Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Ar Enedigaeth Sior Herbert

Proest Cadwynodl Bogalog Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Bonedd a Chyneddfau'r Awen

AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT,

Arglwydd Llwdlo, cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.

MOES erddigan a chanu,'
Dwg i'n gerdd dêg, awen gu,
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.


Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd;
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;
Prydyddwch, wŷr per diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cant Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau[1]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo fu
O waith beirdd a thabyrddu.

Ganed i ninau gynawr,
Un a haedd gân, maban mawr!
Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf o ddyfnder calon.
Am yr oes aur, eu mawr son.

Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion wŷr gwychion gwiw!
Cynydd, fachgen! gwen gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.

Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;

Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad,
A phoed i'w taid gofleidiaw
Eich meibion llon ymhob llaw
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal y gofal âg ef.

Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr,
Ac ym mysg pob dysg y daw,
Gweithred odidog athraw;
Os o hedd melys, a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir;

Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion;
Gwelwch yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;
O deg irdwf, had gwyrda
A gnawd[2] oedd o egin da!
Nid oes gel o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.
Drwy ba orfod y codi?
Dylid aer gan dy law di,
Pa esgar, pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain[3] lew,
Adwyth i dylwyth dilew;
Anog bygylog elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.

Ai arwylion oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna'u diles dorf?
Torf yn ffwyr[4] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,

Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor, o rym
Rhyfelwr, ac eirf Wilym,[5]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled, Duw a iolaf,[6]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch;
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd;
I fwynhau llyfrau a llên
Diwyd fyfyrdod awen;
Ac, oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau;
Fardd dwy-iaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen,
Hyfryd, tra rheto Hafren.
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


Nodiadau

golygu
  1. Jupiter.
  2. Arfer
  3. Carw Ieuanc
  4. Niweidiol.
  5. Duc Cumberland
  6. Gweddiaf