Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Pennod VI

Pennod V Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod VII

PENNOD VI.

Gwagedd o wagedd: * * gwagedd yw'r cwbl.—SOLOMON.

FFAIR PEN TYMHOR a ddaeth, a chyfeiriodd Huw Huws ei gamrau tua Llan, am y tro cyntaf erioed ar adeg ffair fawr—wedi ymwisgo yn daclus, ond syml.

Yr oedd yr heolydd yn frithion gan fynychwyr ffeiriau, yn myned, fel yntau, i Lan; ond yr oedd yn amheus a oeddynt hwy oll yn myned gydag unrhyw neges bennodol, fel efe. Bu ef yno o'r blaen, dros ei hen feistr, mewn dwy ffair led fechan; ond nid oedd yn gweled nemawr neb, yn y rhai hyny, heblaw pobl a'u bryd ar fasnach o ryw fath; ond y tro hwn, sylwai ar niferoedd yn cyrchu yno na's gallai fod ganddynt un neges yn y byd; a chofiodd am geryddon Mr. Lloyd, yn un o'i bregethau, ar Ffair y Gwagedd, a'r temtasiynau a amgylchynant ieuenctyd di-amcan yn y cyfryw ffeiriau.

Yr oedd y ffair yn ddigon i syfrdanu un annghyfnefin â'r cyfryw olygfa, ac yn ddigon i ofidio calon pob un a chanddo barch at rinwedd a moesoldeb. Mewn un heol, yr oedd nifer o feirch yn cael eu rhedeg, er mwyn tynu sylw'r edrychwyr, a sylwodd Huw fod amryw o'r gyrwyr yn arfer llawer o greulondeb at yr anifeiliaid er mwyn cael ganddynt wneud pranciau, a dangos hoender, a rhedeg yn gyflym. Cofiodd glywed am ryw bendefig yn areithio yn y Senedd, ychydig amser cyn hyny, i geisio cael cyfraith lemach i gospi creulondeb at anifeiliaid; a thybiodd Huw, os oedd creulondeb at anifeiliaid yn bod, ag y dylid ei gospi, fod rhedeg meirch, a chesig, a merlynod, ar hyd heol faith, am lawer o oriau, gan eu chwipio a'u hysparduno yn gïaidd, yn haeddu cosp; ac eto, sylwodd ar rai o amaethwyr parchusaf y wlad, ac amryw o honynt yn broffeswyr crefydd, ac yn cael eu hystyried yn bobl dduwiol, yn syllu ar yr olygfa gyda dyddordeb—rhai o honynt yn syllu yn graff gyda llygaid beirn- iadol prynwyr, ac eraill gyda golygon boddus, neu dremiadau pryderus, gwerthwyr, heb neb yn dangos gresyndod, nac yn cynyg cerydd, i'r creulondeb, na'r anweddeidd-dra, na'r tyngu, na'r rhegu, na'r taeru, a'r gwrth-daeru, oedd yn hynodi ffair y meirch.

Yr ydym yn teimlo, yn awr, ein bod yn sangu ar dir cynil. Ond, a gawn ni ofyn i'r beirniad a'r darllenydd ystyried ein darluniad anmherffaith o Ffair Pen Tymhor, fel y gwelsom ni hi fwy nag unwaith, fel cais at gofnodi pethau yn ddiderbyn-wyneb. Dichon y brifwn deimladau rhai; ond nid oes mo'r help—ar y Ffair, ac ar y bobl, y mae'r bai, ac nid arnom ni am ddweyd y gwir. Os profir ein bod yn cofnodi ac yn darlunio yn annghywir, ni a ymfoddlonwn i dderbyn cerydd; ond os canfyddir ein bod yn tynu darlun cywir, ymfoddloned yr euogion i'w tynged.

Aeth Huw Huws o heol ffair y meirch i fan arall yn y dref, a gwelodd dri neu bedwar o fechgyn o'r un ardal ag yntau, yn sefyll ar ben heol, a gofynodd iddynt, " A welodd un o honoch chwi mo Mr. Owens, Plas Uchaf?"

"Naddo," attebodd un. "Beth sy arnat ti eisio gyno fo?"

"Wel, y fo ddwedodd wrthyf am ei gyfarfod yn y ffair." "Wyt ti yn meddwl treio cyflogi hefo fo?"

"Os gallaf."

"Ha! 'ngwas I—cymer di ofal rwan na weliff Sion Parri'r Waen monot ti, ar ol bod hefo Mr. Owen!"

"Pa'm? 'Toes a wnelof fi ddim byd â Sion Parri."

"Wel, mae Sion am dreio cyflogi hefo fo heiddiw; ond os ch'di geiff y lle, a Sion wedi meddwl am dano fo, gwae dy gwman di!"

"Ie'n wir," ebe un arall; "achos 'r ydw i'n cofio 'i weled o'n misio cyflogi i le go dda ddwy flynedd i rwan; ac aeth i ddial 'i lid ar y llanc oedd wedi cael y lle. Aeth yn gwffio dychrynllyd rhyngu nhw, a bu agos i Sion a lladd y llanc hwnw."

"Wel, ni roddaf fi ddim achos iddo fo gwffio hefo mi, o ran hyny mae'n rhaid cael dau i ffraeo a chwffio."

"Purion, was—purion. Ond hwda, ddoi di am haner peint?--mae 'na gwrw da ofnadwy yn y White Lion, a lot o hogia' merchaid. Tyr'd."

"Na ddof Jack; nid wyf fi'n arfer dim diod feddwol."

"Oes gen't ti ddim pres? Twt lol wirion! 'Twyt ti'n amser yn gwario dim, ac mae'n rhaid nad wyt ddim ar lawr am bres. Ond os na ddoist ti a dim cregin heiddiw hefo'ch di, mi gei haner peint gin I."

"Diolch i ti'r un fath, Jack; ond nid wyf fi byth yn myn'd i dafarn. Gwell i chwithau hefyd beidio myn'd lads. Ddaw dim daioni o yfed cwrw."

"Ha-ha-ha!" crechwenai Jack.

"Glywch chi'r hen di-total boys! Fuost ti'n areithio dirwest 'rioed, Huw? Well i ti neidio ar ben y groes, a rhoi araeth rwan i bobol y ffair! Ha-ha-ha! Mi glywis I lawer gwaith mai ryw hen wlanen ddigalon oeddat ti, a dyma'ch di'n dangos hyny rwan. Ond mi fynaf fi sbri iawn heiddiw, sut bynag y bydd hi fory. Dowch, lads-unwaith yn y flwyddyn ydi hi am beth fel hyn."

Ymaith a hwynt, un gyda'i het ar ochr ei ben, y llall gyda chansen ddimai yn ei law, y trydydd gyda chetyn yn ei safn, a'r pedwerydd yn dwyn cloben o gleiffon onen braff, gan ei chwyfio fel Gwyddel yn barod am derfysg.

Y mae yma ugeiniau o rai cyffelyb iddynt yn y ffair; a bydd gan aml un o honynt goesau briw a llygaid duon cyn y nos, ac ychwaneg fyth gyda phenau clwyfus, llygaid piwtar, genau sychedig, a chyhyrau wedi llacio, gan effaith y drwyth feddwol, erbyn bore dranoeth.

Cerddodd Huw oddi amgylch, nes dyfod at y fan lle'r oedd y chwareufeydd y shows. Dyna'r pethau oeddynt yn tynu mwyaf o sylw bechgyn a genethod y wlad, o lawer iawn; a sylwodd Huw fod cryn llawer o wŷr a gwragedd, a rhai oedranus, gyda phlant bychain, yn mhlith yr edrychwyr segyr a gwagsaw, yn llygad-rythu gyda'u cegau'n agored, a rhyfeddod a mawrygedd yn argraffedig ar eu gwynebau, wrth weled y "merrymen" yn myned trwy eu campau chwim, genethod yn dawnsio yn ysgafndroed, lleni cynfas llydain wedi eu dwbio â lluniau gwahanol greaduriaid ac wrth glywed curiad tabyrddau, symbalau, a chwythad croch, cras, yr udgyrn, a chrochlefau y rhai a wahoddent y bobl i mewn "i weled rhyfeddodau penaf y byd."

Gwelodd Huw mai y chwareufeydd hyn oedd wedi denu sylw y pedwar llanc ag y bu ef yn siarad a hwynt ychydig fynudau cynt, a'u bod yn mwynhau'r golygfeydd yn iawn. Ac efe a glywodd Jack y Go' yn dweyd, wrth weled un dyn ar esgynlawr cyfagos, gyda menyg mawrion am ei ddwylaw, ac yn gwahodd rhywun ato ef i gogio ymladd—"Pw!-rhyw hen lipryn main fel 'na!-un cnoc dan ei sèna fydda'n ddigon i ddanfon rhyw gadach fel y fo at y Tylwyth Teg."

Gyda hyny dyna lafn o wladwr i fyny. Dodwyd menyg am ei ddwylaw yntau, ac efe a ddechreuodd osod ei hun ar agwedd ymladd. Chwareuodd y Proffeswr âg ef am enyd, fel cath yn chwareu a llygoden; ac yna pwyodd ef yn daclus dan ei fron, nes y cwympodd yn ddel ar yr esgynlawr, er mawr ddifyrwch i'r edrychwyr.

Clywodd Huw yr un llanc yn dweyd drachefn—"Ha! dyna Sion Parri'r Waen yn myned i fyny. Ar y fan yma! os curiff o Sion, mi geiff fy nhreio inau. Tydi o'n brifo dim ar neb hefo'r menig yna."

Gwelodd Huw y dyn ag y rhybuddiwyd ef i'w ofni ac i'w ochel, a thybiodd fod golwg milain, cas, arno; ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ddyn cryf a heinyf. Ymbarotôdd i ymryson a'r Proffeswr, a rhoddodd gryn dipyn mwy o drafferth iddo na'i ragflaenydd; ac yr oedd yn amlwg fod y Proffeswr yn ofni cael dyrnod gan Sion Parri. Gwylltiodd Sion wrth fethu taro ei wrthwynebwr, a rhuthrodd ato; ond neidiodd y llall o'r naill du mor chwim, pan oedd Sion wedi ymhyrddio ato yn ei holl nerth, a bu yr ymhyrddiad gwag hwnw yn foddion iddo gwympo ar ei ben yn erbyn talcen y tabwrdd (drum), nes gyru ei ben ef trwyddi; a dyna lle'r oedd, a'i ben mewn cyffion, y drwm fel coler am ei wddf, a'i draed yn chwyfio yn yr awyr fel esgyll melin wynt. Yr oedd crechwen yr edrychwyr yn annrhaethol.

Rhegodd Jack y Go', a gwaeddod—"Rydw i'n gwel'd 'i gastia fo; ac mi rof fi iddo fo glowtan!" a rhedodd i fyny'r grisiau at yr esgynlawr. Dodwyd y menig am ei ddwylaw yntau; tynodd ei hugan, a chylymodd ei ffunen am ei ganol, fel dyn a'i fryd ar wneuthur gwrhydri. Edrychodd yn ddynol ar y gynulleidfa oddi tano, gan gyrlio ei wefus, wrth ddywedyd yn ddigon uchel i bawb ei glywed "Pitti garw na chawn i ei rhoi hi iddo fo heb y menig yma!" Yna trodd at ei wrthwynebwr, gyda golwg haner dig a haner gwawdus. Aeth trwy amryw gastiau, yn llawer mwy celfydd na'i ddau ragflaenydd; a gwelodd y Proffeswr yn fuan fod Jack yn arfer defnyddio ei ddyrnau. Cafodd y chwareuwr ddyrnod lled gas gan Jack, unwaith, ar ei drwyn, yr hyn wnaeth i'r edrychwyr waeddi, "Well done, Jack bach anwyl!"

Yr oedd Jack, erbyn hyn, yn credu yn sicr mai efe oedd i fod yn ben arwr y ffair; ac aeth ati o ddifrif i berffeithio ei fuddugoliaeth a'i enwogrwydd. Ond blinodd y Proffeswr ar y gwaith, a dygodd ei holl bybyrwch i weithrediad; cymerodd arno ei fod yn cael ei guro, gan ddenu Jack ar ei ol at ymyl yr esgynlawr; ac wedi ei gael yno, ffugiodd roddi dyrnod iddo yn un ochr, ond tarawodd ef yn yr ochr arall, nes oedd Jack yn hedfan mewn gwagle, a dysgynodd yn denc i ganol y dyrfa islaw. Yr oedd ei gywilydd yn annesgrifiadwy, ac efe a ymlusgodd ymaith, i chwilio am ddirgelwch, fel ci wedi tori ei gynffon.

"Gwagedd o wagedd," ebe Huw; ac aeth yntau ymaith, gan gondemnio ei hun am beidio cofio yn gynt am y gorchymyn Dwyfol, "Tro dy lygaid rhag edrych ar wagedd." Ond pa le bynag yr elai,, nid oedd braidd ddim ond gwagedd i'w ganfod, yn gymysgedig a llawer o anweddeidd-dra hollol annghyfaddas i drigolion gwlad sydd wedi enill enw mawr am ei haelioni crefyddol, am nifer eu haddoldai, ac am gyfraniadau dihafal at Genhadaethau Tramor.

Mewn un man, gwelodd ddau ganwr Baledi, un o honynt yn ddall, a'r llall yn gorffyn mawr, tal, esgyrniog, carpiog, ac aflan, gyda llif melyn o sug tybaco yn rhedeg o'i enau; a'i ddanedd, wrth iddo "wneud gwyneb i ganu," yn edrych gyn ddued a chreigiau golosg Mynydd Paris. Yr oedd llu, o'r ddwy ystlen yn gwrando ar y Baledwyr gyda hwyl ac afiaeth mawr, a genethod glandeg, bochgoch, a thirfion, yn chwerthin yn galonus wrth glywed cerddi gwag, masweddol, gyda rhith ffraethineb, yn cael eu canu:—"ffyliaid yn eu cyfansoddi (y baledi), ffyliaid yn eu canu, a ffyliaid yn eu gwrando," chwedl y pigog Galedfryn.

Yr oedd y llif o bobl yn cynyddu bob awr, nes, cyn pen nemawr o amser, yr oedd yr heolydd yn orllawnion, a bechgyn a genethod, o bob oedran, yn ymwthio yn ol ac yn mlaen, i ddim ond rhythu a phwyo eu gilydd, gan chwerthin, crochlefain, maglu eu gilydd, gwneud gwawd o rywun mwy diniweid nag eraill, lluchio crwyn eurafalau, sarhau benywod; ac y mae yn rhaid i ni ychwanegu, er mwyn bod yn onest a chywir, fod niferi o'r benywod yn cymeryd pethau, y rhai a ddylasant eu hystyried yn sarhad ar eu lledneisrwydd a'u gwyleidd-dra naturiol, fel digrifwch hoff.

Safodd Huw ar gongl heol, a thynwyd ei sylw at ddau amaethwr oeddynt yn ymddyddan a'u gilydd yn agos iddo, ond gyda'u cefnau tuag ato ef, fel nad allent ei weled. Buasai yn cilio ymaith, rhag clywed eu hymddyddan (gan yr ystyriasai ryw gel-wrando felly yn annynol) oni bai iddo glywed ei enw ei hun yn cael ei ddefnyddio fel hyn:—

"Treiwch yr Huw Huws hwnw,—hen was Mr. Lloyd." "Dwn I ddim llawer am dano fo. Ifanc iawn ydi o, onite?"

"Ie, go ifanc; ond mae o'n llanc cryf iawn—digon o waith ynddo fo;—cyhyrau fel ceffyl, a digon o 'wyllys i weithio. Dim ond pwyso ar 'i gydwybod o, mi weithiff ddydd a nos, achos mae o'n g'neud cydwybod o weithio, a chrefydd o wasanaethu'n dda. Nid am fod gin i ddim yn erbyn grefydd egwyddorol o,—na, mi clywais i o'n dweyd 'i olygiadau crefyddol yn lled ddiweddar yma, ac yr oedd yn amlwg i mi 'i fod o'n fwy iach yn y ffydd, ac yn fwy difrycheulyd yn 'i fuchedd, na'n haner ni. Ond mi ellwch gael faint fyw fyd a fynoch o waith o hono fo, ond i chwi adael iddo wybod eich bod yn disgwyl llawer gyntho fo fel llanc o garictor crefyddol."

Wel, mi treiaf fi o. Ond, 'rhoswch chwi,—mi ddeudodd rhywun, gin gofio, 'i fod o wedi siarad hefo Mr. Owen, Plas Ucha'. Thal hi ddim byd i mi dreio fo heb gael cenad Mr. Owen."

"Purion. Ond, beth 'newch chwi? Mae llanciau yn gofyn cyfloga' dychrynllyd 'leni, a chwithau, fel y deudwch, yn penderfynu na ro'wch chwi ddim dros bedair punt."

"Na ro'f wir, os medraf fi beidio rywsut. Mae pedair punt y tymhor yn hen ddigon. Beth sy' arnyn' nhw eisio hefo 'chwaneg, ond cael arian i yfed cwrw? Gallan' gael digon o ddillad am bedair punt a dyna'r cwbwl ddyla' nhw ddymuno, gan'u bod nhw'n cael digon o fwyd cry."

"Ar y fan yma, mi leciwn I pe baech chwi yn medru perswadio'r cnafon i gredu hyny. Mae nhw'n myn'd yn lartsiach larstiach bob tymhor yrwan, a rhai o honyn' nhw'n credu 'u bod nhw cystal dynion a'u meistradoedd. Ond yr hen gwarfodydd newydd yma sy'n anesmwytho'r llanciau—Cwarfodydd Llenyddol, neu rywbeth tebyg i hyny, mae nhw'n eu galw. 'Dwn I ddim llawer am y y fath G'warfodydd, achos fum I ddim yn 'r un o honyn' nhw 'rioed; ond mi rois I gerydd llym i'r bechgyn am'u cynal nhw, yn y Seiat dd'weutha'. Ac os na chawn ni'r c'warfodydd yma i lawr, fydd dim posib' ymhél â'r bobol ifanc, achos mae nhw'n myn'd i feddwl mwy o honynt'u hunain, ac i ddymandio mwy o amser segur, i ddarllen, a chanu, a phrydyddu, a lolian."

"Ie, dyna hi 'n union, fel 'r oeddwn I yn teimlo fy hunan. 'Rydan ni bron wedi gorchfygu nhw acw, trwy gynghori'r bobol ifanc fod tuedd lygredig yn y fath g'warfodydd, a gwrthod y capel i'w cynal. Ac ni syn'is I 'rioed yn fy mywyd ddim mwy nag fod Mr.———, un o'n pregethwrs ni, wedi dwad acw i 'reithio a barnu i'w c'warfod nhw. 'Deis I ddim ar eu cyfyl, ond mi gefis gan y brodyr i gytuno i beidio gadael i'r gwr hwnw ddwad acw i bregethu byth ond hyny; ac yr oeddwn I'n ffond ofnatsan o hono fo bob amser o'r blaen. "Toes dim math yn y byd o reswm i bregethwrs gymysgu hefo pob math o bobol ifanc felly, a siarad ar bethau ysgafn yn y Capel, a g'neud i weision a m'rwynion fod yn ffond o ddarllen ryw bethau nad oedd yr hen grefyddwyr byth yn edrach arnyn' nhw. A darllen, darllen, a phrydyddu, a sgyfenu, a chanu, a thrin pawb a phob peth, oedd hi acw o hyd, cyn i ni, fel blaenoriaid, osod 'n gwynebau yn 'u herbyn nhw. A 'toes dim dadl nad y C'warfodydd Llenyddol yma ydi'r achos fod llancia' eisio cyfloga' uwch yleni, i brynu llyfrau, a phapyra' newydd, a sothach o'r fath. Ond, 'rwan, Thomes bach, wyddoch ch'i ddim sut y medra' I gael llanc cry', gweithgar, am gyflog go isel?"

"Gwn! ond rhaid i chwi fod yn rheit 'falus i beidio gadael neb byth i wybod y plan."

"O mi gym'ra I ofal am hyny.

"Wel, dyma fel y gwneis I heiddiw. Mi ddaeth Robin Llaneilian ata' I, a gofynodd faint o gyflog ro'wn I. 'Faint sy' arnat ti eisio, Robin?' meddwn inau. 'Pump a chweigian, medda fo'n ddigon gwynebgaled. Chwerthais inau am 'i ben o. 'Wel,' medda fo, 'faint ro'wch ch'i?' 'Dim ffyrling mwy na thair a chweigian?" Gwylltiodd Robin, a ffordd a fo, achos mae o'n gwybod o'r goreu nad oes dim gwell gweithiwr na fo yn y wlad, ac y caiff o gyflog da p'le bynag yr eiff o. Ond, 'sywaeth mae un pechod mawr yn barod i amgylchu Robin druan—mi wariff bob ffyrling fydd yn 'i boced o am gwrw; ac mi weithiff fel elephant ond gaddo haner peint iddo fo. Wel, 'roeddwn i'n gwybod nad oedd gynddo fo ddim ond tipyn bach o bres yn dwad i'r ffair, am y bydd o bob amser wedi gwario'r cwbwl yn mhell cyn pen y tymor. 'Rhosais nes meddwl 'i fod o wedi gwario y tipyn pres rhei'ny, ac wedi yfed digon o gwrw i wneud iddo fo eisio rhagor, a swagro hefo'r hogia' merched. Gwelais o'n sefyll wrth ddrws y Bliw Bell, ac yr oeddwn I'n sicr ar ei olwg o nad oedd gynddo fo ddim arian. Euthym ato, a deudais, 'Wel, Robin, wyt ti wedi cyflogi?' 'Naddo wir, Mr. Jones,' meddai fo. 'Well i ti gyflogi hefo mi?' 'rydach ch'i allan o bob rheswm—cynyg dim ond tair punt a chweigian! Ond mi ddeuda beth na' I, Mr. Jones, mi gym'raf bum punt yn lle pump a chweigian.' 'Fedra I ddim wir, Robyn—mae o'n ormod, yr amser gwael yma. Ond, gwrando, Robin,' meddwn I; a dyma'r peth ydw I eisio i ch'i neud, 'Mi wyddost fod 'deryn mewn llaw'n well na dau mewn llwyn; ac os leici di gym'ryd tair a chweigian, mi rof goron yn mlaen llaw i ti 'rwan!' Mi welais mewn moment 'i fod o'n cydio yn yr abwyd, o ran mi daflodd 'i lygad i fyny at ffenest' y Bliw Bell, lle'r oedd amryw fechgyn a genethod gwamal a phechadurus, yn yfed, ac yn estyn eu penau allan i ddangos eu hunain. Crafodd Robin ei glust, a dyna fo 'n dweyd—'Purion, Mr. Jones, mi gytunaf!" ac estynodd 'i law yn awchus i dderbyn y goron. A dyna fel y cafodd o 'i fachu. Ac rwan, gellwch ch'ithau 'neyd yr un peth hefo Huwcyn Ffowcs, achos mae o wedi dechreu myn'd ar 'i sbri, ond 'toes gynddo fo ddim arian, mi wn. Gellwch 'i gael o am y prisa fynwch, ond cynyg pedwar swllt nen bump iddo ar law."

"Mi af i chwilio am dano'r foment yma," ebe'r amaethwr arall.

Na thybied y darllenydd ein bod wedi trethu dim ar ein dychymyg wrth ysgrifenu hynyna. Y mae yn llythyrenol wir; a'r unig ryddid a gymerwyd genym ni oedd cuddio'r personau rhag gwarthnodi gormod ar y pleidiau euog. Gwyddom, yn bersonol, am ddynion a ddalient swyddi uchel yn Eglwys Dduw, yn byw heddyw yn Sir Fon, wedi defnyddio y cynllun uchod i ddenu dynion i dderbyn cyflogau isel; a bu'n ddrwg genym, lawer gwaith glywed dynion yn beio CREFYDD o herwydd ymddygiad rhai fel hyn yn ei phroffesu. Nid yw y fath gymeriadau yn ystaenio dim ar Grefydd, nac yn lleihau dim, mewn gwirionedd, ar werth cymeriad crefyddol. Y mae modd camddefnyddio pob peth da; ac y mae llawer yn defnyddio Crefydd fel mantell i guddio eu gwir nodweddion eu hunain. Ond i Chwiliwr y Galon y maent yn gyfrifol am eu rhagrith; er eu bod yn gyfrifol i ninau, fel aelodau o gymdeithas, am eu dull o ymddwyn at ein cyd-greaduriaid, gan ychwanegu at y maglau y maent yn rhy barod i fyned iddynt, a gwrthwynebu y sefydliadau daionus ag sydd yn peri chwyldroad moesol ar Gymru yn y dyddiau hyn, am eu bod yn gwneyd "llanciau ffarmwrs," fel dynion eraill, i ddechreu meddwl, a theimlo, ac ystyried eu hunain yn rhyw bethau heblaw, ac uwch, nag anifeiliaid direswm.

Yr oedd yr ymddyddan a glywodd Huw Huws rhwng y ddau amaethwr yn archolli ei deimlad yn dost. Teimlodd awydd myned allan o'u clyw, rhag bod yn dyst dirgel o fasrwydd na freuddwydiodd ef erioed y gallai fodoli; ond yr oedd newydd-deb anfad y peth, iddo ef, yn gweithredu fel swyn-gyfaredd arno, fel nad allai symud o'r fan; a theimlai ei hun fel yn deffro o gwsg cas ac anesmwyth pan dawodd y ddau amaethwr, ac yntau yn eu gweled yn ysgwyd dwylaw, ac yna yn dywedyd, "Dydd da i chwi," wrth eu gilydd, gyda thôn hirlusgog, Phariseaidd, ac yn tynu' gwynebau hirion a phruddglwyfus, fel pe buasai pob un o'r ddau wedi cael ffit o'r cnoi.

Yna aeth Huw at y fan lle'r arferai gweision a morwynion "allan o le" sefyll i aros i rywun ddyfod i gynyg lle iddynt am y tymhor dyfodol. Yr oedd yr olygfa hon yn un hynod i Huw, ac yn ymddangos iddo yn un annymunol iawn. Gwelai res o ferched, o bob oedran, —genethod bychain, na ddylasent, o ran eu hoedran, gael eu danfon oddiwrth eu rhieni—merched ar fin dynesoldeb (womanhood), rhai o honynt gyda chyrff mor dirfion â merhelyg dyfrllyn," canmil rhy lednais i fod yn y fan hono yn wrth ddrychau llygadrythiad pob gwalch a fynai fyned heibio, a myrdd rhy dyner i fyned trwy orchwylion celyd morwynion ffermydd, gan godi cyn toriad y wawr, a myned i orphwys yn mhell ar ol i holl anian orphwyso;—ac eraill a gwaith celed wedi anffurfio eu cyrff ieuainc, wedi crymu eu gwarau, crebachu eu dwylaw, a gosod argraff o glogyrnwch, afledneisrwydd, a chaledwch anfenywaidd ar eu holl agwedd. Gwelai hefyd ferched canol oed, a holl deithi nodwedd benywol wedi eu dileu oddiar eu golwg allanol, gan gyfnod maith o weithio hollol anaddas ac annghyson âg arferion gwlad Grisitonogol a gwareiddiedig, yn nghyda dylyn arferion ag sydd wedi gwarthruddo cymeriad moesol "Mon Mam Cymru." Hefyd, hen ferched ag yr oedd eu hoedran a'u caledfyd wedi eu hannghymwyso i gymeryd arnynt gyflawni haner yr hyn a ddysgwylid gan forwynion, ond heb ddim mewn golwg, pe methent gael gan neb eu cyflogi, ond pwyso ar y plwyf.

Cerddai dynion a gwragedd o amgylch y lluaws amryddull yma, gyda golwg beirniadol prynwyr caethion, a'u holi yn y fath fodd fel ag i ddangos eu syniad nad oedd iddynt hwy, yn ol trefn Rhagluniaeth, na rhan na chyfran yn mreintiau merched eraill, na dim i'w ddisgwyl ond llafur corff o fedydd i fedd.

"Os oes eisieu diwygiad gyda golwg ar gaethion yr America," ebe Huw Huws, rhyngddo ag ef ei hun, "y mae eisiau diwygiad gyda golwg ar ferched gwledig Cymru."

O'r diwedd, gwelodd Huw yr hwn a chwenychai yn dyfod ato, sef Mr. O Owen, Plas Uchaf. Cafodd ar ddeall nad oedd Mr. Owen wedi cael boddlonrwydd yn nghymeriad Sion Parri'r Waen. "Yr oeddwn dan rwymau, yn ol fy addewid, i'w gyfarfod yn y ffair," ebe'r amaethwr parchus, gan siarad a Huw, nid fel â bôd islaw iddo ei hun yn ngraddfa bodolaeth; "a phan welais ef, yr oedd wedi meddwi. Deallais ei fod wedi gwneud ffwl o hono'i hun gydag un o'r shows yna, ac fod hyny wedi cythruddo cymaint arno fel ag i wneud iddo geisio boddi ei waradwydd mewn diod. Ac yrwan, Huw, os medrwn ni gytuno am gyflog, mi a'th gyflogaf. Faint wyt ti'n ofyn?"

"Faint ydyw'r cyflog cyffredin i rai o fy oed I, syr?" gofynodd Huw.

"Wel, a bod yn onest, nid wyf fi'n meddwl cytuno â thi yn ol dy oedran, o ran ychydig, a dweyd y gwir, o fechgyn o dy oed di a allent wneud y tro i mi. Cefais air da i ti gan dy hen feistr, Mr. Lloyd; ac yr wyf yn foddlawn i ti gael cyflog dyn cyffredin."

"Faint yw hyny, syr?"

"Pum-punt." Cysunasant, gan selio'r cyfamod yn y drefn arferol. "Yrwan, Huw," ebe Mr. Owen, "treia beidio cyfarfod â Sion Parri'r Waen yn y ffair yma. Y mae wedi meddwi digon i fod yn anmhwyllog, a dyn cas ydyw ar y goreu, yn ol fel y clywais ychydig fynudau'n ol."

"Diolch i chwi syr,. Mi a af adref yn fuan. Prydnawn da, syr."

"Prydnawn da, machgen I."

Nodiadau

golygu