Hen Fibl Fawr fy Mam

Hen Fibl Fawr fy Mam

gan John Phillips (Tegidon)

Cyn y Frwydr
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Awdur
ar Wicipedia




HEN FIBL MAWR FY MAM

MIL henffych, Feibl tirion,
Wyt werthfawr genyf fi,
Ac anwyl gan fy nghalon,
Yw'r olwg arnat ti;
'Roedd ynwyf dyb barchedig
Cyn imi droedio cam,
Mai rhywbeth cysegredig
Oedd Bibl mawr fy Mam.

Mil harddach yw'th ddalenau
A'th holl gornelau troi,
Na phe baent aur ymylau
A chlaspiau heirdd i'w cloi;
Nid amharch wnaeth dy faeddu
Nid anghof roes it' gam,
Ond trysor pena'r teulu
Oedd Bibl mawr fy Mam.

Pan fyddai'r dydd yn agor,
Ac yn hwyrhau yn fad,
Pwy fyddai'n gweini'r allor
Deuluaidd gyda'm tad!

Ond Ow: daeth clefyd weithian
I'r teulu mwyn dinam,
Nid oes ond mi fy hunan
A Beibl mawr fy Mam.

'Rwy'n cofio mam yn burion,
Dan eithaf profiad llym,
Yn sugno o'th gysuron,
Yn cael o honot rym;
Dan eithaf aeth a chyni,
Mewn hedd anghofiai'i cham,-
Nid oes gyffelyb iti,
Hen Feibl mawr fy Mam.

A phan ddystrywiai angeu
Ei phabell hyd ei sail; M
Hi bwysai ar y seiliau
Ddatguddiwyd ar dy ddail;
Cynalia f' enaid inau
Pan fyddwyf yn rhoi llam
I'r bythol faith drigfanau,
Hen Feibl mawr fy Mam.

Oes dynion ar y ddaear,
Dan rith sancteiddiol fri,
Am ddwyn fy Meibl hawddgar
Am byth oddiarnaf fi?
Ni feiddiwch ein hysgaru,-
Chwi wnaech am henaid gam,
Mae 'nghalon wedi ei chlymu
Wrth Feibl mawr fy Mam.

Hi roes ef im' wrth farw,
Gan dd'wedyd wrthai'n llon,
"Rhwym hwn o gylch dy wddw,
A gwisg ef ar dy fron;"
Af at y stange i drengu,
Mi hunaf yn y fflam,
Cyn byth y rho'f i fyny
Hen Feibl mawr fy Mam.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.