Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Awdl Coffa gan Gutyn Peris
← Awdl Coffa gan Twm o'r Nant | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Calendr y Carwr → |
AWDL COFFADWRIAETH AM Y PARCH.
GORONWY OWEN,
Gan GUTYN PERIS.
BRIW! braw! brwyn![1] mawr gwyn gaeth!—bradwy,[2] yn awr,
Brydain wen, ysywaeth!
Dros Gymru llen ddu a ddaeth;
Anhuddwyd awenyddiaeth.
Och och ys gorthrwm ochain—mawr ynof
Am Oronwy Owain;
Pêr wawdydd, Prif fardd Prydain,
Sŷ ŵr mud, is âr a main.[3],
Carwr, mawrygwr Cymreigiaith—ydoedd;
Awdwr prif orchestwaith,
Wrth wreiddiol reol yr iaith,
Braw farw hwn, brofwr heniaith.
Meddianydd mwy o ddoniau—ac awen
Nag un yn ei ddyddiau
Prydai gerdd (pan'd[4] prid[5] y gwau?)
Gyson, heb ry nac eisiau.
Yn iâch awen a chywydd!
Darfu am ganu Gwynedd
Duw anwyl! rhoed awenydd
A doniau byd yn y bedd!
Ow! dir Mon, wedi rhoi maeth—i esgud[6]
Wiw osgordd[7] gwybodaeth
Och ing a nŷch angau wnaeth
I fro dewrion fradwriaeth.
Diwreiddiwyd ei Derwyddon,
A'i beirdd sad yn mae brudd sôn!
Gwae'r ynys, aeth Goronwy;
Ni bu ei fwy neb o Fôn.
Prif flaenawr mawr yn mhlith myrdd
O awduron hydron,[8] heirdd;
Bydd gwastad goffâd o'i ffyrdd
Yn oed byd, ynad y beirdd.
Gorawen[9] nef i'r gŵr nod
Uwch Homer cerddber y caid;
A chyson gath![10] uwch Hesiod,
Goreugerdd feirdd y Groegiaid.
Llyw barddas uwch Horas hên,
A Virgil gynil ei gân;
Er rhwysg Rhufein—feirdd a'u rhin,
Gŵr o enw mwy G'ronwy Mon,
Bu yn hyddysg arwyddfardd bonheddig
Coffai hen dreigliadau dirgeledig
Brython, a'u hachau, raddau mawryddig,
Chwith, hylaw athraw a'i chwe' iaith lithrig,
Bod yn ei ôl; byd anelwig! mwyach—
Yn iach! ni wys bellach hanes bwyllig.
Tlysach na gwawd Taliesin—yw ei waith,
Neu araith Aneurin;
Mwy ei urddas na Myrddin,
Ac uwch Dafydd gywydd gwin.
Edrychais, ymdreuliais dro,
Am raddol gymhar iddo,
Trwy fawr gyrch,—tra ofer gais:—
Ni welais:—traul anolo.[11]
Ni bu Frydain wèn heb fawr radau
Yr awen fawrwyrth er yn forau,—
A choffa hoenwawd[12] i'w chyffiniau
Gan dderwyddon, mwynion emynau,
A beirdd uniawn, ewybr[13] ddoniau;—enwog,
Syw,[14] aurdorchog, odidog deidiau.
Goronwy gŵr hynod o'r pendodau,
Ebrwydd lafurwyr yn eu beirddlyfrau
Odid o'r beirddion, diwydion dadau,
Y bu un awdwr yn ei benodau,
Mor ddestlus, fedrus fydrau,―mor berffaith
Mewn iaith, iesin[15] araith, a synhwyrau.
Manwl a digwl[16] y gweinidogodd;
Hud[17] a gorddwy[18] a phob gwyd[19] gwaharddodd;
Rhagfarn, rhagrith, a gaulith[20] ogelodd;
A mawl Iôn i blith dynion a daenodd;
Ac iddynt efe gyhoeddodd yn dwr
Enw y Creawdwr, i'r hwn y credodd.
Er trallodion, gofalon filoedd,
Bu lawen dirion mewn blinderoedd,
Gan wir gofiaw llaw a galluoedd
Duw Iôr i'w weision, hyd yr oesoedd:
Ei awen bêr o'r dyfnderoedd—isel
Ehedai'n ufel[21] hyd y nefoedd.
Bu tra chyweithas bob tro chwithig
Yn hynt ei fywyd, fyd tarfedig.[22]
Uthrol[23] dro nodol dirwynedig
Troi o'r blaenawr mawr i Amerig
Truenus beirddion, tra unig—o'i ôl:—
Tra niweidiol fu'r tro enwedig.
Yma y poenwyd am y penial;[24]
Yntau wrda hwnt[25] o'i ardal
Yn bwrw einioes mewn bro anial:—
Trwm o'r ddwyochr, tramawr ddial!
Trymaf tremiad,[26]
Breuddwyd irad,[27]
Briddo dewrwas
Yn Virginia
Llin hên Droia
'N Llan Andreas
Budd na chyfoeth na bêdd ni chafodd
O'r eiddo Mon, er a ddymunodd
A Duw er hyny da y rhanodd;
A f'ai oreu iddo ef rhoddodd
Duw eilwaith a'i didolodd—o'r bŷd trwch:—
Ei Nef i degwch nef a'i dygodd.
Yn iach anwyl wych ynad,—oedd ddichlyn
I'w ddwy uchel alwad;
Ffuraf[28] Fardd ac Offeiriad
A throm och am athraw mâd![29]
Pregeth ryfedd o'i ethryb[30]
In' och'lyd ein uchel dyb.
Daearwyd ei orwedd,
Lle yr awn oll yr un wedd.
Pa fodd hyn? pwy a fydd iach,
A'i dyfiad o waed afiach?
Un dawn rhag angau nid oes:—
Ei ran yw dwyn yr einioes.
Daear i ddaear ydd â:–
Ond awen, hi flodeua.
Er rhoi yn isel wir hanesydd,
Dewin dwnad, tyf dawn dywenydd
Yn egin o'i weryd, yn gain[31] irwydd;
Blodau'r iaith yw ei waith, wiw ieithydd;
Eirioes[32] gan bob oes bydd—ei ganiadau
I'w geneuau fal y gwin newydd.
Tra rhedo haul yn nen ysblenydd[33]
Y rhed ei fawl, wr di hefelydd;[34]
O dad i fab, dweud a fydd—moladwy
Am Oronwy, mawr ei awenydd!
Ofer o'i herwydd fawr hiraeth:—pwyllwn,
Na wylwn o'i alaeth
Llawer iawn gwell y lle'r aeth,—
Fro dirion ddi fradwriaeth.
Gwlad nef ei haddef[35] heddyw,—
Trefad[36] awen fad nef yw.
Anwylfardd yn ei elfen,
Ni thau a mawrhau y Rhên.[37]
Mae'n yspryd tanllyd, unllef,
Un llawen hoen a llu nef,
Yn gwau mawl i'r bythawl ben,
Duw y duwiau Dad awen.
Nodiadau
golygu- ↑ Trymder.
- ↑ Drylliedig
- ↑ 3 Meini
- ↑ Pa ond
- ↑ Hoff
- ↑ Dyfal,
- ↑ Ceidwadon
- ↑ Cedyrn
- ↑ Llawenydd.
- ↑ Caniad.
- ↑ Anfuddiol.
- ↑ Llawengerdd.
- ↑ Cyflym.
- ↑ Dysgedig, doeth.
- ↑ Teg.
- ↑ Difai.
- ↑ Hudoliaeth.
- ↑ Trais.
- ↑ Pechod
- ↑ Gaugrefydd
- ↑ Tan
- ↑ Chwaledig
- ↑ Rhyfeddol
- ↑ Ffel-graff, a synwyrlym
- ↑ Draw
- ↑ Golygiad
- ↑ Gresynus
- ↑ Doethaf neu ddysgedicaf
- ↑ Da
- ↑ O'i herwydd
- ↑ Teg
- ↑ Hardd
- ↑ Disglaer
- ↑ Digyffelyb
- ↑ Cartref.
- ↑ Trigfa.
- ↑ Arglwydd