Hen Gymeriadau Dolgellau/Meurig Ebrill
← Rhisiart Thomas y Soldier | Hen Gymeriadau Dolgellau gan Edward Williams (Llew Meirion) |
Shani Isaac → |
MEURIG EBRILL, neu Morris Dafydd, oedd gymeriad nodedig yn ei ddydd ar gyfrif ei barodrwydd barddonol, ac ar gyfrif ei ddull o fyw. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Rhyw Rip Van Winkle ydoedd. Aeth i'w wely un noswaith, a chododd o ddim oddyno hyd derfyn saith mlynedd. Cododd, a chyhoeddodd lyfr o'i weithiau, o'r enw "Diliau Meirion," a cherddodd y wlad o'i phenbwygilydd, a gwerthodd filoedd o hono. Cafodd flas ar ysgrifennu a chyhoeddodd hanes ei deithiau; ac ar ol hynny aeth i'w wely drachefn, a chododd o ddim oddiyno hyd nes y bu farw yn 1861, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ei sel fel Anibynwr yn gryf, a gwae y neb a feiddiai ddweyd gair yn erbyn Independia, ac yn enwedig yn erbyn Caledfryn. Yr oedd Caledfryn i Meurig yn fod uwchddaearol bron. Pan oedd y diweddar Mr. Owen Rees yn is olygydd yr Amserau yn Liverpool, ysgrifenodd erthygl gondemniol anghyffredin yn erbyn Caledfryn ac arweinwyr Anibynnol eraill, ynghylch rhyw sen a roddodd y gwyr hynny i'r Methodistiaid,—yr adeg pan oedd "partiol farn sectyddol" wedi meddiannu y wlad o benbwygilydd; a daeth Meurig allan i'r ymosod, a gwnaeth gadwen o englynion—ei arfau tân ef—yn erbyn Mr. Owen Rees. Ond buasai yn well i'r hen frawd beidio; oherwydd nid gwr oedd y diweddar Owen Rees i'w ddychrynu gan swn cacynen mewn bys coch, a rhoddodd dose lled arw i'r hen fardd; a rhywun yn gofyn iddo oedd o ddim am ei ateb, just o ran tipyn o gywreinrwydd,— 'Nag ydw i," meddai, wedi sobri tipyn,—
Rhyw afiach sothach rhy sal—yw croesder
I'r Cristion i'w gynnal;
Y dyn da nid yw'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl."
Gresyn na fuasai yr hen frawd yn cofio
hyna cyn iddo ollwng yr englynion a gyfansoddodd yn erbyn Mr. Owen Rees.