Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Bywgraffiad
← Y Cynwysiad | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Awdl Coffa gan Dewi Wyn o Eifion → |
BYWGRAFFIAD.
GANWYD ef mewn bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, Ionawr 1, 1722. Mab i werinwr tlawd (eurych, medd un hanes) ydoedd, o'r enw, Owen Goronwy. Yr oedd ei rieni yn dlodion iawn; a'i dad, fel cyffredin bobl y pryd hwnw, yn dra gelynol i addysg Dianc a ddarfu iddo i'r ysgol y tro cyntaf, heb yn wybod i'w dad na'i fam; a'i dad a fynai ei guro, eithr ei fam nis gadawai iddo; a thrwy gynnwysiad ei fam, yn yr ysgol glynodd hyd oni ddysgodd enill ei fywyd. Nis gwyddis pa ysgol oedd hon, ond bu am rhyw yspaid yn ysgol Llanallgo; a thybir iddo fod amryw flynyddau mewn ysgol yn Ninbych, oblegyd oddiyno yr hanai cenedl ei fam. Daeth yn ieuanc i gydnabyddiaeth â theulu caredig ac athrylithgar Pentre Eirianell, sef y "Wraig ddigymhar, Marged" Morris; a'r "Trimab o ddoniau tramawr," sef Lewis Morris (Llewelyn Ddu) a'i frodyr Richard a William Morris. Bu y gydnabyddiaeth hon o fawr wasanaeth a chymhorth iddo mewn llawer modd, fel y gwelir yn ol llaw. Fel prawf o ymddadblygiad cynar ei feddwl, dywed golygydd y Gwyliedydd (1822) fyned o Goronwy gyda'i fam i Bentref Eirianell un diwrnod, a chael ohono frechdan o fêl, a gofyn o'i fam iddo pa le yr oedd ei ddiolch am dani; ac yntau, tan bwys teimladau diolchgar calon lawn, a ddywedodd, "Pe bai genyf gynffon mi a'i hysgydwn." Pan yn bumtheg oed, yr oedd yn is-athraw yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, ger Pwllheli; ond pa ysgolion a fynychodd, a pha hyd yr arosodd ynddynt, er ei gyfaddasu i gymeryd y cyfryw swydd, sydd holiadau nas gellir yn bresenol eu hateb. Bu yn Ysgol Gyhoeddus Bangor o 1737 hyd 1741, ond pa sut yr ymdarawai am gynaliaeth yn y cyfwng hwnw sydd anhysbys. Dilys nas gallai ei riaint helbulus leddfu ond ychydig ar ei angenoctyd, ac y mae y llaw hael a fu yn "borth wrth raid iddo yn yr amgylchiad wedi cau yn yr angau heb i ni gymaint a gwybod enw ei pherchenog. Ar derfyn ei dymhor yn Mangor, dychwelodd adref; ac erbyn hyn yr oedd ei fam wedi marw, a'i dad yn briod âg ail wraig, a chwta mewn canlyniad oedd y croesaw a gafodd ar yr hen aelwyd. O tan bwys hiraeth a thrallod, danfonodd lythyr yn yr iaith Lladin at Owen Meirig, Ysw., o Fodorgan, yn traethu ei hanes; yn cwyno nad oedd yr addysg a gafodd yn ddim amgen na chwaneg o lewyrch i ganfod yn amlycach y trueni oedd o'i flaen; ac yn erfyn ei gymhorth i fyned i un o'r prif-ysgolion, gan fod Mr. Meirig yn arolygwr ar rhyw elusenau yn Mon i berwyl cyffelyb. Nid ymddengys i'w gais fod yn llwyddianus gyda'r boneddwr o Fodorgan; eithr trwy haelioni Mr. Edward Wynne, o Fodewryd, galluogwyd ef i fyned i goleg yr Iesu Rhydychain, lle y graddiwyd ef. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn 1745. Nis gallwn adrodd digwyddiadau cyfnesol treigliad ei oes yn well nag yn ei eiriau ef ei hun, y rhai a ysgrifenodd mewn llythyr wedi ei ddyddio o Donnington, sir Amwythig, Mehefin 22, 1732, at y Mr. Richard Morris a grybwyllwyd eisioes:— "Fe'm hurddwyd yn ddiacon, neu yr hyn eilw'n pobl ni, Offeiriad haner pan: ac yna fe ddigwyddodd fod ar esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf, yn Mon; a chan nad oedd yr esgob ei hun gartref, ei gaplan ef a gytunodd â mi i fyned yno, Da iawn oedd genyf gael y fath gyfleusdra i fyned i Fôn, (oblegyd yn sir Gaernarfon a sir Ddinbych y buaswn yn bwrw'r darn arall o'm hoes er yn un-ar-ddeg oed,) ac yn enwedig i'r plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid; ac yno'r aethum, ac yno y bum dair wythnos, yn fawr fy mharch a'm cariad, gyda phob math, o fawr i fach; a'm tad yr amser hwnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm plwyfolion. Eithr ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Och! o'r cyfnewid! dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr esgob (Dr. Hutton) at ei gapelwr, neu gaplan, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis, o Gaernarfon (a young clergyman of a very great fortune), wedi bod yn hir grefu ac ymbil ar yr esgob am ryw le, lle gwelai ei arglwyddiaeth yr oreu, o fewn ei esgobaeth ef; ac ateb yr esgob oedd, os Mr. Ellis a welai yn dda wasanaethu Llanfair (y lle y gyrasai y y capelwr fi) yr edrychai efe (yr esgob) am ryw le gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnai drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y capelwr wrth yr esgob, nac ymryson â neb ohonynt, yn enwedig am beth mor wael; oblegyd ni thalai'r guradaeth oddiar ugain punt yn y flwyddyn. Gorfu arnaf fyned i sir Ddinbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes curadaeth yn ymyl Croesoswallt, yn sir Amwythig, ac yno y cyfeiriais; ac er hyny hyd y dydd heddyw, ni welais ac ni throediais mo ymylau Mon, nac ychwaith un cwr arall o Gymru, onid unwaith pan orfu i mi fyned i Lanelwy, i gael urdd offeiriad. Mi fum yn gurad yn nhref Croesoswallt, yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais, yn Awst, 1747. Ac o Groesoswallt y deuais yma, yn Medi, 1748. Ac yn awr, i Dduw y byddo'r diolch, y mae genyf ddau lanc teg, a Duw a roddo iddynt hwy ras, ac i minau iechyd i'w magu hwynt; enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd yw er dydd Calan diweddaf; enw'r llall yw Goronwy, a blwydd yw er y 5ed o Fai diweddaf. Am fy mywiolaeth, nid ydyw ond go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a enillwyf yn ddigon drud; pobl gefnog gyfrifol yw cenedl fy ngwraig i, ond ni fum i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais mo'ni heb eu cenad hwynt, ac na ddigiais mo'nynt chwaith. Ni fedr fy ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg; eto hi ddeall beth, ac ofni'r wyf, onid âf i Gymru cyn bo hir, mai Saeson a fydd y bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae genyf yma ysgol yn Donnington, ac eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hyny tuag at gadw tŷ a chynifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion, ac yn ddigymwynas. Er hyny, na ato Duw i mi anfoddloni, oherwydd 'Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw.' Nid oes ond gobeithio am well troiad ar fyd."
Gadawodd Donnington yn nechreu 1753; ac wedi peth disgwyl, cafodd guradiaeth Walton, gerllaw Liverpool, Er na threuliodd ond tua thair blynedd yn y lle hwn, y mae yno ychydig adgofion am dano. Gellir gweled ei lawysgrif yn llyfr yr Eglwys; claddodd eneth fechan ddwy flwydd oed yn y fynwent, ond nid yw y llecyn yn hysbys; dangosid settle mewn tafarndŷ wrth borth y Fynwent ar ba un y byddai'r "Eminent Welsh Bard," ys dywedai y gwestwyr, yn tori ei syched ac yn mygu ei bibell. Y mae y darluniad canlynol o fynediad ein harwr gyntaf i Walton, mor nodweddiadol o ieithwedd gref a dysgrifiadol Goronwy, fel nas gallwn lai na'i gyfleu ger bron ein darllenwyr:-"Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, yn nghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon; ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae'r gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf, ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd yn ei ffordd; mae'r gwas a'r forwyn (yr hyn yw'r holl deulu a fedd) yn dweyd mai cidwm cyrrith, annynad, drwg anwydus aruthr yw. Ond pa beth yw hyny i mi? bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneud fy nyledswydd, ac yna draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, ni chlywais erioed haiach well pregethwr na digrifach mwynach ymgomiwr. Climach o ddyn afrosgo ydyw-garan anfaintunaidd, afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel; ac wynebpryd llew neu rywfaint erchyllach, a'i drem arwguch yn tolcio yn mhen pob chwedl, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion, ac yn cnoi dail yr India, byd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hyny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil genyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong."
Cadwai ysgol hefyd yn Walton, a rhwng y cwbl nid oedd ei gyflog onid tua £40 yn y flwyddyn. Treuliodd oddeutu tair blynedd, tel y dywedwyd, yn y lle hwn, tan gwyno'n dost yn ei lythyrau gyfynged ei amgylchiadau, ymbil ar ei gyfeillion am borth i rhyw le gwell yn enwedig yn Nghymru, ymgladdu i waith yr hen feirdd Cymreig, trwsio edyn ei awen ysplenydd, yn nghyda'i rhoddi i hedfan wrth ambell bwt o gywydd, er mwyn arfer ei nherth, a'i darpar at rhyw orchestwaith yn y dyfodol. Cyfansoddasai "Gywydd y Farn," pan yn Donnington, a bu yn perffeithio cryn lawer arno yn Walton. Tueddwyd ef i ymadael o Walton gan rhyw hudlewyn o addewid a wnaethid iddo gan gyfaill y cawsai fod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; ac i'r Brifddinas yr aeth rywbryd tua Ebrill, 1753. Trodd yr offeiriadaeth Gymreig allan yn siomedigaeth, ond ni chafodd y bardd nemawr amser i gwynaw oblegyd hyn, gan iddo gael yn fuan guradiaeth Northolt, plwyf tua ddeuddeng milldir o Lundain, lle y derbyniai 50 o gyflog, a byd ddigon esmwyth, meddai ef, oedd arno yno. Wedi tario am tua dwy flynedd yn Northolt, cafodd gynygiad i fyned allan i'r America tan addewid o dderbyn £200 yn y flwyddyn o gyflog; ac yn ngwyneb ei drallodau dygn a'i fynych siomedigaethau yn y wlad hon, tueddwyd ef i'w derbyn.
Yn Rhagfyr, 1757, ysgrifenodd anerch-lythyr cwynfanus at Gymdeithas y Cymrodorion yn Llundain i erfyn eu hachles i'w gynorthwyo ef a'i dylwyth i fyned i Williamsburgh, America. Eithr ofnir mai ofer fu ei apel, gan i Mr. Richard Morris, llywydd y Gymdeithas, ysgrifenu ar gefn yr anerch-lythyr, "Ÿ Parch. Goronwy Owen yn gofyn cymhorth y Cymrodorion i fyned i Virginia. Ond nid gwiw darllen y llythyr iddynt." Er hyny, y mae'n hysbys ddarfod i rai o'i gyfeillion dosturio'n haelionus wrtho. Cychwynodd ef a'i deulu, sef ei wraig a'i "dri Chymro Bach," o Lundain yn nechreu Rhagfyr, 1757, ar y daith hirfaith a pheryglus. Danfonodd lythyr oddiar "fwrdd y llong Trial yn Spithead," at ei hen gyfaill calonbur Mr. Richard Morris; ac nid oes ond un llythyr o'i eiddo ar gael ar ol y pryd hwnw, yr hwn a ysgrifenwyd o Brunswick (America), Gorph. 23, 1766—bron ddeng mlynedd er pan adawsai Loegr. Y mae edrych ar y dynan hwn, ac yn ei ben swrn o'r dalent fwyaf diledryw, yn gadael ei wlad hoff, fel ffoadur truenus yn dianc o afaelion ei drallod, yn cael ei alltudio oddiwrth ddyddanwch cyfeillion doeth, a theleidion gwlad ei enedigaeth, ag yr oedd holl serch ei enaid wedi ei glymu wrthynt, yn un o'r darluniau mwyaf torcalonus sydd yn nghyfrol fawr hanes adfyd meibion athrylith. Ie, myned bellach, bellach, o Fôn, "hyfrydwch pob rhyw frodir," man y buasai yn dyheu am sugno ei hawyr bur, a rhodio ei daear laswerdd, ac y goddefasasai'n amyneddgar flynyddau o gyni yn y gobaith y buasai'r diwedd yn fywiolaeth fechan o'i mhewn. Yn awr, wele ddinystr breuddwyd dymunol ei fywyd, a phob awel deneu yn briwsioni'r gobaith a fuasai'n ateg iddo tan bwys aml a blin gystuddiau. Eithr er croesi'r Atlantig, nid ymddengys fod ond ychydig fêl yn ei gwpan, canys ansefydlog fu ei fywiolaeth hefyd yn myd pell y Gorllewin. Ar ol bod yn gwasanaethu un neu ddau o wahanol blwyfi, cafodd ei neillduo yn un o ddysgawdwyr coleg William a Mary, Williamsburgh, Virginia. Symudodd oddiyno a bu yn gwasanaethu mewn lle o'r enw St. Andrews, yn yr un dalaeth, o Rhag. 13, 1760, hyd Gorph. 22, 1769; a thybir iddo farw yn fuan ar ol y dyddiad olaf. Collodd ei wraig gyntaf, a phan yn ngholeg Williamsburgh priododd ail wraig, yr hon oedd chwaer i lywydd y coleg, ac yn weddw gyda phump neu chwech o blant. Hithau hefyd a fu farw, ac yr oedd ei brawd, y llywydd, yn pwyso ar Goronwy i gynal ei phlant allan o'i gyflog bychan. Pan yn ysgrifenu ei lythyr yn 1767, yr oedd yn briod â'i drydedd wraig, a'i holl deulu Seisnig wedi marw ond ei fab Robert. Yn 1798, rhai o edmygwyr Goronwy a ysgrifenasant at y Robert hwn, gan ddeisyf cael gwybod ganddo ychydig o hanes ei dad athrylithlawn; eithr yr oedd y gwr hwn wedi estroneiddio cymaint oddiwrth ei dad a'i genedl, fel mai yr unig ateb sarug a gafwyd oddiwrtho ydoedd gofyn pwy a dalai iddo ef am ei drafferth Oddiwrth ran o'i ewyllys, yr hon oedd yn meddiant rhai o'i ddisgynyddion yn Brunswick, dywedir ei fod wedi gadael o'i ol bedwar o feibion; eithr y mae ei holl deulu bellach wedi ymgolli yn ngweriniaeth fawr yr Unol Daleithiau. Nid yw y lle na'r pryd y bu farw, na'r man y claddwyd ef, yn adnabyddus.
O ran ymddangosiad allanol, dyn bychan o gorpholaeth ydoedd, bywiog ei dymher a'i ysgogiadau, pryd tywyll ac iddo ddau lygad du tryloew, ac athrylith i'w gweled trwyddynt.
Rhaid cydnabod nad oedd efe yn eithriad i'r cyffredin o'i gydfeirdd cydoesol mewn sobrwydd a gwastadrwydd buchedd; yr hyn mae'n ddiau fu'n un rhwystr ar ffordd ei ddyrchafiad yn yr eglwys. Pa un oedd yr achos, a pha un yr effaith, nis gwyddom; rhai a ddywedant mai ei feddwdod ef a barodd i'r esgobion wrthod ei ddyrchafu, ac eraill mai gwrthodiad yr esgobion a achlysurodd iddo ef feddwi. Dilys pe meddwasai pawb oblegyd nad oedd eu huchafiaid yn chwenych eu dyrchafu, y buasai haner y byd yn feddw; a diamheu pe na buasai esgobion yr oes hono yn dyrchafu rhywrai heblaw dynion sobr y buasai haner eu pwlpudau yn weigion. Pa fodd bynag, amlwg yw fod y Prif-fardd, druan, cyn ymadael â Lloegr, wedi ymollwng i ddiotta yn lled drwm, hyny wedi ei ddwyn i dlodi, tlodi yn peri iddo bwyso yn lled fynych am gymhorth ar gyfeillion, yn enwedig ar y Morysiaid, a rhwng y naill beth a'r llall, yr oedd hyd yn nod teimladau ei ben ffrynd, Lewis Morris, wedi suro'n dost tuag ato. Yn y Brython iv. 465, ceir copi o lythyr a ysgrifenodd Llywelyn Ddu, sef L. Morris, at gyfaill yn Mehefin, 1757; ac er mai caswir ydyw, yn tarddu oddiar deimladau digofus, eto nid ystyriem fywgraffiad o Goronwy yn gyflawn hebddo:
I WONDER how the poor d——l of an Offeiriad goes on now, I don't hear anything of his being turned out, I suppose they don't drink as much as they did, poverty hinders them, and the alehouse will not give them credit. Nawdd Duw rhag y fath ddyn! A surprising composition! What poet ever flew higher! What beggar, tinker, or sowgelder, ever groped more in the dirt! A tomturd man is a gentleman to him. The juice of tobacco in two streams runs out of his mouth. He drinks gin or beer until he cannot find his way home, and has not the sense of an ass; rowls in the mire like a pig, runs through the streets with a 1ot in his hand to look out for beer-looks like a mountain cat. And yet when he is sober, his good angel returns, and he writes verses sweeter than honey, and stronger than wine. How is this to be solved? His body is borrowed and descended from the dregs of mankind, and his spirit from the celestial choir-what a stinking, dirty habitation it must have.
Dianmheu na welodd Goronwy erioed mo'r llythyr hwn, onide prin y credwn y buasai yn tynu ei delyn oddiar yr helyg yn myd pell y Gorllewin i nablu yr awdl farwnad benigamp ar ol Lewis Morris, Ysw., "Pen Bardd, Hanesydd, Hynafiaethydd, a Philosophydd yr oes a aeth heibio," ys dywed efe yn mhenawd yr awdl. "Ar ni wêl y llygad ni phoena'r galon," medd yr hen ddiareb.
Fod Goronwy Owen yn ysgolor o'r radd uwchaf, ac wedi yfed yn ddwfn o ffynonau clasuriaeth, sydd eithaf amlwg oddiwrth ei lythyrau a'i farddoniaeth; ac os rhoddir coel ar hanesion, yr oedd ei gyflymder i ddysgu ieithoedd yn ymylu ar y gwyrthiol. Dywedir na bu onid rhyw dair wythnos yn meistroli yr Arabig; ond pa un a oes goel i'w roddi ar hyny neu beidio, diau am y Groeg, y Lladin, a'r Hebraeg, eu bod ar flaenau ei fysedd, ac mor hyddysg iddo âg iaith ei fam. Yn dissecting room yr ieithoedd meirwon yr ymlwybrai'n benaf pan yn ieuanc-gan ymddigrifo dodi asgwrn ohonynt wrth ei asgwrn, ac olrhain cysylltiadau dyrys a chywrain geiryddiaeth ymadawedig. Ac er y cydnebydd efe yn un o'i lythyrau fod prif gryfder ei athrylith yn gynwysedig mewn cyfachu geiriau, a threiddio i'w perthynasau gwahanredol; eto, nid ar drostan ieithyddiaeth y cerfiodd efe ei enw tros byth, nac y gosododd ddelweddau anniflant ei enwogrwydd. Mewn llythyr at Mr. Richard Morris, dywed mai yn Nadolig, 1751, y dechreuodd efe brydyddu; ac os felly, yr oedd "Cywydd y Farn" yn un o ffrwythau cynaraf ei awen, canys sonia am y gwaith hwnw mewn llythyrau dyddiedig yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1752. Ymddengys fod y bardd yn gwneud cam âg ef ei hun, os oes cred i'w roddi ar ddyddiadau ei weithiau; canys yn ol y rhai hyny, cyfansoddasai "Gywydd Calendr y Carwr," yn Mhwllheli, tua'r flwyddyn 1743; a'r "Englynion i Dduw," ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw hyn, pa fodd bynag, ond un o'r llawer gwrthddywediadau anesboniadwy sydd yn llythyrau y bardd. Llywelyn Ddu oedd ei athraw barddonol, a'i gyd-ddysgybl oedd y y trylen Ieuan Brydydd Hir; tuag at yr hwn y teimlai Goronwy gryn lawer o eiddigedd barddonol, ac awydd i dalu iddo, yn enw Mon, y ddyled ag oedd arni i Geredigion ar ran Rhys Meigen, oblegyd y gurfa a gafodd hwnw gan Ddafydd ab Gwilym. Pa fodd bynag, wedi iddo ddechreu ymgyfeillachu â'r awen, yr oedd ei gariad ati yn angherddol; a chyfansoddodd y rhan luosocaf o'i ddarnau barddonol yn ystod blynyddau ei gariad cyntaf, sef rhwng 1752 a 1756. Ac er mor fyr y cyfnod hwnw, cynyrchodd ynddo geinion mor uchelryw, nes ei restru yn "Brif-fardd Cymru." Mewn nerth a gorpheniad clasurol, y mae yn mhell uwchlaw pob bardd Cymreig; ac y mae ugeiniau o'i linellau mor gryno, cynwysfawr, a chymhwysiadol, â dim diarhebion sydd yn yr iaith, ac y mae amryw ohonynt bellach ar gôf a llafar gwlad fel diarhebion. Diau fod cyfansoddi diarhebion cenedl, deddfau cyfeillach a'r aelwyd, yr anrhydedd uwchaf y dichon i farwol ddyn byth ei gyrhaedd. Yn annibynol ar hyn, arucheledd ydyw prif deithi ei farddoniaeth; ac yn Nghywydd y Farn" y gwelir hyny arbenicaf. Yn hwnw, cyfodir ni ar fynydd uchel; dychrynir ni gan fellt; arswydir ni gan daranau; ymddengys arwydd y Grog ar ael y ffurfafen ddychrynedig; udgenir y "corn anfeidrol ei ddolef," sain yr hwn a fodda dwfr rhaiadrau byd, a "phob cnawd o'i heng a drenga;" gwelwa goleuadau y nefoedd, ac o'n cylch ac o tanom y mae'r greadigaeth yn briwsioni yn fil myrdd o ddarnau, Bwrir i lawr y wal ddiadlam, nes y mae distryw yn noeth ger ein bron; agorir y dorau tragwyddol, a dyna wynfydedd gwlad y gwynfyd ger bron ein llygaid. Ymddengys yr Ynad yn holl rwysg a mawredd ei swydd; gwysir y dorf ddirfawr i dderbyn ei dedfryd; ac mewn byr eiriau darllenir tynged dragwyddol pob dyn byw. Y mae y sylwedydd bellach wedi ymgolli mewn syndod, dychryn, ac addoliant; ac yn barod i gyduno yn neisyfiad y bardd ar derfyn y cywydd:—
Boed im' gyfran o'r gan gu,
A melused mawl IESU;
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen, a Nef i minau,
Nid oes yn unrhyw iaith odid arwrgerdd ardderchocach; ac y mae y cyfan ohoni yn gynwysedig mewn ychydig tros 150 o linellau. Yn mysg eraill o'i gyfansoddiadau ceir darnau mor angerddol a thanbaid; er nad yw eu maint yn cyfateb i'w tryloywder. Cwynir weithiau ei fod yn arfer geiriau ansathredig, nes difwyno blas y darllenydd wrth ryfynych gyfeirio at y geiriadur; ond amcan y bardd yn hyn oedd ymgyrhaedd at ddiwylliad yr iaith, ceisio gloywi ei defnyddiau, helaethu ei therfyngylch, a dwyn ei thrysorau i lawn ymarferiad; yn lle ein bod yn ymfoddloni ar ychydig frawddegau undonol a chylch ymadroddion tlodion, tra y mae corph yr iaith yn gorwedd yn farw yn ngholofnau ein geiriaduron. Ysgrifenodd hefyd tua haner cant o Lythyrau at gyfeillion, yn enwedig at Richard a William Morris. Yn y rhai hyn, ceir twysged werthfawr o sylwadau beirniadol ar feirdd a barddoniaeth, yn nghyda hanes cyfeillachol o'i symudiadau, a threm ledradaidd i'w deimladau tan ddyblygion gofid a thristwch.
Cyhoeddwyd ei farddoniaeth, oddieithr "Marwnad Lewis Morris," "Darn o awdl i Dywysog Cymru," "Cywydd y Cynghorfynt, neu Genfigen," "Cywydd y Cryfion Byd," a'r "Englynion i Elis y Cowper," yn y Diddanwch Teuluaidd, neu waith beirdd Mon, gan yr hen brydydd Huw Jones o Langwm, yn y йwyddyn 1763; a'r darnau uchod a argraffwyd gyntaf yn Ngorph y Gainc, gan Ddafydd Ddu Eryri, yn 1810. Ailargraffwyd y Diddanwch, gyda'r chwanegiadau, tan olygiaeth Dafydd Ddu, yn 1817. Argraffwyd ei Lythyrau gyntaf yn Ngreal Llundain, y Cambrian Register, y Cambro Briton, a'r Gwyliedydd. Yn 1860, cyhoeddwyd argraffiad o'i waith gan J. Jones, Llanrwst, tan yr enw Gronoviana, Pris 5s. 6ch. Ac yn 1876, cyhoeddwyd y rhan gyntaf o "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his Life and Correspondence," gan y Cymro twymgalon a llengar y Parch. R. Jones, Rotherhithe, Llundain. Bwriedir gorphen y gwaith hwnw mewn pedair rhan 7. 6ch. yr un. Prin y rhaid dweyd mai nid yr amcan wrth ddwyn allan yr argraffiad hwn ydyw disodli na niweidio cylchrediad yr un o'r ddau uchod; ond yn hytrach dodi yn nghyrhaedd pob Cymro farddoniaeth un o brif-feirdd ein gwlad.