Hiraeth (cân)
Hiraeth, cân draddodiadol Cymraeg a gasglwyd ar Ynys Môn gan Dr. J Lloyd Williams yn yr hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
- Dwedwch fawrion o wybodaeth,
- O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
- A pha ddefnydd a roedd ynddo
- Na ddarfyddo wrth ei wisgo.
- Derfydd aur a derfydd arian,
- Derfydd melfed derfydd sidan;
- Derfydd pob dilledyn helaeth,
- Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.
- Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
- Hiraeth sydd yn torri 'nghalon,
- Pan fwy' dryma'r nos yn cysgu
- Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry
- Hiraeth, hiraeth, cilia, cilia
- Paid â phwyso mor drwm arna',
- Nesa' tipyn at yr erchwyn,
- Gad i mi gael cysgu gronyn.