Hen wlad fy nhadau
Anthem genedlaethol Cymru, gan Evan James.
- Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
- Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
- Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
- Dros ryddid collasant eu gwaed.
- Cytgan
- Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
- Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
- O bydded i'r heniaith barhau.
- Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
- Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
- Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
- Ei nentydd, afonydd, i fi.
- Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
- Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
- Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
- Na thelyn berseiniol fy ngwlad.