch ar ei galon.

Pa bryd y dechreuodd y cyfarfodydd hyn yn ein tref, yr ydym wedi methu a chael allan, er pob ymchwiliad; a pha beth a roddodd derfyn arnynt, nid ydym yn gwybod. Yr ydym yn cofio rhai o'r cyfarfodydd eglwysig a gynhelid ar y pryd, yn hen gapel Pentrefelin. Yr ydym yn cofio hefyd beth oedd rhai o'r materion yr ymdriniwyd â hwy. Y mater mewn un sasiwn oedd "Teyrnas ysbrydol yr Arglwydd Iesu ar y ddaear." Yr ydym yn cofio mai John Roberts, o Langwm, oedd yn rhoi y mater i lawr. Wrth wneyd hyny, dywedai pwy oedd 'Brenin y deyrnas, beth oedd cyfreithiau y deyrnas, a phwy oedd deiliaid y deyrnas, &c.'

Mewn sasiwn arall, yr ydym yn cofio mai 'ofn' oedd y pwngc. Nid oes genym ar gôf ddim o'r sylwadau. Yr ydym yn cofio cymmaint a hyn, sef fod Enoch Evans, o'r Bala, yn eistedd ar un o'r meingciau ar lawr y capel, ac iddo godi ar ei draed yn fyrbwyll a sydyn, a dywedyd, "Dydyw ofn grefydd yn y byd." Eisteddodd eilwaith heb ddyweyd un gair yn rhagor. Yr ydym yn cofio i'r dywediad byr a dyeithr beri i aml un ar y pryd wenu.

Mewn sasiwn arall, 'Y sabboth a'i gadwraeth' oedd y mater. Wedi i'r naill a'r llall o'r brodyr fod wrthi yn traethu eu syniadau ar y pwngc, fe safodd y Parch. Simon Llwyd, o'r Bala, i fyny ac a ddywedodd y dylid galw y dydd yn awr, oddi tan oruchwyliaeth yr efengyl, neu y Testament Newydd, nid y 'sabboth,' ond 'dydd yr Arglwydd.' Ar ol i'r hen dad parchus draethu ei syniadau ar y dydd, a'r ddyledswydd o'i gadw yn sanctaidd, a chymhell ei frodyr o hyny allan i'w alw 'dydd yr Arglwydd,' ac nid y sabboth, efe a eisteddodd. Yna fe gododd John Jones, Treffynnon, ar ei draed ac a ddywedodd, a'i wên ar ei enau, 'Ho, wel; mae yn rhaid i Meistar Llwyd yma fod yn ddoethach na ni i gyd; wel, ni dreiwn gofio o hyn allan os medrwn, a'i alw yn 'ddydd yr Arglwydd.'

Yr ydym yn cofio er yn ieuangc, y byddai John Elias yn ymweled â'n tref yn lled fynych, ac yn cael cynnulleidfaoedd lluosog i wrando arno; a byddai rhyw nerthoedd ac arddeliad rhyfedd ar ei weinidogaeth. Yr oedd hen gapel helaeth y pryd hwnw yn Chester-street, yn y dref, perthynol i'r Presbyteriaid Seisnig. Yr oedd y capel hwnw yn sefyll ar y llanerch ar ba un yr adeiladwyd yr un newydd presenol. Pan y byddai John Elias yn dyfod ar ei deithiau trwy y dref, byddai y brodyr yn y lle hwn bob amser yn cael benthyg y capel hwnw, i Elias bregethu ynddo. Yr oedd y pregethau cyntaf a glywsom gan Elias ynddo oddeutu'r blynyddoedd 1809 ac 1810. Diammeu iddo bregethu llawer ynddo cyn y blynyddoedd uchod, ac felly cyn ein hamser ni. Yr oedd y capel, a'r gynnulleidfa fyddai yn arfer gwrando ynddo, yn un pur barchus. Byddai Elias bob tro, bron yn ddieithriad, yn galw sylw ei wrandawyr at hyn; sef ei fod yn lle glanwaith a pharchus, a'r gynnulleidfa fyddai yn arfer gwrando ynddo felly hefyd. Taer erfyniai arnynt am ofalu ymddwyn yn foesgar yn y lle, a pheidio a chnoi tybaco, a phoeri yn yr eisteddleoedd, i beri gwarth arno ef a hwythau; ac nid hyny yn unig, ond ar y cyfundeb, ac ar genedl y Cymry.

Enw gweinidog y lle oedd Mr. Brown. Yr ydym yn cofio y byddai Elias bob amser ar ddiwedd y bregeth yn gweddïo yn daer drosto, a thros ei eglwys a'i wrandawyr. Gweddïai am i wir a phur athrawiaeth yr efengyl gael ei phregethu allan o'r pulpyd hwnw. Ni dybiem ar y pryd, mai nid gwneuthur hyn o ryw ddefod a ffasiwn yr oedd efe; ond byddai fel dyn o ddifrif yn gwneyd hyny.

Yr ydym yn ei gofio yn pregethu yno un noson, ar ei ddychweliad o Gaerlleon, oddeutu'r flwyddyn 1813. Yr oedd yr oedfa hono yn debyg i gyfarfod dydd y Pentecost, a rhyw wynt nerthol yn rhuthro, a mawr fu'r sôn am y bregeth ar ol hyny. Ei destyn oedd y geiriau, 'Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant.' Yr oedd y desgrifiad a gawsom y noson hono o ddioddefiadau Crist, a'r rhaid' ag oedd yn mynu dwyn hyny oddiamgylch, yn bethau a hir gofiwyd gan laweroedd.

Diammeu i'r hen frodyr a'r hen chwiorydd yn ac oddeutu'r blynyddoedd hyny gael llawer gwledd felus. Buasai yn ddymunol iawn allu côfrestru amryw o'r hynaf rai yn y lle, y rhai a ddygasant bwys y dydd a'r gwres; ond nis gallwn wneyd hyny ond yn lled anmherffaith; ond amcanwn wneuthur ein goreu yn hyn. Y rhai hynaf hyd y cawsom yr hanes, a chyn belled y gwyddom ein hunain, oeddynt, Mr. Jones, ironmonger, a'i briod gyntaf; Mr. Jones, Coed-y-Glyn; Mrs. Jones, y Siop, Pentrefelin (tŷ yr hon ydoedd yn dŷ y capel). Yr oedd yr hen chwaer ddiweddaf hon, debygid, yn un o hen aelodau hynaf Adwy'r Clawdd. Beti Edwards, o Bursham, hefyd; a John a Cati Thomas; dau garictor lled hynod oedd y ddau hyn, ond gwir grefyddol: William Davies, hefyd, a'i wraig; Mrs. Davies, Erddig; John Roberts, y teiliwr, a'i wraig Dorothy. Yr ydym yn cofio gweled yn fynych yn nghapel Pentrefelin, hen ŵr mawr o gorpholaeth, a'r olwg arno yn bur foneddigaidd. Gelwid ef, o herwydd ei swydd yn y filwriaeth, y 'Cadben Jones,' ac weithiau gelwid ef Yr hen 'Adjutant.' Efe yn y cyffredin, yn y blynyddoedd cyntaf hyny, fyddai y cadeirydd yn nghyfarfodydd cyhoeddus y 'Feibl Gymdeithas,' pan yn y dref. Nid ydym yn gwybod i sicrwydd a oedd efe yn aelod o'r frawdoliaeth yn Mhentrefelin ai nad oedd, dichon mai yn achlysurol y byddai efe yno: gwyddom i ni ei weled ef yno lawer o weithiau, a bod yn gwrando arno. Y nesaf gawn ei henwi ydyw Mrs. Jones, ail wraig Mr. Jones, ironmonger; dylasem mewn trefn enwi y chwaer hono yn gynt. Evan Lloyd, hefyd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fachgen ieuangc; ac Elizabeth ei chwaer. Mab a merch ydyw y ddau ddiweddaf hyn i'r hen batriarch o Adwy'r Clawdd-Evan Llwyd. Un Mrs. Rogers hefyd, yr hon yn awr sydd yn Seacombe, gerllaw Birkenhead, gwraig un o'r blaenoriaid. Dyddiau'r Sulgwyn yn Liverpool, y flwyddyn hon, 1869, fer ddywedodd Mrs. Rogers wrthym mai hi ei hunan, er's ychydig uwchlaw triugain mlynedd yn ol, ac un Ellenor Ellis (Mrs. Phillips wedi hyny), Sarah Roberts (Mrs. Gummow wedi hyny), a Lydia, morwyn Mrs. Jones, ironmonger, yr hon wedi hyny a ddaeth i fod yn wraig Daniel Jones, oedd y pedair lodesi cyntaf, y sabboth cyntaf y dechreuwyd cadw ysgol sabbothol yn nghapel Pentrefelin. Yr olaf a enwn ydyw Mrs. Giller, Erddig Lodge. Awgrymwyd o'r blaen am John a Cati Thomas, eu bod yn ddau garictor lled hynod; felly yr oeddynt. Yr oedd John yn rhyw chwerwyn pigog, ar ei ben ei hunan. Os gofynid rhywbeth iddo, byddai ei atebion yn fyrion a sychion; ei ddull o siarad yn hynod o'r crabet a diserch. Gwyddom am ffarmdŷ lle y bu yn gweithio am lawer o flynyddoedd: clywsom ei hen feistr, o'r lle hwnw, yn dyweyd am dano, ei fod yn un o'r dynion cywiraf, ffyddlonaf a_gonestaf ag a fu erioed yn gwasanaethu. Er fod llawer o bethau od ac annymunol yn perthyn iddo, eto yr oedd llawer o'r cristion i'w ganfod ynddo, yn nghanol ei holl waeledd. Fel hyny hefyd yn gyffelyb y byddai Cati ei wraig. Difyrus iawn genym fyddai gwrando ar Thomas Edwards, y blaenor, yn adrodd eu hanes. Yr oedd y ddau, er pob ffaeledd oedd ynddynt, yn unplyg, cywir, a gwir grefyddol. Yr oedd Thomas Edwards yn dyweyd wrthym am Cati, fod cryn lawer o ysbryd arglwyddiaethu yn yr hen chwaer. Byddai yn controwlio llawer iawn; gan orchymyn y peth hyn, cyfarwyddo am beth arall, ac awgrymu rhywbeth am y trydydd; ac os na byddai sylw yn cael ei dalu, ac ufydd-dod yn cael ei roddi, byddai gwyneb go hir yn cael ei dynu, a crychian gwgus yn gwneyd ei ymddangosiad yn y wyneb. Byddai rhyw yspryd lled annymunol yn cymmeryd meddiant o'r hen chwaer ar brydiau, a byddai ganddi dri o enwau ar Thomas Edwards, meddai ef; sef, Tom; Twm; a Thomas. Yn y tri enw hyny y byddai yntau yn deall arwyddion yr amserau. Pan y byddai yr awyrgylch yn glir, yr hinsawdd yn dymherus, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, Tom fyddai yr enw y pryd hwnw, a byddent yn mwynhau cymdeithas eu gilydd yn bur ddymunol. Ond os byddai yr enw Twm yn dyfod allan, byddai yr awyrgylch yn dechreu duo, ac aelau yr hen chwaer yn dechreu llaesu, ei llygaid yn dechreu melltenu, ac ambell i daran-follt o air nes peri tipyn o ysgydwad. Pan y byddai pethau wedi dyfod i hyn, byddai yn rhaid i'r hen frawd fod ar y look out am rhyw loches i redeg iddi. Ond pan y galwai hi ef Thomas, byddai yn rhaid iddo gymmeryd y traed a diangc am ei fywyd, oblegid yn awr byddai yr ystorm yn dechreu ymdywallt yn aruthrol, a gwell o lawer fyddai diangc, na mentro sefyll yn yr hurricane.

Yn y flwyddyn 1819, fe ddaeth John Hughes, y pregethwr, o Adwy'r Clawdd, i'r dref i fyw, ac yn Fairfield House efe a ddechreuodd gadw ysgol. Galwai Dafydd Rolant yr ysgol hon yn 'Athrofa'r Methodistiaid;' ac mewn llawer ystyr nid mor anmhriodol, oblegid yr oedd yn debygach i'r cyfryw le nag i ddim arall. Fe fu dyfodiad Mr. Hughes i'r dref, a'i ymsefydliad yno fel athraw, yn rhyw ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos, yn enwedig yn y cyfarfodydd eglwysig. Gan i'r brodyr yn lled fuan ar ol i Mr. Hughes ddyfod i'r dref ysgogi at adeiladu capel Abbot-street, fe ddichon fod ei ddyfodiad atynt, yn mhlith pethau ereill, wedi prysuro'r peth yn ei flaen. Yn lled fuan wedi i Mr. Hughes ymsefydlu yn y dref, fe ddaeth amryw bregethwyr ato i'r ysgol. Yr oedd rhai o honynt, yn enwedig y rhai cyntaf, wedi myned i wth o oedran-megys Daniel Evans; Foulk Evans; a Dafydd Rolant. Dygwyddodd anffawd ddigrifol i Foulk Evans tra yn yr ysgol, yr hyn ar ol hyny a barai lawer o chwerthin diniwed yn mhlith yr ysgolheigion. Yr oedd Foulk, a brawd arall iddo yn y weinidogaeth, yn cyd-fyned ar noson dywyll i'r hen gapel, i'r cyfarfod eglwysig. Ryw fodd neu gilydd, aeth y ddau yn rhy agos i'r afon gerllaw y tŷ y llettyent ynddo, a'r anffawd drwsdan fu, fe syrthiodd Foulk druan ddyn, ar ei hyd gyd i ganol yr afon, a gwlychodd yn sopen. Er nad oedd ar y pryd ddigon o ddwfr i'w foddi, eto efe a gafodd drochfa iawn. 'Doedd dim erbyn hyn iddo i'w wneyd ond dychwelyd i'w letty gynta' gallai i newid ei ddillad. Aeth ei gyfaill, Daniel Evans, yn ei flaen i'r capel. Wedi eistedd am enyd, trodd at Mr. Hughes, eu hathraw, a rhoddodd air yn ei glust am yr hyn a ddygwyddasai i Foulk. Cododd hyn y fath ysgafnder ar Mr. Hughes fel mai prin y gallai ei feddiannu ei hunan rhag chwerthin allan, er ei fod yn y capel. Gan fod Mr. Hughes o dymherau naturiol mor ysgafn a llawen, yr oedd gweled Foulk yn mhen ychydig funydau yn dyfod trwy ddrws y capel, yn adnewyddu ysgafnder ei feddwl, a bu y tro yn radd o brofedigaeth iddo ar hyd y cyfarfod. Yr oedd cymmaint o ddifrifwch, er hyny, yn meddiannu Foulk, a phe buasai ar fedd ei fam. Yr oedd Daniel Evans a Foulk Evans yn ddigon hen ar y pryd i'w rhestru yn nosbarth yr hen langciau; ond yr oedd Dafydd Rolant dipyn yn ieuengach. Richard Wynn, y Borth, hefyd; Robert Thomas, Llidiardau, a Dafydd Jones, Llanllyfni, a ddaethant i'r ysgol yn lled fuan ar ol y lleill. Hen ysgolorion Mr. Hughes ydyw Thomas Francis; Richard Edwards, Llangollen; John Davies, Nerquis; Robert Hughes, o Gaerwen; Roger Edwards, Wyddgrug, &c. Nid ydyw hyn ond ychydig o nifer y rhai a dderbyniasant addysg gan Mr. Hughes.

Bu Mr. Hughes yn ffyddlon a llafurus, tra yn Ngwrecsam, nid yn unig yn y cynnulliadau eglwysig, ond hefyd yn y pulpyd yn y weinidogaeth gyhoeddus. Cafodd ei briod gyntaf ef hir a thrwm gystudd. Bu am amser maith fel yn dihoeni, ac yn nychu, hyd nes o'r diwedd yr hunodd yn yr angeu. Yr oedd hir gystudd Mrs. Hughes, mewn effaith, fel yn troi allan yn ennill ac yn fendith i'r achos yn y lle; canys yr oedd ei chystudd hi yn ei rwymo ef o angenrheidrwydd i fod lawer o'i amser yn ei gartref, a hyny ar y sabbothau.

Er fod Mr. Hughes yn cael llawer o anhunedd, fel y gellir casglu, eto efe a ddefnyddiodd yr amser gwerthfawr hwnw i bregethu efengyl y deyrnas i'w gyd-genedl yn y dref. Fel hyn, ni welwn, y bu i ragluniaeth ddoeth a da drefnu i'r achos yn Ngwrecsam gael llawer iawn o wasanaeth Mr. Hughes, yr hwn wasanaeth hefyd a fawr brisid ganddynt, ac a fu hefyd yn fendithiol iawn yn eu plith.

Heblaw y byddai Mr. Hughes yn eu gwasanaeth fel hyn ar y sabbothau, byddai hefyd yn pregethu llawer yn nosweithiau yr wythnos. Wrth i ni ystyried profedigaethau ei feddwl yn herwydd ei briod gystuddiedig, a'r gofal oedd arno yn nghylch yr ysgol, yr oedd yn rhaid fod ei lafur a'i ffyddlondeb yn fawr. Fe fu dyfodiad Mr. Hughes i'r dref, mewn cysylltiad â'r lluaws pregethwyr a ddaeth ato i'r ysgol, nid yn unig yn gyfnerthiad ac yn adnewyddiad i'r achos yn Mhentrefelin, ac yn Abbot-street ar ol hyny, ond hefyd i'r ardaloedd cylchynol yn gyffredinol.

Byddai amryw o'r pregethwyr yn hwyr ddyddiau'r wythnos, yn yr hâf, yn pregethu yn y cymmydogaethau gerllaw y dref, a hyny yn fynych. Byddai Mr. Hughes a Dafydd Rolant yn myned gyda'u gilydd yn fynych i Adwy'r Clawdd, a Harwood, a manau ereill. Felly hefyd y byddent yn myned i gynnorthwyo i gynnal cyfarfodydd eglwysig. Byddai gwasanaeth Daniel Evans yn cael ei brisio yn fawr yn eglwysi y cymmydogaethau, yn enwedig yn Adwy'r Clawdd.

Yn, ac oddeutu'r blynyddoedd hyn, yr oedd Mrs. Jones, gweddw y diweddar Mr. Jones, ironmonger, y cyfeiriwyd ati o'r blaen, yn dangos llawer iawn o garedigrwydd at Mr. Hughes, fel y dywed efe ei hunan yn 'Methodistiaeth Cymru,' ac hefyd at y pregethwyr fyddai gydag ef tan addysg. Mynych iawn y byddai yn gwahodd y naill a'r llall o honynt i fyned i'w thŷ, yn High-street, i gadw'r ddyledswydd deuluaidd. Bwlch mawr yn yr hanes, ni dybiem, fyddai peidio a gwneuthur crybwylliad am y chwaer dduwiol, haelfrydig, a charedig hon. Er ei bod yn foneddiges anrhydeddus, yn berchen cyfoeth mawr, yn troi llawer yn mhlith y mawrion, yn cael edrych arni fel un o'r rhai mwyaf parchus yn y dref, eto yr oedd yn gristion gostyngedig a hunanymwadol.

Er mai ychydig nifer oedd yr eglwys yn hen gapel Pentrefelin, a'r rhai hyny gan mwyaf yn isel eu hamgylchiadau, eto gwnaeth ei chartref yn eu plith, gan ystyried ei bod yn wir fraint cael perthyn i'r frawdoliaeth, serch bod yr olwg allanol arnynt yn wael a thlodaidd. Mae Mr. Hughes yn y 'Methodistiaeth' yn codi ei chymmeriad yn uchel iawn.

Dangosodd lawer o ofal am, a charedigrwydd i'r pregethwyr, pan yn yr ysgol yn Fairfield. Yr oedd Mrs. Jones y pryd hwnw yn preswylio yn High-street yn y dref, fel y dywedwyd o'r blaen, yn y tŷ gwychaf yn yr heol ar y pryd, o ddigon. Mae yr hen letty fforddolion hwnw yn etifeddiaeth y teulu eto, ac yn cael ei ardrethu gan un Mr. Lloyd, draper, &c.

Yr ydym yn cofio yn dda, er ys yn agos i driugain mlynedd yn ol, y byddai y wedd a'r olwg oedd ar amryw o bregethwyr y Methodistiaid yn dra gwahanol i'r peth ydynt yn awr. Byddai amryw o honynt ar ddyddiau gwaith, pan ar eu teithiau yn pregethu, yn dyfod at front tŷ Mrs. Jones, a hyny ar gefnau rhyw fân ferliwns, a'u saddle-bags ar y cyfrwyau odditanynt, a'u gwisgoedd, rai o honynt, yn freision a llwydion, a'r olwg arnynt yn wladaidd a thlodaidd. Byddent yn aml, yn herwydd girwindeb y tywydd, a'r ffyrdd tomlyd a deithient, yn ddigon annghymhwys i fyned i dŷ. Er pob peth o'r fath, byddai y foneddiges garedig yn eu cyfarfod ei hunan yn front y tŷ, yn eu derbyn yn siriol, ac yn ymddwyn tuag atynt nid fel dyeithriaid ac estroniaid, ond fel cenhadau hedd, a gweision i Grist. Gwelwyd hi laweroedd o weithiau yn cyd-gerdded â'r dynion hyn, ar hyd yr heolydd o'i thŷ ei hun i gapel Pentrefelin, heb ostwng pen, na gwneyd ysgwydd i gilio. Mae yn rhaid fod ynddi râs mawr, a rhaid fod gostyngeiddrwydd a hunanymwadiad yn llywodraethu ei chalon. Bu ei thŷ yn amser ei phriod, ac yn ei hamser hithau ar ol ei phriod, yn unig letty yn y dref i bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd, am flynyddau lawer; ac nid oedd dim ar a allai yn ormod ganddi ei wneuthur at gysuro a lloni y rhai a bregethent y gair. Clywsom hen forwyn i Mrs. Jones, yr hon ar y pryd oedd yn ferch ieuangc grefyddol, yr hon hefyd tra yr ydym yn ysgrifenu'r hanes sydd eto yn fyw, yn dyweyd ei bod yn gwybod y byddai Mrs. Jones yn rhoddi llawer o arian yn nwylaw pregethwyr, yn enwedig rhai isel eu hamgylchiadau, a rhai y byddai eu teuluoedd yn fawrion: gwnai hyny yn hollol annibynol ar yr hyn a gyfrenid iddynt gan yr eglwys. Y ferch ieuangc hon, wrth drefnu'r ystafell un boreu, yn yr hon y cysgai'r pregethwr y noson o'r blaen, a gafodd hanner coron ar y carped, yn agos i'r gwely; cymmerodd ef i'w meistres, a dywedodd wrthi y lle y cafodd ef. 'Hanner coron ydyw hwn (ebe hi wrth y forwyn) a roddais i yn llaw William Jones, Rhuddlan, y dydd o'r blaen.' Y cyfle cyntaf a gafwyd, rhoddwyd yr hanner coron i'r gŵr a'i collodd o'i logell. Fel hyn, trwy'r blynyddoedd, y byddai y foneddiges haelfrydig hon yn rhoddi yn nwylaw pregethwyr lawer iawn o'i harian. Byddai yn werth i ymdeithydd Methodistaidd, pan yn myned trwy High-street yn y dref, daflu ei olygon ar yr hen gartrefle bythol gofiadwy, lle y byddai holl dadau y Methodistiaid, o'r de a'r gogledd, yn derbyn y caredigrwydd mwyaf.

Yn mhen oddeutu ugain mlynedd ar ol symud yr addoliad o Bentrefelin i Abbot-street, fe gymmerodd y foneddiges hon hen chwaer gyda hi, ac aethant i dalu ymweliad â'r hen gapel, yr hwn erbyn hyn, er's blynyddau, oedd wedi ei wneyd yn siop gof hoelion. Wedi cyraedd y lle, aeth y ddwy i mewn; Mrs. Jones wedi troi ac edrych o'i chwmpas, a wylodd y dagrau yn hidl, ac a ddywedodd, 'O ryfedd, dyma'r fan ag y gwelais i y nardis ar y bwrdd ddegau o weithiau, yn pêrarogli yn sweet a hyfryd; ïe, dyma'r fan, er mor salw ei wedd, ag y cafodd fy enaid tlawd lawer gwledd felus.' Yr oedd sefyll yn y lle am ychydig funydau, ac adgofion o'r hen flynyddoedd gynt yn cael adgyfodiad yn ei hysbryd, yn peri fod tymherau'r hen foneddiges yn myned yn llaprau yn y lle. Fe fu i'r chwaer rinweddol, garedig, a theimladwy hon, wneuthur llawer aelwyd oer yn aelwyd gynhes; llawer cylla gwag yn gylla llawn; llawer cefn llwm a wisgwyd ganddi hyd glydwch; ïe, llawer gwely, yr hwn yr oedd ei gwrlid yn fyr a theneu, a orchuddiwyd ganddi â gwrthbanau mawrion, tewion a chynhes. Mae hen forwyn iddi yn awr yn fyw, yr hon sydd yn barod i dystio y byddai fel Job yn chwilio allan y tlodi nas gwyddai am dano. Gadawn yr hen chwaer hon, yn awr, y Ddorcas Gymreig, heb ddyweyd dim yn rhagor am dani, mwy na dymuno heddwch i'w llwch.

Soniasom o'r blaen am y ddau flaenor cyntaf, y rhai a wasanaethasant yn unig yn nghapel Pentrefelin. Awn yn mlaen yn awr i sôn am y dosbarth nesaf o flaenoriaid, y rhai a wasanaethasant mewn rhan yn Mhentrefelin, ac mewn rhan yn Abbot-street. Y cyntaf yn y rhestr ydyw, Daniel Jones; brawd oedd hwn i Thomas Glyn Jones, Ffynnon Groew: Thomas Edwards hefyd; Isaac Kerkham; a Richard Hughes; yr hwn, tra yr ydym yn ysgrifenu yr hanes, sydd eto yn fyw, a'r unig un o'r hen flaenoriaid fuont yn cyd-oesi âg ef. Brawd ydyw ef i'r diweddar Barch. J. Hughes, Gwrecsam, a Liverpool yn ei flynyddau olaf. Yr oedd Daniel Jones, yn y dyddiau hyny, yn ddyn ar y blaen megys, ac yn rhagori mewn rhyw bethau ar ddosbarth lled fawr o swyddogion y dyddiau hyny. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth led helaeth; a manwl iawn yn mhob peth. Yr oedd yn hynod o'r llafurus a medrus gyda'r ysgolion sabbothol, a hyny yn lled fuan ar ol eu sefydliad. Bu Mr. Charles, o'r Bala, ar ben ei anfon i Lundain, a hyny yn fuan ar ol sefydlu y Feibl Gymdeithas. Bwriedid iddo fod at wasanaeth y Gymdeithas, yn benaf gydag argraphu y Beiblau Cymreig. Pa beth a rwystrodd ddwyn hyny i ben, nid ydym yn gwybod. Yr oedd yr hen frawd hwn, yn ei ddyddiau diweddaf, yn ddarostyngedig i fyned yn bur isel ei feddwl, ac i ddychymygu y byddai yn sâl, pan mewn gwirionedd nad oedd dim arno, ond rhywbeth yn ei fympwy dychymygol ef ei hunan. Gwelsom ef cyn hyn, hir ddydd hâf, yn y gwres a'r poethder mwyaf, yn rhoddi o wisgoedd am dano, ddyblygion ar ddyblygion, bron hanner pwn asyn: byddai yn arfer, pan yn yr ystât meddwl hwnw, a gwisgo siôl fawr a thew am ei wddf, fel mai prin, ar brydiau, y gallem weled blaen ei drwyn Pan y byddai yn dyweyd rhywbeth yn y cyfarfod eglwysig, byddai yn gwneyd hyny yn gyffredin gan gerdded ar y pryd, yn ol a blaen ar hyd llawr y capel. Wrth ei weled fel hyn yn ymsymmud yn ein plith, a'r fath lwyth o wisgoedd am dano, yr oedd yn anhawdd iawn peidio gwenu. Safai yn sydyn weithiau wrth gerdded felly, a dywedai, 'Pe gwyddwn y gwrandawech yn well arnaf, mi a darawwn fy nhroed yn y llawr;' ac efe a wnai felly ar y pryd, nes cyffroi pawb o'i gwmpas. Mae yn ddrwg genym hysbysu, fod rhan fawr o ganol ei oes wedi myned heibio heb iddo fod o nemawr wasanaeth cyhoeddus i grefydd Dygwyddodd hyn yn herwydd dyryswch yn ei fasnach a'i amgylchiadau. Bu farw wedi cyraedd gwth o oedran, yn gristion cywir, gloew a phrofiadol. Yr oedd efe a'r diweddar Barch Thomas Jones, o Ddinbych, yn gyfeillion mynwesol, ac yn arfer ysgrifenu at eu gilydd lythyrau lawer. Yr oedd Mr. Daniel Jones wedi llwyr benderfynu yn ei feddwl, pe cawsai fyw ychydig yn hwy, i ysgrifenu yr hyn yr ydym ni yn awr yn ei ysgrifenu: buasai yr hyn sydd i ni erbyn hyn wedi dyfod yn beth anhawdd, iddo ef yn beth rhwydd ac esmwyth. Yn gysylltiedig â hyn, yr oedd Mr. Jones wedi bwriadu. cyhoeddi llawer o'r ohebiaeth fu rhyngddo ef a'r Parchedigion T. Charles, Bala, a T. Jones, Dinbych. Cyn cwblhau o hono yr hyn a arfaethasai, efe a hunodd, ac a ddodwyd yn y beddrod gyda'i dadau.

Blaenor arall a enwasom oedd Thomas Edwards, hen ŵr heb fod yn fawr o gorpholaeth; penfoel, glandeg a siriol; hynod o'r twt bob amser yn ei wisgoedd. Er na chafodd nemawr fanteision yn ei ddyddiau boreuol, eto yr oedd wedi cyraedd gwybodaeth fanwl yn yr ysgrythyrau, ac wedi dyfod yn dduwinydd da. Yr oedd yn swyddog eglwysig gofalus a ffyddlon; yn yr ystyr hwnw, yn un o'r rhai goreu a adnabuasom erioed. Hefyd, yr oedd yn dywysog pan ar ei luniau yn gweddïo. Tynodd ei gwys yn uniawn i'r pen, a bu farw a'i enaid yn orlawn o dangnefedd a gorfoledd yr efengyl.

Y trydydd a enwyd oedd Isaac Kerkham. Daeth Mr. Kerkham o Gaergwrle i Wrecsam oddeutu'r flwyddyn 1818, efe a'i wraig, a dwy chwaer i'r wraig yr ieuengaf, wedi hyn, a ddaeth yn wraig i Mr. Richard Hughes, stationer, o'r dref hon, a mam Mr. Charles Hughes, yr hwn wedi hyn a ddewiswyd yn un o ddiaconiaid yr achos Methodistaidd Seisnig yn y dref. Y chwaer arall, a'r hynaf, a ddaeth yn wraig i Mr. Pearce, Beast Market. Bu y ddwy byw yn addurn i grefydd, a buont feirw a'u gobaith yn y Gwaredwr. Yr oedd Mr. Kerkham yn ddiacon eglwysig pan yn Nghaergwrle, cyn dyfod o hono i Wrecsam yr oedd efe hefyd yn ganiedydd rhagorol o beraidd, yn berchen llais uchel a soniarus. Efe ydoedd blaenor y gân yn Nghaergwrle, a rhoddwyd y gorchwyl o ddechreu canu iddo yn Wrecsam, yn lled fuan wedi ei ddyfodiad i'r lle. Un o'r hen sort oedd Kerkham yn canu. Byddai rhyw bereidd-dra swynol yn ei lais. Canai rai o hen donau yr amseroedd hyny, trwy hir leisio, nes gwneyd y canu yn effeithiol iawn. Yr oedd rhyw grynfa naturiol yn ei lais, ac yr oedd hyny rywfodd yn ei wneuthur yn llawer mwy dymunol ac effeithiol. Byddent weithiau yn yr addoliad yn dyblu ar ddyblu, a byddai rhyw sain moliant ac addoli yn y dyblu. Nid ydym yn gwybod a oedd Kerkham yn deall rheolau cerddoriaeth ai nad oedd; nid ydym yn gwybod i ni erioed weled llyfr notes o un math yn ei law. Beth bynag am hyny, yr oedd fel un yn canu â'r ysbryd, ac â'r deall hefyd, gan ymbyncio yn ei galon foliant yr Arglwydd. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i'r dref, fe'i galwyd gan ei frodyr yn y lle i wasanaethu swydd ddeaconiaeth yn eu plith. Yr oedd yn ddyn o dalentau naturiol lled fawr, galluog i ddyweyd ei feddwl, ac o ansawdd ysbryd pur benderfynol. Yr oedd yn un rhagorol fel yr oedd yn meddu ysbryd gweddi, ac hefyd yn un medrus a chymhwys yn y cyfarfodydd eglwysig; sef mewn ymddiddan, cynghori, rhybuddio, a chysuro'r saint. Ond fel y dywed yr hen ddihareb, 'Yr hwn sydd heb ei fai sydd hefyd heb ei eni.' Mae rhai yn dyweyd, ag oeddynt yn ei gofio ac yn ei adnabod yn dda, ei fod fel un yn tybied fod tipyn o waed brenhinol yn ei wythïenau, ac amcanai weithiau at fod yn dipyn o frenin; a byddai ei lywodraeth o'r braidd yn tueddu i fod yn awdurdodol, caled, a thra arglwyddiaethol. Fe allai fod hyny yn fwy tueddol i ambell un yn y cyfnod hwnw nag yn y cyfnod presenol, a hyny o herwydd amryw bethau. Dyn gwir dda oedd Kerkham er hyny, a barnu yr ydym yn ddiduedd mewn barn cariad, bod ei ddyben yn gywir yn yr oll, os oedd hyn yn dipyn o goll a ffaeledd ynddo. Bu yntau a'i wraig yn anrhydedd i grefydd, yn eu bywyd a'u marwolaeth.

Fe fu yn ein plith rai eraill diweddarach yn gwasanaethu fel blaenoriaid, y rhai, erbyn hyn, ydynt oll wedi huno. Mwy priodol ac amserol fuasai coffâu am y brodyr nesaf hyn yn y cyfnod diweddaf o'r hanes, ond er mwyn iddynt fod yn gryno gyda'u gilydd, esgusoder ni am goffâu am danynt yn y lle hwn. Gwnawn yr un modd hefyd am ein gweinidogion a'n pregethwyr ymadawedig, er y buasai yn fwy amserol iddynt hwythau fod yn y cyfnod olaf. Un o'r rhai hyn, a'r cyntaf a enwn, oedd gŵr o Rosesmor, o'r enw Thomas Jones. Yr oedd hwn yn flaenor mewn eglwysi eraill cyn dyfod o hono i Wrecsam. Hen ŵr call oedd yntau, pur gyfarwydd yn yr ysgrythyrau. Cyfarfyddodd y brawd hwn â phrofedigaeth meddwl lem iawn, a hyny bron yn niwedd ei ddyddiau; canys fe'i hudwyd, ac fe'i temtiwyd o'r bron, i wadu'r ffydd.

Yr oedd mab i Thomas Jones, o'r enw Dan, yr hwn a aeth drosodd i'r Amerig, ac yno a aeth yn un o ddisgyblion y diweddar Joe Smith, ac felly yn un o 'Saint y dyddiau diweddaf.' Ar ol marwolaeth Joe, fe ddychwelodd Dan i'r wlad hon. Yn fuan wedi iddo fod yn y dref, yn nghymdeithas ei dad, bu agos iddo a'i siglo, a'i hudo i gredu yr un ynfydrwydd ag ef ei hunan, sef athrawiaethau penchwiban a ffol Joe Smith. Fodd bynag, fe welodd yr hen frawd ei ynfydrwydd cyn myned o hono yn rhy bell, ac fe'i gwaredwyd megys o safn y llew. Bu farw gan ffieiddio y syniadau hyny, ac ymddiried ei enaid ar yr hen wirionedd a gredasai gynt. Un arall oedd William Evans. Excise officer oedd hwn, a ddaeth i'r dref hon o ddeheudir Cymru. Hen ŵr duwiol oedd hwn hefyd, call, tawel, diniwed, a diymhongar. Nid hir y bu yn ein plith; yr oedd yn gristion amlwg, yn gwasanaethu ei swydd yn ffyddlon: yr oedd yr hyn oll a ddywedai yn ein cyfarfodydd eglwysig yn profi ei fod yn ddyn o syniadau ysbrydol a phrofiadol. Ar ryw foreu sabboth, bu farw yn sydyn, ac annysgwyliadwy i bawb. Hen frawd arall oedd Thomas Jones, o Gaerlleon, saer llongau wrth ei gelfyddyd. Symmudodd o Gaer i'r Runcorn, a daeth oddi yno i Wrecsam. Hen frawd oedd hwn yn rhagori mewn bod yn grefyddol: bob amser ar uchel-fanau'r maes, ac yn hynod o'r awelog. Bu yntau hefyd farw mewn ffydd, yn gristion defnyddiol gyda'r achos i ddiwedd ei oes. Fe fu yma un o'r enw William Owen, er's 60 mlynedd yn ol, ond nid ydym yn bur sicr a oedd efe yn flaenor; dychwelodd i Manchester, o'r lle hefyd y daethai, ac yno y bu farw. Yr ydym yn cofio am ŵr o'r enw Owen Ellis; efe y pryd hwnw yn yr hen gapel oedd yn dechreu canu. Yr oedd hyny cyn amser Mr. Kerkham. Yr ydym wedi methu a chael allan i foddlonrwydd a oedd efe yn flaenor ai nad oedd. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf llafurus yn y lle, yn enwedig gyda'r ysgolion sabbothol.

Gan i ni roddi crybwylliad byr am yr hen flaenoriaid yn y lle, nid anmhriodol fyddai gwneyd hyny hefyd am y pregethwyr. Y cyntaf ydym yn ei gofio yn y lle, er's 60 mlynedd yn ol, oedd un o'r enw Morris Evans; brawd i Enoch Evans, ac wyr i'r hybarch John Evans, o'r Bala. Nid hir y bu yn Wrecsam, nac yn y cymmydogaethau hyn. Dyn ydoedd ag oedd yn ddarostyngedig i wneyd troion plentynaidd a digrifol ar brydiau. Mae yn ffaith am dano, pan ar ei daith ryw sabboth, iddo ddisgyn oddiar ei geffyl, a'i rwymo wrth bost llidiart, a myned ar lyn o rew, ac ymddifyru a mwynhau ei hunan mewn slerio. Wrth weled nad oedd wedi dyfod i'r lle erbyn yr amser i ddechreu yr oedfa, anfonwyd brawd i chwilio am dano. Wedi myned rhyw gymmaint o ffordd, daeth y genad i'w gyfarfod, ac a'i cafodd, fel y dywedwyd, yn ymbleseru mewn slerio ar y llyn rhew. Wedi i'r genad ei gyfarch, a'i alw, rhoes heibio, esgynodd ar ei farch; prysurodd tua'r lle; wedi cyraedd y fan, aeth i'r pulpyd, a phregethodd heb feddwl am funyd ei fod wedi gwneyd yr hyn na ddylasai. Gofynwyd iddo ar ol yr oedfa, paham y gwnaethai felly? Ei ateb didaro a digyffro oedd, 'ei fod yn ei deimlo ei hunan yn bur oer, a'i fod wedi myned ar y llyn i slerio, er mwyn cael tipyn o wres i'w gorph.' Yr oedd yn ddyn o feddyliau coeth, er ei fod yn rhyw fwhwman mewn llawer o bethau. Yr oedd yn gwmni difyrus. Pregethai yn rhagorol ar brydiau. Clywais bregethwr yn dyweyd iddo gael oedfa yn Sasiwn Llanidloes, o flaen John Elias, er ys blynyddau lawer yn ol, yr un fwyaf effeithiol yn y cyfarfod. Yr oedd yn llawn melancholy. Aeth oddiyma i Lundain, er's dros hanner cant o flynyddau yn ol. Nid ydym yn gwybod nemawr am dano ar ol hyny, ond gwyddom na bu yn llawer o anrhydedd i grefydd yr efengyl yn y ddinas hono, a hyny yn benaf oherwydd fod y diodydd meddwol wedi bod yn faglau ac yn rhwydau iddo.

Yr ail y gwnawn grybwylliad am dano ydyw y Parch. Ellis Phillips. Pregethwr ymarferol da oedd Phillips, a phregethodd lawer yn Abbot-street, pan na byddai, oherwydd ei iechyd, yn alluog i fyned oddicartref. Fel y crybwyllwyd, yr oedd ei bregethau gan mwyaf o duedd ymarferol; ynddynt hefyd yn y cyffredin y byddai yn manylu ac yn beirniadu llawer. Mwyaf a wrandawem arno, mwyaf oedd ein hawydd i'w glywed drachefn. Dioddefodd flynyddau o gystudd, a hyny o ryw natur nychlyd, heb fod am flynyddau nac yn waeth nac yn well. Mewn cysylltiad â'i wraig, cafodd lawer o gyfoeth y diweddar Mr. Lloyd, druggist, Caerlleon. Yr oedd rhai yn barnu, y buasai yn well i'w iechyd corphorol, ac yn well hefyd o ran ei ddefnyddioldeb yn ei gysylltiad â chrefydd, pe buasai heb ei gael. Byddai y bibell bron yn ddidor yn ei enau, yn mygu fel hen odyn.

Y trydydd a enwn ydyw y Parch. John Jones, Penybryn. Pregethwr da, trefnus, cryno, a melus iawn oedd y brawd hwnw. Yr oedd rhywbeth mwy deniadol ac effeithiol yn ei bregethau nac yn mhregethau Phillips. Yr oedd ef ei hunan hefyd a rhywbeth mwy serchog a chymdeithasol ynddo na'r diweddaf. Byddai Phillips yn rhagori mewn manylu a beirniadu, byddai yntau yn rhagori mewn melusder.

Y pedwerydd a gawn ei enwi ydyw y Parch. William Edwards, Town Hill. Brawd ar ei gyfer oedd hwn, dipyn yn ei bregethau yn fwy anorphenol na'r llall, ac yn llai diwylliedig ei feddwl. Pregethwr gwir ddefnyddiol oedd efe er hyny. Edrychid arno yn ngoror Clawdd Offa yn un o'r rhai blaenaf yn mhlith ei frodyr o ran defnyddioldeb, os nad Ꭹ blaenaf o gwbl. Yr oedd efe a Mr. Jones yn rhai gwir ragorol yn y cyfarfodydd eglwysig. Mr. Edwards oedd y prif offeryn fu yn sefydlu yr achos Seisnig yn y dref, yn mhlith y Methodistiaid, yr hwn erbyn hyn sydd wedi dyfod yn flodeuog a gobeithiol.

Y pummed yn y rhestr oedd y Parch. William Hughes, gynt o'r Tabernacl, goror Sir Drefaldwyn. Gŵr call iawn oedd Mr. Hughes, yn meddu deall da yn yr ysgrythyrau. Byddai ei bregethau bob amser yn dangos ei fod yn ddyn o synwyr cyffredin mawr. Traethai y gwirionedd yn hynod o'r digyffro a disêl: nid oedd o herwydd hyny mor boblogaidd â rhai o'i frodyr. Bu farw fel y bu byw, yn hynod o'r tawel a digyffro. Ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan oedd yn eistedd yn ei gadair yn y parlawr, disgynodd gwybedyn ar gefn un llaw iddo. Wedi edrych arno am beth amser, a gadael iddo, efe a gododd y llaw arall, ac a laddodd y gwybedyn; ac wrth wneuthur hyny efe a ddywedai, 'Paid, gâd dipyn i'th frawd y pryf, wedi yr elwyf i'r bedd.' Yr oedd yn ymddangos nad oedd dim mwy o ofn na chyffro arno wrth feddwl am angau a'r bedd na phe buasai yn meddwl am y gwely yn yr hwn y cysgai.

Fe fu yma un yn pregethu o'r enw John Lindop. Dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Gan mai Saesneg oedd yr iaith rwyddaf ganddo, yn y Goror y llafuriai. Yr oedd yn ddirwestwr cadarn, ac yn un o'r rhai cyntaf yn ein tref a arwyddodd yr ardystiad dirwestol. Yr oedd yn areithiwr campus ar ddirwest, a dygodd fawr sêl dros yr achos. Bu farw oddeutu'r flwyddyn 1837, odditan effeithiau llucheden boeth.

Y nesaf a enwn o'r rhai sydd wedi meirw ydyw un John Owens. Dechreuodd hwn bregethu pan oddeutu 16 neu 17 oed. Bachgen duwiol a difrifol oedd John, ac yr oedd wedi dyfod yn berchen gwybodaeth fawr. Dechreuodd bregethu pan oedd yn yr ysgol gyda Mr. Hughes. Yr oedd Mr. Hughes yn hoff iawn o hono, a dangosai lawer o ofal am dano. Yr oedd o gyfansoddiad corphorol gwael, yn hynod afiach. Edrychai yn debygach i ddyn 30 oed nag i fachgen 17 oed. Oherwydd ei dduwioldeb, ei wybodaeth, ei ddifrifwch, a'r hen olwg oedd arno, gelwid ef yn Wrecsam 'y Dr. Owen.' Bu farw cyn cyraedd o hono ugain oed.

Gan fod y Parch. Thomas Francis yn cyd-weithio ar y maes, am flynyddau, â'r pedwar brawd cyntaf a enwasom, sef y Parchedigion E. Phillips, J. Jones, W. Edwards, a W. Hughes, teilwng ni dybiem, yn y fan hon, ydyw coffâu yn barchus ei enw yntau hefyd, serch ei fod eto ar dir y byw. Amser dedwydd ar yr eglwys yn Abbot-street oedd yr amser pryd yr oedd y pump gweinidogion hyn mewn undeb, cariad, a chyd-weithrediad, yn porthi y rhai oedd dan eu gofal yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ond wele yn awr bedwar o'r pump wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur. Priodol iawn y gall Mr. Francis ddyweyd yn ngeiriau y genad a ddaeth at Job, 'A minnau fy hunan yn unig a ddiengais.'

Cyn gadael hyn o grybwylliad am y pregethwyr fu yn ein plith, dymunwn goffâu yn barchus am yr hen frawd a thad, Mr. Evan Llwyd, gynt o Adwy'r Clawdd. Yn Wrecsam y gorphenodd yntau ei yrfa, oddeutu'r flwyddyn 1822. Yr oedd ar y pryd, oherwydd oedran a llesgedd, yn analluog i wneyd dim yn y weinidogaeth er's amser maith. Porthodd lawer ar braidd Crist, yn hyn debygid yr oedd yn rhagori. Ei oedran pan y bu farw oedd 76. Yr oedd mwy o ôl ac effaith ei bregethau yn yr eglwysi na llawer o'r rhai hyny fyddai yn cyffroi y cynnulleidfaoedd y peth a'r peth a ddywed Evan Llwyd oedd gan lawer.

Yn olaf, y mae genym i'w osod yn rhestr y pregethwyr fu yn ein gwasanaethu, y diweddar Barch. Richard Jones. Bu farw Mr. Jones yn Grosvenor Road, Wrecsam, Hydref yr 20fed, 1867, yn 49 mlwydd oed. Daeth i Wrecsam o Wednesbury, yn Lloegr, yn y flwyddyn methasom a chael 1862, yn ol cynghor a chyfarwyddyd meddyg; yn benaf er mwyn iechyd; canys nid oedd bod yn y dref a'r cymmydogaethau myglyd hyny yn dygymmod âg ef. Yr oedd clyw Mr. Jones wedi anmharu yn fawr, er's blynyddau, fel nad oedd yn gallu clywed nemawr ddim yn moddion grâs, oddigerth fod yr un a lefarai yn gwneyd hyny yn uchel iawn. Er ei fod felly, yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn mhob cyfarfod fyddai yn y capel. Os cyfarfod eglwysig, byddai yn hwnw; os yr un gweddi, byddai yn hwnw hefyd. Er pob anfantais, byddai yn awyddus iawn i glywed, hyd yr oedd bosibl, bob peth os gallai. Byddai yr offeryn at iddo glywed yn ddyfal yn y glust, os byddai rhyw obaith iddo allu clywed. Byddai bob amser yn fuddiol iawn yn ein cyfarfodydd eglwysig. Gan y byddai yn fynych yn mhlith y gynnulleidfa ar lawr y capel, ac yn myned a'i offeryn clywed at enau yr hwn fyddai yn adrodd ei brofiad, neu ddyweyd rhywbeth arall, tybiem y byddai yn mwynhau y rhan hwn yn well na dim arall. Byddai bob amser yn barod iawn, ac yn llawn o ryw arabedd difyrus. Yr oedd ganddo yn ei ymyl ystôr helaeth o ryw fân gydmariaethau, y rhai oeddynt yn tueddu yn fawr, nid yn unig i egluro yr hyn a ddywedai, ond hefyd i rymuso'r pethau, a pheri iddynt wneyd argraff ar y côf beth bynag, ac ni a obeithiwn ar y galon hefyd. Gwnaeth ei ffordd i ymddiried, mynwes, a serchiadau ei frodyr yn Wrecsam, a hyny yn ddiattreg. Yno y bu fyw, ac yno hefyd y bu farw. Nid ydym yn rhestru Mr. Jones yn mhlith mawrion talentog y weinidogaeth, byddai beio arnom o bosibl pe gwnaem hyny; nid oedd efe felly yn ei olwg ei hun, nac yn marn ei frodyr chwaith; eto yr ydym yn dymuno caniatâd i'w restru ef yn mhlith y ffyddloniaid, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf: nid ydym yn petruso ei osod ar y blaen ac yn y front odditan y cymmeriad yma, oblegid yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth. Fel cristion yr oedd yn unplyg, dirodres, a diymhongar. Fel cyfaill yr oedd yn un ffyddlon, cymmwynasgar, a llawn cyd-ymdeimlad. Fel priod a thad, yr oedd yn un serchog ac anwyl. Yr oedd ei dŷ, ei fwrdd, ei wely, ei arian, a'i geffyl, fel wedi eu cyssegru ganddo at wasanaeth crefydd, a'r oll yn cael eu gwneyd â gwyneb siriol, calon lawen, a dwylaw hael. Dangosodd Mr. Jones lawer o haelfrydedd at ein capel newydd. Er ei fod yn glâf yn ei wely ddydd yr agoriad, eto efe a anfonodd bum' punt i'w dodi yn y casgliad.

Ar y 25ain o Hydref, hebryngwyd gweddillion marwol ein hanwyl gyfaill, a dodwyd hwy yn mhriddellau mynwent y Rhos-ddu, yr hon sydd gerllaw y tŷ lle y bu farw ynddo. Yr oedd oddeutu 32 o weinidogion a phregethwyr yn y claddedigaeth, y rhai a gerddent o flaen y corph, a'r perthynasau ac eraill ar ol, oddeutu 130 mewn rhifedi. Cymmerodd amryw o'r gweinidogion ran yn y gwasanaeth wrth y tŷ, a'r Parch. J. H. Symond yn benaf wrth y bedd. Hefyd, wrth y bedd, fe ddywedodd Mr. Price, diweddar o Birmingham, air, yr hwn ydoedd yn hen gyfaill i Mr. Jones, ac yn gwybod llawer am dano. Gadawodd briod anwyl, a dau o blant, i alaru ar ei ol.

Clywsom am hen ŵr arall fu yn preswylio yn y lle hwn, er's oddeutu 60 mlynedd yn ol, ond nid ydym yn gallu galw i gofion ein bod yn gwybod nemawr ddim am dano ein hunain. Ei enw ydoedd Rolant Llwyd; crydd wrth ei alwedigaeth. Hen gristion cywir oedd yntau, a chynghorwr buddiol, a phregethwr da. Yr oedd yn byw yn Mhentrefelin, yn agos i'r capel. Gadawodd y dref hon ac aeth i Manchester; ac yno y gorphenodd ei yrfa.

'Does dim anmhriodol, ond odid, am grybwyll yn hyn o hanes, mai yn eu cysylltiad â'r eglwys yn Wrecsam y dechreuodd y tri brawd canlynol ar waith y weinidogaeth; sef, Evan Evans[6]; Richmond L. Roos; a W. R. Evans, Halghton Mills. Mae'r Parch. Evan Evans yn awr wedi ei ddewis yn weinidog a bugail yn eglwysi y Methodistiaid yn Crewe a Hanley. Y Parch. Richmond L. Roos ar eglwys y Gelli, &c., yn Herefordshire. Mae Mr. W. R. Evans, Halghton Mills, yn awr yn y Bala, yn derbyn ei addysg athrofaol. Gallasem enwi dau neu dri yn rhagor o bregethwyr, y rhai fu yn gwasanaethu'r corph am flynyddau, ac yn aelodau yn yr eglwys yn y lle hwn, ac hefyd yn preswylio yn y dref; ond gan i ryw amgylchiadau a phrofedigaethau beri dyryswch ac attalfa, doeth fe allai, yn hyn o hạnes, fyddai myned heibio ar hyn o bryd, heb ychwanegu dim yn helaethach am danynt.

Y PEDWERYDD CYFNOD.

YN YR HWN Y CYNNWYSIR

YSGOGIAD at adeiladu capel newydd—adeiladu Capel Abbot-street—y bedyddio cyntaf yn y lle—bedyddio gwraig mewn oed—priod y fedyddiedig—dyled y capel—diofalwch yn ei herwydd—yr addoldŷ yn suddo mewn dyled-yr effaith o hyn—ymosod ar dalu'r ddyled—cynllun at hyny—gorphen talu-Jubili―y nifer a ymgymmerodd â thalu―gwedd lwyddiannus ar yr achos—y capel yn rhy fychan—ffyddlondeb y gweinidogion—ystorm yn ymfygwth yn yr eglwys—y gwyntoedd a'r tonau yn tawelu—ysgogiad at gael bugail—yr eglwys yn cyd—ymgynghori—yn gweddio—dewis y Parch. J. H. Symond.—Ysgogiad at gael capel newydd—prynu tir—adeiladu— yr eglwys yn fam i eglwysi eraill—Bodo Rowlant—BershamWilliam Owen—Charles o'r Bala-Sasiwn plant-Bangc y ffwrnes -y Tabernacl yn Rhostyllen-ymweliad cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd â goror Clawdd Offa--myntai ryfedd--Bangor-is-y-Coed -y sabboth olaf yn Abbot-street—y teimlad ar y pryd—nifer y gweinidogion—y diaconiaid—y cymmunwyr—y plant—yr ysgol sabbothol—gwrandawyr—ansawdd yr achos ar y pryd—Cymdeithas Dorcas—brâs ddarluniad o'r capel—rhesymau dros ei wneyd mor fawr.

ODDEUTU'R flwyddyn 1819, a'r flwyddyn ganlynol, oherwydd fod hen gapel Pentrefelin yn lle bychan, gwael, ac anghysurus, a'r lease hefyd ar ddirwyn i'r pen, os nad oedd wedi dirwyn yn gwbl; meddyliodd y brodyr am gael capel newydd, helaethach, ac yn nes i ganolbarth y dref. Yn y flwyddyn 1821 adeiladwyd addoldŷ yn Abbot-street. Yr oedd yr adeilad hwnw ar y pryd yn un cymhwys i'r gynnulleidfa, o ran maint a lle. Mae yn ymddangos i'r addoldŷ gael ei gyssegru trwy bregethu ynddo, yn yr un flwyddyn ag yr adeiladwyd ef. Pa amser ar y flwyddyn yr agorwyd y capel, a phwy oedd y gweinidogion a weiniasant ar yr achlysur, gwybod er pob ymchwiliad. Ryw amser cyn diwedd yr un flwyddyn, mae yn ymddangos mai cyntaf-anedig y Parch. John Hughes a'i briod gyntaf ef, a chyntaf-anedig Mr. Edward Rogers a'i briod, yn awr o Seacombe, ger Birkenhead, oedd y ddau blentyn cyntaf a fedyddiwyd yn nghapel newydd Abbot-street. Gweinyddwyd yr ordinhâd ar y ddau gan y Parchedig John Roberts, o Langwm. Mae testyn y sylwadau a wnaeth efe ar yr achlysur i'w weled yn y bennod gyntaf o Lyfr Cyntaf Samuel. Nid oedd yr un a adroddodd wrthyf yr hanes yn cofio i sicrwydd pa eiriau yn y bennod. Gwnaeth sylwadau neillduol, ni dybiem, oddiwrth yr awgrymiadau a glywsom ar weddi Hannah—ei haddunedau, os ca'i fab—a'r awyddfryd angherddol oedd yn ei chalon am gael cyflwyno a magu y bachgen i'r Arglwydd. Ni a dybiem hefyd, oddiwrth a glywsom, fod yr addysgiadau a'r cymmwysiadau a wnaeth oddiwrth y geiriau at y rhieni hyny ag oeddynt yn magu a dwyn plant i fyny, yn rhai gwir ddeffrous a difrifol.

Hefyd, yn mhen y ddwy neu dair blynedd ar ol hyn, sef oddeutu 1825 neu 1824, o'r hyn lleiaf felly y dywedwyd i ni, fe fedyddiwyd yn yr un capel wraig ganol oed, o'r enw Mary Parry. Mam oedd Mary Parry i'r hwn, yn mhen blynyddoedd ar ol hyn, a ddaeth i fod y Parchedig John Parry, athraw yn Athrofa'r Bala. Gweinyddwyd yr ordinhâd gan y Parch. John Jones, Treffynnon. Yr oedd gweinyddu'r bedydd trwy daenellu ar berson mewn oed yn beth, y pryd hwnw, lled anghyffredin a hynod. Yr oedd Mary Parry yn un led dal, meddent hwy, hyny ydyw dipyn yn dalach na'r cyffredin o ferched. Yr oedd yr hen frawd o Dreffynnon dipyn yn fyr mewn corpholaeth. A chan fod Mrs. Parry fel hyny dipyn yn dalach na John Jones, nid mor hawdd iddo oedd cael y dwfr i fyny. Wrth i John Jones âg un llaw ogwyddo ei phen tuag at ei gwegil, fel ag i gael y wyneb i'r gosodiad mwyaf cyfleus i dderbyn taenelliad y dwfr, ac yntau dipyn yn fyrach na'r fedyddiedig, achlysurodd hyny wên ddiniwed am ennyd ar wyneb rhai; ond fe ddarfu yn y fan, fel clindarddach drain tan grochan. Yr oedd pob difrifwch wedi ei adfeddiannu yn y foment. Gweinyddwyd yr ordinhâd yn nghanol y symlrwydd mwyaf. Yr oedd Mrs. Parry, o bosibl, wedi ei dwyn i fyny yn un o wrandawyr ein brodyr y Bedyddwyr; o'r hyn lleiaf, felly yr awgrymwyd i ni. Mae'r Bedyddwyr, fel y gwyddys, yn gyson â'u syniadau a'u hegwyddorion hwy eu hunain yn gwrthod bedyddio ond yn unig rhai mewn oed a synwyr, a hyny ar eu proffes a'u dewisiad hwy eu hunain. Gellir casglu oddiwrth y ffaith fod Mrs. Parry heb ei bedyddio, mai un o 'wrandawyr y gair yn unig' ydoedd wedi bod cyn hyn. Mae yn ymddangos iddi gael ei bedyddio y dwthwn hwnw ar ei dymuniad hi ei hunan, cyn iddynt fel teulu ymsymmud o Wrecsam i Manchester. Bydd genym air eto ar ol hyn, cyn y diwedd, i'w ddyweyd am y chwaer hon. Yr oedd ei phriod, fel hithau, yn gristion cywir, unplyg, a dirodres. Byddai pawb bob amser, tra y bu yn perthyn i'r frawdoliaeth yn y lle hwn, yn hoff iawn o hono. Pan yr annogid ef i weddio mewn cyfarfod, gosodai hyny wên serchog ar wyneb nifer mawr o'r rhai fyddai yno ar y pryd, oblegid yr un pennill fyddai yn ei roddi allan i ganu bob amser yn ddieithriad. Y pennill fyddai

'Mi nesaf atat eto'n nes,
Pa les im' ddigaloni;
Mae sôn am danat yn mhob man,
Yn codi'r gwan i fyny.'

Nid yn unig yr un pennill a adroddai, ond gwnai hyny hefyd yn gywir yn yr un dôn, a hyny yn bur effeithiol. Byddai newydd-deb ei ysbryd yn cadw hefyd bob amser newydd-deb yn yr hen bennill.

Aethom, am ennyd, oddiwrth hanes y capel, i sôn am ddau neu dri o bethau a gymmerasant le yn fuan ar ol ei agoriad. Awn yn mlaen yn awr gyda hanes y capel. Mae yn ymddangos mai Mrs. Jones, y cyfeiriwyd ati o'r blaen, oedd yr asgwrn cefn yn nechreuad y gwaith, ac hefyd yn nygiad y gwaith yn mlaen; oblegid ei harian hi a gafwyd i dalu am y tir, a'i harian hi hefyd gan mwyaf a fenthycwyd at adeiladu. Mae yn ddrwg genym orfod hysbysu yn hyn o hanes, fel y ceir gweled eto, i'r eglwys a'r gynnulleidfa, ar ol adeiladu capel newydd âg arian benthyg, eistedd yn dawel ynddo, a hyny am flynyddau lawer, heb wneuthur un ysgogiad tuag at dalu'r ddyled.

Costiodd pryniad y tir, ac adeiladu Capel Abbot-street, yn y flwyddyn 1821, y swm o £1,100, neu yn rhywle oddeutu hyny. Yn mhen y pedair blynedd ar ddeg, pryd y gwnaed ymchwiliad manwl i'r cyfrifon, cafwyd fod y llogau wedi chwyddo i'r swm o £540. Yr oll oedd wedi ei gasglu a'i dalu o hyn, yn y cyfamser, oedd £380. Y canlyniad o hyn oedd fod y ddyled, yn y cyfamser, wedi myned yn £1,260. Yr oedd dyled y capel felly, yn mhen y 14 o flynyddau, yn £160 mwy na phan adeiladwyd y capel. Yr oedd sefyllfa'r achos, ar ol yr ymchwiliad hwn, wedi dyfod yn beth gwir bwysig. Yr oedd gadael i'r achos yn y modd hwn suddo mewn dyled, fis ar ol mis, flwyddyn ar ol blwyddyn, yn beth nas gallwn ei ddeall: yn hyn nis gallwn gyfiawnhau y brodyr.

Nid ein lle ni ydyw condemnio y frawdoliaeth, nac eistedd yn farnwyr ar yr achos, eto mae yn anhawdd, wrth fyned heibio, i ni beidio a thaflu ein golygon ar yr adfeilion dirywiedig hyn, sef yr achos yn ei ystât o'i bethau arianol. Dichon, er hyny, fod rhyw resymau i'w rhoddi dros yr esgeulusdra hwn, nad ydym ni erbyn hyn yn gwybod dim am danynt. Bu yr ymchwiliad, a nodwyd, i bethau, yn achos i'r rhai hynaf, a mwyaf dylanwadol yn y lle, gydymgynghori pa symmudiad oedd i'w wneyd, fel y gellid nid yn unig attal y ddyled rhag ychwanegu, ond cael allan hefyd ryw gynllun effeithiol i'w lleihau. Ffrwyth cyntaf yr cydymgynghori hwn fu dethol, o'u plith eu hunain, ddau o frodyr i fyned at Mrs. Jones, i'r hon yr oedd tair rhan o bedair o'r arian yn ddyledus. Y brodyr a ddewiswyd i hyn o orchwyl oeddynt Mr. Richard Hughes, stationer, a'r Parch. Thomas Francis. Aeth y ddau frawd at Mrs. Jones dros yr eglwys. Wedi bod o honynt am beth amser yn eistedd ac yn ymddiddan ar yr achos, yr effaith ddaionus o hyn fu i'r brodyr hyny lwyddo i gael gan y foneddiges garedig, drugarog, a haelfrydig, addaw cymmeryd pedair punt y cant o lôg am yr arian yn lle pum' punt y cant; ac nid hyny yn unig, ond eu cymmeryd hefyd o'r amser cyntaf y rhoddodd eu benthyg. Lleihaodd hyn y ddyled yn y fan i'r swm o gant a deg punt. Wedi derbyn y fath garedigrwydd, addawsant hwythau, nid yn unig dalu y llôgau ond hefyd wneuthur pob ymdrech i dalu i fyny, mor fuan ag y byddai bosibl, holl gorph yr arian. Dychwelodd y brodyr hyn i Wrecsam â chalon lawen, yn nghyd a theimladau gwresog o ddiolchgarwch. Pan yr adroddwyd y peth i'r cyfeillion, disgynodd y newydd ar eu clustiau fel peth dyeithr, ac fel newydd oedd o'r bron yn rhy dda i'w gredu: modd bynag, trôdd allan yn ffaith o wirionedd diymwad. Yn y flwyddyn 1836, ymosodwyd i bwrpas ar ddechreu talu'r ddyled. Daeth chwech o frodyr i'r maes, ac a wnaethant gynnyg i'r holl eglwys, er mwyn, os oedd bosibl, rhoddi cychwyn i'r peth. Y brodyr a wnaeth hyn oeddynt y Parchedigion Thomas Francis, Ellis Phillips, John Jones, a Thomas Jones (Glan Alun), Cefn-y-gadair, hefyd Mr. Richard Hughes, stationer, a Mr. Daniel Jones, merchant. Eu cynhygiad cyntaf hwy oedd, beth bynag a gasglai yr holl eglwys a'r gynnulleidfa mewn blwyddyn o amser, y byddai iddynt hwythau eu cyfarfod â'r un swm, beth bynag fyddai. Yr effaith o hyn fu i'r eglwys a'r gynnulleidfa gasglu yn nghorph y flwyddyn y swm o £60: rhoddasant hwythau hefyd bob un ei £10, a'r canlyniad i'r ymdrech hon oedd talu £120 o'r ddyled y flwyddyn hono. Yn mhen y ddwy flynedd ar ol hyn, gwnaed y cyffelyb gynnyg drachefn, gan y Parchedigion Thomas Francis, John Jones, ac Ellis Phillips, ynghyd a Mr. Daniel Jones, merchant, Mr. Richard Hughes, stationer, a brawd arall dienw. Cyfranodd y chwech brodyr hyn, gyd-rhyngddynt, y swm o £75, yr eglwys hefyd a'r gynnulleidfa a gyfranasant y cyffelyb swm, a thalwyd y flwyddyn hono o gorff yr arian £134, heblaw y llôgau. Mae yn ymddangos i'r cyffelyb ymdrech gael ei gwneyd y drydedd waith, ac i rai brodyr sydd eto yn fyw, sef y Parch. T. Francis, Mr. Daniel Jones, merchant, a Mr. R. Hughes, yn yr ymdrechfa hono ddyfod allan mewn haelfrydedd y tuhwnt i bob dysgwyliad. Yn y flwyddyn 1843, gwnaed dros bedwar ugain a deg o bersonau yn wahanol ddosbarthiadau, i dalu symiau gwahanol yn y pedair blynedd dyfodol. Rhai i dalu tair punt yn y flwyddyn, eraill ddwy, eraill bunt a hanner, eraill bunt, eraill ddeg swllt, eraill bump, ac eraill, y lleiaf, bedwar swllt. Talwyd y symiau hyny i fyny yn gryno yn niwedd y flwyddyn 1846, oddigerth ychydig iawn nad ydyw yn werth ei enwi. Ymunodd amryw bersonau i dalu pedair punt yn y flwyddyn am bedair blynedd, fel, erbyn y flwyddyn 1852, nad oedd swm y ddyled oedd eto yn aros ond yn unig oddeutu £145. Yn fuan ar ol hyn, ymgyfarfu y Parchedigion Thomas Francis, John Jones, a'r Meistri R. Hughes, D. Jones, E. Powell, W. Pearce, J. Lewis, a chyfaill arall dienw, i ystyried am y tro diweddaf beth oedd i'w wneuthur at orphen talu y gweddill bychan oedd eto yn aros o'r ddyled. Y canlyniad o hyn fu i'r holl frodyr a enwyd, yn nghydag eraill hefyd, estyn allan eto eu rhoddion, fel erbyn dechreu y flwyddyn 1854, neu rywbryd oddeutu hyny, nid oedd o'r holl ddyled ag oedd eto yn aros ond oddeutu £38. Yn fuan wedi hyn aeth Mrs. Jones, gweddw y diweddar Barch. J. Jones, a Mrs. Phillips, gweddw y diweddar Barch. E. Phillips, oddiamgylch am y waith olaf; a chasglasant rhyngddynt uwchlaw £20; yr hyn, ynghyd a'r £16 o arian yr eisteddleoedd, a wnaethant y swm i fyny; yna gorphenwyd talu a llwyr ddileu yr holl ddyled. Yn fuan wedi hyn, cawsom Jubili; bwytasom ac yfasom, a llawenychasom hefyd yn ddirfawr. Gwnaethom hyn yn y capel yn Abbot-street, yr hwn ar y pryd ydoedd newydd gael ei adgyweirio, ei baentio, a'i lanhau; ac hefyd yn fwy a gwell na phob peth, wedi ei waredu a'i ryddhau o gaethiwed dyled ag yr oedd dano am yn agos i bymtheg mlynedd ar hugain.

Er na chostiodd y tir ac adeiladu y capel, yn 1821, ond £1,100, eto erbyn y flwyddyn 1854, rhwng corff yr arian, y llôgau a'r holl adgyweiriadau fu arno, costiodd trwy'r cwbl uwchlaw dwy fil o bunnau

Nifer yr eglwys yn 1832 oedd ..... 50
yr ysgol sabbothol ..... 50 i 60.
y gynnulleidfa ..... 100 i 120.

Dyma y nifer bychan, yn fuan wedi hyn, a gymmerasant arnynt y cyfrifoldeb o dalu y swm o £1,260, ac erbyn y flwyddyn 1854, neu rywbryd oddeutu hyny, yr oedd yr holl orchest waith wedi ei gwblhau; sef yr holl ddyled wedi ei llwyr ddileu. Mae diolchgarwch gwresog yn ddyledus i'r brodyr hyny a gymmerasant arnynt y fath gyfrifoldeb, ac a ysgogasant gyntaf odditan y fath faich. Mae nifer liosog o honynt, yn frodyr a chwiorydd, ar ol ffyddlondeb mawr, wedi gadael maes eu llafur, a myned i dderbyn eu gwobr. Mae dau neu dri o'r hen frodyr hynaf a gymmerasant ddyddordeb mawr yn nhalu'r ddyled, ac a wnaethant ran helaeth eu hunain tuag at hyny, eto yn aros. Ond y mae prydnawn y dydd wedi dyfod arnynt, ïe gallwn ddyweyd fod cysgodau yr hwyr yn dechreu ymestyn, ac yn fuan bellach bydd cloch yr awr noswilio yn canu, pryd y cânt hwythau hefyd fyned at eu brodyr. Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. T. Francis a Mr. W. Pearce am hanes dyled y capel, a'r modd yr ysgogwyd at ei thalu. Mae Mr. Francis a Mr. Pearce yn gwahaniaethu tipyn yn swm y ddyled, hyny ydyw ychydig bunnoedd. Mae Mr. Francis yn ei gwneyd ychydig yn llai na Mr. Pearce: ond mewn swm ag oedd mor fawr, nid ydyw bron yn werth sylw.

Mae diolchgarwch yn ddyledus i'r lluaws ieuengctyd hefyd fu yn cyd-ddwyn y baich â'r hynaf rai. Maent hwy eto wrth y gwaith, ac wedi rhoddi eu hysgwyddau odditan faich ag sydd yn llawer trymach na'r un cyntaf, sef dyled ein haddollý newydd. Gobeithio y cânt eu bendithio â chyfoeth, calon, ffyddlondeb a hir oes, nes gwneuthur â dyled y capel newydd yn gymmwys yr un modd ag y gwnaethant â'r hen; sef dileu yn llwyr oddiar lyfrau yr holl ofynwyr bob punt, a swllt, ïe yr hatling ddiweddaf. Gyda bod yr ymdrech glodwiw y cyfeiriwyd ati drosodd, yr oedd yr eglwys, yr ysgol sabbothol, a'r gynnulleidfa, wedi ychwanegu yn fawr. Mae yn hyfryd genym hefyd allu cofnodi na welwyd un tymmor mwy llewyrchus yn ein plith na'r tymmor ag yr oedd pawb o'r bron yn ddieithriad, law a chalon, yn cyfranu o'u harian at dalu dyled y capel. Yr oedd ar hyn o bryd drugareddau tymhorol, a bendithion ysbrydol, yn cael eu tywallt i waered, fel rhyw wlaw brâs.

Ar ol talu dyled yr hen gapel, gwelwyd yn fuan ei fod, nid yn unig yn myned yn anghysurus o herwydd llawer o bethau, ond hefyd ei fod yn rhy fychan: yr oedd nifer yr aelodau erbyn hyn wedi myned dros 200; yr ysgol sabbothol hefyd a'r gynnulleidfa wedi cynnyddu yn gyfartal. Yr oedd llawr y capel yn rhy fychan ar noson y cymmundeb i'r gweinidog yn hwylus allu myned trwy y gwasanaeth. Heblaw fod y capel yn fychan, yr oedd amryw bethau yn nglŷn â'r lle oddiallan, yn y blynyddoedd diweddaf, yn peri llawer o annghysur. Yr oedd yr holl bregethwyr, bron yn ddieithriad, a ddeuai i'r lle, yn cwyno yn fawr yn ei herwydd. Fel hyn y buom am rai blynyddoedd, fel yn dyheu am le mwy dymunol i addoli; ond dim yn cael ei wneyd ond siarad a chwyno: ond dylasem ddyweyd fod yno obaith cryf ar waith y pryd hwnw ag iddo sail dda.

Wrth i ni gymmeryd rhyw un drem gyffredinol ar yr achos, yn yr hanner canrif ddiweddaf, gellir dyweyd fod pethau ar y cyfan wedi bod yn lled gysurus, llwyddiannus, a dymunol. Nis gellir dyweyd am y lle fod cenedl wedi cael ei geni ynddo ar unwaith, ond yr oedd yma blant er hyny yn cael esgor arnynt yn wastadol, ac felly yr oedd y teulu yn cynnyddu trwy'r blynyddoedd y gwir am yr eglwys heddyw ydyw ei bod yn llawen fam plant.' Ein syniad gostyngedig hefyd ydyw na bu'r teulu heb famau â bronau maethlon i fagu, nac ychwaith heb dadau, y rhai oeddynt yn llywodraethu mewn diwydrwydd a doethineb, yn gofalu am y teulu yn ei holl amgylchiadau a'i gysylltiadau, ac yn gwneyd pob ymdrech i'w porthi â gwybodaeth ac â deall, gan eu maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Nid aml, o bosibl, y bu un eglwys o'i maint mor aml ei chynghorwyr; ac nid aml, ychwaith, y bu praidd mor fychan, mewn ystyr, yn cael ei wylio a'i borthi gan gynnifer o fugeiliaid, y rhai bob amser oeddynt yn ffyddlon a gweithgar. Yr ydym yn cofio y bu yn ein plith am lawer o flynyddoedd, a hyny ar yr un amser, fel y crybwyllasom o'r blaen, bump o weinidogion yr efengyl, y rhai bob amser oeddynt, un ac oll, yn ffyddlon yn ein cynnulliadau eglwysig. Fel y crybwyllasom o'r blaen, er fod pethau ar y cyfan wedi bod yn gysurus yn ein plith, eto ni buom heb ein profedigaethau. Cododd dwy ystorm lled erwin, ond tawelwyd y gwyntoedd, a gorchymynwyd i'r tònau lonyddu. Daeth y llong eilwaith, a'i llwyth, i nofio yn esmwyth. Fe geisiodd satan nithio fel gwenith deulu Abbot-street, unwaith neu ddwywaith, ond Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlidiodd ef ymaith gwasgarwyd, yn ddieithriad, yr holl rai a fuasent yn llawenychu yn aflwydd a dinystr y frawdoliaeth.

Oddeutu'r flwyddyn 1860, meddyliodd y cyfeillion yn y lle am alw rhyw frawd yn y weinidogaeth i fugeilio yn eu plith. Ar ol hir ymbwyllo, arafu, cyd-ymgynghori, a gweddïo llawer, tueddwyd meddyliau y brodyr i feddwl am y Parch. J. H. Symond, oedd y pryd hwnw yn cartrefu gyda ei dad yn Glan Clwyd, ger Ruthyn. Ar ol llawer o drafodaeth gydag ef, cynnygiwyd ef i'r eglwys fel i fugeilio yn ein plith, yr hwn a ddewiswyd ganddi yn ddieithriad; dyfodiad yr hwn hefyd i'n plith sydd wedi bod o fawr fendith. Cyn pen hir, ar ol i Mr. Symond ymsefydlu yn y dref, meddyliwyd yn fwy unfrydol a phenderfynol am adeiladu capel newydd. Bu hyn am wythnosau a misoedd dan ystyriaeth pwyllgor o'r brodyr, a hyny yn y modd mwyaf difrifol, pwyllog, ac arafaidd; a Mr. Symond erbyn hyn yn llywyddu. Penderfynwyd yn lled fuan ar gael capel, ond y llanerch i adeiladu arno nid oeddid eto wedi gallu ei sicrhau. Wedi meddwl am y lle hwn, a'r lle arall, a'r trydydd, a methu a bod yn llwyddiannus; o'r diwedd daeth pawb i gydweled am lanerch ag oedd yn ymddangos yn ddymunol; rhoddwyd ar Mr. Daniel Jones, merchant, un o'r frawdoliaeth, i brynu'r lle, yr hyn hefyd a wnaeth. Ac ar y tir hwnw, erbyn heddyw, y mae'r addoldŷ ymneillduol helaethaf o gryn lawer, a'r gwychaf hefyd yn y dref. Geill eistedd ynddo yn gysurus oddeutu wyth gant; ond fe welwyd ynddo ar gyfarfod neillduol ddeuddeg cant neu ragor.

Cyn terfynu hyn o gofnodau, mae yn dda genym hysbysu fod yr eglwys yn Ngwrecsam yn fam i wyth neu naw o eglwysi yn ngoror Clawdd Offa; sef y Tabernacl; Crabtree Green; Bethel; Bowling Bank; Glan-y-Pwll; Holt; Bethlehem; Zion, Hope; a Hill-street. Yn Bursham y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Tabernacl, Rhostyllen, mewn tŷ hen wreigan a adnabyddid y pryd hwnw wrth yr enw Bodo Rolant o'r Ddôl;' neu yn fwy cyflawn, 'Dolcehelyn.' Cymmydogaeth ydyw hon heb fod ar linell uniawn, rhwng Gwrecsam ac Adwy'r Clawdd. Dechreuwyd cadw ysgol sabbothol yn y lle er's dros 60 mlynedd. Gan fod Bursham oddeutu canol y ffordd rhwng y ddau le uchod, byddai rhai o'r athrawon yn dyfod yno o'r Adwy, a rhai eraill o Wrecsam yn myned yno i'w cyfarfod. Un o'r athrawon a âi yno o Wrecsam oedd hen ŵr o'r enw William Owen; a'r rhai a ddeuent yno o'r Adwy oeddynt Edward Hughes, Richard Hughes, a John Hughes, tri o frodyr; yr olaf a'r ieuengaf o'r tri a ddaeth wedi hyny i fod 'y Parch. J. Hughes, Liverpool.' Dygid yr ysgol yn mlaen gan mwyaf, debygid, yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd fod yr hen William Owen yn Sais bychan, byddai y plant yn cael llawer iawn o ddifyrwch yn gwrando arno yn siarad. Wrth gyhoeddi casgliad i fod y sabboth dyfodol at gael glô i wneyd tân yn y lle, yr hen ŵr a ddywedai wrth y plant, "You must bring som hopans (dimeiau) with yaw next Sunda, to buy som colls (glö)."

Yr ydym yn cofio Mr. Charles, o'r Bala, er's feallai yn agos i 60 mlynedd yn ol, yn cadw sasiwn plant yn y lle hwn, pryd yr oedd canoedd lawer o'r cymmydogaethau cylchynol wedi dyfod yn nghyd. Un o ddeiliaid cyntaf ysgol sabbothol y 'Ddôl' oedd mam y Parchedig John Parry, o'r Bala; a digon tebyg mai yn y gymmydogaeth hon, os nad yn hen dŷ 'Bodo Rolant,' y dechreuodd y Parch. J. Parry, yr hwn yn awr sydd yn un o athrawon parchus Athrofa'r Bala, ddysgu yr A. B. C. Yr oedd tipyn o ysbryd missionary yn mam Mr. Parry, oblegid hi fyddai yn myned o dŷ y naill gymmydog i dŷ cymmydog arall, a'i Thestament yn ei llaw, ac yn darllen iddynt yr Ysgrythrau, ac yn dysgu ambell un anllythyrenog ddyweyd adnod allan. Byddent yn hôff iawn o'i gweled hi a'i Thestament yn dyfod trwy ei chylch-deithiau. Bu'r moddion syml hwnw yn fendithiol i ennill amryw o'i chymmydogion i ddysgu gair yr Arglwydd. Yn lled fuan wedi i Mr. Charles fod yno, symmudwyd yr ysgol i 'Bange y ffwrnes; lle yn yr un gymmydogaeth. Hen adeilad oedd hwn fu yn perthyn i waith haiarn Mr. Wilkins, ond a adnabyddid gynt wrth yr enw 'Bursham Iron Works.' Symmudwyd yr achos oddiyno i Rhostyllen, cymmydogaeth ydyw hon yn ymyl y llall. Yn y gymmydogaeth hon yr adeiladwyd y capel a elwir y Tabernacl, un o'r rhai helaethaf yn ngoror Gwrecsam gan ein cyfundeb ni. Yr ydym yn gwneyd sylw o'r lle hwn, nid yn gymmaint am ei fod yn agos i Wrecsam, ond am fod yr eglwys a'r ysgol sabbothol yn y lle, hyd o fewn ychydig flynyddau yn ol, fel yn gangen o eglwys Gwrecsam y blaenoriaid a'r pregethwyr o Wrecsam, y naill yn niffyg y llall, fyddent yn myned yno i'r cyfarfodydd eglwysig. Nid oes ond blwyddyn neu ddwy er pan beidiodd Mr. R. Hughes, o herwydd henaint, a myned yno i'r ysgol sabbothol, wedi bod yn myned iddi, yn y gwahanol fanau, am uwchlaw hanner canrif.

Mae'r holl eglwysi a enwyd uchod yn ymddibynu yn awr arnynt eu hunain er's blynyddau bellach; yr unig gysylltiad erbyn hyn. ydyw fod ambell un o'r cyfeillion o'r dref yn myned i gynnorthwyo yn yr ysgol sabbothol.

Mae yn deilwng o sylw, ac yn ffaith werth ei chofnodi, mai o Wrecsam, yn gysylltiedig âg Adwy'r Clawdd, yr ymwelodd y Trefnyddion Calfinaidd am y waith gyntaf â goror Clawdd Offa. Ar foreu sabboth yn Ngwrecsam, oddeutu'r flwyddyn 1807, ymffurfiodd myntai ynghyd, cynnwysedig o naw neu ddeuddeg o wŷr mewn oed a'r un nifer o fechgyn ieuaingc. Yn eu plith yr oedd Thomas Edwards, o Liverpool, John Edwards, Gelli-gynan, Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, a Robert Llwyd, Nant-y-ffrith (amaethdŷ gerllaw yr Adwy). Hefyd, Edward Hughes, Adwy'r Clawdd, Richard Hughes, a John Hughes; tri o frodyr. Y diweddaf ar ol hyny, fel y dywedwyd o'r blaen, a ddaeth i fod y 'Parch. J. Hughes, Liverpool.' Pwy oedd y gweddill o'r fyntai, nid ydym yn gwybod. Dyben eu dyfodiad yn nghyd oedd myned am y waith gyntaf erioed, mewn cysylltiad â Methodistiaeth, i bregethu'r efengyl i baganiaid anwybodus goror Clawdd Offa. Y ddau gyntaf a enwasom oeddynt ddau bregethwr, a'r pump eraill i arwain ac i gynnorthwyo yn y canu. Buasai yn bur dda genym pe buasai enwau yr holl fyntai ar gael, ond nid ydynt.

Oddeutu wyth o'r gloch, ar foreu sabboth, yn yr hâf, cychwynodd y fyntai ryfedd hon o'r dref; gŵr ar ei farch, a bachgenyn wrth ei ysgil. Mae yn debyg na welwyd o'r blaen, mewn tref na gwlad, y fath fyntai ryfedd. Braidd na thybiem eu bod rywbeth yn debyg i'r caravan yn teithio crasdir tywodlyd poethdiroedd Arabia; gyda'r eithriad mai camelod gan mwyaf sydd ganddynt hwy, ond meirch gan y rhai hyn. Yr oeddynt er's peth amser wedi arfaethu hyn, ac nid hyny yn unig, ond wedi pennodi allan facs eu llafur.

Y maes ydoedd Bangor-is-y-Coed; treflan bum' milldir o Wrecsam; hefyd Worthenbury, tref arall fechan, rhwng hyny a'r Eglwys Wen. Cychwynasant o Wrecsam, fel y dywedwyd o'r blaen, oddeutu wyth o'r gloch yn y boreu. Troisant eu hwynebau tua Bangor-is-y-Coed, hwyliasant eu camrau tuag yno, ac i Bangor yn llwyddiannus y cyrhaeddasant. Wedi cyrhaedd o honynt i'r dreflan, aethant yn un llu mawr gyda'u gilydd at ddrws tŷ tafarn, a gofynasant i ŵr y tŷ a allent gael rhoddi'r anifeiliaid i fyny a chael ychydig ebran iddynt, yn nghyd a thamaid o giniaw iddynt hwythau eu hunain. Heb gymmeryd llawer o amser i ystyried y cwestiwn, fe farnodd y tafarnŵr wrth weled cynnifer, fod yno le iddo wneyd ceiniog oddiwrthynt, felly efe a gymmerodd y meirch i'r ystablau, ac a'u porthodd, a pharotoisant yn yr Inn giniaw iddynt hwythau hefyd. Yr oedd y tafarnwr yn gwneuthur rhyw lygad cornelog arnynt yn awr ac eilwaith, ac fel un yn methu a deall pa beth allasai fod dyben dyfodiad y fath rai ar foreu sabboth. Yn fuan wedi eistedd o honynt, dywedasant wrtho eu neges, sef mai dyfod yno a wnaethant i bregethu Iesu Grist yn Geidwad i bechaduriaid. Mae'r tŷ y cymmerodd yr ymddyddan le o flaen, ac yn wynebu eglwys Bangor, ac yn agos iawn ati. Gofynasant iddo hefyd 'a fyddai ganddo ryw wrthwynebiad rhoddi benthyg cadair iddynt, i'r pregethwr sefyll arni pan yn pregethu? Wrth ofyn hyn o gymmwynas, yr oeddynt ar yr un pryd yn sicrhau iddo y byddai y bregeth drosodd cyn dechreu gwasanaeth yr eglwys, ac y byddai iddynt, un ac oll, fyned i'r eglwys. Wedi i'r gŵr weled, ac erbyn hyn farnu nad oedd dim yn afresymol yn nghais y dyeithriaid, nac ychwaith un math o berygl terfysg, efe a ddywedodd yn rhwydd y caent fenthyg cadair, a chroesaw. Wedi ennyd, fe ddaeth yr amser i ddechreu, ac fe ddygwyd y gadair i'r lle. Fe ymsefydlodd y fyntai o ddeutu'r gadair, yn nghylch dau ddwsin mewn nifer. Yna fe esgynodd Thomas Edwards, o Liverpool, ar y gadair, ac a roddodd bennill allan i'w ganu. Hyd y mae Mr. Richard Hughes yn cofio, y geiriau a ganwyd gyntaf oeddynt―

'Come, ye sinners, poor and wretched,
Weak and wounded, sick and sore;
Jesus ready stands to save you,
Full of pity joined with power:
He is ready: He is willing,
Doubt no more.'

Ar hyn rhoddodd y cantorion allan eu lleisiau, a dechreuasant ganu. Gan nad ydyw y dreflan ond bechan, a'i holl drigolion ond ychydig nifer, aeth sŵn y canu o'r bron trwy yr holl le, ac yn ebrwydd daeth amryw o'r trigolion i'r fan i weled a chlywed. Daliwyd ati i ganu hyd nes y daeth amryw yn nghyd, ond eu bod ar y dechreu yn lled wasgaredig. Y pregethwr, cyn dechreu darllen rhanau o air yr Arglwydd, yn garedig a'u cyfarchodd, ac a'u gwahoddodd i ddyfod yn nes. Dywedodd hefyd ddyben eu dyfodiad, sef mai dyfod yno a wnaethant i roddi gair o gyngor i'r bobl, trwy bregethu iddynt yr efengyl. Sicrhâodd hefyd iddynt mai nid dyfod yno a wnaethant yn erbyn yr eglwys, ond y byddai yr oedfa hono drosodd erbyn amser dechreu gwasanaeth yr eglwys, ac yr aent hwythau bob un i'r eglwys. Wedi hyn daeth amryw o'r bobl yn nes at y pregethwr, ond eraill a safasant o hirbell hyd y diwedd. Ar hyn, darllenodd Thomas Edwards ranau o'r gair sanctaidd, gweddïodd, a chymmerodd ei destyn. Cafwyd pob llonyddwch, a gwrandawiad astud. Terfynodd yr oedfa yn brydlon, ac aethant oll gyda'u gilydd i hen eglwys Bangor-is-y-Coed. Dyma'r ysgogiad cyntaf erioed a wnaeth y Trefnyddion Calfinaidd tuag at oleuo ac efengyleiddio trigolion goror Clawdd Offa, y rhai ar y pryd oeddynt yn eistedd yn mro a chysgod angau. Ni byddai yn ormod dyweyd fod y preswylwyr yn gyffredinol, ar y pryd, yn meddiant tywyllwch anwybodaeth, o'r bron yn baganiaid hollol, yn ystyr eangaf y gair. Ar ol cael tamaid o giniaw yn y tŷ tafarn, aethant oddiyno, fel y crybwyllasom o'r blaen, i dref fechan arall gerllaw, o'r enw Worthenbury, lle heb fod yn nepell o hen gartref yr anfarwol Philip Henry, yr hwn a fu am dymmor yn weinidog yr eglwys yn y lle.

Mae yn ymddangos fod amryw o drigolion y dref fechan hono ar y pryd odditan effeithiau diodydd meddwol, yr hyn a barodd na bu eu dyfodiad i'r lle hwnw mor ddymunol ag i Bangor. Dychwelasant erbyn yr hwyr i Wrecsam.

Cyfeillion Gwrecsam, fel y gwelir, mewn cysylltiad â brodyr Adwy'r Clawdd, fuont yn offerynau cyntaf erioed, yn yr undeb Methodistaidd, yn swnio yn nghlustiau preswylwyr y wlad frâs hono efengyl y bendigedig Iesu. Mae yr ychydig hâd hwnw, a roddwyd yn y priddellau, erbyn hyn wedi dyfod yn gnwd lled doreithiog. Mae dau o'r fyntai ryfedd hon eto yn fyw, sef Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, a Mr. Richard Hughes, stationer, Wrecsam, gan pa rai y cawsom yr hanes; y rhai hefyd ydynt barod i gadarhau gwirionedd yr hyn a ysgrifenwyd.

Yr oedd y diweddar Mr. Thomas Glyn Jones, Mostyn, swydd Fflint, yn un o'r rhai ieuaingc yn mhlith y fyntai. Dywedai y brawd hwnw wrth gyfaill iddo, mai y waith gyntaf erioed iddo ef weled dagrau Seisnig ar y gruddiau oedd yn Mangor-ïs-y-Coed, pan oedd Mr. Thomas Edwards, o Liverpool, yn pregethu. Fe fu tywallt yr ychydig ddagrau hyny yn ngoror Clawdd Offa, ar y pryd, yn ddechreuad tywallt dagrau lawer ar ol hyn, ac hefyd yn ddechreuad tywallt allan y galon mewn edifeirwch, yr hyn a dybenodd yn iachawdwriaeth i laweroedd.

Da genym allu ychwanegu fod ysgogiad yn awr ar droed tuag at adeiladu capel perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Bangor. Y mae brawd o'r enw Robert Evans, yr hwn a ddaeth yma i breswylio er's ychydig flynyddoedd yn ol, wedi cael tueddu ei feddwl i gymmeryd y cam hwn. Y mae yno eisoes ysgol sabbothol yn cael ei chynnal.

Dymunol fuasai genym roddi hanes helaethach am fanylion pethau yn y blynyddoedd diweddaf yn Abbot-street; ond gan fod hyn o gofnodau wedi chwyddo eisoes yn llawer mwy nag y meddyliwyd ar y dechreu, mae yn rhaid o ganlyniad i ni dalfyru a thynu at orphen.

Yr oedd golwg siriol ar yr achos yn ei flynyddoedd diweddaf yn Abbot-street, a hyny yn ei holl ranau a'i gysylltiadau. Yr oedd felly nid yn unig yn ei bethau amgylchiadol-megys y drefn, y gofal, a'r manylrwydd y cedwid pob cyfrifon arianol; yr ymwelid â, ac y cyfrenid i'r tlodion, a'r modd y gwneid casgliadau at bob achosion da, a hyny yn rheolaidd-ond yr oedd yr achos hefyd yn ei wedd ysprydol ar y pryd, mewn llawer o ystyriaethau, yn dra dymunol. Yr oedd y gynnulleidfa yn y blynyddoedd hyn yn cael gweinidogaeth o'r fath goethaf. Byddai ychwanegu beunyddiol at nifer yr eglwys, a byddai ymdrech mawr yn cael ei wneyd at fagu a meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, bob oed, rhyw, ac amgylchiadau. Yr ydym yma yn dra hyderus na bu llafur a ffyddlondeb ein brodyr, yn y blynyddoedd diweddaf, 'yn ofer yn yr Arglwydd.'

Nid peth bychan yn ein golwg oedd y brawdgarwch, yr undeb, y cydgordiad a'r cydweithrediad barhaodd yn mhlith y brodyr; yn enwedig yn y blynyddoedd hyny pryd yr oeddynt yn cynllunio pethau yn eu cysylltiad â'r capel newydd. Yr oedd y trefnu a'r penderfynu gyda'r cyfan mewn perffaith gydwelediad, a hyny yn dawel a thangnefeddus. Yr oedd y frawdoliaeth yn gyffredinol, odditan yr amgylchiadau hyn, yn cydnabod llywodraeth fanwl ac amddiffyniad Pen yr eglwys, dros holl gyssylltiadau ei achos.

Gyda gwylder a gostyngeiddrwydd yspryd y dymunem hysbysu ein bod yn meddwl i'r gwersyll ymgodi yn Abbot-street, ac ymsymmud oddiyno, a hyny odditan gyfarwyddyd ac amddiffyniad colofn gogoniant yr Arglwydd.

Ni gallwn lai nag edrych ar y symmudiad hwn yn gyffelyb i'r symmudiad o'r babell i'r deml; hyny ydyw er gwell: a gobeithio yn ostyngedig yr ydym y bydd y lle newydd hwn yn fath o gyssegr sancteiddiolaf i Arch Cyfammod yr Arglwydd. Ein dymuniad hefyd ydyw ar iddo breswylio yno yn ei râs, ei amddiffyn, a'i ogoniant. Bydded ei orseddfaingc ar drugareddfa iawn a chyfryngdod ein Gwaredwr; ac ymddysgleiried ei ogoniant oddi rhwng y cerubiaid.

'Trig yn Seion, aros yno,
Lle mae'r llwythau'n d'od y'nghyd;
Byth na 'mad oddiwrth dy bobl,
Nes yn ulw'r elo'r byd.'

Traddodwyd y bregeth ddiweddaf, yn hen gapel Abbot-street, sabboth, yr eilfed-ar-ugain o Fedi, 1867, gan y Parch. David Hughes, Bryneglwys. Hyd ydym yn cofio, nid oedd dim yn y testyn na'r bregeth yn cyfeirio at yr amgylchiad, er ei fod i'r eglwys ar y pryd, ac i'r gwrandawyr hefyd, yn beth gwir nodedig. Yr ydym yn tueddu i feddwl y dylasai gweinidog y lle fod yno y sabboth hwnw; oblegid y buasai ganddo ef lawer o fantais i wneyd sylwadau ar amryw bethau yn eu cysylltiad â'r achos yn y lle, ac hefyd â'r amgylchiad hwnw-pethau ag a fuasent yn tueddu i adael argraff o ddifrifwch ar feddyliau y gwrandawyr. Yr oedd y teimladau ar y pryd yn ddyeithr, amrywiol, a thra gwahanol. Bron na thybiem fod tebygolrwydd rhwng eu teimladau hwy ar y pryd â theimladau nifer liosog o'r gaethglud gynt a ddychwelasant o Babilon i Jerusalem. Yr oedd gwahaniaeth y mae'n rhaid addef, ond yr oedd yno debygolrwydd hefyd. Yr oedd yno un dosbarth yn wylo'r dagrau yn hidl, wrth weled nad oedd gogoniant y deml adgy weiriedig gynt yn deilwng o'i chystadlu mewn gwychder a gogoniant â'r un o'i blaen. Yr oedd yn Abbot-street hefyd y sabboth olaf hwnw rai o'r hynaf wŷr a'r hynaf wragedd yn methu a pheidio galaru hyd nes wylo'r dagrau; nid mewn un modd am fod y lle yr oeddynt hwy ar gefnu arno yn lle mor ddymunol a chysurus, ond yn unig oblegid mai y lle hwnw oedd y fan ddedwydd hono lle y byddent yn arfer mwynhau cysur a gorfoledd eu crefydd. Yma y bu rhai o'r hen bererinion hynaf yn cyd-eistedd, yn cyd-fwyta, yn cyd-wledda a llawenhau, a hyny am flynyddau lawer. Yr oedd hen serch at y lle a'r ymlyniad wrtho, wedi dyfod o'r bron yn deimlad rhy anngherddol i feddwl ei adael. Yr oedd myfyrio ar y peth hwn, ac yn y peth hwn aros, yn peri fod dyfnderoedd ffynnonau galar yn ymfyrlymio allan yn ffrydiau aruthrol o ddagrau lawer. Yr oedd rhai o honynt yn rhagbortreiadu yn eu dychymmygion y tristwch a'r hiraeth fyddai yn rhwygo eu teimladau yn y dyfodol, pan yn cofio am yr hen gartref. Yr oedd dosbarth arall ieuengach yn mhlith y gaethglud ddychweledig, y rhai ni wyddent ddim am Jerusalem a'r deml gyntaf, ond yn unig mewn hanes. I'r dosbarth hwn yr oedd yr oll o'r hen bethau megys out of sight, out of mind. Ond yr oeddynt hwythau yn llawenhau am eu bod yn cael gweled hen ddinas beddrod eu tadau, a chael ad-feddiannu yr hyn a fu am ysbaid deng mlynedd a thriugain yn meddiant estroniaid.

Yn gyffelyb i hyn yr oedd dosbarth lliosog o'r meibion a'r merched ieuaingc yn ein plith ninau, ac hefyd ddosbarth ieuengach o'r plant, y rhai oeddynt oherwydd eu hoedran heb weled, gwybod, na theimlo yn gyffelyb i'r hen frodyr yn y lle. Nis gallasai fod eu hymlyniad a'u serch hwy eto wedi dyfod y peth ag oedd yn eu tadau. Yr oedd y dosbarth hwn, gan hyny, o herwydd y rheswm a grybwyllwyd, nid yn ngafael tristwch a galar yn cefnu ar y lle, ond yn llawenhau a gorfoleddu. Ymadawsant â chalon lawen, wyneb siriol, ac hefyd â sain cân yn eu genau. Dyma mewn rhan oedd ansawdd teimladau yr eglwys, y gynnulleidfa, a'r ysgol sabbothol yn y lle hwn, y sabboth olaf y buont yn y capel, a'r dydd yr ymadawsant. Yr oedd yma orfoledd a llawenydd mewn un ystyr; a llais wylofain a galar mewn ystyr arall; a'r ddau deimlad, yn gyffelyb i liwiau yr enfys, yn rhedeg i'w gilydd, ac yn ymgymmysgu yn eu gilydd, fel mewn gwirionedd yr oedd yr olygfa wedi dyfod yn un brydferth a dymunol. Oni bai fod rhyw beth yn gyssylltiedig â hen deimladau nas gellir yn hawdd gyfrif am danynt, diau genym y buasai yr hynaf wŷr a'r hynaf wragedd yn llawenhau llawn cymmaint â'r bobl ieuaingc, oblegid nid oedd dim swynol na dymunol yn yr hen gapel yn y blynyddoedd diweddaf i'w cadw ynddo.

Yr oedd mewn cyssylltiad â'r achos yn ei ymadawiad â'r hen gapel, ac yn yr ymsefydliad yn y newydd, dri o weinidogion a phedwar o ddiaconiaid. Y gweinidogion oeddynt y Parchedigion J. H. Symond, gweinidog a bugail y lle; a William Lewis, diweddar genhadwr ar Fryniau Cassia, yn India'r Dwyrain; a Richard Jones, yr hwn ni chafodd fwynhau ein cyfarfod yn y capel newydd, ond hwnw fu genym i osod yr eisteddleoedd. Yr oedd yn gorwedd yn glaf amser yr agoriad, a bu farw y drydedd wythnos ar ol hyny, er colled a galar mawr i ni oll. Y diaconiaid oeddynt y Meistri Richard Hughes, Evan Powell, Richard Brunt, yn nghyd ag ysgrifenydd hyn o hanes. Yr oedd nifer y cymmunwyr ar hyn o bryd yn 206. Nifer y plant perthynol i'r eglwys oddeutu 80. Nifer holl ddeiliaid yr ysgol sabbothol ar y llyfrau oeddynt 273. O'r nifer hwn byddai yn bresenol oddeutu dau gant ac ugain; ar brydiau byddai llai, ac ambell waith byddai rhagor. Yr oedd nifer lled fawr hefyd yn y cyfamser o rai ar brawf, ac yn ceisio aelodaeth.

Byddai nifer y gwrandawyr ar nos sabboth tua 400, ond yn y boreu ychydig yn llai. Gan y bwriedir yn niwedd hyn o hanes roddi taflen gryno yn cynnwys y manylion am ansawdd yr achos, ni bydd i ni yma, gan hyny, ymhelaethu ar hyn.

Y sabboth olaf o fis Medi, 1867, ydoedd y tro cyntaf i ni fyned i addoli i'r capel newydd. Yr oedd uchel-ŵyl gyfarfod wedi ei threfnu a'i hir ddysgwyl fel agoriad iddo. Boreu sabboth am ddeg, pregethwyd y tro cyntaf ynddo gan y Parch. L. Edwards, D.D., Bala, ar 'Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?' &c. Psalm xxiv. 3-10. Pregeth hynod o gymhwys i'r adeg, a chryn enneiniad hefyd ar yr holl wasanaeth. Am hanner awr wedi dau yn y prydnawn, yr oedd y gwasanaeth yn Saesneg, a'r Parch. D. Charles, B.A., Abercarn, yn pregethu yn dda a phriodol i'r amgylchiad. Am chwech yr oedd y ddau ŵr parchedig uchod yn pregethu yn Gymraeg. Yr oedd genym bregethu drachefn nos Lun, a thrwy ddydd Mawrth, a nos Fercher. Ac heblaw y gweinidogion oedd gyda ni y sabboth, daeth yma i bregethu y Parchedigion H. Rees, ac O. Thomas, Liverpool; Joseph Thomas, Carno; Robert Roberts, Carneddi, a T. Charles Edwards, Liverpool. Gwnaed casgliad yn mhob oedfa, a chyrhaeddodd erbyn y diwedd dros £121. Y sabboth canlynol pregethodd y Parch. J. H. Symond, yn y boreu, ar 'Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma ond tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.' Genesis xxviii. 17; a'r nos ar 'Yn mhob man lle y rhoddwyf gaffadwriaeth o'm henw, y deuaf attat ac y'th fendithiaf.' Exod. xx. 24. Wrth gymmeryd un drem gyffredinol ar yr achos yn ei wedd ysprydol, gellir hysbysu fod pethau ar y cyfan yn lled gysurus. Mae yma ryw rai yn feunyddiol o'r newydd yn ymofyn lle ac aelodaeth yn mhlith y frawdoliaeth. Mewn un ystyr gellir dyweyd nad oes yn ein plith ryw lawer o bethau mawrion a rhyfedd yn cymmeryd lle, megys mellt a tharanau, a daeargrynfâau; ond y mae yma ryw lef ddystaw fain er hyny, a hono ar brydiau, ac nid anfynych, yn peri ei chlywed a'i theimlo yn bur effeithiol. Treulir ein cyfarfodydd eglwysig, gan mwyaf, trwy fod rhyw rai yn y frawdoliaeth yn adrodd eu profiadau; sef y peth hwnw a deimlent yn eu hysbrydoedd yn yr ymarferiad â moddion grâs. Treulir ambell i gyfarfod i ymdrin â phwngc o athrawiaeth; rheol ddysgyblaethol; ac adrodd adnodau ar ryw fater wedi ei drefnu a'i hysbysu yn flaenorol; ac weithiau trwy ddysgyblu am fai, pan y bydd bai yn galw am oruchwyliaeth felly. Rhoddir y flaenoriaeth bob amser yn ein cyfarfodydd eglwysig i'r hyn a elwir yn 'ddyweyd profiad.' Treulir un cyfarfod bob mis, o'r hyn lleiaf ran o hono, i ymddiddan â, a derbyn rhai o'r newydd at fwrdd yr Arglwydd. Mae'r weinidogaeth yn ein plith yn bur gyson, a llawer o amrywiaeth yn y doniau; ac ar y cyfan yn hynod o'r coeth. Y mae ein gweinidog, y Parch. J. H. Symond, yn arfer pregethu yn y lle un sabboth yn y mis. Cynhelir un cyfarfod yn yr wythnos gyda'r bobl ieuaingc yn benaf, i ddarllen a chwilio yr ysgrythyrau, a hyny mewn dullwedd sydd yn tueddu at eu heglurhau a pheri argraff ddaionus ar eu hysbrydoedd. Cynhelir cyfarfod arall ar noson o'r wythnos i addysgu'r dosbarth ieuengaf o'r plant. Y prif athraw a llywydd yn y cyfarfodydd dyddorol hyn ydyw gweinidog y lle. Hefyd, y mae yn dda genym ychwanegu fod gan y chwiorydd eu cyfarfod wythnosol yn eu plith eu hunain, ar wahan oddiwrth y brodyr. Amcan y cyfarfod hwn eto ydyw addysgu y naill y llall yn yr ysgrythyrau; cynghori eu gilydd, ac ymarfer eu hunain i gydweddïo. Yn ychwanegol at hyn, yr hyn hefyd sydd yn werth ei hysbysu, mae dosbarth lliosog o'r chwiorydd wedi ymffurfio yn fath o gymdeithas, i'r dyben o wneuthur ymchwiliad yn mhlith y tlodion; hyny ydyw, y tlodion gan mwyaf sydd yn dwyn cyssylltiad â'r gynnulleidfa Gymreig yn y lle. Enw'r gymdeithas ydyw 'Dorcas.' Mae ymysgaroedd tosturiol y Ddorcas' hon, yn nghyd a'i llaw haelionus, yn enwedig yn misoedd oerion y gauaf, wedi estyn allan roddion lawer.

Mae yr addoldŷ newydd yn adeilad lled fawr-yn agos i saith-arugain o latheni o hyd oddifewn i'r muriau, a phedair-ar-ddeg o latheni o led. Y mae gallery ar ddwy ochr iddo, yn nghyd a gallery hefyd yn un pen. Y fo ydyw'r addoldŷ ymneillduol helaethaf yn y dref. Mae wedi ei gyfaddasu i gynnwys wyth cant i eistedd ynddo yn gysurus. Mae'r front, er yn syml, eto â rhywbeth ynddo yn fawreddog ac ardderchog. Mae'r ddwy gongl yn y front ar ffurf math o dyrau, ac o'r hanner i fyny yn ymffurfio yn binaclau pigfeinion, troedfedd[7] o uchder. Oddifewn i'r tyrau hyn y mae'r esgynfan i'r gallery, wedi eu gwneuthur yn risiau troellog; hawdd hyd yn oed i'r oedranus eu dringo. Mae dau ddrws yn y front yn cael eu cylchynu gan ddau o byrth (porches), pob un yn cael eu cynnal gan ddwy o golofnau caboledig, o'r maen a elwir y granite coch, y rhai a gludwyd i'r lle hwn o Ysgotland. Hefyd, y mae rhwng y tyrau a ddysgrifiwyd, ac oddiar y pyrth, un ffenestr fawr ac ardderchog, ac ynddi beth o'r gwydr amryliw. Mae'r ffenestr yn ugain troedfedd o uchder, ac yn ugain troedfedd draws-fesur. Mae wedi ei gweithio yn addurniadol drwyddi oll, yn enwedig ei phen uchaf. Hefyd, y mae iddi ddwy o golofnau o'r un defnydd â cholofnau'r pyrth. Mae'r ffenestr mor llydan fel y mae yn llenwi'r holl front o'r bron, o'r naill dŵr i'r tŵr arall. Mae hefyd yn y talcen arall i'r capel, o'r tu ol i'r pulpyd, ffenestr gron fawr, a mwy o gelfyddydwaith arni na'r llall: mae hon yn llawn o brydferthion y gwydr amryliw. Mae'r capel yn sefyll ar lanerch ddymunol ac er ei fod mewn cyssylltiad â'r dref, eto mewn rhan y mae allan o honi. Adeiladwyd ef ar y llaw ddeheu, yn Regent-street, ffordd yr eir o'r dref at y station. Mae hefyd wedi dygwydd yn bur hapus trwy fod tai prydferth, lle a elwir 'Bryn Edwin,' ar ei gyfer yr ochr arall i'r ffordd. Mae front y lle hwnw, am ei fod amryw latheni oddiwrth y ffordd, ac iddo pleasure-ground o'i flaen, yn peri llawer iawn o ysgafnder, a phethau eraill dymunol i front y capel. Costiodd y tir, a'r addoldy sydd yn awr arno, yn nghyd a'r railing sydd yn ei amgylchynu, yn lled agos i chwe' mil o bunnau. O'r swm mawr hwn y mae pedair mil o bunnau eisoes wedi eu talu, ac felly dwy fil sydd o ddyled yn aros ar hyn o bryd.

Mae pob pregethwr fu ynddo, o'r bron yn ddieithriad, yn cyddystiolaethu ei fod yn un o'r addoldai hawddaf i bregethu ynddo, yn holl dywysogaeth Cymru. Ar ddyddiau agoriad y capel, ac ar amser uchel-ŵyliau eraill, gwelwyd yn yr addoldŷ uwchlaw deuddeg cant o wrandawyr. Maddeued y rhai sydd yn y gymmydogaeth am i ni fanylu cymmaint yn narlunio'r capel: gwnaethom fel hyn, rhag y dygwydd i'r llyfryn hwn ddyfod i law y pell a'r dyeithr. Fe allai fod rhai yn beio am i'r brodyr yn y lle anturio gwneyd capel mor fawr. Wel, y mae yn rhaid addef fod ei faint yn achlysur o'r hyn lleiaf i rai, os nad i luaws wneyd y sylw hwnw. Mae rhyw bethau, er hyny, yn cyfiawnhau y cyfeillion yn y lle am wneuthur fel y gwnaethant. Mae yn hysbys i bawb sydd yn gydnabyddus â'r dref, fod cynydd ei phoblogaeth yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn fawr iawn. Heblaw hyny, mae dau o weithfaoedd glô mawrion yn cael eu hagor ar hyn o bryd gerllaw i'r dref: un yn agos i'r Rhos-ddu, oddeutu milldir o'r dref, a'r llall yn agos i'r Railway sydd yn rhedeg rhwng Gwrecsam a Rhiwabon, llai o ffordd na dwy filldir o'r dref. Yn mhen ychydig flynyddoedd eto, dyweder chwech neu ddeg fan bellaf, fe fydd yn y ddau waith glô hyn ddwy neu dair mil o weithwyr, a dyweyd y lleiaf, yn mhlith y miloedd hyn, yr ydym yn meddwl mai nid rhyfyg ynom ydyw dyweyd y bydd rhai canoedd o honynt yn Gymry gwaed coch cyfan.

Mae hyn yn un peth, ni dybiwn, sydd yn cyfiawnhau adeiladu addoldŷ mor eang. Gallasem enwi pethau eraill fel rhesymau, ond gadawn ar hyn yn unig. Mae nifer o'r rhai mwyaf ffyddiog ac eang galon, yn ein plith, yn meddwl y bydd yn rhaid adeiladu addoldŷ arall, cyn hir, yn nghymmydogaeth Fairfield, aden newydd o'r dref yn cynnwys amryw ganoedd o drigolion.

CYFARFOD MISOL SIR FFLINT.

YSTADEGAU EGLWYS Y METHODISTIAID CALFINAIDD, YN NGWRECSAM,

1. Nifer y Blaenoriaid ar ddiwedd y flwyddyn 4
2. Nifer presennol y Cymmunwyr 210
3. Nifer yr ymgeiswyr am Aelodaeth 7
4. Nifer y Plant yn yr Eglwys 90
5. Yr oll a dderbyniwyd i Gymmundeb yn ystod y flwyddyn 14
6. Y rhai a ddiarddelwyd 3
7. Y rhai a fuont feirw 5
8. Nifer yr Ysgol Sabbothol 336
(1.) Athrawon ac Athrawesau 36
(2.) Ysgoleigion ar y llyfrau 300
9. Nifer y Gwrandawyr-hyny yw, pawb sydd yn arfer gwrando
yn ein plith, er na fyddant oll yn bresennol ar yr un pryd
570
10. Ardreth Eisteddleoedd y flwyddyn hon £60 16 3
11. Casgliad at y Weinidogaeth £140 10 7
12. Y swm a ddefnyddiwyd o Ardreth yr Eisteddleoedd,
&c., at y Weinidogaeth
£21 5 4
13. Casglwyd at yr Achosion Cenadol £18 8 9
14. I'r Tlodion a Chlybiau Dilladu £13 16 4
15. At Ddyled y Capel £228 13 10
16. At Achosion eraill, megys glanhau, goleuo, neu
adgyweirio y Capel, Llyfrau yr Ysgol, &c.
£10 9 11
17 At yr Infirmary £3 0 0
18. At Fund yr Hen Bregethwyr £4 6 0½
19. Dyled bresennol y Capel
O.Y—Golygir Cyfroddion a wneir gan Aelodau tuag at y Feibl Gymdeithas, Clafdai, a'r cyffelyb, fel pethau gwladol, gan nad ydynt dan nawdd uniongyrchol y Cyfundeb.

GWASANAETH CYHOEDDUS DIWEDDAF
Y PARCH. HENRY REES.

YN Ngwrecsam, y 7fed o Chwefror, 1869, y traddododd Mr. Rees ei bregeth olaf am byth.

Dydd Gwener y boreu, sef y dydd cyntaf ar ol marwolaeth Mr. Rees, pan oeddym yn sefyll ar Heol Abbot, yn y dref, daeth dosbarthydd papyrau newyddion heibio, a gofynodd, 'A glywsoch chwi am Mr. Rees?' 'Beth am dano? Wel, fy nghyfaill, y mae efe wedi myned adref.' 'Wedi myned adref?—beth ydych yn feddwl!' 'Mae e' wedi marw, a myned i orphwys oddiwrth ei lafur.' 'Beth, Mr. Rees wedi marw?' 'Ie, ysywaeth, Mr. Rees wedi marw-yn sicr i chwi.' 'Mr. Rees wedi marw!—y gŵr ag oedd yn ein tea party yr 8fed o'r mis hwn—yn cydfwyta â ni, yn cydwledda, ac yn cydlawenhau; ac yn ein cyfarfod cyhoeddus y noson hono yn areithio er cynnorthwyo a chefnogi i dalu dyled ein capel—y dydd o'r blaen hefyd, y sabboth, yn pregethu i ni ddwy waith—ac a ydych yn dyweyd fod y gŵr wedi marw? A ddichon i hyn mewn difrif fod yn wirionedd yn ffaith ag y mae yn rhaid i ni ei chredu?' Ydyw, fy mrawd, ysywaeth, y mae'r newydd yn ddigon gwir; a bydd ei enw yntau o hyn allan yn cael ei argraffu a'i ddarllen ar gofres y meirw.' Anwyl Rees—y ffyddlonaf Rees—y mawr a'r talentog yn ein plith—y tywysog yn mhlith ei frodyr-yr archdduweinydd ysbrydol—feddwl a dwfn—dreiddgar—ein tad ninnau, luaws ohonom. Beth am dano heddyw? Wedi marw !!! O fel y mae teimladau y miloedd yn ymrwygo―yr ocheneidiau trymiom yn ymgodi yn naturiol o orddyfnder y galon—y dagrau yn ymdywallt i lawr y gruddiau yn afonydd cryfion—holl eglwysi a chynnulleidfaoedd y Dywysogaeth yn darpar i ddwyn allan eu galar wisgoedd.

Yr oedd rhyw awyddfryd mawr anghyffredin ymom rywfodd am gael gwrando Mr. Henry Rees y boreu sabboth hwnw. Aethom yn brydlon i'r capel. Wedi eistedd ohonom, edrychasom yn ddyfal tua'r drysau. Cyn bod yr awr i ddechreu yn gwbl i fyny, wele yr hen batriarch a thad yn dyfod i mewn; cerddai rhagddo yn araf, gan roddi cam lled hir, fel y byddai yn arfer. Wedi dyfod ohono at y sêt fawr, dringodd y grisiau i'r pulpyd; tynodd ei gôt uchaf, ac eisteddodd am enyd; yna safodd ar ei draed, dyrchafodd ei ddwylaw, cauodd ei lygaid a dywedodd, 'Awn air i weddi.' Yr oedd hyn dipyn yn hynod yn ein plith ni, gan ei fod yn gwahaniaethu oddiwrth y dull cyffredin o ganu a darllen yn gyntaf. Yr oedd y weddi gyntaf hon yn fer, ond yn dra phwysig, difrifol, yn llawn mater a theimlad. Ar ol y weddi fer gyntaf, a chyn gweddïo yr ail waith, efe a ddarllenodd ranau yn llyfr y Prophwyd Joel-prophwydoliaeth am dywalltiad yr Ysbryd. Darllenodd hefyd yn Actau yr Apostolion, y rhanau hyny sydd yn cyfeirio at y brophwydoliaeth yn Joel. Darllenodd ranau ereill o'r Gair, ond nid ydym yn gallu gwybod ar y funyd yn mha le. Darllenodd yn destyn eiriau yn Llythyr Paul yr Apostol at Titus, y drydedd bennod a'r chweched adnod-'Yr hwn (sef yr Ysbryd Glân) a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr.' Darllenodd hefyd yr un geiriau yn destyn yn yr hwyr. Geiriodd ei faterion yn mhregeth y boreu rywbeth yn debyg i hyn:-' Annogaethau i ddysgwyl am yr Ysbryd -neu y tair effaith sydd yn wastad yn dilyn pob ymweliad neillduol o eiddo Ysbryd yr Arglwydd. 1. Chwanegiad mawr at yr eglwys. 2. Duwioldeb mawr yn yr eglwys. 3. Heddwch mawr yn amgylchiadau yr eglwys.'

Y nos, oddiar yr un testyn, sylwodd—'Enwaf ychydig o ystyriaethau o duedd i'ch cyffroi a'ch cefnogi i ddysgwyl am yr Ysbryd. 1. Fod iachawdwriaeth y byd yn ymddibynu ar weinidogaeth yr Ysbryd. 2. Fod yr ammod mawr ar ba un yr oedd yn cael ei addaw wedi cael ei gyflawni. 3. Eich bod yn byw tan oruchwyliaeth yr Ysbryd. 4. Rhadlonrwydd yr Ysbryd. Y mae'r idea o radlonrwydd yn y gair "tywallt."'

Yr oedd y pregethau diweddaf hyn o eiddo Mr. Rees, fel y byddai yr eiddo ef bob amser, yn rhai gwir dda; yr oeddynt hefyd yn neillduol ar y cyfryw amseroedd a'r amseroedd presennol. Yr oeddynt yn oedfaon gwlithog, a'r gwrando yn astud iawn. Treuliwyd y cyfarfod eglwysig canlynol yn gwbl i ymddiddan ar y pregethau, ac yr oedd yn ymddangos iddynt fod yn fendithiol i lawer.

Cawsom y fraint hefyd o eistedd wrth y bwrdd, ac edrych a gwrando arno yn gweinyddu Swper yr Arglwydd am y waith olaf am byth. Yr oedd rhyw arbenigrwydd neildduol ar weinyddiad yr ordinhad ddwyfol hon hefyd, oherwydd yr oedd ar y pryd ryw arogl esmwyth yn disgyn ac yn pereiddio'r lle. Ar ol sylwadau neillduol ar ddechreuad y gwasanaeth hwn, ac hefyd ar ol gweddi o'r fath fwyaf difrifol, aeth Mr. Rees trwy'r gynnulleidfa yn flaenaf, gan gymmeryd yn ei law y bara i'w gyfranu, yn cael ei ddilyn gyda'r gwpan a'r gwin gan y Parch. Mr. Lewis, diweddar genadwr ar fryniau Cassia, yn India'r Dwyrain. Yn ystod y gweinyddiad yr oedd Mr. Rees wrth gyfrauu'r bara yn sefyll yn awr ac eilwaith, a hyny yn aml, ac mewn llawn sel, hwyl, teimlad, a phrofiad; yn traethu am berson a gogoniant y dyn Crist Iesu-ei aberth teilwng yn ei werth, ei rinwedd, a'i effeithiau, nes ennil yr eiddil diwerth i ymddiried ynddo, a gorchfygu yr oer diserch i'w gofleidio a'i garu. Wrth ein hannog i gofio fod ein Cyfryngwr yn wir ddyn-yn meddu ar wir deimladau y ddynoliaeth yn ei stad berffeithiaf-a'r teimladau hyny heb erioed eu hanmharu na'u niweidio gan bechod; yn a thrwy y pethau hyn yr oedd yn rhwymo serch y Cristion wrth ei Geidwad yn fwy tŷn nag erioed. Yr oedd yn amlwg wrth ei weled a'i glywed ei fod ef ei hunan yn rhyfeddu, addoli, a mawrhau trefn gras yn ei enaid; ac yr oedd y rhai a cisteddent wrth y bwrdd, ni a obeithiwn, yn gwledda ar yr arlwy ysbrydol fel yntau.

Cawsom y fraint hefyd o wrando ar a gweled Mr. Rees am y tro diweddaf yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd. Yr un bychan a fedyddiwyd ganddo oedd blentyn i Mr. J. H. Symond, ein bugail; a'i wraig. Fel yr oedd Mr. Rees yn neillduol yn mhob peth, felly hefyd yr oedd efe yn hyn o orchwyl. Pan aethom i mewn, yr oedd wedi bod yn darllen, mi dybiem, hanes y cyfammod a wnaeth Duw âg Abraham, yr hwn, ni dybiwn wrtho, oedd y datguddiad helaethaf ac egluraf a gafwyd hyd yn hyn o'r cyfammod gras. Dywedai y byddai duwiolion yr Hen Destament, yn enwedig ar amserau, yn ymaflyd o ddifrif yn nghyfammod Duw a'i seliau, neu ei arwyddion; ïe, ac yn dadleu ei addewidion yn y modd taeraf a mwyaf penderfynol. Sylwodd ar yr arwyddion a roddodd Duw—fod ynddynt sail dadl, yn enwedig pan eir i brofedigaeth a chyfyngder. Cyfeiriodd at y bwa yn y cwmmwl, ac hefyd at yr enwaediad. Gwnaeth sylw addysgiadol oddiwrth hanes Tamar; y sêl, y breichledau, a'r ffon a roddwyd iddi yn wystl ac yn arwyddion. Pan y daeth i gyfyngder, a'i bywyd i fod yn y perygl, y peth a wnaeth oedd dwyn allan yr arwyddion oedd wedi eu gwystlo i'w meddiant, sef y sêl, y breichledau, a'r ffon; ac wrth eu dangos hi ddywedai, 'O'r gŵr y piau y rhai hyn yr ydwyf fi y fel-a'r-fel.' Gorchfygodd y gwystlon a'r arwyddion hyn i achub ei bywyd. Y mae rhyw nerth cryfach na hyn yn nghyfammod Duw, ac y mae ei seliau yn bethau i ymaflyd ynddynt. Cyfeiriodd at hanes Dafydd yn nghanol ei drallod a'i anghysur pan y dywedodd, 'Er nad yw fy nhy i felly gyda Duw, eto cyfammod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr.' Wrth ddangos y cyfrifoldeb y mae rhieni ynddo wrth fagu plant, annogai hwy o ddifrif i gymmeryd gafael yn nghyfammod Duw a'i addewidion—'Myfi a fyddaf yn Dduw i ti ac i'th had ar dy ol di.'

Wel, dyma fras hanes anmherffaith am wasanaeth cyhoeddus diweddaf yr anwylaf Henry Rees. Synwyd ni yn fawr ar weinyddiad Swper yr Arglwydd wrth ysgafnder traed, a deheurwydd Mr. Rees, yn ei oedran ef, yn myned trwy y gwasanaeth hwn. O mor anhawdd ydyw sylweddoli y ffaith fod y brawd a safai yn ein pulpyd, ac wrth fwrdd y cymmundeb, ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn y dystaw fedd! Y mae rhediad a churiad y gwaed wedi sefyll y ddau lygad a ddysgleirient ac a felltenent wedi eu cau a'u selio—y tafod a lefarai mor hyawdlaidd a nerthol sydd yn awr yn nghell oerddystaw y bedd —y gweinidog a'r 'dyn Duw' hwn a welwyd fel wedi ei wefreiddio â chynnorthwyon a dylanwadau yr Ysbryd Glân—yr hwn a welwyd yn rhoddi pob nerf, a nerth, a dylanwad a feddai i rybuddio pechadur, a'i ennill at Fab Duw, sydd erbyn heddyw wedi dystewi am byth! O fy enaid, y mae i ti groesaw i ymdywallt allan y galar mwyaf eithafol; cwyna yn herwydd dy fawr golled; tywallt allan dy ddagrau yn ffrydiau cryfion; y mae yn rhesymol gwneyd felly.

Wrth i ni gymmeryd ein safle ar feddrod y meirw, sef ein pregethwyr ymadawedig, y mae genym ryw beth tra phwysig i'w ystyried. Pan yr aeth Elias o Fon i'r bedd, yr oedd ar y maes lu mawr o dywysogion yn y weinidogaeth wed'yn yn aros, megys Roberts o Amlwch, Hughes Pont Robert, Jones o Talsarn, Dafydd Jones o Gaernarfon (Treborth wedi hyny), Hughes o Lerpwl, Phillips o Fangor, ac yn eu plith yr hwn y bydd ei enw mor anfarwol a'r un o honynt—ein hanwyl Henry Rees. Y mae yr oll o'r rhai uchod erbyn hyn wedi eu cwympo, a'r derw cedyrn wedi eu dadwreiddio un ac oll. Ni a obeithiwn eto fod aml i gedrwydden, ac aml i dderwen yn mhriddellau athrofa y Bala, y rhai pan y transplantir hwy i briddellau yr eglwysi, y byddont yn brenau cedyrn yn y tir.

YCHYDIG O HANES
YR ACHOS METHODISTAIDD SEISONIG
YN NGWRECSAM.

GAN i'r achos Methodistaidd Seisonig, yn y dref, gael ei ddechreuad mewn cyssylltiad â'r achos Cymreig yn Abbot-street, byddai yn angharedigrwydd ynom, yn hyn o hanes, beidio a gwneuthur crybwylliad byr, o leiaf, am hwnw hefyd. Buasai yn dda genym roddi hanes manwl am dano, a buasai yn hawdd i ni wneyd hyny, oblegid y mae genym ddefnyddiau helaeth wrth law, a'r rhai hyny wedi eu casglu a'u hysgrifenu gan y diweddar Mr. Richard Davies, Temperance Hotel, yn y dref, yr hwn hefyd fu yn un o sefydlwyr cyntaf yr achos: ond y mae hanes yr achos Cymreig wedi chwyddo cymmaint o dan ein dwylaw fel yr ydym o dan yr angenrheidrwydd i fod yn fyr.

Enwau y personau a ysgogasant gyntaf yn hyn oeddynt y Parch. W. Edwards, Town-hill; Mr. Isaac Jones, Hope-street; a Mr. R. Davies, fel y crybwyllasom o'r blaen. Mae yn gôf gan rai fod Mr. Isaac Jones yn un o'r teithwyr oedd yn y gerbydres gerllaw Caerlleon, pryd y torodd y bont ac y lladdwyd amryw o honynt, ac yn eu plith Mr. Isaac Jones, a hyny yn fuan ar ol dechreuad yr achos. Yr oedd hyn yn golled drom ar y pryd, gan nad oedd yr achos eto ond yn fabandod.

Dechreuwyd yr achos Seisonig, yn y dref, yn niwedd y flwyddyn 1845. Ardrethwyd lloft eang yn nghanol hen warehouse yn Bankstreet, yr hon a adgyweiriwyd ac a wnaed yn fath o le i addoli. Y dydd yr ardrethwyd y lle, fe aeth y Parch. William Edwards ac a brynodd hen bulpyd y gwyddai am dano yn y dref, yna efe a ddywedai yn ei iaith ddigrifol ei hunan, 'Wel, de'wch lads, awn a'r hen bulpyd i'r room, i gymmeryd possession o'r lle.'

Y gareg sylfaen isaf yn adeiladaeth Methodistiaeth Seisonig yn y dref ydyw yr ysgol sabbothol; oblegid dyma ydoedd y moddion cyntaf o râs yn y lle. Enwau yr athrawon cyntaf oeddynt y Meistri Isaac Jones, Joseph Edwards, Arthur Jones, Owen Jones, ac un Mr. Edwards, Wheatsheaf. Dydd Nadolig, yn 1845, cafwyd cyfarfod pregethu, fel tro arbenigol i gyssegru'r lle, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Morgan, o'r Trallwm, ac eraill.

Yn mhen yspaid o amser, ar ol dechreu addoli yn y lle, fe gafodd yr achos fath o lewyg trwm, a bu agos iawn iddo a marw. Yn y cyfamser fe alwyd cyfarfod cyffredinol, pryd y daeth yr holl frawdoliaeth fechan yn nghyd, i ystyried pa beth oedd oreu i'w wneuthur odditan yr amgylchiadau, ai gadael iddo i drengu ai ynte arfer rhyw foddion effeithiol er ei adferu. Ar ol llawer o ymddiddan pwyllog yn y cyfarfod, yr oedd yn hawdd gweled mai y syniad cryfaf oedd iddo drengu a marw.

Yr hen frawd a thad y Parch. W. Hughes, yr hwn oedd yn y lle, yr hwn ar y pryd a deimlai i'r byw yn herwydd y peth, a safai yn fan ar ei draed, ac a ddywedai mewn iaith rymus, No, we will not let it die. Bu eiddigedd a sêl yr hen frawd ar y pryd, yn pledio dros yr achos, yn foddion effeithiol iddynt ail ymaflyd ynddo o ddifrif, fel o'r dydd hwnw allan y bu ei lwyddiant yn ddymunol.

Yn y flwyddyn 1855, y cyfeillion yn y lle, y rhai erbyn hyn oeddynt wedi ymgorphori yn eglwys fechan, a roddasant alwad unfrydol i Mr. Joseph Jones, Liverpool, i ddyfod i'w gwasanaethu fel bugail, i'r hon alwad hefyd y rhoddodd yntau ufydd-dod. Yr oedd amryw eglwysi bychain eraill yn y wlad, heb fod yn nepell o'r dref; rhoddwyd y rhai hyny hefyd odditan ei ofal. Y lleoedd hyny oeddynt Crab-tree Green, Tabernacl, Glanʼrafon, a Summer Hill. Yr oedd ei lafur yn ei flynyddoedd diweddaf wedi ei gyfyngu yn unig i'r Tabernacl a Gwrecsam. Bu Mr. Jones yn gweinyddu yn y ddau le diweddaf am oddeutu deng mlynedd. Ymadawodd o Wrecsam i Groesoswallt.

Ychydig, debygid, oedd nifer y gwrandawyr pan y daeth Mr. Jones i'w plith, ond pan yr ymadawodd yr oeddynt wedi cynnyddu yn fawr.

Yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Jones i'r dref, fe ddewiswyd Mr. Charles Hughes yn ddiacon yn y lle. Erbyn hyn yr oedd golwg ddymunol ar yr achos mewn llawer ystyr, a phobpeth yn cael ei gario yn mlaen yn rheolaidd, trefnus, a deheuig.

Gan fod y room, yn Bank-street, yn lle anghysurus i addoli, meddyliodd y brodyr am gael lle helaethach, a mwy cymhwys. Yn y flwyddyn 1856, a'r flwyddyn ganlynol, adeiladwyd addoldy newydd yn Hill-street, yn y dref, yr hwn yn awr sydd yn adeilad cymhwys o ran maint a lle. Dydd Gwener y Groglith, yn 1857, cyssegrwyd y lle hwn hefyd, pryd y cynhaliwyd ynddo gyfarfod pregethu. Gweinyddwydd ar yr achlysur gan y Parch. William Howells, Liverpool, yn awr athraw yn Athrofa Trefecca. Yr oedd nifer y cymmunwyr erbyn hyn yn 37, a'r ysgol sabbothol yn 70. Yr oedd hefyd, yn y lle, gynnulleidfa dda yn gwrando.

Yr oedd pob serchawgrwydd a charedigrwydd yn bodoli rhwng yr achos Cymraeg a'r un Seisonig. Ar ol i'r brodyr ymsefydlu o honynt yn eu capel newydd yn Hill-street, rhoddwyd rhyddid yn nghapel Abbot-street, ac annogaeth yn wir, os oedd rhyw rai yn dymuno ymuno â'r cyfeillion Seisonig, yn Hill-street, fod pob croesaw iddynt wneyd felly, er, ar yr un pryd, fod yn ddrwg gan y cyfeillion yn Abbot-street eu colli. Gan fod rhai yn Abbot-street yn deall yr iaith Seisonig yn well na'r Gymraeg, fe ymadawodd rhai, ac ymunasant â'r cyfeillion yn Hill-street. Dymunwyd ar bawb ag oedd ar fedr ymadael am wneyd hyny ar unwaith, fel na byddai yr eglwysi yn cael eu haflonyddu drachefn. Yn mhlith y rhai a adawsant Abbot-street, ac a aethant i Hill-street, yr oedd y Parch. T. Francis, Mr. T. Phennah, a Mr. W. H. Williams. Mae yn ym ddangos fod y tri brawd a enwyd wedi bod, ac yn bod, yn ffyddlon a gwasanaethgar yn Hill-street. Hill-street hefyd oedd cartref yr hen frawd y Parch. Wm. Hughes, ac yn y dref hon y bu efe farw.

Fe fu gweinidogaeth y Parch. Joseph Jones yn nghorph y deng mlynedd y bu yn Wrecsam, a'r amgylchoedd, yn dderbyniol a bendithiol, a theimlid colled ar ei ol pan yr ymadawodd.

Yn fuan ar ol ymadawiad y Parch. J. Jones, fe alwodd y brodyr yn Hill-street ar y Parch. E. Jerman i'w gwasanaethu, yr hwn yn awr sydd yn eu plith er pan yr ymadawodd Mr. Jones. Mae yn dda genym allu hysbysu fod y brawd ieuangc hwn yn llafurus a gweithgar, a'i holl ymdrechiadau yn cael eu coroni â bendith.

Nifer yr eglwys yn awr yn Hill-street, sef yr holl gymmunwyr, ydyw 70; yr ysgol sabbothol, 126; y gwrandawyr ar nos sabboth, oddeutu 200; ychydig yn llai o nifer ar foreu sabboth. Nifer y pregethwyr ydyw pump, sef y Parchedigion E. Jerman, T. Francis, J. Davies, a'r Meistri T. Phennah, a W. H. Williams. Yr unig ddiacon yn y lle ydyw Mr. Charles Hughes.

Mae golwg obeithiol, debygid, ar hyn o bryd, ar yr achos yn ei holl gyssylltiadau. Mae eu bugail, Mr. Jerman, yn hynod o'r llafurus gyda'r plant a'r bobl ieuaingc, a'i holl lafur yn bur dderbyniol ganddynt.

ADDYSGIADAU ODDIWRTH YR HANES,
GAN Y PARCH. J. H. SYMOND.

At Fethodistiaid Calfinaidd Gwrecsam.

FY ANWYL GYFEILLION,
Cawn fod Moses, yr hwn a fu yn yr eglwys yn y diffaethwch, yn annog pobl yr Arglwydd drachefn a thrachefn, cyn eu gadael, i gofio yr holl ffordd oedd Duw wedi eu harwain ar hyd-ddi. 'Gochel arnat,' meddai, 'a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i'th feibion, ac i feibion dy feibion.' Ac wedi iddynt gyraedd gwlad Canaan a dechreu mwynhau ei chysuron, dywed Moses wrthynt am gymmeryd o bob blaenffrwyth a'u gosod mewn cawell i'w dwyn i'r lle a ddewisodd yr Arglwydd i drigo o'i enw ynddo. Yna, pan y byddai yr offeiriad yn gosod y cawell ger bron yr Arglwydd, yr oedd yn gorchymyn i bob un ddyweyd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, 'Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i'r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. A'r Aiphtiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur a'n gorthrymder. A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aipht â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofn mawr, ac âg arwyddion, ac â rhyfeddodau. Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd.' Deut. xxvi. Nid oeddynt, fel yna, i gael mwynhau tawelwch a ffrwythau eu gwlad heb gydnabod mai i'r Arglwydd yr oeddynt yn rhwymedig am y cwbl, ac heb gofio eu dechreuad bychan ac eiddil, a'r holl rwystrau a helbulon oeddynt wedi dyfod trwyddynt yn ddiogel, a'r holl lwyddiant a barodd yr Arglwydd iddynt. Yr oeddynt i gadw o hyd mewn côf y pethau rhyfedd a brofasant hwy eu hunain a'u tadau o'u blaen; ac i briodoli eu holl waredigaethau a'u breintiau nodedig i allu a daioni yr Arglwydd eu Duw.

Dan yr ystyriaeth o'r fantais i bob eglwys gael gwybod y modd y bu i'r achos mawr gael ei gychwyn a'i ddwyn yn mlaen i'r peth ydyw yn eu mysg, ac wrth weled nad oes yn Hanes Methodistiaeth Cymru nemawr grybwylliad am yr achos yn Ngwrecsam, daeth i fy meddwl pan yn gwasanaethu am chwe' sabboth yn Llundain, yn nechreu y flwyddyn 1865, i ysgrifenu at ein hen flaenor, Mr. Francis, i ofyn iddo ymgymmeryd â'r gorchwyl o gasglu hanes yr achos Methodistaidd yn nhref Gwrecsam. Ac er i'r awgrym hono gael ei gadael am gryn amser heb ei gosod mewn gweithrediad, eto drwy aflonyddu arno ychydig o weithiau drachefn, cafodd ar ei feddwl i ddechreu o ddifrif ar y gwaith. I ddwyn yr Hanes i'r peth ydyw, bu raid iddo wneyd llawer ymchwiliad a chymmeryd trafferth fawr. Ac y mae yn sicr pe na buasai iddo ef ysgrifenu yr hanes, nad oedd neb arall i'w gael o ran oedran a chyssylltiad â'r lle a'r achos a fuasai yn ddigon cyfarwydd i'w olrhain. A chan na bydd dygiad y gwaith allan yn nemawr o ennill tymhorol i'r awdwr, y mae yn wir deilwng o'n diolchgarwch. Yr un pryd yr wyf yn dysgwyl y bydd drwy yr Hanes yn ychwanegu at ei ddefnyddioldeb yma, a'i wobr yn y pen draw. Caiff aml un wrth ei ddarllen, mi a obeithiaf, achos i ddiolch i Dduw a chymmeryd cysur. Ac os daw ail-argraphiad allan o Hanes Methodistiaeth Cymru gydag ychwanegiadau, diau y bydd cryn ddefnyddiau yn y llyfr at roddi y pryd hwnw olwg gryno a theg ar yr achos yn Ngwrecsam.

Os bydd y llyfr yn foddion i gadw yr Eglwys rhag anghofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd ei Duw hi ynddi, a'r pethau gwerthfawr a welodd ei llygaid yn y blynyddau a aeth heibio; a'i chynhyrfu at ddyledswyddau cyfattebol i'w breintiau a'i gallu am yr hyn sydd yn mlaen, fe fydd o wasanaeth ammhrisiadwy. Gwelir yn yr Hanes mai un o bethau distadl a dirmygus y byd ydoedd yr achos yn ei ddechreuad. Ond yr oedd er hyny yn un o'r gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn. Bu am lawer o flynyddau yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau un teulu; a phan fu farw y rhai hyny, ofnai yr ychydig weiniaid oedd yn aros mai diffodd yn llwyr a wnai yr achos yn fuan wed'yn. Ond er mai ychydig oedd o honynt, a'u lle i addoli yn gyfyng, ac isel ei sefyllfa ar y dref, a'u cylch o freintiau crefyddol yn lled anghyflawn, eto 'gorfuant y rhwystrau i gyd wrth bwyso ar yr Arglwydd eu Duw. 2 Chron. xiii. 18. A phan y gwelir yr eglwys yn cael gwared oddiwrth anhawsderau o un math, ceir fod profedigaethau o fath arall yn ymosod, eto gwelir yr eglwys yn dyfod yn mhen amser drwy bob math o dywydd a chyfnewidiadau ar ei mantais mewn nerth a rhifedi. Mae yn anhawdd i ni yn awr mewn amgylchiadau mor wahanol, wrth edrych yn ddynol ar bethau, roddi cyfrif pa fodd y bu i dadau a mamau yr Eglwys Fethodistaidd yn Ngwrecsam, pan mewn cymmaint o wendid ac yn nghanol cymmaint o rwystrau, gynnal yr achos, a chodi addoldai a thalu am danynt, a chychwyn achosion mewn lleoedd o amgylch. Yr unig gyfrif dros fod yr achos yn eu dwylaw wedi dal ei ffordd ac ychwanegu cryfder, a chael ei drosglwyddo ganddynt mewn gwedd mor dda i'w plant ydyw, mai arfer Duw ydyw 'dangos ei hun yn gryf gyda'r rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef.' 2 Chron. xvi. 9.

Erbyn hyn gellir dyweyd bod yr achos ar ei draed, gyda gwedd allanol bur olygus, a chylch cyflawn o freintiau bob wythnos. Nid yw y capel fel o'r blaen mewn anfantais oddiwrth ei sefyllfa, na'i faint, na'i ymddangosiad. Mae yn un o'r addoldai mwyaf ardderchog a dymunol yn Nghymru, ac agos i bedair mil o bunnau o'i ddyled wedi eu talu yn ystod saith mlynedd o amser, heblaw gwneyd yn llawn gwell at yr holl gasgliadau eraill nag a wnaed erioed. Ceir ynddo ar y sabboth ddwy bregeth; ysgol gyda chyfarfod i'r plant o'i blaen; a chyfarfod canu; a chyfarfod i'r Eglwys ar ddiwedd gwasanaeth yr hwyr; ac yn y misoedd goleu, gyfarfod i weddïo am saith yn y boreu. Ar nosweithiau yr wythnos ceir cyfarfod i weddïo, a chyfarfod eglwysig, a chyfarfod i'r chwiorydd, a chyfarfod i ddysgu canu, a chyfarfod Blodau yr Oes i'r plant, a chyfarfod darllen i'r gwŷr ieuainge. Nid oes na rhyw nac oedran yn fyr o ddarpariaeth wythnosol ar eu cyfer, nac un ddawn yn cael ei hesgeuluso. Mae yn amlwg wrth hyn y gall y rhai sydd wedi bod mewn cyssylltiad â'r achos y blynyddau diweddaf, gydnabod gyda diolchgarwch i'r Arglwydd, eu bod hwythau wedi cael eu defnyddio i osod gwedd lawer ragorach, o leiaf yn allanol, ar Fethodistiaeth y dref. Cadwn ein henaid yn ddyfal rhag anghofio mai o'r Arglwydd y daeth hyn. Ac wrth ystyried mai i weision annheilwng ac anfuddiol y daeth, fe ddylai hyn fod yn dra rhyfedd yn ein golwg ni. Ond cawsom rhyw rym gan yr Arglwydd i weithio yn ewyllysgar gyda'n gilydd; canys oddiwrtho Ef y mae pob peth. 1 Chron. xxix. 14. Ofer fuasai i'r adeiladwyr fod yn llafurio gyda'r tŷ pe na buasai yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo ac yn eu hamddiffyn; ac os na bydd i'r Arglwydd eto gadw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Psalm cxxvii. 1. Peth o'r pwys mwyaf i Eglwys ydyw priodoli pob da yn eu mysg i Dad y trugareddau a Duw pob diddanwch, ac ymwneyd digon âg Ef gogyfer â'r hyn sydd eto yn mlaen.

Mae yn ddiau nad yw yr adfeiliad oedd Moses yn nodi allan fel un peryglus i bobl yr Arglwydd ar ol myned i Ganaan gynt, ddim yn un nad all yr achos yn yr addoldŷ newydd syrthio iddo. Mae cryn berygl i ninau wedi adeiladu y tŷ a thrigo ynddo, ac amlhau o arian ac aur genym, ac amlhau o'r hyn oll sydd genym, yna ymddyrchafu o'n calon ac anghofio o honom yr Arglwydd ein Duw, yr hwn a'n dug ni allan o'r caethiwed, ac a'n tywysodd ni trwy yr anialwch ac a barodd i ni ein holl lwyddiant. Deut. viii. 11-18. Hawdd iawn mewn byd drwg ac mewn tref mor lygredig ydyw i Eglwys lithro o dipyn i beth at ryw arferion fydd yn gyru yr Arglwydd yn mhell oddiwrth ei gyssegr. Ezec. viii. 6. Yr wyf yn gobeithio y bydd Hanes yr achos o'i ddechreuad yn foddion ar un llaw, i gadw yn nghôf yr Eglwys y defnyddiau cysur a chefnogaeth sydd yn ymddygiadau Duw tuag ati drwy'r blynyddoedd; ac ar y llaw arall, i ymgadw rhag anghofio ei rhwymedigaethau lluosog a pharhaus i lynu wrtho eto mewn cyflawniad parod o'r holl ddyledswyddau mae yn ofyn ganddi. Byddai Moses yn calonogi y bobl i fyned yn erbyn y gelynion a'r rhwystrau oedd o'u blaen drwy alw i'w côf y gwaredig. aethau rhyfedd oedd wedi cymmeryd lle yn eu hanes. Dywedodd wrthynt y gwnai yr Arglwydd i'r cenhedloedd oedd o'u blaen yn Nghanaan fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, breninoedd yr Amoriaid, ac i'w tir hwynt, y rhai a ddinystriodd efe. Deut. xxxi. 4. Cymmerwn ninau galon oddiwrth yr hyn a wnaed eisoes yn ein Hanes gan yr Arglwydd, a pharhawn i ddyweyd o hyd fel Dafydd, 'Ti sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau a nerthu pob dim;' ac i ddymuno o hyd nad ymadawo Efe â ni ac na'n gwrthodo hyd nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 1 Chron. xxviii. 20, a xxix. 12.

Bellach ein doethineb ydyw edrych arnom ein hunain fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. 2 Ioan, 8; Dat. ii. 25 a 26. Y ffordd i beidio myned yn ol ydyw cadw ein golwg o hyd ar fyned yn mlaen-gosod rhyw nôd perffeithiach o'n blaen i ni ymgyraedd ato yn bersonol ac mewn undeb â'n gilydd. Ac os ceir yr hyfrydwch o gyraedd y nôd hwnw, peidio dechreu sefyll nac arafu dim wed'yn, ond gosod yn union nôd pellach drachefn i gyrchu ato, a pheidio byth a llwfrhau. Y prawf ein bod yn dal yr hyn sydd genym ac nad yw ein coron ar gael ei dwyn oddiarnom ydyw, ein bod yn ymgyraedd yn ddiorphwys am ychwaneg. Ac os wedi cael addoldŷ hardd a chysurus, a thefniadau allanol lled gyflawn, yr eir yn ddiofal ac i segur-dybied yr aiff pethau yn mlaen bellach o honynt eu hunain, ceir yn fuan deimlo fod rhyw wywdra anhyfryd yn ymdaenu drosom ac yn ein hyspeilio o'n gogoniant. 'Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylaw y gollwng y tŷ ddefni.' Preg. x. 18. Ac i ochel dirywiad fel Eglwys, ystyriwn yn

I. FOD LLWYDDIANT YR HOLL AELODAU MEWN UNDEB A'U GILYDD YN OL FEL Y BYDDO POB UN YN LLWYDDO AR EI BEN EI HUN.

Mae yr Eglwys yn gyffredinol yn cael ei gwneyd i fyny o bersonau unigol; ac y mae ansawdd yr holl aelodau mewn undeb â'u gilydd yn cael ei wneyd i fyny o ansawdd pob aelod ar ei ben ei hun. A thuag at lwyddiaut cyffredinol, fe ddylai pob un yn yr Eglwys ymdrechu at gynnydd personol, yn un peth ac yn mlaenaf oll, mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.

Mae yr Arglwydd Iesu yn ei Berson yn ffynnonell pob gras i ni, ac yn ei gymmeriad sanctaidd yn gynllun o'r modd y mae pob gras i ymagor a gweithredu. Nid oes dim cynnydd yn bosibl heb berthynas yn gyntaf â Christ; ac y mae graddau y cynnydd yn ol fel y denwn ni i sylweddoli y berthynas hono. Wrth fod mewn undeb eglwysig, yr ydym yn proffesu ein bod yn aelodau o gorph Crist, yr hwn yw pen yr Eglwys; a'n bod yn cael ein treiddio gan yr un bywyd, yn cydsynio â'r un ewyllys, ac yn ymestyn at yr un amcanion. Un corph sydd; a hwnw yn cael ei wneyd i fyny o'r Arglwydd Iesu fel pen, a'i wir ddisgyblion fel aelodau: ac un Yspryd sydd yn yr holl gorph. Yr Yspryd Glân sydd yn gwneyd perthynas â Christ yn rhinweddol a theimladwy i bob aelod, am ei fod Ef yn trigo yn y Pen ac yn mhob un o'r aelodau. O'r Arglwydd Iesu fel pen y mae yr holl gorph yn derbyn lluniaeth, ond y mae y lluniaeth hwnw yn cael ei dderbyn a'i rinweddu er ein cryfhad trwy yr Yspryd Glân. Fel y dywedir ein bod yn derbyn lluniaeth o'r Pen Mawr, ac yn cynnyddu gan gynnydd Duw. Trwy un Yspryd yr ydym yn dyfod i fewn i'r corph, ac ni a ddiodwyd oll i un Yspryd, ac yr ydym drachefn yn cynnyddu mewn gobaith trwy nerth yr Yspryd Glân. Col. ii. 19; 1 Cor. xii. 13; Rhuf. xv. 13.

Ffynnonell y cynnydd, fel yna, ydyw Iesu Grist, a gweithredydd y cynnydd ydyw yr Yspryd Glân. Y modd eto y mae y cynnydd hwnw yn cael ei gyrhaedd gan bob un ydyw, trwy weithredu ffydd ar wirioneddau y Beibl yn eu perthynas â Christ, a gweddïo yn ddibaid. 'Gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd a gweddio yn yr Yspryd Glân.' Drwy chwenychu didwyll laeth y gair, a myfyrio ar y pethau sydd ynddo ac aros ynddynt, felly y daw ein cynnydd yn eglur i bawb. Judas-20; 1 Petr ii. 2; 1 Tim. iv. 15. Nis gall aelod wneyd cynnydd mewn gras a gwybodaeth ysprydol ond trwy ddyfod, ar un llaw, i gyssylltiad agosach â'r Yspryd Glân mewn ymofyniad gwastadol am dano ac ymddibyniad didor arno; ac ar y llaw arall, dyfod yn fwy gwybyddus ac argyhoeddedig o wirionedd a phwysigrwydd y pethau am yr Iesu. Dywedir ein bod yn ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dyn oddi mewn; a bod hyn yn beth sydd yn cael ei roddi o hono Ef i ni: ac yn ol yr adnod nesaf cawn bod hyn yn nglŷn â thynu yr Arglwydd Iesu, mewn ffydd ar y gwirioneddau am dano, i drigo yn ein calonau. Wrth dynu i fewn yr Arglwydd Iesu i ddeall a serch y galon, mewn ffydd ar yr amlygiadau y mae wedi roddi o hono ei hun yn ei eiriau, a hyny drwy ei Yspryd Ef, yna y mae y dyn oddi mewn yn cael ei borthi â bwyd yn wir ac â diod yn wir. Dyna'r modd yr ydym i ymgadarnhau mewn nerth ac i gynnyddu gan gynnydd Duw. Eph. iii. 16 a'r 17. Gan hyny, os mynwn gynnyddu mewn gras, dylem fod yn wiliadwrus iawn trwy bob dyfal-bara i weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, ac i ymarfer yn barhaus â gwirioneddau y Beibl yn eu perthynas â Iesu Grist. Eph. vi. 16--19.

O'r tu arall, gellir gwybod faint ydym yn myned tua chyfeiriad o'n blaen, wrth faint ydym yn bellhau oddiwrth gyfeiriad sydd o'n hol. Gall pob un wybod faint y mae yn gynnyddu yn yr amrywiol rasau, wrth faint y mae yn gashau ac yn adael ar y drygau croes iddynt. Cynnyddu yn y grasau o ffydd a gobaith, a chariad, addfwynder, gostyngeiddrwydd, amynedd, haelioni, diolchgarwch, &c., ydyw ffieiddio a gadael yn fwy bob teimladau ac arferion diras a chroes i'r naill neu y llall o'r rhinweddau. Cynnyddu mewn sancteiddrwydd, o un tu, ydyw darfod âg aflendid mewn cyffyrddiad âg ef a thuedd meddwl tuag ato; ac o'r tu arall, dyfod i gydsynio a chydweithredu yn fwy unol âg ewyllys yr Arglwydd. Iesu Grist sydd wedi ei wneuthur i ni gan Dduw yn sancteiddrwydd, a'r Yspryd Glân sydd yn sancteiddio ac yn glanhau yr eglwys â'r olchfa ddwfr trwy y gair. 1 Cor. i. 30; Eph. v. 26. Ond er mai yn ei wirionedd y mae yr Yspryd Glân yn sancteiddio, y mae hefyd yn defnyddio triniaethau tymhorol yn wasanaethgar i hyny. A thuag at gynnyddu mewn gras a gwybodaeth ysprydol, byddai yn fantais fawr i ni gofio yn wastad, nad oes yr un o droion Rhagluniaeth heb feddu rhyw lais tuag atom a rhyw bwrpas arbenig yn ngolwg yr Hwn nad oes dim yn digwydd i ni hebddo Ef. 1 Sam. ii. 2; Galar. iii. 37-42. Ac os y'n rhwymir weithiau â gefynau ac y'n delir â rhaffau gorthrymder, yna Efe a ddengys i ni ein gwaith o grwydro mewn meddwl neu ymddygiad at yr hyn sydd o'i le, neu esgeuluso gwneyd yr hyn a ddylasem ei gwblhau: a bod ein hanwireddau drwy hyny wedi amlhau yn ei olwg Ef. Ei amcan caredig yn gosod arnom boen corph neu ofid meddwl ydyw, agor ein clustiau i dderbyn cerydd, a dyweyd wrthyın am droi oddiwrth anwiredd a chymmeryd yn fwy at y gwirionedd. Job xxxvi. 8-10. Fel y gellir ystyried fod Duw trwy oruchwyliaethau gerwin yn glanhau anwiredd Jacob, ac mai dyma yr holl ffrwyth, tynu ymaith ei bechod: am ein bod mewn profedigaethau yn cael ein dwyn yn fwy argyhoeddedig o'r gwirionedd mai pechaduriaid aflan ydym a'n hangen mawr am edifeirwch a maddeuant. Yna yr ydym yn cael ein cyfeirio gan y gwirionedd at Iesu Grist am yr edifeirwch, a'r maddeuant, a'r glanhad yr ydym drwy y cyfyngderau wedi dyfod yn fwy argyhoeddedig o'n hangen o honynt. A gresyn mawr ydyw i ni golli y fantais mae pob gofid yn roddi i ni i ddyfod yn fwy gwybyddus o'n camweddau a'n diffygion fel ag i dramwy o gymmaint a hyny yn amlach at yr Arglwydd Iesu am y feddyginiaeth. Oblegid y mae pob cynnydd mewn gras a gwybodaeth ysprydol yn gynnydd hefyd mewn gwir ddiddanwch ac happusrwydd. Es. xxvii. 9, Ps. lxxi. 20, 21. Ac wrth i bob un o'r aelodau mewn eglwys gynnyddu mewn sancteiddrwydd, y mae Sion yn sicr o fod yn gwisgo ei nerth ac yn ymdecau yn ngwisgoedd ei gogoniant. Mae mwy o nerth a phrydferthwch mewn ychydig o aelodau wedi dyfod yn mlaen mewn sancteiddrwydd nag mewn eglwys luosog os yn ddioruchwyliaeth ei hyspryd. Es. lii. 1. Gan hyny, er mwyn llwyddiant personol a mantais gyffredinol yr Eglwys, ymestyned pob un at gynnydd gwastadol mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. 2 Petr iii. 17, 18.

Hefyd, tuag at lwyddiant cyffredinol mewn Eglwys, fe ddylai pob un o'r aelodau ymestyn at gynnydd personol eto mewn defnyddioldeb. Y ffordd i ddyfod yn fwy defnyddiol ydyw, ceisio argyhoeddiad helaethach o'n drwg ein hunain, ac ymneillduo yn nes at Iesu Grist ac yn bellach oddiwrth bob meddwl ac ymddygiad pechadurus. 'Pwy bynnag gan hyny a'i glanhâo ei hun oddiwrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio ac yn gymmwys i'r Arglwydd, ac wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 2 Tim. ii. 21. Mae crefydd yr Arglwydd Iesu yn dwyn dyn i ddechreu 'ato ei hun.' A phan ddaw efe ato ei hun-i olwg ei dlodi a'i drueni fel pechadur —y mae yn cael ei ddwyn at Iesu Grist fel ei unig Waredwr; ac at Dduw, Barnwr pawb, i gael gwneyd ei achos ei hun yn dda. Yna wedi iddo ef ei hun gael ei wneyd yn gyfranog o Grist, ei awydd mawr wed'yn ydyw egluro bywyd Iesu yn ei ymarweddiad yn y byd; sef ymroddi at wneyd achos eraill o'i gwmpas yn dda. Ymgais gwastadol bywyd Iesu lle bynnag y mae y lyw, byw drosodd drachefn yr un bywyd ag a wnaeth yn Nghrist ei hun pan yma ar y ddaear: sef bywyd o ddileu pechod -bywyd yn aberthu ei hun i weithio pechod a'i ganlyniadau gofidus allan o'r byd, bywyd cyssegredig at adferu dynion o afael pob bai a thrueni, bywyd at fyned o amgylch gan wneuthur daioni a iachau pawb sydd wedi eu gorthrymu gan ddiafol. Yn mha enaid bynnag y mae bywyd Crist, ceir ef yn ymagor yn ol ei gynnydd a'i nerth i'r un dylanwad ar y byd ag oedd Iesu Grist ei hun yn osod arno. Yr oedd y fath berthynas rhwng dylanwad y disgyblion gynt â Iesu Grist 'rol ei ymadawiad, o ran eu buchedd a'u gwaith, fel mai myned yn mlaen yr oeddynt hwy gyda gwaith yr Iesu, a myned yn mlaen yr oedd yr Iesu drwyddynt hwy gyda'r hyn oedd Ef ei hun wedi dechreu ei wneuthur a'i ddysgu o'r blaen. Act. i. 1.

Peth o bwys mawr i bob aelod gadw mewn côf parhaus ydyw, fod perthynas agosach â Christ yn cynnwys hefyd ddyfod i berthynas agosoch â'n gilydd ac â lleshad ysprydol pawb o'n cwmpas. Os ydwy cyssylltiad pob un â Christ yn cynnwys bedydd â'r Yspryd Glân ac ân thân, yna y mae y tân hwnw at wneyd pob un yn oleuni'r byd; ac yna i amlygu ei hun mewn disgleirdeb a gwres i bawb o gwmpas. Os ydyw perthynas â Christ yn ein gwneyd yn halen y ddaear, yna yr ydym i dreiddio o'n hamgylch er blasuso ac attal llygredigaeth a drygsawredd. Os ydyw perthynas â Christ yn ein gwneyd yn surdoes yn y blawd, yna yr ydym i wneyd ein rhan mewn suro y cwbl oll. Matt. iii. 11, a v. 13, a xiii. 33. Mae perthynas â Christ yn codi pob un i dreiddio yn y modd yna drwy y cylch y mae yn troi yn wastadol ynddo. Mae ei holl fywyd yn llewyrchu goleuni o Grist. Nid peth at ryw gyflawniadau ac at ryw adegau yn unig ydyw ein crefydd, ond peth i fod gyda ni yn mhob man ac i drwytho ein holl arferion. Cryn gam-gymmeriad ydyw gwneyd gwahaniaeth rhwng goruchwylion bydol un a'i ddyledswyddau crefyddol. Yr oedd chwaer un boreu mewn tristwch meddwl uwchben yr holl oruchwylion bydol oedd raid iddi gyflawni. Na elwch hwynt yn oruchwylion bydol,' meddai un arall wrthi, oedd wedi gwneyd cynnydd helaethach mewn crefydd, "does dim gwaith daearol i'r credadyn, ond y mae i gyd yn waith yr Arglwydd.' 'Pa beth bynag a wnelom, yr ydym i'w wneuthur o'r galon, megys i'r Arglwydd, ac nid i ddynion; canys yr Arglwydd Crist yr ydym yn ei wasanaethu.' 'Megys y darfu i Dduw ranu i bob un, megys y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hyny arhosed gyd â Duw.' Col. iii. 23, 24; 1 Cor. vii. 17--24. Dylai pob un ystyried ei hunan yn ei alwedigaeth a'i holl ymwneyd, nid yn eiddo iddo ei hun ond yn eiddo i'r Hwn a gyfodwyd o feirw: ac yn ei ddybenion, a'i eiriau, a'i holl ymddygiadau i ddwyn ffrwyth i Dduw.' Rhuf. vii. 4. Bydd felly yn egluro bywyd Iesu yn ei yspryd addfwyn a gostyngedig, ac mewn geiriau bob amser yn rasol, ac mewn gweithredoedd da a chymmeradwy ger bron Duw. Wrth lenwi y cylch dirgelaidd a theuluaidd yn dda, a llenwi cylch yr alwedigaeth dymhorol yn dêg ac yn ofn yr Arglwydd, bydd pob un felly o ddefnyddioldeb mawr yn barod gydag achos yr Iesu; a bydd hyn yn barotoad ac yn sylfaen dda i ddefnyddioldeb mwy cyhoeddus. 'Canys ffrwyth yr Yspryd sydd yn mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd.' Eph. v. 9.

Ond er cymmaint ydyw defnyddioldeb dystaw pob un sydd yn ofni Duw ac yn bucheddu bob dydd yn eirwir, yn onest, yn gyfiawn, yn fwynaidd, ac yn drugarog, eto ni ddylai neb fod heb ymgyrhaedd am gymhwysderau i wasanaethu Iesu Grist mewn ryw ffyrdd eraill. Dywedir wrthym am ddilyn cariad a deisyf doniau ysprydol fel ag i allu llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur; a cheisio rhagori at adeiladaeth yr eglwys. 1 Cor. xiv. 1,-3, 12. Dichon fod mwy o berygl i aelodau eglwysig yn ein plith ni y dyddiau hyn, pan y mae yr eglwysi yn galw gweinidogion at y rhanau mwyaf ysprydol o'r gwaith, i fyned i feddwl bod defnyddioldeb cyhoeddus ac uniongyrchol yn beth ag sydd yn perthyn yn unig i ryw rai penodol. Ond y mae y rhanau ysprydol mor helaeth ac amrywiol fel y gall yr holl lwythau gael etifeddiaeth eang o honynt. Ac wrth ddeisyfu a pherchenogi y rhai goreu a mwyaf o honynt, nid oes dim perygl i'r doniau ddarfod nac i'r naill fyned a lle y llall. Ni chyfynga Judah ar Ephraim, yn yr ystyr yma; ac wedi i'r llwythau gymmeryd meddiant helaeth iddynt eu hunain, bydd digon o le wed'yn i lwyth Lefi gael rhan ac etifeddiaeth eang yn mysg eu brodyr, ac i fendigo digon yn enw yr Arglwydd. Dim ond i bawb gymmeryd eu harwain gan yr un Yspryd, yna ni chenfigena Ephraim wrth Judah, ac nid oes berygl wed'yn i ni wneyd gwaith ein gilydd, na siarad ar draws ein gilydd, na gwrth-ddyweyd ein gilydd, na grwgnach yn erbyn ein gilydd, 'Canys nid yw Duw awdwr anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi y saint.' 1 Cor. xiv. 33.

Mae y Testament Newydd yn galw am sylw ac ymdrech pob un yn yr eglwys, y naill fel y llall. Gesyd ar bawb i ofalu, pawb i weddïo dros eraill, pawb i gynghori, pawb i rybuddio, pawb i ddysgu, pawb i adeiladu eu gilydd. 'Yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr'—nid y rhai sydd mewn swyddau yn unig-'Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. Gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd. Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. Fy mrodyr, od aeth neb o honoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef'—ni waeth pwy i'w droi am ei fod yn cael ei wneyd gan ryw un. 1 Thes. v. 14; Col. iii. 16; 1 Cor. xiv. 31; Iago v. 19. Gelwir arnom i ddwyn beichiau ein gilydd, i weddïo dros yr holl saint, i gofio y rhai sydd yn rhwym fel pettem yn rhwym gyda hwynt, ac i ymdrechu dyddanu ein gilydd trwy ystyriaethau cymhwys o'r gwirionedd. A chyd-ystyried bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da. Gal. vi. 2; Eph. vi. 18, 19; Heb. xiii. 3, a x. 24. Digon o waith, onide, i'r holl aelodau eglwysig at eu gilydd; heblaw dyledswyddau at y byd annuwiol, i gael y rhai sydd yn esgeuluso i ddyfod at freintiau yr efengyl, ac i gael y rhai sydd yn gwrando i ddyfod yn nes.

Eto, 'od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef onid ymdrech yn gyfreithlawn.' A thuag at i ymdrech pob un o blaid yr efengyl fod yn rheolaidd, dylai pob un gofio fod yn rhaid dal yr un berthynas â Iesu Grist yn ein defnyddioldeb ag yn ein gras, Rhaid i bob un dderbyn y naill fel y llall oddiwrtho Ef. 'Canys Mab y dyn sydd fel gwr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i'r drysawr wylio.' Marc xiii. 34. Mab y dyn ei hunan sydd yn awdurdodi neu yn cymhwyso ei weision i'w gwaith trwy roddi yr Ysbryd Glân iddynt. 'Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.' Matt. x. 1. Rhaid i ninnau fyned at Fab y dyn o hyd i dderbyn yr awdurdod ac i wybod ein gwaith. Mae perygl i ni ryfygu o honom ein hunain at waith heb ei gael ac heb awdurdod at ei wneyd. Aeth ryw saith o feibion i Scefa i gymmeryd arnynt enwi uwch ben y rhai oedd âg ysbrydion drwg ynddynt enw yr Arglwydd Iesu, heb fyned yn gyntaf at Fab y dyn i dderbyn y gwaith a'r awdurdod at ei wneyd; ond cawsant eu gyru i ffoi yn noethion ac yn archolledig gan yr yspryd drwg. Act. xix. 13-16. Ond wedi i'r deg a thriugain gael eu hawdurdodi gan Fab y dyn i'r gwaith, yr oeddynt yn gallu dychwelyd gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. Lúc x. 17. A chan mai Mab y dyn sydd yn diwallu ei weision âg awdurdod ac yn rhoddi i bob un ei waith ei hun, 'does gan neb yn yr eglwys ddim esgus i fod yn ddiwaith. Pwy bynag sydd eisieu gwybod ei waith ac eisieu cymhwysder at ei gyflawni yn iawn, aed yn ddifrifol at Iesu Grist am ei roddion. 'Ac od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef. Rhuf. viii. 9. Gan hyny, ymofyned pob un, er lleshad llaweroedd, er ei gysur a'i wobr ei hun, ac i ochel dirywiad fel Eglwys, am gynnydd mewn defnyddioldeb personol dros yr Arglwydd Iesu.

II. FOD LLWYDDIANT YR HOLL AELODAU MEWN UNDEB A'U GILYDD YN OL FEL Y CAIFF Y GRASAU A'R DONIAU EU HIAWN-GRYNHOI A'U HIAWN-OSOD I GYDWEITHREDU.

Mae y naill yn dylanwadu ar y llall. Fel y mae y dylanwad cyfunol yn cael ei wneyd i fyny o gymhwysderau pob un ar wahan, felly y mae y dylanwad cymdeithasol yn fantais fawr at lwyddiant personol. Pan y mae llawer mewn undeb â'u gilydd, yn cyflawni yr un gwaith o dan yr un meistr, y mae dosbarthiad a threfn yn ol medr y rhai fydd yn gweini, yn rhwym o fod yn fantais annhraethol at wneyd y gwaith yn dda ac yn gyflym. Pan y mae Paul yn ysgrifenu at un eglwys, y mae yn edrych arni fel corph hyd yn nod ar ei phen ei hun; ac yn ei chyssylltiadau a'i threfn fel arwyddlun o'r hyn ydyw yr holl eglwys ynghyd. 'Eithr chwychwi ydych gorph Crist, ac aelodau o ran.' 1 Cor. xii. 27. Dylai pob eglwys gan hyny edrych nid yn unig bod ynddi wir aelodau ond hefyd bod yr holl aelodau gyda'u gilydd yn gwneyd i fyny gorph. Trefn corph, cydweithrediad corph, cydymdeimlad corph, cyfanrwydd corph. A chan mai corph Crist ydyw pob eglwys wirioneddol, dylid edrych bod yr ymddangosiad a'r gweithrediadau yn ateb i'r fath berthynas oruchel. Bydd yr ystyriaeth mai corph ydyw yr eglwys yn fantais i'r aelodau amrywiol ddyfod i weled gwerth eu gilydd ac i fod yn barod i gynnorthwyo y naill y llall. 'Nid all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph y rhai a dybir eu bod yn wanaf, ydynt angenrheidiol. Fel na byddai anghydfod yn y corph; eithr bod i'r holl aelodau ofalu yr un peth dros eu gilydd.' 1 Cor. xii. 20-26. A pheth o bwys mawr i eglwys ydyw cyd-ystyried bawb eu gilydd fel ag i gynnorthwyo mewn gosod eu gilydd yn y sefyllfa fwyaf fanteisiol i gymhwysderau pob un fod ar eu heithaf mewn defnyddioldeb: ac na byddo neb yn cael llonydd i esgeuluso y ddawn sydd ynddo.

Pan oedd yr eglwys yn y diffaethwch gynt yn gwneuthur y Tabernacl yn dŷ i'r Arglwydd, yr ydym yn cael bod holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, yn offrymu yn ewyllysgar tuag ato o'r pethau oedd ganddynt. Yna ni gawn fod pob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo, yn dyfod yn mlaen i weithio y defnyddiau at y tŷ; sef pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesau at y gwaith i'w weithio ef. A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylaw; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llian main. A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. Ex. xxxv. 25-35. Cael eu cynhyrfu a'u donio gan Yspryd Duw yr ydoedd pawb gynt i waith tŷ yr Arglwydd; eto, cymmerai rhai eu lle yn well o dan Bezaleel, yr hwn oedd wedi ei lenwi â doethineb i ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio yn mhob gwaith cywraint. Cymmerai eraill eu lle yn well o dan Aholïab, saer cywraint, a gwnïedydd mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llian main. Ex. xxxviii. 23. Ond nid oedd eu bod yn ddosbarthiadau a chan bawb eu gwaith priodol eu hunain ddim yn rhwystr iddynt fod gyda'u gilydd yn un corph ac yn cydweithredu at ddwyn yn mlaen oruchwylion yr un tŷ. Oblegid ni gawn fod yr holl bobl yn ddarostyngedig i Moses, ac i gyd yn gweithio yn ol y portreiad a ddangosodd Duw yn y mynydd. Ac wrth i bawb gael eu trefnu yn ol eu cymhwysderau, a phawb yn gweithio, a hyny yn ol portreiad Duw ei hun, fe aed yn mlaen yn ddeheuig a chyflym gyda'r gwaith. Erbyn dyfod a gwaith pawb felly at eu gilydd, yr oedd y cyfan yn y defnydd, a'r maint, a'r lliw, a'r dull fel yr oedd Duw eisiau iddo fod; a'r holl ranau o ddwylaw pawb yn cymmeryd eu gilydd yn gymhwys. Ac wedi gosod y gwaith yn nghyd, yr oedd yn brydferth a gogoneddus. Cafodd Duw ei foddhau a'i ogoneddu, a chafodd y cydweithwyr lawenychu yn nghyd yn yr olwg ar y gorchwyl ardderchog oeddynt wedi gwblhau.

Mae llawer o gyffroad a hyfrydwch yn nglyn â gweithio mewn cyssylltiad ac yn ol trefn. Ac nid yw yr eglwys yn Ngwrecsam wedi bod yn gwbl ddieithr i'r fantais o grynhoi a threfnu yr aelodau yn ol eu cymhwysderau. Gwelwyd y buddioldeb o weithio yn ddosbarthiadol drwy y blynyddau gyda'r ysgol sabbothol. Cymmaint yn ychwaneg ydyw casgliad y Feibl Gymdeithas yn y dref, oddiar fod personau neillduol yn cael eu gosod dan y cyfrifoldeb ac yn gweithredu yn ol trefn. Gwelwyd drachefn y fantais o drefniadau da a chael cydweithrediad pob oedran a sefyllfa gyda chasglu at y capel newydd. Profwyd y budd o osod cyfrifoldeb y cleifion, y tlodion, ac esgeuluswyr, ar bersonau neillduol yn yr eglwys. Gwyddom am y lles a ddeilliodd o roi cymmeradwyaeth i'r chwiorydd i ffurfio Cymdeithas Dorcas. Gwyddom am y lles o drefnu gwahanol gyfarfodydd bob wythnos i ateb i amrywiol ddoniau ac oedran yr aelodau, a chael yn eu tro gyfarfodydd cystadleuol. Yr un pryd, hwyrach, y gellid eto gael llawer mwy o waith gan yr eglwys a'r gynnulleidfa, pe y bai ychwaneg o gymdeithasau yn cael eu ffurfio; a phob oedran a rhyw yn cael eu gosod yn y naill neu y llall o dan y cyfrifoldeb → i ddwyn yn mlaen ryw ddefnyddioldeb a allant fod yn gymhwys.i'w wneyd. Er fod pob un o honom yn gyfrifol i'n Harglwydd am bob cymhwysder a feddwn ac am bob cyfleusdra at wneyd daioni fydd yn agor o'n blaen; yr un pryd y mae cryn symbyliad i'w gael mewn bod yn gyssylltiol â'n gilydd a than gyfrifoldeb y naill i'r llall yn yr Arglwydd. Iago iv. 17. O herwydd yr anhueddrwydd at waith ysprydol, a'r ymollyngdod sydd mor dueddol i rwymo ein meddyliau, y mae yn dda i ni wrth fath o orfodaeth arnom i gyflawni ein dyledswyddau. Ac i attal dirywiad yn ein hysbrydoedd a'n gweithrediadau fel Eglwys, byddai yn dda i ni gadw ein golwg o hyd ar wella mewn dosbarthu ein gilydd yn ol ein cymhwysderau, a dwyn amrywiol ranau y gwaith yn mlaen yn ol gwell trefn. 'Fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.' Tit. iii. 8 a 14.

Cariad at Berson mawr yr Arglwydd Iesu sydd i fod yn ein calonau yn brif egwyddor i'n hysgogi at bob defnyddioldeb gyda'i achos. A grym y berthynas âg Ef ddylai fod ein nerth a'n doethineb gyda holl ranau y gwaith. Eto byddai yn dda i ni gymmeryd ein deffro gan rywbeth i sylweddoli yn gryfach ein perthynas â Iesu Grist a'n dyled i'w garu a'i wasanaethu â'n holl galon. Byddai yn dda i ni ystyried fod cynnydd y rhai fu o'n blaen gyda'r achos yn y dref, o dan y fath anfanteision, yn llefaru yn uchel, Fod rhagoriaeth breintiau, rhifedi, trefniadau, a chyfoeth yn gosod rhwymedigaeth arnom i lwyddo yn gyfattebol. Os darfu iddynt hwy yn eu gwendid gynnal yr achos, a chychwyn lleoedd newyddion, a chyfranu at gymdeithasau i ledaenu yr efengyl, dylai ein hymdrechion ni mewn amgylchiadau rhagorach redeg allan i ychwaneg o gyfeiriadau ac yn ddyfnach yn mhob ffrwd. Nid cynnydd cyffelyb i'n tadau a'n mamau ddylai ein boddloni ni, ond cynnydd cyfattebol i fanteision rhagorach a chyfrifoldeb mwy pwysig. Nid ychydig o gymhelliad, ychwaith, i fyned yn mlaen ydym wedi dynu arnom ein hunain drwy adeiladu capel mor wŷch a chostfawr. Er mai yn wir y dylid caniatau ychydig o anghysonder yn ein gweithrediadau ar gyfrif nad ydyw yr addoldy eto yn cael ei lenwi. Mae yn ofynol cael y capel yn llawn cyn y gellir disgwyl i bethau oddiallan a phethau oddifewn ateb yn llawn i'w gilydd. Yr un pryd dylai ei ragoriaeth ar yr hen gapel adgofio i ni yn un peth, fod eisieu ysprydoedd i addoli yr Arglwydd ynddo gyda rhagoriaeth cyfatebol mewn prydferthwch a gwylder sanctaidd. Ac hefyd disgwylir mewn canlyniad i hyny weithredoedd mwy anrhydeddus. Dylai harddwch y llŷs weithredu fel cynhyrfiad parhaus i fod yn fwy pendefigaidd at yr holl achosion da. Bydd y capel newydd yn dal i siarad yn uchel o hyd, Y disgwylir i bobl aeth i'r fath draul arnynt eu hunain ymateb yn deilwng o hyny at eraill.

Os amgen, bydd addoldy ardderchog a chynnulleidfa wŷch yn sicr o wneyd anghyssonderau o gymmaint a hyny yn fwy amlwg ac annioddefol. A chofiwn nad oes gan un eglwys le teg i ddisgwyl amddiffyn Duw a'i lwyddiant yn y dyfodol ond yn nglyn â chyflawniad priodol o'u dyledswyddau.

Gan hyny, gofalwn i ddefnyddio y fantais ellir gael oddiwrth bob peth i ochelyd bod yn dawel ar yr hyn a feddianwyd eisoes, ond gweddïwn o hyd am ddoethineb a nerth i fyned rhagom at berffeithrwydd gyda phob peth a berthyn i anrhydedd achos yr Arglwydd Iesu. 'Ac yr awrhon, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. A Duw yr heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddiwrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfammod tragwyddol, a'ch perffeithio yn mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesn Grist: i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.' Act. xx. 33. Heb xiii. 20, 21.

Ydwyf, fy anwyl gyfeillion,
Eich gwir ewyllysiwr da,
J. H. SYMOND.

Grosvenor Road,
Chwefror 18, 1870.



GWELLIANT GWALLAU.
Tu dalen 22, y 7 linell o'r gwaelod, yn lle 'cyfran' darllener coffrau.
Tu dalen 26, y linell olaf, yn lle 'gwych' darllener têg.
Tu dalen 27, y linell 17 o'r gwaelod, yn lle 'areithiwr' darllener areithwyr.
Tu dalen 29, y linell 4 o'r top, yn lle 'triugain' darllener deugain.
Tu dalen 30, y linell 9 o'r gwaelod, yn lle 'cristion' darllener crwtyn.
Tu dalen 51, y linell 12 o'r gwaelod, yn lle 'Evan Jones' darllener Evan Jones Evans.
Tu dalen 71, y linell 13 o'r top, yn lle 'troedfedd' darllener can' troedfedd.


Nodiadau

golygu
  1. yn lle 'cyfran' darllener coffrau (gw tud 100)
  2. yn lle 'gwych' darllener têg (gw. tud. 100)
  3. yn lle 'areithiwr' darllener areithwyr (gw. tud. 100)
  4. yn lle 'triugain' darllener deugain (gw. tud. 100)
  5. yn lle 'cristion' darllener crwtyn (gw. tud 100)
  6. darllener Evan Jones Evans. (gw. tud 100)
  7. yn lle 'troedfedd' darllener can' troedfedd. (gw tud 100)
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.