Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Englynion i ofyn Cosyn Llaeth-geifr
← Cywydd i'w gyflwyno i Dywysawg Cymru | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Englyn a Sain Gudd ynddo → |
ENGLYNION
I ofyn cosyn llaeth-geifr gan William Gruffudd o Ddrws-y-coed yn Eifionydd, tros Domas Huws, mab Huw ab Ifan, o Landygai, oedd yn was yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.
DYNYN wyf, a adwaenoch—er enyd,
A yra anerch atoch;
Rhad a hedd ar y feddoch
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.
I chwi mae, i'ch cae, uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall,
Llawer mynnyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.[1]
Mae iwch gaws liaws ar led—eich anedd,
A'ch enwyn cyn amled;
Y mwynwr er dymuned,
Rhowch i'm gryn gosyn o ged.
Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith lofr
Cosyn o flith[2] gofrith gafr.
Blysig, anniddig ei nâd,—yw meistres,
A mwstro mae 'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad,
Na gwledd ond o gaws ein gwlad.
Myn Mair, onis cair y caws
Ar fyr, y gwr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.
Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.