Hosanna, Haleliwia (MR)
← 'D oes gyffelyb iddo Ef | Hosanna, Haleliwia (MR) gan Morgan Rhys |
Ein Harglwydd ni clodforwch → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
35[1] Mawl i'r Ceidwad
77. 87. D.
.
1 HOSANNA, Haleliwia
I'r Oen fu ar Galfaria;
Gorffennwyd iechydwriaeth dyn,
Efe ei Hun yw'r noddfa:
Tragwyddol ddiolch iddo
Am faddau a thosturio;
Anfeidrol fraint i lwch y llawr
Fod croeso'n awr ddod ato.
2 Mae'n achub hyd yr eitha'
Y pechaduriaid mwya';
Fe drefnwyd ffordd i gadw dyn
Gan Dri yn Un Jehofa;
Anturiwn ninnau arno,
Mae'r Iesu'n achub eto,
A chroeso i bechaduriaid mawr
Bob munud awr ddod ato.
3 Mae'r ddyled wedi'i thalu,
Ac uffern wedi'i maeddu,
Gobeithiol garcharorion sy
Yn dod yn llu i fyny:
Mae'r pyrth yn llawn agored,
Doed Israel o'r caethiwed;
Pob llesg a gwan, fyth ger ei fron,
Ei wedd yn llon cânt weled.
Morgan Rhys
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 35, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930