Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia/Y Cychwyn a'r Fordaith

Parotoi Mintai a Llong i Fyned Allan Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

Y Glaniad a'r Byw yn Porth Madryn

IV.—Y CYCHWYN A'R FORDAITH.

Mai y 24ain, 1865, dyma ni oll yn barod i fyned i'r llong, a'r llong yn barod i ninau. Yn barod a ddywedasom? na choeliai fawr; nid oes modd bod yn barod, a

phe bussem heb gychwyn hyd y dydd heddyw, ni fuasai pawb yn barod. Nid oes modd cael mintai o ymfudwyr yn barod i gychwyn mordaith; y mae rhyw un wedi anghofio rhywbeth hyd y diwedd. Ond parod neu beidio, y mae eisieu i bob peth a phawb fyned i'r llong heno. Cyn cychwyn, yr oedd yn ofynol i bob un nad oedd wedi talu ei gludiad yn llawn i arwyddo Note of Hand i'r Parch. M. D. Jones am yr hyn oedd yn ddyledus arno, a bu cryn helynt i gael pob un yn barod ac yn gyfleus i wneud hyn. Bu y Parch. David Rhys, Talybont, yn awr o Gapel Mawr Mon, yn ffyddlon iawn i helpu dwyn y gorchwyl hwn oddiamgylch, yn nghyda llawer o ysgrifenu arall oedd yn angenrheidiol. Gwr arall oedd wedi cymeryd dyddordeb mawr yn ddiweddar yn y mudiad oedd y Parch. D. Ll. Jones, Ffestiniog, ond yn y Wladfa yn awr er's ugain mlynedd, a bu yntau o help mawr i'r Parch. M. D. Jones ar yr adeg hon. O'r diwedd, dyma ni oll ar y bwrdd, a phob un yn cael ei roddi yn ei le ei hun, mor bell ag y gallai doethineb ar y pryd drefnu. Cysgwyd y noson hono ar y bwrdd, a dyma y tro cyntaf i'r rhan luosocaf o honom i gysgu ar fwrdd llong, ond ni chyfodwyd yr angor y noson hono. Boreu dranoeth, Mai y 25ain, dyma ni yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn. Yr oedd yno ganoedd o bobl ar y lan wedi crynhoi i'n gweled yn cychwyn. Canasom "Duw gadwo y Frenhines" ar eiriau Cymraeg pan yn barod i godi yr angor, a phan yr oedd y llong yn dechreu symud allan o'r porth, yr oedd amryw yn gollwng degrau yn bur ddiseremoni. Wedi symud ychydig, er mwyn, mae'n debyg, cael y bobl o gyrhaedd y lan, rhoddwyd yr angor i lawr, canys nid oedd pob peth yn barod eto—papyrau y llong a phethau felly ddim yn hollol orphenedig, ac felly y buom hyd brydnawn Sul, Mai yr 28ain, 1865. Am chwech o'r gloch prydnawn y dyddiad uchod, codwyd yr angor eto i beidio ei roddi i lawr mwyach hyd yn Mhorth Madryn——dau fis i'r dyddiad y cychwynasom. Cawsom fordaith dda a chysurus at ei gilydd, er nad oeddym yn meddwl hyny ar y pryd, am fod y rhan luosocaf o honom yn ddyeithr i deithio ar y môr; ond wedi cynefino a môr-deithio, ac edrych yn ol ar y fordaith hono, gwelaf ei bod yn bur debyg i fordeithiau yn gyffredin. Grwgnachwyd llawer am y peth hyn a'r peth arall, ond gwyr pob un sydd wedi mordeithio gydag ymfudwyr nad yw hyn ond peth i'w ddysgwyl hyd yn nod o dan y trefniadau mwyaf perffaith. Cafwyd hefyd ambell i ffrae ddiniwed yn awr ac yn y man. Y mae bron yn anmhosibl ysgoi hyn yn ol fel y mae dynoliaeth hyd yn hyn. Peth digon anhawdd yw cael heol o deuluoedd heb fod yno bwt o ffrae rhwng rywrai yn awr ac eilwaith, llawer llai y gellir ysgoi y path hyn ar fwrdd llong, pan y mae llond heol o deuluoedd yn byw yn yr un ty, ac yn cael coginio eu bwyd ar yr un tân, ac yn byw trwy y dydd a phob dydd yn yr un ystafell fawr. Cafwyd tipyn o ofid oddiwrth y ffaith mai lle pur brofedigaethus i ferched ieuaine anwyliadwrus ydyw bwrdd llong, ond wedi'r cwbl, wrth gydmaru y fordaith hono a mor-deithiau ereill a welsom, yr ydym yn gweled i bethau gael eu cario yn mlaen yn bur drefnus ar y cyfan. Cadwyd genym ddosbarth darllen ac esbonio ar y bwrdd bob dydd ag y caniataai y tywydd trwy y fordaith, cyrddau gweddi, ac ambell gyfeillach y nosweithiau, a dwy bregeth ac Ysgol bob Sul, os na fyddai y tywydd yn anffatriol. Wedi teithio cryn lawer erbyn hyn ar y môr, fy mhrofiad yw na welais un genedl mor selog am foddion gras, ar for yn gystal ag ar dir, a'r Cymry.

Yr oeddym yn Lerpwl yn rhifo 153 o eneidiau. Bu farw un plentyn yno cyn cychwyn, claddwyd dau ar y mor (babanod), a bu farw dwy ferch fechan ereill ar y mor, ond claddwyd hwynt yn naear Porth Madryn. Ganwyd dau ar y mor. Yn mhen triugain niwrnod dyma ni wedi myned i mewn i enau Porth Madryn, a thir Patagonia yn y golwg ar bob tu, a mawr oedd ein llawenydd. Yr ydym yn hwylio yn araf i fyny y porthladd. Y mae y porthladd hwn a elwid gynt, yn Saesonaeg, New Bay, ond yn bresenol Porth Madryn fel teyrnged o barch i Captain Love Jones Parry, o Gastell Madryn, Arfon. Y mae y porthladd hwn tua 36 milldir o hyd, ac yn cynwys dau neu dri o leoedd cymwys iawn i angori llongau ynddynt.