gan Siôn Cent

Un fodd yw’r byd, cyngyd cêl
â phaentiwr delw â phwyntel,
yn paentiaw delwau lawer,
â llu o saint a lliw sêr.
Fal hudol â’i fol hoywdew
yn bwrw hud, i angwr glud glew
dangos a wna, da diddim
dwys ei dâl, lle nid oes dim.
Felly’r byd hwn, gwn ganwaith,
hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.


Mae’r byd oll? Mawr bu dwyllwr.
Mae Addaf fu gytaf gŵr?
Mae Rwling frenin Corstinobl?
Mae’r ddau mawr Babau? Mae’r bobl?
Mae Sulus frenin Susil?
Mae feirdd Ewropa? Mae fil?
Alexander a dderyw,
Ector, Arthur, eglur yw.
Mae Gwenhwyfar, gwawn hoywwedd,
merch Gogfran gawr, fawr a fedd,
a’r sidan, eres ydiw,
a’r gwallt llawn perles aur gwiw?
Mae Tegfedd ryfedd yrhawg,
Coelferch Owain Cyfeilawg?
Mae Firain, eurfain wryd
o Ffrainc, oedd decaf ei phryd?
Mae Herod greulon honnaid?
Mae Siarlymaen o’r blaen blaid?
Mae Fasil fab? Mae Fosen?
Mae Brutus fab Sulus hen?
Mae Owain, iôr archfain oedd?
Mae Risiard frenin? Mae’r oesoedd?
Mae’r haelion bobl? Mae’r helynt?
Mae’r gwyrda fu Gymry gynt,
mae’r perchen tai? Mae’r parchau
yn fab a welais yn fau?
Ni ŵyr cennad goeladwy
na herod gwynt eu hynt hwy.
A’r undawns, gwn ei wrandaw,
i ninnau diau y daw.
Heliwm olud ehudwaith;
hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.


Anniweiriaf fu Ddafydd;
Selyf ddoeth, salw fu ei ddydd.
Dyryseinia dros annerch,
Duc Iorc a rô forc i ferch.
Maent hwy a’u gwragedd heddiw,
a’u mawredd gwych a’u medd gwiw?
Mae’r hud iaith? Mae’r rhai doethion?
Mae’r saith gelfyddyd? Mae’r sôn?
Mae catw ddoeth? Mae Cytal?
Mae’r saith ddysg Fferyll, mawr sâl?
Er ei gallter, med gwerin,
a’i fawr gelfyddyd o’i fin,
a’i hoced mawr a’i hwcian,
aeth i’r ddaer fal gwâr gwan.
Er eu dewred, wŷr diriaid.
a’u balchedd rhyfedd a’u rhaid,
yn diddim, awgrim ograff,
i’r pridd ydd aethant, wŷr praff.
O’r pridd ydd awn, er praw,
i’r pridd ydd awn, er pruddaw.
Afraid i dynn fryd ar dda
a’i ryfig a’i wareufa
a’i dolciog gorff a’i dalcen
a’i bwys o bridd a’i bais bren;
ac wythgant, meddant i mi,
o bryfed yn ei brofi.
Had daear ar hyd dwywaith;
hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.


Pan ddêl Crist, poen ddial cred,
parth y gaer porth agored
Dduw Sul i farn yn ddisom
ar dda drwg, a’r ddôr drom,
rhai’n crynu fal maeddu mab,
eraill yn llawen arab;
rhai a gaiff nefoedd i gyd
rhai boenau, rhyfawr benyd.
Yno y gwelwm, iôn gwiwlaith,
hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.

[[Categori:Cerddi Caeth]