Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Dau Englyn o Glod i'r Delyn

Cywydd Marwnad Marged Morys Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Awdl Briodasgerdd i Elin Morys


DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:

TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.


Nodiadau

golygu