Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia/Rhagymadrodd

Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

Hanes y Syniad am Wladfa

RHAGYMADRODD.

YR oeddwn wedi cael fy anog er's blynyddoedd i ysgrifenu hanes y Wladfa, ond gan y gwyddwn fod MR. EDWIN CYMRIC ROBERTS yn casglu defnyddiau, gadawswn y gwaith iddo ef.

Pan fu farw MR. ROBERTS yn Bethesda, Arfon, Medi 1893, pan ddim ond dechreu dyfod a hanes y Wladfa allan o'r Wasg yn rhanau, a deall nad oedd y teulu yn bwriadu cario y gwaith yn mlaen, penderfynais fyned ati ar unwaith i gasglu yr holl ffeithiau a allwn, dan yr amgylchiadau, a gwneud llyfr bychan o honynt, rhag i'r oll o'r fintai gyntaf syrthio, a'r gwaith heb ei wneud.

Cofied y darllenydd nad wyf yn honi fod yr hanes mor fanwl, nac ychwaith mor gywir ag y dylasai fod, ond nid wyf yn meddwl fod ynddo ddim a gamarweinia ddarllenydd y dyfodol. Gan mai yn Nghaerdydd, Deheudir Cymru, yr oeddwn yn ei ysgrifenu, ac nid yn y Camwy, nid oeddwn yn gyfleus i ymgynghori ag ereill, nac ychwaith i apelio at unrhyw gofnodion oedd ar gael yn y Camwy.

Fy unig esgusawd dros ddyfod ag ef allan mor anmherffaith yw, yn un peth am fy med yn Nghymru, ac felly yn gyfleus i'w gyhoeddi; a pheth arall, rhag i'r peth gael ei oedi, a bod heb ei wneud o gwbl. Y mae yn wir nad oes llawer o angen am yr hanes ar hyn o bryd, ac feallai ond ychydig yn teimlo dyddordeb ynddo, ond bydd ei eisieu can mlynedd i heddyw, ac ni bydd neb y pryd hwnw mewn ffordd i'w wneud.

Nid oedd genyf na medr nac amser i'w wneud yn waith llenyddol difyr, dim ond yn unig roi yn nghyd ychydig ffeithiau yn frysiog, yn y gobaith, os caf fyw, ei berffeithio, ac os na chaf, y daw rywdro yn y dyfodol y llenor medrus, gyda chrebwyll y bardd a dychymyg y nofelydd, i wneud hanes byw o'r esgyrn sychion hyn.

YR AWDWR.