Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Pennod XIII

Pennod XII Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XIV

PENNOD XIII.

"Ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos,"—SOLOMON,
"Cloddiodd bwll, a syrthiodd yn y clawdd a wnaeth.—DAFYDD

Aeth y son, fel tân gwyllt, o Fynydd Bodafon i Fynydd Eilian, ac o Bentraeth i Draeth Dulas, "fod Huw Huws, gwas Plas Uchaf, yn myn'd i gael ffortiwn fawr, ac y byddai ef yn fuan gyn gweuthocced a Syr Richard Bwcle."

Bore ddydd Sadwrn a ddaeth, a bore garw ydoedd. Yr oedd curwlaw'n ymarllwys, a'r gwynt yn cythru, a'r cymylau'n brochi.

Cychwynodd Huw yn fore iawn, tua haner awr cyn toriad y dydd, hefo cleiffon onen braff yn ei law. Yr oedd yn adnabod y ffordd yn dda, a cherddodd trwy lwybrau ceimion, creigiog, ac anhygyrch Llanallgo a'r Marian Glas fel un yn penderfynu gwneud y defnydd goreu o'i nerth.

Yn mhen tuag awr wedyn, yr oedd dau ddyn arall yn cychwyn tua'r un cyfeiriad, gyda'u ffyn hwythau dan eu ceseiliau, a'u cotiau yn cau'n dýn am eu gyddfau, a'u hetiau wedi eu tynu i lawr at eu llygaid, fel pe buasent yn awyddus rhwystro i neb eu hadnabod. Cerddasant yn ochelgar, gan fyned ar hyd dau lwybr gwahanol, ac ni wyddai y naill ddim byd am y llall. Ond ar ben y Marian Glas, gwelodd yr olaf o'r ddau fod rhyw ddyn yn myned o'i flaen. Edrychodd hwnw hefyd o'i ol, a gwelodd yntau fod rhywun yn dyfod yr un ffordd ag ef. Parhaodd y ddau i gerdded; a gallesid gwybod, wrth sylwi ar gildremiad mynych y blaenaf o'r ddau, i edrych a oedd y llall yn ei ddilyn, a'i reg isel, rwgnachlyd, bob tro y gwelai efe ef, nad oedd ei ddyben yn un gonest. O'r diwedd, cyrhaeddodd y dyn blaenaf groesffordd, lle'r oedd llwybr yn tori ar draws y caeau; ac efe a aeth ar hyd y llwybr hwnw, a'r dyn arall ar hyd y ffordd. Felly, collasant olwg ar eu gilydd.


Cyrhaeddodd Huw Huws ddinas Bangor, ac ar ol tipyn o drafferth a cholli amser, cafodd ei dri chan' punt yn ddyogel. Aeth i westy i sychu ei ddillad ac i gael lluniaeth. Arhosodd yno am tuag awr, ac yna cychwynodd tua chartref drachefn, a'i galon yn ysgafn a'i ysprydoedd yn uchel, er gwaethaf meithder y ffordd oedd ganddo o'i flaen, a gerwindeb cethin y tywydd. Aeth trwy Bont y Borth, ac ni thrôdd i unlle, rhag colli amser. Wedi cyrhaedd Pen-ffordd-Croesus, teimlodd fod yn anhawdd iawn iddo gerdded yn gyflym, gan fod y gwynt a'r gwlaw mor arw, a'r ffyrdd mor ddigysgod. Wedi cerdded tua phedair milltir, yr oedd yn falch iawn gweled coed Plas Gwyn yn ymylu y ffordd, ac wrth weled un goeden fawr, fwy na'r lleill i gyd, mewn congl cae yn ymyl y ffordd, penderfynodd fyned dros y clawdd i lechu am enyd dan gysgod y goeden hono. Ond yr oedd y diferion o'r cangau yn gwlychu agos cymaint arno a phe buasai yn y gwlaw ar ganol y ffordd. Edrychodd o'i gwmpas, a gwelodd mai ceubren oedd yr un yr oedd ef yn llechu tani, a dywedodd wrtho'i hun, "Ar y fan yma, dyma le campus i mi lochesu am dipyn; y mae barddoniaeth mewn peth fel hyn, ac y mae'n fy adgofio am yr hen chwedl am Geubren yr Ellyll yn Mharc Nannau;" a dringodd i'r ceubren, a gwelodd fod ganddo siamber ddiddos yn mola'r hen goeden, Yr oedd twll cainc ynddi, trwy ba un y gallai ganfod pobpeth o'r tu allan.

Yn mhen tua chwarter awr, gwelodd ddyn yn dyfod dros y gwrych i'r cae; ac yna gwelodd ddyn arall yn cerdded yn llechwrus gefn y gwrych. Synodd y ddau ddyn wrth ganfod eu gilydd; a safasant, heb ddweyd na gwneud dim, am enyd. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi adnabod eu gilydd, ac adnabyddwyd y ddau gan Huw Huws.

Blinodd y ddau ddyn yn edrych y naill ar y llall felly, ac aethant at eu gilydd. Dywedodd un wrth y llall—" Holo! Twm—ti sydd yna? I b'le'r wyt ti'n myn'd?"

"Dim llawer pellach. I b'le'r wyt ti'n myn'd, Sion?"

"Wel—y—dim pellach—am—am wn I. 'Rydw I'n disgwyl ffrind i 'nghyfarfod I ffordd yma."

"O!—felly'n wir! A ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di. Sion?"

"Beth wyt ti'n feddwl?"

"Dim drwg, was—dim drwg!"

"Wel, beth wnaeth i ti ofyn cwestiwn fath yna?"

"Wala—y—y—a deyd y gwir, Sion, os nad ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di, y mae o'n debyg iawn i'r ffrind ydw inau yn ddisgwyl!"

Bu'r ddau mewn tipyn o benbleth am enyd, heb wybod pa fodd i ymddwyn na siarad. Yr oedd euogrwydd a drwgdybiaeth yn llechu yn nghil llygad pob un o'r ddau. O'r diwedd dywedodd Twm.

"Glywaist ti am ffortiwn fawr Huw'r Plas Ucha?"

"Do," atebodd Sion—"ac mi glyw'is I beth arall hefyd; ac mi ddaliaf bunt dy fod dithau hefyd wedi clywed yr un peth!"

"Beth?—beth?"

"Wel,—fod Huw wedi myn'd i Fangor heiddiw i godi'r arian; a'i fod o am fyn'd adra hefo nhw heno!"

"Mi fydd Huw'n gweuthog ofnadwy bellach. Faint mae o'n myn'd i gael hefyd?"

"Tri chant o bunnau! Dyna i ti bentwr!"

"А—ïe wir!——Digon i neud dau neu dri yn ddiofol am'u hoes. Byddai cant a haner bob un i ni, rwan, yn lot ddel annghyffredin?"

"Diawch a minau! —dyna'r gath o'r cwd! Y gwir am dani hi, Twm—i gwarfod Huw y doist. Ac i hyny y dois inau hefyd. Heblaw gneud'i faich o'n dipyn bach 'sgafnach i fyn'd adref, y mae arnaf fi hen sgôr iddo fo er's blynyddoedd, ac mi leiciwn gael'i thalu rwan!"

"Ho!——'r ydw I'n cofio—eisio talu iddo fo am d'olchi di, 'stalwm, yn Ffair Llan?"

"Paid a son am hyny rwan, Twm—y mae meddwl am y peth yn codi'r cythraul yn 'nghalon I. Y mae peth arall i feddwl am dano rwan; ac os wyt ti am sefyll yn drwmp, purion!—mi safaf inau hefyd. Tafl dy bump!"

Ysgydwodd y ddau ddwylaw, ac yr oeddynt yn deall eu gilydd yn berffaith.

Yr oedd Huw druan yn clywed pob gair, ac yn gweled y cwbl, o'r ceubren; a gall y darllenydd feddwl ei bod yn gyfyng arno wrth wrando. Ond cafodd nerth i fod yn llonydd.

Yr oedd Twm Dafydd a Sion Parri'n ddau ddyn hollol wahanol i'w gilydd—Sion yn ddyn mawr, esgyrniog, cryf, cuchiog, a meddw; a Twm yn ddyn bychan, gwael, wedi cael llawer o drallod a thlodi; ac nid oedd llawer o amser er pan gododd oddiar wely cystudd; a dywedir ei fod ef a'i deulu bron trengu, yn ystod ei salwch, gan eisiau bwyd. Y mae'r darllenydd yn gwybod eisoes ychydig am Sion Parri—sef y Sion Parri'r Waen hwnw ag y bu Huw mewn gafael âg ef yn y ffair er's llawer dydd.

Arhosodd y ddau ddyn yn y gongl hono am tuag awr, gan wrando yn ddyfal ar bob trwst yn y ffordd fawr. A phan ddechreuodd y nos dywyllu, dywedodd Sion Parri—

Wyddost ti beth, Twm, mae arnaf fi ofn na ddaw o ddim, heno. F'allal fod yr arian mawr yma wedi dychrynu ei grefydd o i gyd allan o hono, a'i fod o wedi myn'd ar 'i sbri."

"F'allai hyny, wir," ebe Twm Dafydd. "Ond beth os ydi o wedi cym'ryd ffordd Llansadwrn, ac i lawr y Traeth Coch, ffordd honno?

"Reit siŵr iti! mi fedar groesi'r traeth heno—mae hi'n ddistyll trai rwan. Beth wnawn ni, dywed?"

"Wel, mae gin I blán."

"Gad 'i glywed o."

"Dyma fo: Mi wyddost fod Huw'n cysgu yn y llofft uwchben y Ty Tatws, heb neb yn cysgu'n agos ato fo. Mae o'n siwr o gadw'r arian hefo fo heno; a thua haner nos, beth fyddai haws nag i ni'n dau fyn'd ato fo, gneud ysbryd, a'i ddychrynu o nes cael pob ffyrling? Ac os na fydd yr arian hefo fo yn y llofft, gallwn'i wneud o i ddeud ymh'le y mae nhw. Beth ddyliet ti?"

"Byth o'r fan yma!—mae o'n blan campus."

Cytunodd y ddau ar y cynllun; ac yna aethant ymaith. Cododd Huw Huws ei ben trwy y twll yn y goeden, i edrych a oedd y ddau gymydog wedi myned, a phan welodd fod pob man yn glir, dechasuodd yntau dynu ei gynlluniau. Ac yn mhen enyd, cychwynodd drachefn, gan dori ar draws y caeau, rhag ofn dyfod o hyd i'w ddau "gyfaill." Cyrhaeddodd y Plas Uchat. Neidiodd dros glawdd yr ardd, a llusgodd rywbeth trwm oddi yno, ac aeth ag ef i'r "Ty Tatws," yn llofft pa un yr oedd ef yn arfer cysgu.

Rhoddodd ei arian yn ngofal ei feistr, ac aeth i'w wely, a gofalodd am beidio barrio'r drws.

Wedi gorwedd am tua dwy awr, ac yn fuan ar ol i'r cloc daro haner nos, clywodd Huw y glicied yn cael ei chodi, a'r drws yn agor yn araf. Yna cerddediad ysgafn, araf, fel pe buasai rhywbeth, neu rywun, yn rhoi tri thro o gwmpas y llawr. Peidiodd y cerdded, a dyna lais dwfn, sobr, yn dywedyd—"Huw Huws!—Huw Huws!—Huw Huws! Yr wyt yn cymeryd arnat fod yn ddyn ifanc duwiol, ond yr wyt wedi gwerthu dy hun i'r cythraul! Y mae arian wedi dy ddamnio. Os na thafli di nhw o dy afael, cei fyn'd i uffern cyn y bore! A wyt ti'n clywed rhybudd o wlad yr ysprydion?"

Neidiodd Huw ar ei eistedd, gan agor ei enau a rhythu ei lygaid, i edrych gyn debyced ag y gallai i ddyn mewn braw ofnadwy; a gwelodd wrthddrych mawr yn sefyll wrth erchwyn y gwely—Sion Parri, gyda chap nos merch am ei wyneb, a dau dwll wedi eu tori yn nghoryn y cap, iddo weled trwyddynt; a hen gynfas wen wedi ei thaflu dros ei ysgwyddau.

Gwaeddodd Huw— "O!—O!—beth a wnaf? Arbed fi, O Yspryd!—Arbed fi!"

"Gwnaf, os gwnei di roi'r arian yna i mi!"

"O! cymer nhw—cymer nhw—arbed fy mywyd!"

"P'le mae'r arian?"

"O! dos i lawr i'r Ty Tatws—i'r gongl ar y llaw chwith—dan bentwr o hen frics—cei dy wobr yno, ond i ti f'arbed I!" Aeth "yr yspryd" ymaith. Eisteddodd Huw ar y gwely, am ychydig amser, i wrando. Clywoddd ddrws ystordy'r cloron—"Y Ty Tatws"—yn agor. Yna trwst—clic—ac ysgrech dyn mewn poen. Gorweddodd Huw, a chysgodd yn dawel.

Bore dranoeth aeth i'r Ty Tatws, a chafodd hyd i Sion Parri'r Waen a'i goes yn ddyogel mewn trap dynion. Edrychodd arno am enyd, ac yna dywedodd—"Sion Parri! Dyma'r ail waith i mi dy orchfygu. Yr oeddit wedi bwriadu drwgi mi; ac, am unwaith yn fy oes, mi ymostyngais i chwareu tric, er mwyn dy gywilyddio a chael cyfle i dy geryddu. Ac a weli di'r chwip yma? Yn lle dy draddodi i ddwylaw'r Ustusiaid, mi a noethaf dy gefn, a chaiff dy gnawd brofi blas y fflangell garai yma."

Gwnaeth Huw hyny. Curodd Sion Parri'n dost, nes ei orfodi i erfyn am bardwn. Ar ol tybied ei fod wedi cospi digon arno, efe a'i rhyddhaodd. Dododd Sion ei ddillad am ei gefn briw, a dywedodd Huw wrtho—"Yrwan, Sion, gad i mi roddi cynghor i ti. 1. Paid byth a chroesi fy llwybr ond hyny, oherwydd nid yw proffes grefyddol dyn yn ei wahardd rhag cospi cnafon. 2. Pan ai di i lunio lladrad eto dan gysgod coeden, sowndia hi, rhag ofn ei bod yn holo, a dyn o'r tu fewn yn clywed dy gynlluniau. 3. Ymdrecha droi dalen newydd—bydd yn ddyn sobr, heddychlon, a gonest. Bydd yn anhawdd i ti, bellach, enill parch yn y wlad yma; ond gelli mewn rhyw le newydd. Gan hyny, er mwyn talu da am ddrwg, ac er mwyn dy gynorthwyo i fyw'n well rhagllaw, dyma i ti sofren i fyned i ffwrdd o'r wlad yma. Ffarwel! Cofia'r cynghorion!"

Nodiadau

golygu