Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd i'r Calan, 1755
← Cywydd i'r Calan, 1752 | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd Marwnad Marged Morys → |
CYWYDD I'R CALAN
Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.
Ow! hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau,
Ond diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni,
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran,
A gwelwyd, ben pob gwyliau,
Mai tycio wnaeth y maeth mau,
Er yn faban gwan gweccry,[1]
Hyd yn iefanc hoglanc hy',
O ddiofal hydd iefanc
Yn wr ffraw,[2] goruwch llaw llanc;
Ac ar Galan (yn anad
Un dydd) bum o wr, yn dad
Finau ni bum yn f'einioes
Eto 'n fyr it' o iawn foes,
Melys im' ydoedd moli,
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio iti, Galan,
Ryw gelfydd gywydd neu gân.
Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl, buost gedawl gynt;
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf i mor dost?
Rhoddaist i'm ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys,
Mennaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A durwayw'r poethgryd eirias,
Ynglŷn â phigyn a phâs.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf
(Bernwch) ai cudeb arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm!
Ai cudeb yw rhoi codwm,
A chystudd di fudd i f'ais, I'm
gwanu am a genais?
Ar hwrdd os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu,
Diengaist yn rhydd, y dydd du;
Rhedaist, fal llu rhuadwy
I'r môr, ac ni'th weler mwy,
A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[3] er fy mygwl[4] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.