Henffych i enw Iesu gwiw
← I'r Arglwydd cenwch lafar glod | Henffych i enw Iesu gwiw gan Edward Perronet wedi'i gyfieithu gan William Griffiths, Glan Dŵr |
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
19 Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.[1]
M. H.
1 HENFFYCH i enw Iesu gwiw,
Syrthied o'i flaen angylion Duw;
Rhowch iddo'r parch, holl dyrfa'r nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.
2 Chwychwi a brynwyd trwy ei waed,
Plygwch yn isel wrth ei draed;
Fe'ch tynnodd â thrugaredd gref :
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.
3 Boed i bob llwyth a phob rhyw iaith
Trwy holl derfynau'r ddaear faith,
Gydganu'n llafar iawn eu llef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.
4 Er bod eu beiau'n amal iawn,
Mae ganddo iechydwriaeth lawn ;
Eu cannu'n wyn wna Brenin nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.
Edward Perronet (1721–1792)
Cyf penillion 1-3 Parch William Griffiths, Glan Dŵr (1777-1825)
Cyf pennill 4 Titus Lewis (1773-1811)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 19, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930