Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Pennod IV

Pennod III Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod V

PENNOD IV.

'They left the barge, and all other feelings were soon absorbed in wonder at the size of the town, and the extreme length, narrowness, and filth of the street." —CHARLOTTE ELIZABETH.

Yr oedd William ac Owen Huws, er yn ddau frawd, eto yn hollol wahanol i'w gilydd o ran tymher, arferion a thueddiadau; ac, oherwydd hyny, ni fu ryw lawer iawn o gydymdeimlad agos, na chymundeb cynes, rhyngddynt braidd erioed. Pan yn llanc, balchder oedd prif nodwedd Owen, ac ymffrostiai lawer yn ei harddwch a'i gryfder. Diystyrodd lawer ar ei frawd am ymfoddloni i dreulio ei ddyddiau goreu "yn y wlad," yn lle penderfynu, fel efe, "ceisio ei ffortiwn yn Nerpwl, neu ryw dref fawr arall." Nid oedd ef, ychwaith, yn meddu parch neillduol i grefydd, er nad oedd yn hynod am anfoesoldeb; tra yr oedd William, er yn fachgen, wedi enill iddo ei hun gymeriad uchel fel llanc a dyn crefyddol.

Wrth gerdded o'r porthladd, tua thŷ Owen Huws, yr oedd cyflwr meddyliol y newyddiaid mewn agwedd ag y buasai y dyfyniad uchod, o waith yr awdures alluog, Charlotte Elisabeth, yn dra phriodol i gyfleu syniad am eu teimladau hwynt. "Synwyd hwynt gan faint y dref, a hyd, culni, ac aflendid" rhai o'r heolydd. Dysgwyliasant weled agwedd harddach ar bethau, a theimlent yn siomedig.

Yr oedd Owen Huws yn byw yn un o'r heolydd sydd yn agos i'r afon Mersey, llawer o ba rai sydd yn hynod am eu hawyr afiach a'u budreddi, a theimlodd y newydd-ddyfodiaid hyny yn boenus ar eu mynediad i'r heol lle'r oeddynt i dreulio ychydig amser yn awr.

Croesawyd hwynt gydag ymddangosiad o garedigrwydd gwresog gan wraig Owen Huws; ond nis gallai plant William lai na thynu gwrth-gyferbyniad anffafriol rhwng ei hymddangosiad hi ag agwedd eu mham hwynt, megis yr oeddynt eisoes wedi gwneuthur gyda golwg ar eu tad a'u hewythr. Nis gallent, ychwaith, lai na galw i gof, lendid, taclusrwydd, a chysuron blaenorol y Ty Gwyn, wrth sylwi ar yr agwedd yr aethant iddi yn awr. Yma, yr oedd y parwydydd melynion ac ystaeniog wedi eu gorchuddio â nifer o ddarluniau o'r math mwyaf plentynaidd, rhai o honynt yn hollol newydd, ac wedi eu dodi yno, yn ddiau, i ddangos chwaeth ragorol gwraig y ty; ond y mae'n gas gan bob dyn coethedig ei chwaeth eu gweled yn mhob man, er eu bod yn dyfod yn lled gyffredin i Gymru yn y dyddiau hyn. Yr oedd y ffenestri wedi eu tywyllu gan faw, a'u haddurno gan weoedd ceinclyd [1] y pryf copyn; ac eto, yr oedd yn amlwg fod Mrs. Owen Huws wedi gwneud ei goreu glas i gael golwg fawreddus ar y ty, ac arni ei hunan hefyd; ac er nad oedd hi wedi thau fawr i gyd ar ei gwallt mattiog, eto yr oedd ganddi gap o lun hollol wahanol i ddim a welodd Marged Huws erioed yn y wlad, ac yr oedd y cap hwnw yn llawn o rubanau flamllyd ac amryliw. Nid oedd yno ddim prinder o'r hyn a ystyriai y letywraig yn addurniadau; ond yr oedd y ty yn amddifad o daclusrwydd, glanweithdra, cysur, a pharchusrwydd,

Dechreuodd y genethod bychain goleddu syniadau îs nag o'r blaen am ardderchogrwydd Llynlleifiad. Druain o honynt! byddai'n dda pe na welent fwy na hyny o anfadrwydd y lle. Ac nid oedd Mrs. Huws ond esampl gyffredin iawn o un dosbarth lluosog o'r trigolion—pobl ddiddarbodaeth digon caredig yn eu ffordd, ond heb erioed ystyried pa fodd i ychwanegu cysur at eu haelwydydd eu hunain, na dedwyddwch eu teuluoedd. A bu yn ddrwg genym lawer gwaith ganfod amryw o ferched Cymru yn Llynlleifiad yn teilyngu y nodwedd.

Cytunwyd ar fod i ddwy ystafell o dŷ Owen Huws gael eu gosod i William a'i dylwyth, hyd nes y caffai ef waith, a gallu o hono gymeryd ty cyfan iddynt eu hunain.

Gan mai nid ysgrifenu bywgraffiad yr ydym, ni fydd i ni ddylyn hanes William Huws yn fanwl, gam a cham. Ac heblaw hyny, rhaid i ni ddychwelyd yn fuan at brif wrthddrych ein chwedl, sef Huw Huws.

Bu William am wythnosau lawer heb un math o waith. Gwnaeth ei frawd bobpeth a allai ef drosto; ond nid oedd ei allu eithr ychydig; a diau y buasai yn haws i William gael ei gyflogi mewn màn neu ddau, oni bai mai Owen oedd yn ei gymeradwyo.

Darostyngwyd William a'i deulu i dlodi a chyfyngder. Yr oedd eu harian wedi myned i gyd, a hwythau heb fodd i gael ymborth yn hwy, heb geisio coel, ac at bwy yr oeddynt i fyned i ymofyn am hyny? Aeth Mrs. Owen Huws hefyd yn fwy sarug, am nad oeddynt mwyach yn gallu talu am eu dwy ystafell. I ychwanegu at eu hadfyd, dechreuodd Mari fyned yn glaf;—yr oedd yr awyr afiach, a'r gwahaniaeth bwyd, a phrinder hyd yn nod o hwnw fel yr oedd, yn dylanwadu yn anffodus ar ei chyfansoddiad. Ac fe ddichon fod ei hiraeth am Gymru hefyd yn ychwanegu at y pethau eraill. Collodd ei sirioldeb; aeth yn bruddglwyfus, ac yr oedd arwyddion o nychdod sicr arni.

Dechreuodd bochau Lowri a Sarah hefyd lwydo, a'u llygaid bantio; a gwelid arwyddion o dristwch mynych ar eu gwynebau ieuainc a hawddgar. Ac, yn raddol—yr hyn a ofidiodd fwy ar galon Marged Huws na'i holl adfyd ynghyd—fe ddechreuodd Lowri duchan a grwgnach. Ond, hyd yn hyn, nid oedd y peth wedi dyfod yn ddigon pwysig i Marged ei ystyried yn werth tristau ei gwr trwy ei fynegi iddo; ond penderfynodd wylio yn ddyfal ar ei hail eneth, gan geisio atal y nwyd peryglus rhag cael meistrolaeth arni.

O'r diwedd, cafodd William Huws waith llafurwr mewn haiarn-weithfa fawr. Daeth pelydr o obaith adnewyddol i'w feddwl, a dychwelodd i'w lety y prydnhawn hwnw yn siriolach nag y bu er's llawer o wythnosau. Siaradodd yn obeithgar, gyda'i wraig a'i blant, a dechreuodd y cyfan, oddigerth Mari, bortreadu dyfodiant dedwydd iddynt oll.

"Cewch chwi—Lowri a Sarah"—ebe'r fam, "fyn'd i'r ysgol yn fuan bellach; a chdithau, Mari, ti gei chware tegi fendio, a dwad yn ddigon cref i gael lle da i weini. Cod dy galon ngeneth i—mae dy dad yn sicr o enill digon o arian i ti gael bwyd da i gryffhau."

Fflachiodd sirioldeb yn llygaid y ddwy eneth leiaf; ond ni welwyd un arwydd o lawenydd ar wedd Mari, ac ni wnaeth ddim ond cusanu ei mam, a gollwng ochenaid, wrth glywed y dyfodiant yn cael ei liwio felly a lliwiau gobaith a chysur.

Yn awr, ni a adawn William Huws, ei wraig, a'i dair geneth, yn Llynlleifiad, gan addaw gadael i'r darllenydd wybod eto, rhagllaw, eu helyntion yno.

Nodiadau

golygu
  1. ansicr ceyd sydd wedi argraffu