Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig (testun cyfansawdd)
← | Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig (testun cyfansawdd) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig |
NOFEL GYMRAEG.
HUW HUWS:
NEU
Y LLAFURWR CYMREIG.
Y FFUGDRAITH BUDDUGOL YN
NGHYLCHWYL LENYDDOL CAERGYBI
NADOLIG 1859.
GAN LLEW LLWYVO,
Awdwr "Llewelyn Parri: Y Meddwyn Diwygiedig"; "Gwenhwyfar"—Arwrgerdd fuddugol
Eisteddfod Freninol Merthyr; "Creigiau Crigyll." &c., &c.
CAERGYBI:
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN L. JONES.
1860.
BEIRNIADAETH
Y PARCH. J. EVANS (I. D. FFRAID),
AR Y FFUGDREITHIAU YN Y GYSTADLEUAETH.
Derbyniais bedair ysgrif ar y testyn "Y Llafurwr Cymreig." Y maent oll oddigerth un yn weddol ddifai o ran Iaith a Gramadeg. Yn wir, rhagora yr ysgrifenwyr mewn Iaith dda a dullwedd naturiol a destlus ar y cyffredinolrwydd o gystadleuwyr y cefais I y boen a'r pleser o edrych dros eu gweithiau. Buasai dda genyf allu ychwanegu fod pob un yn deall y testyn, ac yn arddangos darfelydd a barn cymhwys i wneyd cyfiawnder ag ef. Nid wyf yn meddu gwybodaeth ddofn yn nghylch elfenau yr hyn a elwir yn Ffugdraith, ond yr wyf yn meiddio dyweyd yn ddibetrus mai nid Ffugdraith yw ysgrif Cyfaill Owain Iorwerth, na chwedlau Helynt y byd, na chyfansoddiad St. Baglan.
Cyfaill Owain Iorwerth. Mae y cyfaill hwn gryn lawer ar ol ei gydymgeiswyr fel cyfansoddwr. Mae ei sillebiaeth yn fynych yn wallus a'i frawddegau yn aflerw. Mae yn ei waith rai sylwadau ag sydd yn anrhydedd i galon yr ysgrifenydd, ond nid oes ynddo odid ddim a adlewyrcha ogoniant ar ei ben fel awdwr Ffugdraith. Y mae yn hollol ddiffygiol mewn dychymyg ac anturiaeth. Gall fod yn y gwaith farmor, ond marmor Mon mewn magwyr ydyw. Nid palas yw can' milltir o wal geryg—nid Ffugdraith fyddai can' tu dalen o ffughanes syml. Rhaid i'r Ffugdraith ddwyn argraff llaw saerniaeth yn gosod y defnyddiau yn nghyd ar ddelw adeilad o gynlluniad dychymyg celfydd.
Helynt y byd. Y mae yr ysgrifenydd hwn yn meddu digon o bertrwydd. Ceir drwy ei waith ddarluniau bywiog a naturiol, er hwyrach ei fod weithiau yn lliwio yn rhy gryf. Bai mawr y Traith hwn yw ei fod yn amddifad o Arwr. Dylai y Ffugdraith debygoli mewn rhan i'r gyfundraeth heulog—haul yn y canol, a phlanedau yn eu cylchoedd priodol Nid oes gan "Helynt y byd" yr un haul: man blanedau yn unig sydd yma yn gwib-grwydro. Os Mr. Williams a olygid yn arwr y Ffugdraith, y mae diffyg yr awdwr o gynllun wedi cadw yr arwr gymaint o'r golwg fel nas gwelir ef ond i'w golli. Gresyn na fuasai ysgrifenydd mor ddoniol a ffraethbert wedi cael mold gyfaddas i dywallt ei arabedd iddi.
St. Baglan. Yr wyf yn teimlo serch at waith "St. Baglan:" rhoddes ei ddarlleniad i mi lawer o hyfrydwch. Ond y mae y cyfansoddiad yn fyr mewn cynllun, dyfais, a digwyddiadau. Evan Owen yw yr Arwr, ac y mae Evan Owen a'r ysgrifenydd yn y golwg bron o hyd. Buasai yn ddymunol i'r awdwr fyned yn amlach o'r neilldu, a dylasid cael golwg ar yr Arwr mewn cysylltiad â phersonau a dygwyddiadau mewn cylch helaethach. Dylai Ffughanes Llafurwr Cymreig gymeryd i fewn y cyfryw ddefnyddiau ag a roddant fantais i'r darllenydd i ddyfod yn gydnabyddus a gwahanol deithi ac arferion Llafurwyr Cymru, neu ran o honi o leiaf, yn nghyd a'r amrywiol ddosparthiadau y deuant i gysylltiad a hwy.
Y Llafurwr Cymreig. Wele Lafurwr wedi ysgrifenu ar y Llafurwr. Mae yr ysgrif hon yn cyfranogi yn helaeth o elfenau a theithi Ffugdraith. Mae yn amlwg mai nid wrth synwyr y fawd yr ai yr awdwr yn mlaen. Y mae y gwaith yn arddangos dyfais i gynllunio ac adnoddau i gwblhau. Yr arwr yw Huw Huws. a bachgen gwych ydyw Huw. Cydblethir a'i hanes lawer amgylchiad a dygwyddiad a roddant olwg eang ar helynt ag oes y Llafurwr. Ar yr un pryd buasai yn ddymunol i'r awdwr ddilyn y Llafurwr yn fanylach yn ei arferion wrth y bwrdd, yn y maes, yn yr addoldy,[1] &c. Gallasai yr ysgrifenydd medrus hwn ddwyn i fewn y cyfryw ddygwyddiadau ag a fuasent gyda'u gilydd yn cwblhau y darluniad o Fywyd y Llafurwr Cymreig yn ei wahanol agweddau. Ond, paham yr ydys yn cwyno tra y mae ger bron waith mor alluog?
Gwelir mai ffugenw yr awdwr yw "Y Llafurwr Cymreig," ac os Llafurwr ydyw mewn gwirionedd, yr wyf yn gobeithio y caiff yntau "dri chant o bunau gan ei dadbedydd " yn ychwanegol at y tri "chweugain" a dderbynia yn y gylchwyl fel yr awdwr buddugol ar destyn y gadair. Poed felly y bo.
I. D. FFRAID.
- Rhagfyr 1859.
HUW HUWS:
NEU
Y LLAFURWR CYMREIG.
PENNOD I.
"Er mwyn yr Amser Gynt, fy ffrind,
Yr hen amser gynt."
—ALUN.
MEWN Cwm hyfryd, hardd, ond annghysbell, yn "Mon Mam Cymru" wrth droed Mynydd Bodafon, yr oedd ty bychan, destlus, wedi ei wyngalchu, fel yn nythu yn ngheseiliau poplyswydd talion, a'i dalcen yn cael ei arlandu âg eiddew gwyrdd, a gardd fechan, ddel, o flaen ei ddrws.
Y ty bach, twt, yna, oedd preswylfod "William Huws yr Hwsmon," fel y gelwid y dyn a gyfaneddai yno, gan bobl y wlad; a'i wraig, Marged—deuddyn dedwydd, boddlon, a diwyd, fel y mae y mwyafrif o bobl weithgar y wlad hon.
Ychydig yn uwch i fyny yn y cwm, gallesid canfod yr hen bont bren, gridwst, afrosgo, a thrwsgl, yr hon oedd wedi gwrthsefyll eira a dadmer, gwynt a llifogydd, llawer gauaf ystormus;—yr hen felin ddwfr, hefo'i chlit clat, clit clat, gwastadol a dibaid,—y llyn yn ei hymyl, gyda'i hwyaid dofion, ar yr hwn yr arferai y plant nofio eu "llongau bach," hefo'u hwyliau o blyf gwyddau. Dyddiau dedwyddion "yr hen Amser Gynt," y rhai na ddychwelant byth mwy! Ond fe fy'n adgof i lynu'n gariadus wrth hen olygfeydd fel hyn, a phortreadu i'r meddwl yr amser dedwydd pan oeddym blant, yn chwareu o gylch llanerchau bro ein genedigaeth, y maesydd lle'r arferem hel nythod adar, y wig lle'r heliem gnau, y gerddi lle byddem yn erlid y gloywod byw, neu'r gelltydd lle'r arferem ysbeilio nyth y cacwn, dan berygl cael ambell golyn. Ond y mae hyny oll drosodd bellach; ac wrth gwrdd âg ambell un, ar ein pererindod daearol, y buom yn cyd-chwareu a hwynt "yn oedran diniweidrwydd," ni fydd genym i'w ddywed amgen nag
"Er mwyn yr Amser Gynt, fy ffrynd,
Yr hen Amser Gynt."
Ond at ein chwedl.
Deued y darllenydd gyda ni ychydig flynyddoedd yn ol, at yr amser pan oedd William Huws a Marged Parri yn bobl ieuainc, ac yn was a morwyn ar yr un fferm. Yr oeddynt wedi cyd-wasanaethu aethu yn Modonen am amryw flynyddoedd, ac arferent siarad aml air o gariad trwy arwyddion o'r llygaid, tra yn trin y gwair ac yn cynull yr ŷd ar hyd y maesydd; a lladratasant lawer orig gyda'r nos, ar ol llafur caled y dydd, i dynu cynlluniau ar gyfer yr amser dyfodol, canys yr oedd Marged wedi cydsynio i ddyfod yn wraig i William. Ac o'r diwedd, pennodwyd y dydd Llun Sulgwyn nesaf i fod yn ddiwrnod eu priodas.
Aeth yr amser heibio yn gyflym; a phan ddaeth y dydd pennodedig, yr oedd lluaws o gyfeillion y ddeuddyn ieuanc wedi ymgasglu, un blaid i dŷ ei rieni ef, i'r dyben o'i hebrwng ef at dŷ ei rhieni hi, lle'r oedd y blaid arall yn dysgwyl, i wneud gorymdaith gyffredinol i Eglwys y Plwyf.
Er mai Sir Fon sydd wedi dal hwyaf i gynal hen ddefodau gyda phriodasau, eto y mae bron bob gweddillion o'r hen ddulliau wedi diflanu yno hefyd erbyn hyn. Yr oedd eisiau diddymu rhai o honynt, am eu bod yn peri gloddest, meddwdod, ac anfoesoldeb. Ond y mae genym ni hoffder mawr at hen bethau, gyn belled ag y byddont yn gyson â gweddeidddra, moesau da, diwylliant, a rhinwedd. A hen ddull da, yn ein brydni, oedd y ddefod Gymreig o ymgynull i briodasau cymydogion a chyfeillion, pawb a'i rodd, i gynorthwyo y rhai a briodid, i ddechreu ar eu byd newydd. Yr oedd yn cadw cysylltiadau cymydogol, yn meithrin teimlad o ewyllys da, ac yn foddion i gynorthwyo 'r gwan.
Ond bai dybryd, yn nghyswllt a'r priodasau hyn, oedd yr yfed a'r meddwi, yr hyn a arweiniai yn fynych i ymladdfeydd a gelyniaeth gwaedlyd rhwng hen gymydogion.
Yr oedd priodas William Huws a Marged Parri yn tra rhagori ar y rhai cyffredin yn y cyfnod hwnw, yn gymaint ag fod y ddeuddyn ieuanc yn rhai o gymeriad crefyddol, a William wedi cadw ymaith o'r wledd bob achlysur i anweddeidd-dra a therfysg. Yr oedd yn briodas lawen heb gael ei gwarthruddo gan feddwdod a chythrwfl; ac ar ol treulio y dydd yn hyfryd, ymadawodd pawb gyda theimladau boddlawn a charedig, gan ddymuno pob llwyddiant a dedwyddwch i William Huws a Marged ei wraig.
PENNOD II.
"Gwalch ar hedfan,
Edyn buan ydyw'n bywyd."
—BARDD NANTGLYN,
Dwys yw gofidiau plant Duw,
Yr unwedd a'r rhai annuw.
—O GRONFA'R AWDWR,
Yn fuan ar ol ei briodi, dyrchafwyd William, o fod yn weithiwr cyffredin ar fferm Bodonen, i fod yn oruchyliwr, a dyna'r pryd y dechreuwyd ei alw, gan yr ardalwyr, yn "William yr Hwsmon:" a dyna'r pryd hefyd yr aeth ef, a'i wraig ieuanc weithgar, i fyw i'r Tŷ Gwyn, braslun o'r hwn a wnaethom yn nechreu'r bennod gyntaf.
Nid yw goruchwyliwr ar ffermydd Cymreig yn cael eu rhyddau oddi wrth lafur dwylaw, fel y mae'r Saeson a'r Ysgotiaid; a'r unig wahaniaeth a wnaeth y dyrchafiad yma yn amgylchiadau William Huws, oedd, ychwanegu at ei gyfrifoldeb a'i drafferth, a rhoddi iddo ychydig ychwaneg o gyflog, a thy bach taclus iddo fyw ynddo.
Ond yr oedd Rhagluniaeth yn gwenu ar ei lafur gonest, ac yn ei fendithio. Cynyddodd ei gysuron yn gymesur â'i ofalon; a chawn ef, yn mhen ychydig flynyddoedd, yn dad pedwar o blant bywiog a glandeg, y rhai a argoelent gyfnerth a chysur i'w rhieni ar eu llwybr i lawr goriwaered einioes.
Ond ansefydlog ydyw pob argoelion a mwynderau daearol; ac felly y profodd yn hanes bywyd William Huws yr Hwsmon, fel y cawn ddangos rhag llaw.
Yr oedd William yn ymdrechu dwyn ei blant i fyny yn rhinweddol, a'i egni penaf oedd eu meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Danfonai y tri hynaf yn gyson i ysgol ddyddiol, a gedwid gan hen wr o'r enw Hywel Jones—hen filwr, yr hwn oedd wedi colli un goes yn mrwydr fyth-gofiadwy Waterloo. Er nad oedd Hywel Jones yn ysgolhaig mawr, eto yr oedd yn gampus am gadw trefn a dysgyblaeth dda ar ei ysgolorion; ac ymddygai atynt mor fanwl, mor ddi-gellwair, ac mor ymroddgar, a phe buasai yn dysgyblu ar gyfer brwydr oedd i droi clorian gallu Ewrop.
Un o'r plant hynotaf yn ysgol yr hen Hywel Jones, oedd "Huw'r Ty Gwyn"—mab William Huws yr Hwsmon. Yr oedd ef yn hynod am ei fywiogrwydd corfforol a meddyliol; ac yr oedd ei ddwy chwaer yn ei gael yn amddyffynwr dyogel iddynt ar eu ffordd i'r ysgol, ac yn ol adref, rhag sarhad ac ymosodiad gan neb o'u cyd-ysgolorion.
Yr oedd William Huws yn ofalus am fyned a'i blant yn gyson i'r Ysgol Sul, ac i bob gwasanaeth Dwyfol o fewn eu cyraedd, gan ymdrechu planu egwyddorion crefyddol yn eu meddyliau ieuainc; ac ymddangosai nad oedd ei lafur yn ofer, canys ystyrid ei blant ef fel esamplau i'r ardal o ddestlusrwydd, gwyleidd—dra, a buchedd dda. Yr oedd Huw, yn enwedig, yn enill parch hen ac ieuanc, cyfoethog a thlawd, fel hogyn difrifol, syml, a diwyd gyda'i lyfrau yn yr ysgol ddyddiol a Sabbathol. Ac ar ol oriau'r ysgol ddyddiol, un o'i hoff fwynderau oedd palu a chwynu gardd fechan ei dad, a'i wobr benaf, a'r uchaf a ddymunai, ydoedd derbyn gwên cymeradwyaeth ei rieni, a chlywed ei chwiorydd bychain yn dweyd,—"Huw ni ydi'r gardener goreu yn y wlad!"
Ond yr oedd cwmwl du, trwch, wedi dechreu ymgasglu uwch ben amgylchiadau William Huws.
Pan ddaeth adref un noson, yn lled hwyr, yr oedd Marged, fel arferol ar ol gorphen ei llafur o gylch y tŷ, yn eistedd wrth ei throell, ac yn nyddu yn galonog, ac, ar yr un pryd, yn dysgu'r Salm Gyntaf i'r ddwy eneth leiaf; a Huw a Mari—y ddau hynaf—yn brysur gyda'r gwersi a roddodd yr hen Hywel Jones iddynt i'w dysgu erbyn tranoeth. Edrychodd William Huws arnynt oll gyda golygon tyner, a gallesid canfod, ond sylwi, fod pruddglwyfedd, anarferol iddo ef, yn argraffedig ar ei rudd, ac yn llechu yn nyfnder ei lygaid gloywon.
Eisteddodd y tad; a rhedodd y ddwy eneth leiaf ato, gan ddringo ar ei liniau, a'r ieuengaf yn difyru ei hun trwy dynu ei bysedd bychain meinion trwy ei gernflew. Tybiodd William Huws na welodd mo'i blant yn ymddangos haner mor garuaidd erioed o'r blaen, a gwasgai hwynt at ei fynwes, gan ollwng ochenaid wedi haner ei thagu wrth geisio diangfa o'i galon.
"Beth ydi'r matter, William?" gofynodd Marged Huws. "Wyt ti ddim yn iach? Y mae golwg sal arnat ti!"
"Na, nid wyf fi'n sal, Marged," ebe William. "Ond," efe a ychwanegodd—" 'mhlant bach i—gwell i chwi fyn'd i'ch gw'lâu: mae hi'n dechreu myn'd yn hwyr."
Dododd Marged Huws Fibl Mawr Peter Williams ar y bwrdd, fel arferol, o ba un y darllenodd William bennod; ac ar ol darllen, adroddodd pob un o'r plant ryw air, neu ryw adnod, a gofiasant o'r bennod. Canwyd un o Emynau Sant Pantycelyn, ar hen dôn Gymreig. Offrymodd William Huws weddi daer, syml, a diaddurn, mewn diolchgarwch am fendithion blaenorol, ac ymbil dwys am barhad o fendithion, a nodded, ac amddiffyn dyfodol; gyda chyflwyno ei dylwyth, gyrph [2] ac eneidiau, i ofal Tad pob trugaredd.
Tybiodd Marged Huws ei bod hi yn canfod rhywbeth annghyffredin hyd yn nod yn ngweddi ei gwr y noson hono, ac fod y Psalm, a ddetholodd i'w darllen, wedi cael eu dewis oddiar ryw reswm neillduol. Ond ni soniodd hi air am hyny hyd nes yr aeth y plant i'w gorweddleoedd. Yna dywedodd
"Beth sy', Wil bach? Y mae rhywbeth yn pwyso ar dy feddwl!"
"Oes, wir," ebe William, "yr wyf wedi bod mewn tipyn drallod er's dyddiau bellach; ond mi gedwais fy ofnau rhag i ti eu clywed, am fy mod yn rhyw obeithio y buasai pethau'n troi allan yn well na 'r dysgwyliad. Ond, yrwan, y mae trallod go drwm yn ein bygwth."
"Wel, beth ydi o? Paid a'i gadw i ti dy hun. Gallaf fi gyd—ddwyn pob baich hefo 'ch di."
"Roeddwn i wedi dyall er's cryn amser fod fy meistar mewn cyfyngdra, ac fod rhyw bobol, yr oedd o yn eu dyled, yn bwgwth dysgyn ar ei eiddo. Ac heiddiw, y mae beilïod yn Modonen!"
"Beiliod yn Modonen!" ebe Marged, gyda braw.
"Oes, yn wir, wel 'di. Y mae pobpeth i gael eu gwerthu —fy meistar yn myned i golli ei ffarm, a—a—a—"
Petrusodd William fynegu ychwaneg; ond dywedodd Marged—"Gad wybod y gwaethaf, Wil."
"Wel, yr wyf finau i golli fy lle, ac wedi cael rhybudd i 'madael oddiyma erbyn Gwyl Mihangel nesaf!"
Yr oedd hyn yn ormod hyd yn nod i Marged Huws ei ddal heb wylo.
Cael eu troi allan o'r Ty Gwyn!—y bwthyn ag yr oedd eu diwydrwydd a'u glanweithder wedi ei wneyd yr harddaf yn y fro, yn yr hwn y treuliasant ddyddiau dedwyddion eu bywyd priodasol, —yn yr hwn y ganwyd eu mab a'u tair geneth—yr hwn oedd wedi dyfod iddynt yn wrthddrych serch ac ymlyniad cryf!
Wel, wyla di, Marged druan,—dyffryn galar yw'r bywyd hwn; a bydd raid i ti olchi dy lwybrau caregog âg ychwaneg o ddagrau eto na hynyna. Fe wylodd UN uwch na thydi, pan ar ymweliad o gariad â'r byd hwn; ac nid oes neb o'i blant nad ydynt yn gorfod colli dagrau weithiau. Gwir fod gyrfa ambell un yn fwy trallodus nag eraill; ond cofia fod Llaw Anfeidrol wrth y Llyw, a Doethineb Hollwybodol yn trefnu amgylchiadau dyn. Pa beth bynag a ddaw i'th gyfarfod—pa gyfyngderau bynag y rhaid i ti fyned trwyddynt, dysg ymddiried yn y Doeth o Galon a'r Galluog o Nerth.
PENNOD III.
Trwm yw'r plwm, a thrwm w'r cerig,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu 'n iach lle byddo cariad.
—HEN BENILL.
AETH dau fis heibio, ac yr oedd deifwynt y gauaf yn diosg y coed o'u hychydig ddail gweddill, a rhew y nosweithiau oerion yn cloi yr afonydd mân mewn iâ, ac yn gyru iasau o fferdod trwy gymalau Anian.
Yr oedd pawb trwy'r fro yn gwybod am anffodion Mr. Price, Bodonen, ac yr oedd tynged ei hwsmon llafurus a ffyddlawn yn peri galar i'r holl gymydogion gwledig; a dyfnheid y galar hwnw fel y dynesai y dydd iddo ef a'i dylwyth orfod troi eu cefnau ar y Tŷ Gwyn.
Yr oedd gan William Huws frawd yn gweithio o gylch un o ddociau Llynlleifiad. Ysgrifenodd 'lythyr. at y brawd hwnw i'w hysbysu o'i drallodion, gan geisio ganddo chwilio am ryw waith iddo yntau yn y dref borthladdol hono, lle mae cynnifer o Gymry yn cael eu bywioliaeth—canoedd o honynt yn enill clod a golud, ac yn dyfod yn bobl ddylanwadol,—miloedd yn cael gwaith cyson ac enillgar; a llawer hefyd, ysywaeth! yn cyfarfod âg anffodion a siomedigaethau. Bu William am gryn amser heb gael atebiad oddi wrth ei frawd; ond, o'r diwedd, fe ddaeth llythyr, gydag hysbysrwydd ei fod wedi methu cael gwaith iddo, ond ei fod yn gobeithio llwyddo yn fuan. "Felly," ebe fe, "gan dy fod yn gorfod ymadael oddiyna, chan fod genyt dipyn o arian wrth dy gefn, gwell i ti a'th deulu ddyfod drosodd yma; byddaf yn sicr o gael rhyw fath o waith i ti cyn y derfydd dy arian."
Penderfynodd William ddylyn cyngor ei frawd, a dechreuodd barotoi ar gyfer ymfudo i Lynlleifiad.
Yr oedd y gweinidog, yn eglwys yr hwn yr arferai William Huws, a'i dylwyth, addoli, yn ceisio ei berswadio, yn mhob modd, i beidio myned i Loegr cyn cael sicrwydd o waith; ond nis gallai William yn ei fyw ymwrthod â'r dybiaeth fod ffawd dda yn ei aros yn Llynlleifiad. Ac wrth weled nad oedd dim yn tycio, penderfynodd y Parch. Mr. Lloyd na chaffai Huw, bachgen William Huws, ddim myned gyda'i rieni; ac efe a ofynodd, megis ffafr bersonol iddo ef ei hun, am iddynt adael Huw gydag ef, i fod yn was iddo, gan addaw gofalu am ei gysur, a'i addysg, a rhoddi pob cynnorthwy yn ei gyrhaedd i ddyfod yn mlaen. Nis gallai y rhieni wrthod y fath gais, gan fod ganddynt yr ymddiried llwyraf yn nuwioldeb a charedigrwydd Mr. Lloyd.
Y diwrnod cyn iddynt gychwyn, cynhaliwyd arwerthfa ar ddodrefn ac eiddo William Huws. Gwerthwyd y cyfan, oddigerth ychydig o nwyddau diwerth ynddynt eu hunain, ond y rhai oeddynt dra gwerthfawr yn ngolwg y tylwyth, o herwydd rhyw bethau bychain cysylltiedig â'u hanes; a dau wely peiswyn glân, gydag ychydig wrthbanau a chynfasau o wneuthuriad cartref.
Yr oedd y cyfnewidiad yn, ac o amgylch y Tŷ Gwyn, y fath fel mai anhawdd fuasai ei adnabod fel yr annedd ddestlus yn mha un y preswyliai y teulu dedwydd gynt, ond y rhai oeddynt yn awr ar fin ei adael, heb, efallai, obaith ei weled byth mwy.
Noson ddu, ddigysur, oedd y noson olaf a dreuliasant rhwng muriau moelion yr hen dŷ; ac yr oedd pob un o aelodau'r teulu yn gofidio ac yn galaru dros ryw dristwch cyfrinachol nas gallai neb arall ei ganfod na'i deimlo. Y mae adegau pan y bydd y cyfaill anwylaf ac agosaf yn ymddangos fel dieithr ddyn y mae, weithiau, dyfnderoedd o deimlad, nas gall, ac nis gwiw, i lygad neb eu chwilio, dirgryniadau o ing dirgelaidd tu hwnt i gydymdeimlad dynol. Ei hunan y mae dyn yn dyfod i'r byd—ei hunan yn ymollwng ar gefnfor tragywyddoldeb; a rhwng y ddau gyfnod, y mae ambell foment yn dygwydd pan fydd dyn yn gorfod teimlo, er gwaethaf ei ymdrechion i'r gwrthwyneb,—ei fod "ar ei ben ei hun," megis, heb neb ar y ddaear a all ei gysuro.
Teimlai William a Marged Huws hyny i raddau yn awr, er fod y cymydogion, yn ol arfer Cymry y wlad, yn heidio atynt i gynyg eu cydymdeimlad, eu cymorth, a'u dyddanwch.
Yr oedd y tair geneth wedi bod yn adeiladu cestyll lawer yn yr awyr, wrth feddwl am gael myned i fyw i Lynlleifiad. Addawent iddynt eu hunain ddedwyddwch annesgrifiadwy yn y lle mawr yr oeddynt wedi clywed cymaint am ei ryfeddodau. Ond sobrodd yr arwerthiant ar bethau y Tŷ Gwyn lawer arnynt hwythau hefyd, a gwnaeth i Mari fach gydymdeimlo mwy â gofidiau ei rhieni; ac wylai y ddwy eneth leiaf wrth weled eu mam yn wylo, pan werthwyd yr hen dresser dderw, a gafodd hi gan ei mam ei hun, a chofio fod y fam hono, bellach, wedi myned i'r "tŷ rhag—derfynedig i bob dyn byw."
Yr oedd gofid Huw, y bachgen, yn fawr arno. Clywodd ef Mr. Lloyd, wrth geisio perswadio ei dad i beidio myned i Lynlleifiad, yn dangos effeithiau peryglus awyr afiach tref fawr ar blant ieuainc, a'r temtasiynau a amgylchynent ieuenctyd mewn lle fel Llynlleifiad. Ac er fod hyny yn enyn gofid ac anesmwythder mawr yn meddwl Huw, gwnaeth iddo benderfynu, yn gryfach fyth, i ddylyn y llwybr o ddyledswydd a nodid allan iddo gan y Gweinidog. Gwnaeth y trallodion hyn i feddwl y bachgenyn ordyfu ei oedran. Yr oedd ef, bob amser, yn hogyn call a meddylgar; ond daeth yn awr yn ddifrifol tu hwnt i'w oedran.
Y mae peryglon yn hyny, ar rai amgylchiadau, pan y gall colli hoender a chwareugarwch ieuenctid ladd yni a sychu ffynhonell gweithgarwch. Ond hyderwn nad dyna fel y bydd gyda hanes ein harwr.
Dychwelodd y cymydogion i'w cartrefleoedd, y naill ar ol y llall, gan adael teulu William Huws eu hunain, yn eu hannedd ddiddodrefn.
Yr oedd y nos wedi mantellu y fro. Ymddringai y lleuad haner llawn dros gopa Mynydd Bodafon, ac edrychai i mewn arnynt, fel i roddi ffarwel, trwy gangau y boplysen a gysgodai y ffenestr. Torodd Mari ar y dystawrwydd, gan ddywedyd, "A!—y pren bocs! Gobeithio y caiff o chware teg gin bwy bynag ddaw yma i fyw!"
"Ie'n wir!" ebe Huw. "Mi gefis i lawer o bleser wrth drin a thrimio'r coed yna, yn enwedig y pren bocs. Y mae'n debyg y toriff rhywun o i lawr cyn bo hir!"
"Paid a hidio, Huw," meddai Mari, drachefn, wrth weled deigryn yn llenwi llygad ei brawd; "mi fynaf fi gael un neisiach yn yr ardd yn Nerpwl, gael i ti gael pleser pen ddoi di i edrach am danon ni."
Edrychodd William Huws yn dyner ar ei ferch hynaf, yr hon oedd yn dangos y fath anwybodaeth am gyfleusderau ac arferion trigolion tlodion Llynlleifiad. "Chawn ni ddim gardd yno, Mari bach," ebe fe. "Bydd raid i ni fyw mewn lle gwahanol iawn i hwn. Yr unig beth a gawn ni yno, ag sydd wedi'n gwneud yn hapus yma, fydd presenoldeb Duw. Yr wyt ti'n gwybod 'i fod Ef yno fel yma, on' 'twyt ti, Mari?"
"Ydw, nhad—mae O 'mhob man ar yr un waith." "Ydyw, ngeneth i," ebe'r fam wed'yn. Ac yna dyrchafodd ei llygaid i fyny, ac yr oeddynt yn llawn dagrau; a dywedodd, "Os na ddaw Duw gyda ni yno, dysged ni i fyned i i rywle arall!”
"Mam!" meddai Huw—"tybed nad oedd testyn Mr. Lloyd, nos Sul, yn atebiad i hyna— Ni'th roddaf i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith'!"
"Ydyw, machgen," ebe'r tad. "Os byddwn ni'n ffyddlon iddo Ef, ni fydd iddo ein gadael yn unig a dinodded. Chawn ni ddim gardd, na phoplys, na phren bocs, na blodau, yn Nerpwl; ond cawn weled yr awyr, a'r lleuad, a'r ser, yn tywynu trwy'r ffenestr, fel yma, ac yn ein hadgoffa o'r hyn a ddywedodd Mr. Lloyd, a ar ei bregeth, am oleuni'n dysgleirio yn y tywyllwch. Cawn y Beibl yno hefyd, a moddion gras. O! yr wyf yn diolch am i mi gael fy nerthu i'ch dwyn i fyny'n blant crefyddol, ac am dy fod di, Huw, yn debyg o gael arweiniad dyn mor dda a Mr. Lloyd. Cofia am dy enaid, fy machgen, yn gystal ag am dy gorff—am dy addysg ysbrydol, yn gystal ag am dy gynnydd mewn gwybodaeth ddaearol. Bydd i ni gyd-weddio llawer drosot ti; gweddia dithau drosot dy hun, a throsom ninau!"
Wylodd Huw yn hidl, a thorodd y plant eraill hefyd i wylo yn uchel.
Yr oedd goleuni y lleuad yn disgyn arnynt yn awr gyda nerth, ac fel yn eu trochi yn ei dysgleirdeb digwmwl. Edrychasant ar eu gilydd, ac yna ar y lloer ganaid, tra yr oedd y syniad naturiol megis yn cyd-enyn pob mynwes, y caffai y lleuad fod yn bwynt eu harsylliad hoff pan wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd o ran lle ac amgylchiadau.
Ar ol ychydig fynydau o ddystawrwydd, galwodd William Huws ar Lowri fach—yr ail eneth—i adrodd y Drydedd Psalm ar Hugain. Ni theimlodd y teulu erioed o'r blaen y fath gysur, oddi wrth sicrwydd duwiolfrydig y Psalm, â'r pryd hwnw, pan oedd Lowri fach yn ei hadrodd yn ei dull syml, a'i llais yn grynedig gan deimlad.
Yna aethant oll ar eu gliniau; ac yr oedd gweddi William Huws yn hynod ddifrifddwys a gafaelgar, wrth orchymyn ei blant—pob un dan ei henw, gyda chyfeiriadau diaddurn at eu gwahanol sefyllfaoedd a'u hanghenion, yn gystal ag ef ei hunan, a'i briod, i ofal a nodded y Nef. Ac nid oes neb, ond y sawl a fagwyd mewn teulu duwiol, a ŵyr am effeithiau'r fath wasanaeth dwyfol ar y galon ieuanc.
Bore dranoeth, aeth Huw i ddanfon ei deulu at y llong oedd yn barod i gychwyn o'r porthladd.
Ni chymerwn arnom geisio cofnodi na desgrifio yr ymadawiad. Yr oedd yn rhy gysegredig a theimladol i'n hysgrifell ni wneud cyfiawnder âg ef. Ni fydd i ni ychwaith adrodd helyntion y fordaith i Lynlleifiad. Cyrhaeddasant y dref fawr, a daeth Owen Huws, brawd William, i'w cyfarfod, ac arweiniodd hwynt tua'r heol lle'r oedd ef yn preswylio ynddi, gan ymddangos yn falch cael eu croesawu.
PENNOD IV.
'They left the barge, and all other feelings were soon absorbed in wonder at the size of the town, and the extreme length, narrowness, and filth of the street." —CHARLOTTE ELIZABETH.
Yr oedd William ac Owen Huws, er yn ddau frawd, eto yn hollol wahanol i'w gilydd o ran tymher, arferion a thueddiadau; ac, oherwydd hyny, ni fu ryw lawer iawn o gydymdeimlad agos, na chymundeb cynes, rhyngddynt braidd erioed. Pan yn llanc, balchder oedd prif nodwedd Owen, ac ymffrostiai lawer yn ei harddwch a'i gryfder. Diystyrodd lawer ar ei frawd am ymfoddloni i dreulio ei ddyddiau goreu "yn y wlad," yn lle penderfynu, fel efe, "ceisio ei ffortiwn yn Nerpwl, neu ryw dref fawr arall." Nid oedd ef, ychwaith, yn meddu parch neillduol i grefydd, er nad oedd yn hynod am anfoesoldeb; tra yr oedd William, er yn fachgen, wedi enill iddo ei hun gymeriad uchel fel llanc a dyn crefyddol.
Wrth gerdded o'r porthladd, tua thŷ Owen Huws, yr oedd cyflwr meddyliol y newyddiaid mewn agwedd ag y buasai y dyfyniad uchod, o waith yr awdures alluog, Charlotte Elisabeth, yn dra phriodol i gyfleu syniad am eu teimladau hwynt. "Synwyd hwynt gan faint y dref, a hyd, culni, ac aflendid" rhai o'r heolydd. Dysgwyliasant weled agwedd harddach ar bethau, a theimlent yn siomedig.
Yr oedd Owen Huws yn byw yn un o'r heolydd sydd yn agos i'r afon Mersey, llawer o ba rai sydd yn hynod am eu hawyr afiach a'u budreddi, a theimlodd y newydd-ddyfodiaid hyny yn boenus ar eu mynediad i'r heol lle'r oeddynt i dreulio ychydig amser yn awr.
Croesawyd hwynt gydag ymddangosiad o garedigrwydd gwresog gan wraig Owen Huws; ond nis gallai plant William lai na thynu gwrth-gyferbyniad anffafriol rhwng ei hymddangosiad hi ag agwedd eu mham hwynt, megis yr oeddynt eisoes wedi gwneuthur gyda golwg ar eu tad a'u hewythr. Nis gallent, ychwaith, lai na galw i gof, lendid, taclusrwydd, a chysuron blaenorol y Ty Gwyn, wrth sylwi ar yr agwedd yr aethant iddi yn awr. Yma, yr oedd y parwydydd melynion ac ystaeniog wedi eu gorchuddio â nifer o ddarluniau o'r math mwyaf plentynaidd, rhai o honynt yn hollol newydd, ac wedi eu dodi yno, yn ddiau, i ddangos chwaeth ragorol gwraig y ty; ond y mae'n gas gan bob dyn coethedig ei chwaeth eu gweled yn mhob man, er eu bod yn dyfod yn lled gyffredin i Gymru yn y dyddiau hyn. Yr oedd y ffenestri wedi eu tywyllu gan faw, a'u haddurno gan weoedd ceinclyd [3] y pryf copyn; ac eto, yr oedd yn amlwg fod Mrs. Owen Huws wedi gwneud ei goreu glas i gael golwg fawreddus ar y ty, ac arni ei hunan hefyd; ac er nad oedd hi wedi thau fawr i gyd ar ei gwallt mattiog, eto yr oedd ganddi gap o lun hollol wahanol i ddim a welodd Marged Huws erioed yn y wlad, ac yr oedd y cap hwnw yn llawn o rubanau flamllyd ac amryliw. Nid oedd yno ddim prinder o'r hyn a ystyriai y letywraig yn addurniadau; ond yr oedd y ty yn amddifad o daclusrwydd, glanweithdra, cysur, a pharchusrwydd,
Dechreuodd y genethod bychain goleddu syniadau îs nag o'r blaen am ardderchogrwydd Llynlleifiad. Druain o honynt! byddai'n dda pe na welent fwy na hyny o anfadrwydd y lle. Ac nid oedd Mrs. Huws ond esampl gyffredin iawn o un dosbarth lluosog o'r trigolion—pobl ddiddarbodaeth digon caredig yn eu ffordd, ond heb erioed ystyried pa fodd i ychwanegu cysur at eu haelwydydd eu hunain, na dedwyddwch eu teuluoedd. A bu yn ddrwg genym lawer gwaith ganfod amryw o ferched Cymru yn Llynlleifiad yn teilyngu y nodwedd.
Cytunwyd ar fod i ddwy ystafell o dŷ Owen Huws gael eu gosod i William a'i dylwyth, hyd nes y caffai ef waith, a gallu o hono gymeryd ty cyfan iddynt eu hunain.
Gan mai nid ysgrifenu bywgraffiad yr ydym, ni fydd i ni ddylyn hanes William Huws yn fanwl, gam a cham. Ac heblaw hyny, rhaid i ni ddychwelyd yn fuan at brif wrthddrych ein chwedl, sef Huw Huws.
Bu William am wythnosau lawer heb un math o waith. Gwnaeth ei frawd bobpeth a allai ef drosto; ond nid oedd ei allu eithr ychydig; a diau y buasai yn haws i William gael ei gyflogi mewn màn neu ddau, oni bai mai Owen oedd yn ei gymeradwyo.
Darostyngwyd William a'i deulu i dlodi a chyfyngder. Yr oedd eu harian wedi myned i gyd, a hwythau heb fodd i gael ymborth yn hwy, heb geisio coel, ac at bwy yr oeddynt i fyned i ymofyn am hyny? Aeth Mrs. Owen Huws hefyd yn fwy sarug, am nad oeddynt mwyach yn gallu talu am eu dwy ystafell. I ychwanegu at eu hadfyd, dechreuodd Mari fyned yn glaf;—yr oedd yr awyr afiach, a'r gwahaniaeth bwyd, a phrinder hyd yn nod o hwnw fel yr oedd, yn dylanwadu yn anffodus ar ei chyfansoddiad. Ac fe ddichon fod ei hiraeth am Gymru hefyd yn ychwanegu at y pethau eraill. Collodd ei sirioldeb; aeth yn bruddglwyfus, ac yr oedd arwyddion o nychdod sicr arni.
Dechreuodd bochau Lowri a Sarah hefyd lwydo, a'u llygaid bantio; a gwelid arwyddion o dristwch mynych ar eu gwynebau ieuainc a hawddgar. Ac, yn raddol—yr hyn a ofidiodd fwy ar galon Marged Huws na'i holl adfyd ynghyd—fe ddechreuodd Lowri duchan a grwgnach. Ond, hyd yn hyn, nid oedd y peth wedi dyfod yn ddigon pwysig i Marged ei ystyried yn werth tristau ei gwr trwy ei fynegi iddo; ond penderfynodd wylio yn ddyfal ar ei hail eneth, gan geisio atal y nwyd peryglus rhag cael meistrolaeth arni.
O'r diwedd, cafodd William Huws waith llafurwr mewn haiarn-weithfa fawr. Daeth pelydr o obaith adnewyddol i'w feddwl, a dychwelodd i'w lety y prydnhawn hwnw yn siriolach nag y bu er's llawer o wythnosau. Siaradodd yn obeithgar, gyda'i wraig a'i blant, a dechreuodd y cyfan, oddigerth Mari, bortreadu dyfodiant dedwydd iddynt oll.
"Cewch chwi—Lowri a Sarah"—ebe'r fam, "fyn'd i'r ysgol yn fuan bellach; a chdithau, Mari, ti gei chware tegi fendio, a dwad yn ddigon cref i gael lle da i weini. Cod dy galon ngeneth i—mae dy dad yn sicr o enill digon o arian i ti gael bwyd da i gryffhau."
Fflachiodd sirioldeb yn llygaid y ddwy eneth leiaf; ond ni welwyd un arwydd o lawenydd ar wedd Mari, ac ni wnaeth ddim ond cusanu ei mam, a gollwng ochenaid, wrth glywed y dyfodiant yn cael ei liwio felly a lliwiau gobaith a chysur.
Yn awr, ni a adawn William Huws, ei wraig, a'i dair geneth, yn Llynlleifiad, gan addaw gadael i'r darllenydd wybod eto, rhagllaw, eu helyntion yno.
PENNOD V.
"Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus. "Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith." —SOLOMON
Bu y Parch. Mr. Lloyd cystal a'i air. Cymerodd ofal dyfal am iechyd a chysur corfforol, yn gystal a diwylliad meddyliol, a chynydd crefyddol ei was, Huw Huws. Ac yr oedd Huw, yntau, yn ad-dalu yn dda i'w feistr am ei holl ofal a'i garedigrwydd, trwy ffyddlondeb diwyrni, fel gwas, a thrwy wneud y defnydd goreu o'i oriau segur i ddiwyllio ei feddwl. Yr oedd ei gynydd anianyddol a meddyliol yn gyflym ac amlwg. Tyfodd yn las-lanc cryf a gweithgar; ond yr oedd llawer o wahaniaeth rhyngddo ef a llafnau o'r un wedd ag yntau, yn gymaint ag fod trallodion blaenorol wedi dwyseiddio llawer ar ei feddwl, ei efrydiaethau noswyliol wedi gosod argraff o feddylgarwch ac uchafiaeth ar ei feddwl a'i ymadroddion, a'i ymlyniad diffuant wrth arferion crefyddol wedi ei nodi yn wrthddrych cellwair bechgyn anystyriol, a pharch a hoffder pob crefyddwr a'i hadwaenai.
Yr oedd Mr. Lloyd yn dal ychydig o dir, a daeth Huw yn wir wasanaethgar iddo fel llafurwr. Teimlai fod llafur yn fraint yn gystal ag yn ddyledswydd, ac nid yn orthrech a thrais. Nid oedd ef, fel llawer o'i gyfoedion a'i gydwladwyr, yn ystyried bod yn llafurwr yn un sarhad na chaethiwed, nac fod ei waith yn gorfod llafurio am ei gynhaliaeth yn ddiraddiad o angenrheidrwydd, eithr teimlai fod llafurio yn ffyddlawn, yn ei alluogi i fod yn ddefnyddiol i eraill yn gystal ag iddo ei hun,—yn foddion i ddysgyblu ei gymeriad ei hun—cyflawni dyben bywyd, a dwyn yn mlaen amcanion ei Greawdwr.
Nid ydym yn meddwl fod yr ystyriaethau hyn wedi cael eu ffurfio yn rheolaidd, yn gyfundraeth drefnus a chaboledig, gan Huw Huws. Yr oedd yn rhy ieuanc i hyny, efallai. Ond, er hyny, yr oeddynt yn gwreiddio yn ei feddwl, ac yn dylanwadu yn ddirgelaidd ar ei fyfyrdodau a'i fuchedd. Buasai yn synu ei hunan eu gweled yn ysgrifenedig, y pryd hwnw; ond buasai yn teimlo, ar yr un pryd, mai dyna ei syniadau ef.
Gyda 'i feddwl yn yr agwedd ddymunol yma y parhaodd i lafurio dros ei feistr a throsto ei hun, gan gadw ei feddwl bob amser yn hyderus ar y dyfodiant. Byddai yn derbyn llythyr, yn awr ac eilwaith, oddiwrth ei rieni; ac er nad oeddynt hwy yn mynegu iddo eu holl helyntion; eto, efe a deimlai, wrth ddarllen eu llythyrau, eu bod wedi cyfarfod ag amryw drallodion, er eu bod yn ceisio eu celu oddiwrtho ef. Cafodd awgrymiad aneglur am ddadfeiliad iechyd ei chwaer, Mari, a gofidiai yn ei galon nad oedd ef yn ddigon o ddyn i allu ei chadw hi, a'r rhelyw o'r teulu, yn awyr iach Cymru. Ond bachgen oedd eto; ac y mae cyflogau y cyfryw lafurwyr Cymreig yn fychan hyd yn nod pan lafuriant dan y meistriaid goreu.
Wedi bod yn ngwasanaeth Mr. Lloyd am ddwy flynedd, daeth cyfnewidiad drachefn ar ei amgylchiadau. Eglwys led dlawd oedd gan Mr. Lloyd; ond yr oedd ei dduwioldeb, ei weithgarwch, ei wybodaeth, a'i ddawn, yn ei gyfaddasu i gymeryd gofal o Winllan lawer eangach, lle y gallai wneud mwy o'i ol ar y byd. Ac yn mhen dwy flynedd ar ol dyfodiad Huw Huws ato fel gwas, cafodd gynyg ar fugeiliaeth Eglwys lawer mwy, mewn tref fawr, boblogaidd, lle y gallai weithredu ei holl alluoedd mewn maes digon i'w gyraeddiadau uchaf. Credodd y gweinidog mai Rhagluniaeth oedd yn nodi maes iddo fod yn fwy defnyddiol, a phenderfynodd ymadael o Fon; a chan nad oedd ganddo waith mwyach i Huw Huws, aeth at Mr. Owen, Plas Uchaf, amaethwr boneddigaidd, cyfoethog, dylanwadol, ac uchel ei gymeriad yn y wlad, i ofyn iddo gymeryd Huw yn was. Dywedodd Mr. Owen ei fod ef wedi siarad gyda dyn arall, ac wedi addaw ei gyfarfod yn y Ffair Pen Tymhor, i geisio ei gyflogi; ac ychwanegodd—"Os byddaf yn gweled y dyn hwnw yn ateb fy nyben, ac yn rhesymol yn ei ofynion; a'i gymeriad yn dda, ni's gallaf ei droi ymaith ar ol siarad âg ef; ond os na fydd yn union wrth fy modd, mi a gyflogaf Huw. Gan hyny, gwell i chwi, Mr. Lloyd, ddweyd wrtho am fy nghyfarfod yn y ffair fawr."
PENNOD VI.
Gwagedd o wagedd: * * gwagedd yw'r cwbl.—SOLOMON.
FFAIR PEN TYMHOR a ddaeth, a chyfeiriodd Huw Huws ei gamrau tua Llan, am y tro cyntaf erioed ar adeg ffair fawr—wedi ymwisgo yn daclus, ond syml.
Yr oedd yr heolydd yn frithion gan fynychwyr ffeiriau, yn myned, fel yntau, i Lan; ond yr oedd yn amheus a oeddynt hwy oll yn myned gydag unrhyw neges bennodol, fel efe. Bu ef yno o'r blaen, dros ei hen feistr, mewn dwy ffair led fechan; ond nid oedd yn gweled nemawr neb, yn y rhai hyny, heblaw pobl a'u bryd ar fasnach o ryw fath; ond y tro hwn, sylwai ar niferoedd yn cyrchu yno na's gallai fod ganddynt un neges yn y byd; a chofiodd am geryddon Mr. Lloyd, yn un o'i bregethau, ar Ffair y Gwagedd, a'r temtasiynau a amgylchynant ieuenctyd di-amcan yn y cyfryw ffeiriau.
Yr oedd y ffair yn ddigon i syfrdanu un annghyfnefin â'r cyfryw olygfa, ac yn ddigon i ofidio calon pob un a chanddo barch at rinwedd a moesoldeb. Mewn un heol, yr oedd nifer o feirch yn cael eu rhedeg, er mwyn tynu sylw'r edrychwyr, a sylwodd Huw fod amryw o'r gyrwyr yn arfer llawer o greulondeb at yr anifeiliaid er mwyn cael ganddynt wneud pranciau, a dangos hoender, a rhedeg yn gyflym. Cofiodd glywed am ryw bendefig yn areithio yn y Senedd, ychydig amser cyn hyny, i geisio cael cyfraith lemach i gospi creulondeb at anifeiliaid; a thybiodd Huw, os oedd creulondeb at anifeiliaid yn bod, ag y dylid ei gospi, fod rhedeg meirch, a chesig, a merlynod, ar hyd heol faith, am lawer o oriau, gan eu chwipio a'u hysparduno yn gïaidd, yn haeddu cosp; ac eto, sylwodd ar rai o amaethwyr parchusaf y wlad, ac amryw o honynt yn broffeswyr crefydd, ac yn cael eu hystyried yn bobl dduwiol, yn syllu ar yr olygfa gyda dyddordeb—rhai o honynt yn syllu yn graff gyda llygaid beirn- iadol prynwyr, ac eraill gyda golygon boddus, neu dremiadau pryderus, gwerthwyr, heb neb yn dangos gresyndod, nac yn cynyg cerydd, i'r creulondeb, na'r anweddeidd-dra, na'r tyngu, na'r rhegu, na'r taeru, a'r gwrth-daeru, oedd yn hynodi ffair y meirch.
Yr ydym yn teimlo, yn awr, ein bod yn sangu ar dir cynil. Ond, a gawn ni ofyn i'r beirniad a'r darllenydd ystyried ein darluniad anmherffaith o Ffair Pen Tymhor, fel y gwelsom ni hi fwy nag unwaith, fel cais at gofnodi pethau yn ddiderbyn-wyneb. Dichon y brifwn deimladau rhai; ond nid oes mo'r help—ar y Ffair, ac ar y bobl, y mae'r bai, ac nid arnom ni am ddweyd y gwir. Os profir ein bod yn cofnodi ac yn darlunio yn annghywir, ni a ymfoddlonwn i dderbyn cerydd; ond os canfyddir ein bod yn tynu darlun cywir, ymfoddloned yr euogion i'w tynged.
Aeth Huw Huws o heol ffair y meirch i fan arall yn y dref, a gwelodd dri neu bedwar o fechgyn o'r un ardal ag yntau, yn sefyll ar ben heol, a gofynodd iddynt, " A welodd un o honoch chwi mo Mr. Owens, Plas Uchaf?"
"Naddo," attebodd un. "Beth sy arnat ti eisio gyno fo?"
"Wel, y fo ddwedodd wrthyf am ei gyfarfod yn y ffair." "Wyt ti yn meddwl treio cyflogi hefo fo?"
"Os gallaf."
"Ha! 'ngwas I—cymer di ofal rwan na weliff Sion Parri'r Waen monot ti, ar ol bod hefo Mr. Owen!"
"Pa'm? 'Toes a wnelof fi ddim byd â Sion Parri."
"Wel, mae Sion am dreio cyflogi hefo fo heiddiw; ond os ch'di geiff y lle, a Sion wedi meddwl am dano fo, gwae dy gwman di!"
"Ie'n wir," ebe un arall; "achos 'r ydw i'n cofio 'i weled o'n misio cyflogi i le go dda ddwy flynedd i rwan; ac aeth i ddial 'i lid ar y llanc oedd wedi cael y lle. Aeth yn gwffio dychrynllyd rhyngu nhw, a bu agos i Sion a lladd y llanc hwnw."
"Wel, ni roddaf fi ddim achos iddo fo gwffio hefo mi, o ran hyny mae'n rhaid cael dau i ffraeo a chwffio."
"Purion, was—purion. Ond hwda, ddoi di am haner peint?--mae 'na gwrw da ofnadwy yn y White Lion, a lot o hogia' merchaid. Tyr'd."
"Na ddof Jack; nid wyf fi'n arfer dim diod feddwol."
"Oes gen't ti ddim pres? Twt lol wirion! 'Twyt ti'n amser yn gwario dim, ac mae'n rhaid nad wyt ddim ar lawr am bres. Ond os na ddoist ti a dim cregin heiddiw hefo'ch di, mi gei haner peint gin I."
"Diolch i ti'r un fath, Jack; ond nid wyf fi byth yn myn'd i dafarn. Gwell i chwithau hefyd beidio myn'd lads. Ddaw dim daioni o yfed cwrw."
"Ha-ha-ha!" crechwenai Jack.
"Glywch chi'r hen di-total boys! Fuost ti'n areithio dirwest 'rioed, Huw? Well i ti neidio ar ben y groes, a rhoi araeth rwan i bobol y ffair! Ha-ha-ha! Mi glywis I lawer gwaith mai ryw hen wlanen ddigalon oeddat ti, a dyma'ch di'n dangos hyny rwan. Ond mi fynaf fi sbri iawn heiddiw, sut bynag y bydd hi fory. Dowch, lads-unwaith yn y flwyddyn ydi hi am beth fel hyn."
Ymaith a hwynt, un gyda'i het ar ochr ei ben, y llall gyda chansen ddimai yn ei law, y trydydd gyda chetyn yn ei safn, a'r pedwerydd yn dwyn cloben o gleiffon onen braff, gan ei chwyfio fel Gwyddel yn barod am derfysg.
Y mae yma ugeiniau o rai cyffelyb iddynt yn y ffair; a bydd gan aml un o honynt goesau briw a llygaid duon cyn y nos, ac ychwaneg fyth gyda phenau clwyfus, llygaid piwtar, genau sychedig, a chyhyrau wedi llacio, gan effaith y drwyth feddwol, erbyn bore dranoeth.
Cerddodd Huw oddi amgylch, nes dyfod at y fan lle'r oedd y chwareufeydd y shows. Dyna'r pethau oeddynt yn tynu mwyaf o sylw bechgyn a genethod y wlad, o lawer iawn; a sylwodd Huw fod cryn llawer o wŷr a gwragedd, a rhai oedranus, gyda phlant bychain, yn mhlith yr edrychwyr segyr a gwagsaw, yn llygad-rythu gyda'u cegau'n agored, a rhyfeddod a mawrygedd yn argraffedig ar eu gwynebau, wrth weled y "merrymen" yn myned trwy eu campau chwim, genethod yn dawnsio yn ysgafndroed, lleni cynfas llydain wedi eu dwbio â lluniau gwahanol greaduriaid ac wrth glywed curiad tabyrddau, symbalau, a chwythad croch, cras, yr udgyrn, a chrochlefau y rhai a wahoddent y bobl i mewn "i weled rhyfeddodau penaf y byd."
Gwelodd Huw mai y chwareufeydd hyn oedd wedi denu sylw y pedwar llanc ag y bu ef yn siarad a hwynt ychydig fynudau cynt, a'u bod yn mwynhau'r golygfeydd yn iawn. Ac efe a glywodd Jack y Go' yn dweyd, wrth weled un dyn ar esgynlawr cyfagos, gyda menyg mawrion am ei ddwylaw, ac yn gwahodd rhywun ato ef i gogio ymladd—"Pw!-rhyw hen lipryn main fel 'na!-un cnoc dan ei sèna fydda'n ddigon i ddanfon rhyw gadach fel y fo at y Tylwyth Teg."
Gyda hyny dyna lafn o wladwr i fyny. Dodwyd menyg am ei ddwylaw yntau, ac efe a ddechreuodd osod ei hun ar agwedd ymladd. Chwareuodd y Proffeswr âg ef am enyd, fel cath yn chwareu a llygoden; ac yna pwyodd ef yn daclus dan ei fron, nes y cwympodd yn ddel ar yr esgynlawr, er mawr ddifyrwch i'r edrychwyr.
Clywodd Huw yr un llanc yn dweyd drachefn—"Ha! dyna Sion Parri'r Waen yn myned i fyny. Ar y fan yma! os curiff o Sion, mi geiff fy nhreio inau. Tydi o'n brifo dim ar neb hefo'r menig yna."
Gwelodd Huw y dyn ag y rhybuddiwyd ef i'w ofni ac i'w ochel, a thybiodd fod golwg milain, cas, arno; ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ddyn cryf a heinyf. Ymbarotôdd i ymryson a'r Proffeswr, a rhoddodd gryn dipyn mwy o drafferth iddo na'i ragflaenydd; ac yr oedd yn amlwg fod y Proffeswr yn ofni cael dyrnod gan Sion Parri. Gwylltiodd Sion wrth fethu taro ei wrthwynebwr, a rhuthrodd ato; ond neidiodd y llall o'r naill du mor chwim, pan oedd Sion wedi ymhyrddio ato yn ei holl nerth, a bu yr ymhyrddiad gwag hwnw yn foddion iddo gwympo ar ei ben yn erbyn talcen y tabwrdd (drum), nes gyru ei ben ef trwyddi; a dyna lle'r oedd, a'i ben mewn cyffion, y drwm fel coler am ei wddf, a'i draed yn chwyfio yn yr awyr fel esgyll melin wynt. Yr oedd crechwen yr edrychwyr yn annrhaethol.
Rhegodd Jack y Go', a gwaeddod—"Rydw i'n gwel'd 'i gastia fo; ac mi rof fi iddo fo glowtan!" a rhedodd i fyny'r grisiau at yr esgynlawr. Dodwyd y menig am ei ddwylaw yntau; tynodd ei hugan, a chylymodd ei ffunen am ei ganol, fel dyn a'i fryd ar wneuthur gwrhydri. Edrychodd yn ddynol ar y gynulleidfa oddi tano, gan gyrlio ei wefus, wrth ddywedyd yn ddigon uchel i bawb ei glywed "Pitti garw na chawn i ei rhoi hi iddo fo heb y menig yma!" Yna trodd at ei wrthwynebwr, gyda golwg haner dig a haner gwawdus. Aeth trwy amryw gastiau, yn llawer mwy celfydd na'i ddau ragflaenydd; a gwelodd y Proffeswr yn fuan fod Jack yn arfer defnyddio ei ddyrnau. Cafodd y chwareuwr ddyrnod lled gas gan Jack, unwaith, ar ei drwyn, yr hyn wnaeth i'r edrychwyr waeddi, "Well done, Jack bach anwyl!"
Yr oedd Jack, erbyn hyn, yn credu yn sicr mai efe oedd i fod yn ben arwr y ffair; ac aeth ati o ddifrif i berffeithio ei fuddugoliaeth a'i enwogrwydd. Ond blinodd y Proffeswr ar y gwaith, a dygodd ei holl bybyrwch i weithrediad; cymerodd arno ei fod yn cael ei guro, gan ddenu Jack ar ei ol at ymyl yr esgynlawr; ac wedi ei gael yno, ffugiodd roddi dyrnod iddo yn un ochr, ond tarawodd ef yn yr ochr arall, nes oedd Jack yn hedfan mewn gwagle, a dysgynodd yn denc i ganol y dyrfa islaw. Yr oedd ei gywilydd yn annesgrifiadwy, ac efe a ymlusgodd ymaith, i chwilio am ddirgelwch, fel ci wedi tori ei gynffon.
"Gwagedd o wagedd," ebe Huw; ac aeth yntau ymaith, gan gondemnio ei hun am beidio cofio yn gynt am y gorchymyn Dwyfol, "Tro dy lygaid rhag edrych ar wagedd." Ond pa le bynag yr elai,, nid oedd braidd ddim ond gwagedd i'w ganfod, yn gymysgedig a llawer o anweddeidd-dra hollol annghyfaddas i drigolion gwlad sydd wedi enill enw mawr am ei haelioni crefyddol, am nifer eu haddoldai, ac am gyfraniadau dihafal at Genhadaethau Tramor.
Mewn un man, gwelodd ddau ganwr Baledi, un o honynt yn ddall, a'r llall yn gorffyn mawr, tal, esgyrniog, carpiog, ac aflan, gyda llif melyn o sug tybaco yn rhedeg o'i enau; a'i ddanedd, wrth iddo "wneud gwyneb i ganu," yn edrych gyn ddued a chreigiau golosg Mynydd Paris. Yr oedd llu, o'r ddwy ystlen yn gwrando ar y Baledwyr gyda hwyl ac afiaeth mawr, a genethod glandeg, bochgoch, a thirfion, yn chwerthin yn galonus wrth glywed cerddi gwag, masweddol, gyda rhith ffraethineb, yn cael eu canu:—"ffyliaid yn eu cyfansoddi (y baledi), ffyliaid yn eu canu, a ffyliaid yn eu gwrando," chwedl y pigog Galedfryn.
Yr oedd y llif o bobl yn cynyddu bob awr, nes, cyn pen nemawr o amser, yr oedd yr heolydd yn orllawnion, a bechgyn a genethod, o bob oedran, yn ymwthio yn ol ac yn mlaen, i ddim ond rhythu a phwyo eu gilydd, gan chwerthin, crochlefain, maglu eu gilydd, gwneud gwawd o rywun mwy diniweid nag eraill, lluchio crwyn eurafalau, sarhau benywod; ac y mae yn rhaid i ni ychwanegu, er mwyn bod yn onest a chywir, fod niferi o'r benywod yn cymeryd pethau, y rhai a ddylasant eu hystyried yn sarhad ar eu lledneisrwydd a'u gwyleidd-dra naturiol, fel digrifwch hoff.
Safodd Huw ar gongl heol, a thynwyd ei sylw at ddau amaethwr oeddynt yn ymddyddan a'u gilydd yn agos iddo, ond gyda'u cefnau tuag ato ef, fel nad allent ei weled. Buasai yn cilio ymaith, rhag clywed eu hymddyddan (gan yr ystyriasai ryw gel-wrando felly yn annynol) oni bai iddo glywed ei enw ei hun yn cael ei ddefnyddio fel hyn:—
"Treiwch yr Huw Huws hwnw,—hen was Mr. Lloyd." "Dwn I ddim llawer am dano fo. Ifanc iawn ydi o, onite?"
"Ie, go ifanc; ond mae o'n llanc cryf iawn—digon o waith ynddo fo;—cyhyrau fel ceffyl, a digon o 'wyllys i weithio. Dim ond pwyso ar 'i gydwybod o, mi weithiff ddydd a nos, achos mae o'n g'neud cydwybod o weithio, a chrefydd o wasanaethu'n dda. Nid am fod gin i ddim yn erbyn grefydd egwyddorol o,—na, mi clywais i o'n dweyd 'i olygiadau crefyddol yn lled ddiweddar yma, ac yr oedd yn amlwg i mi 'i fod o'n fwy iach yn y ffydd, ac yn fwy difrycheulyd yn 'i fuchedd, na'n haner ni. Ond mi ellwch gael faint fyw fyd a fynoch o waith o hono fo, ond i chwi adael iddo wybod eich bod yn disgwyl llawer gyntho fo fel llanc o garictor crefyddol."
Wel, mi treiaf fi o. Ond, 'rhoswch chwi,—mi ddeudodd rhywun, gin gofio, 'i fod o wedi siarad hefo Mr. Owen, Plas Ucha'. Thal hi ddim byd i mi dreio fo heb gael cenad Mr. Owen."
"Purion. Ond, beth 'newch chwi? Mae llanciau yn gofyn cyfloga' dychrynllyd 'leni, a chwithau, fel y deudwch, yn penderfynu na ro'wch chwi ddim dros bedair punt."
"Na ro'f wir, os medraf fi beidio rywsut. Mae pedair punt y tymhor yn hen ddigon. Beth sy' arnyn' nhw eisio hefo 'chwaneg, ond cael arian i yfed cwrw? Gallan' gael digon o ddillad am bedair punt a dyna'r cwbwl ddyla' nhw ddymuno, gan'u bod nhw'n cael digon o fwyd cry."
"Ar y fan yma, mi leciwn I pe baech chwi yn medru perswadio'r cnafon i gredu hyny. Mae nhw'n myn'd yn lartsiach larstiach bob tymhor yrwan, a rhai o honyn' nhw'n credu 'u bod nhw cystal dynion a'u meistradoedd. Ond yr hen gwarfodydd newydd yma sy'n anesmwytho'r llanciau—Cwarfodydd Llenyddol, neu rywbeth tebyg i hyny, mae nhw'n eu galw. 'Dwn I ddim llawer am y y fath G'warfodydd, achos fum I ddim yn 'r un o honyn' nhw 'rioed; ond mi rois I gerydd llym i'r bechgyn am'u cynal nhw, yn y Seiat dd'weutha'. Ac os na chawn ni'r c'warfodydd yma i lawr, fydd dim posib' ymhél â'r bobol ifanc, achos mae nhw'n myn'd i feddwl mwy o honynt'u hunain, ac i ddymandio mwy o amser segur, i ddarllen, a chanu, a phrydyddu, a lolian."
"Ie, dyna hi 'n union, fel 'r oeddwn I yn teimlo fy hunan. 'Rydan ni bron wedi gorchfygu nhw acw, trwy gynghori'r bobol ifanc fod tuedd lygredig yn y fath g'warfodydd, a gwrthod y capel i'w cynal. Ac ni syn'is I 'rioed yn fy mywyd ddim mwy nag fod Mr.cyfloga' uwch yleni, i brynu llyfrau, a phapyra' newydd, a sothach o'r fath. Ond, 'rwan, Thomes bach, wyddoch ch'i ddim sut y medra' I gael llanc cry', gweithgar, am gyflog go isel?"
, un o'n pregethwrs ni, wedi dwad acw i 'reithio a barnu i'w c'warfod nhw. 'Deis I ddim ar eu cyfyl, ond mi gefis gan y brodyr i gytuno i beidio gadael i'r gwr hwnw ddwad acw i bregethu byth ond hyny; ac yr oeddwn I'n ffond ofnatsan o hono fo bob amser o'r blaen. "Toes dim math yn y byd o reswm i bregethwrs gymysgu hefo pob math o bobol ifanc felly, a siarad ar bethau ysgafn yn y Capel, a g'neud i weision a m'rwynion fod yn ffond o ddarllen ryw bethau nad oedd yr hen grefyddwyr byth yn edrach arnyn' nhw. A darllen, darllen, a phrydyddu, a sgyfenu, a chanu, a thrin pawb a phob peth, oedd hi acw o hyd, cyn i ni, fel blaenoriaid, osod 'n gwynebau yn 'u herbyn nhw. A 'toes dim dadl nad y C'warfodydd Llenyddol yma ydi'r achos fod llancia' eisio"Gwn! ond rhaid i chwi fod yn rheit 'falus i beidio gadael neb byth i wybod y plan."
"O mi gym'ra I ofal am hyny.
"Wel, dyma fel y gwneis I heiddiw. Mi ddaeth Robin Llaneilian ata' I, a gofynodd faint o gyflog ro'wn I. 'Faint sy' arnat ti eisio, Robin?' meddwn inau. 'Pump a chweigian, medda fo'n ddigon gwynebgaled. Chwerthais inau am 'i ben o. 'Wel,' medda fo, 'faint ro'wch ch'i?' 'Dim ffyrling mwy na thair a chweigian?" Gwylltiodd Robin, a ffordd a fo, achos mae o'n gwybod o'r goreu nad oes dim gwell gweithiwr na fo yn y wlad, ac y caiff o gyflog da p'le bynag yr eiff o. Ond, 'sywaeth mae un pechod mawr yn barod i amgylchu Robin druan—mi wariff bob ffyrling fydd yn 'i boced o am gwrw; ac mi weithiff fel elephant ond gaddo haner peint iddo fo. Wel, 'roeddwn i'n gwybod nad oedd gynddo fo ddim ond tipyn bach o bres yn dwad i'r ffair, am y bydd o bob amser wedi gwario'r cwbwl yn mhell cyn pen y tymor. 'Rhosais nes meddwl 'i fod o wedi gwario y tipyn pres rhei'ny, ac wedi yfed digon o gwrw i wneud iddo fo eisio rhagor, a swagro hefo'r hogia' merched. Gwelais o'n sefyll wrth ddrws y Bliw Bell, ac yr oeddwn I'n sicr ar ei olwg o nad oedd gynddo fo ddim arian. Euthym ato, a deudais, 'Wel, Robin, wyt ti wedi cyflogi?' 'Naddo wir, Mr. Jones,' meddai fo. 'Well i ti gyflogi hefo mi?' 'rydach ch'i allan o bob rheswm—cynyg dim ond tair punt a chweigian! Ond mi ddeuda beth na' I, Mr. Jones, mi gym'raf bum punt yn lle pump a chweigian.' 'Fedra I ddim wir, Robyn—mae o'n ormod, yr amser gwael yma. Ond, gwrando, Robin,' meddwn I; a dyma'r peth ydw I eisio i ch'i neud, 'Mi wyddost fod 'deryn mewn llaw'n well na dau mewn llwyn; ac os leici di gym'ryd tair a chweigian, mi rof goron yn mlaen llaw i ti 'rwan!' Mi welais mewn moment 'i fod o'n cydio yn yr abwyd, o ran mi daflodd 'i lygad i fyny at ffenest' y Bliw Bell, lle'r oedd amryw fechgyn a genethod gwamal a phechadurus, yn yfed, ac yn estyn eu penau allan i ddangos eu hunain. Crafodd Robin ei glust, a dyna fo 'n dweyd—'Purion, Mr. Jones, mi gytunaf!" ac estynodd 'i law yn awchus i dderbyn y goron. A dyna fel y cafodd o 'i fachu. Ac rwan, gellwch ch'ithau 'neyd yr un peth hefo Huwcyn Ffowcs, achos mae o wedi dechreu myn'd ar 'i sbri, ond 'toes gynddo fo ddim arian, mi wn. Gellwch 'i gael o am y prisa fynwch, ond cynyg pedwar swllt nen bump iddo ar law."
"Mi af i chwilio am dano'r foment yma," ebe'r amaethwr arall.
Na thybied y darllenydd ein bod wedi trethu dim ar ein dychymyg wrth ysgrifenu hynyna. Y mae yn llythyrenol wir; a'r unig ryddid a gymerwyd genym ni oedd cuddio'r personau rhag gwarthnodi gormod ar y pleidiau euog. Gwyddom, yn bersonol, am ddynion a ddalient swyddi uchel yn Eglwys Dduw, yn byw heddyw yn Sir Fon, wedi defnyddio y cynllun uchod i ddenu dynion i dderbyn cyflogau isel; a bu'n ddrwg genym, lawer gwaith glywed dynion yn beio CREFYDD o herwydd ymddygiad rhai fel hyn yn ei phroffesu. Nid yw y fath gymeriadau yn ystaenio dim ar Grefydd, nac yn lleihau dim, mewn gwirionedd, ar werth cymeriad crefyddol. Y mae modd camddefnyddio pob peth da; ac y mae llawer yn defnyddio Crefydd fel mantell i guddio eu gwir nodweddion eu hunain. Ond i Chwiliwr y Galon y maent yn gyfrifol am eu rhagrith; er eu bod yn gyfrifol i ninau, fel aelodau o gymdeithas, am eu dull o ymddwyn at ein cyd-greaduriaid, gan ychwanegu at y maglau y maent yn rhy barod i fyned iddynt, a gwrthwynebu y sefydliadau daionus ag sydd yn peri chwyldroad moesol ar Gymru yn y dyddiau hyn, am eu bod yn gwneyd "llanciau ffarmwrs," fel dynion eraill, i ddechreu meddwl, a theimlo, ac ystyried eu hunain yn rhyw bethau heblaw, ac uwch, nag anifeiliaid direswm.
Yr oedd yr ymddyddan a glywodd Huw Huws rhwng y ddau amaethwr yn archolli ei deimlad yn dost. Teimlodd awydd myned allan o'u clyw, rhag bod yn dyst dirgel o fasrwydd na freuddwydiodd ef erioed y gallai fodoli; ond yr oedd newydd-deb anfad y peth, iddo ef, yn gweithredu fel swyn-gyfaredd arno, fel nad allai symud o'r fan; a theimlai ei hun fel yn deffro o gwsg cas ac anesmwyth pan dawodd y ddau amaethwr, ac yntau yn eu gweled yn ysgwyd dwylaw, ac yna yn dywedyd, "Dydd da i chwi," wrth eu gilydd, gyda thôn hirlusgog, Phariseaidd, ac yn tynu' gwynebau hirion a phruddglwyfus, fel pe buasai pob un o'r ddau wedi cael ffit o'r cnoi.
Yna aeth Huw at y fan lle'r arferai gweision a morwynion "allan o le" sefyll i aros i rywun ddyfod i gynyg lle iddynt am y tymhor dyfodol. Yr oedd yr olygfa hon yn un hynod i Huw, ac yn ymddangos iddo yn un annymunol iawn. Gwelai res o ferched, o bob oedran, —genethod bychain, na ddylasent, o ran eu hoedran, gael eu danfon oddiwrth eu rhieni—merched ar fin dynesoldeb (womanhood), rhai o honynt gyda chyrff mor dirfion â merhelyg dyfrllyn," canmil rhy lednais i fod yn y fan hono yn wrth ddrychau llygadrythiad pob gwalch a fynai fyned heibio, a myrdd rhy dyner i fyned trwy orchwylion celyd morwynion ffermydd, gan godi cyn toriad y wawr, a myned i orphwys yn mhell ar ol i holl anian orphwyso;—ac eraill a gwaith celed wedi anffurfio eu cyrff ieuainc, wedi crymu eu gwarau, crebachu eu dwylaw, a gosod argraff o glogyrnwch, afledneisrwydd, a chaledwch anfenywaidd ar eu holl agwedd. Gwelai hefyd ferched canol oed, a holl deithi nodwedd benywol wedi eu dileu oddiar eu golwg allanol, gan gyfnod maith o weithio hollol anaddas ac annghyson âg arferion gwlad Grisitonogol a gwareiddiedig, yn nghyda dylyn arferion ag sydd wedi gwarthruddo cymeriad moesol "Mon Mam Cymru." Hefyd, hen ferched ag yr oedd eu hoedran a'u caledfyd wedi eu hannghymwyso i gymeryd arnynt gyflawni haner yr hyn a ddysgwylid gan forwynion, ond heb ddim mewn golwg, pe methent gael gan neb eu cyflogi, ond pwyso ar y plwyf.
Cerddai dynion a gwragedd o amgylch y lluaws amryddull yma, gyda golwg beirniadol prynwyr caethion, a'u holi yn y fath fodd fel ag i ddangos eu syniad nad oedd iddynt hwy, yn ol trefn Rhagluniaeth, na rhan na chyfran yn mreintiau merched eraill, na dim i'w ddisgwyl ond llafur corff o fedydd i fedd.
"Os oes eisieu diwygiad gyda golwg ar gaethion yr America," ebe Huw Huws, rhyngddo ag ef ei hun, "y mae eisiau diwygiad gyda golwg ar ferched gwledig Cymru."
O'r diwedd, gwelodd Huw yr hwn a chwenychai yn dyfod ato, sef Mr. O Owen, Plas Uchaf. Cafodd ar ddeall nad oedd Mr. Owen wedi cael boddlonrwydd yn nghymeriad Sion Parri'r Waen. "Yr oeddwn dan rwymau, yn ol fy addewid, i'w gyfarfod yn y ffair," ebe'r amaethwr parchus, gan siarad a Huw, nid fel â bôd islaw iddo ei hun yn ngraddfa bodolaeth; "a phan welais ef, yr oedd wedi meddwi. Deallais ei fod wedi gwneud ffwl o hono'i hun gydag un o'r shows yna, ac fod hyny wedi cythruddo cymaint arno fel ag i wneud iddo geisio boddi ei waradwydd mewn diod. Ac yrwan, Huw, os medrwn ni gytuno am gyflog, mi a'th gyflogaf. Faint wyt ti'n ofyn?"
"Faint ydyw'r cyflog cyffredin i rai o fy oed I, syr?" gofynodd Huw.
"Wel, a bod yn onest, nid wyf fi'n meddwl cytuno â thi yn ol dy oedran, o ran ychydig, a dweyd y gwir, o fechgyn o dy oed di a allent wneud y tro i mi. Cefais air da i ti gan dy hen feistr, Mr. Lloyd; ac yr wyf yn foddlawn i ti gael cyflog dyn cyffredin."
"Faint yw hyny, syr?"
"Pum-punt." Cysunasant, gan selio'r cyfamod yn y drefn arferol. "Yrwan, Huw," ebe Mr. Owen, "treia beidio cyfarfod â Sion Parri'r Waen yn y ffair yma. Y mae wedi meddwi digon i fod yn anmhwyllog, a dyn cas ydyw ar y goreu, yn ol fel y clywais ychydig fynudau'n ol."
"Diolch i chwi syr,. Mi a af adref yn fuan. Prydnawn da, syr."
"Prydnawn da, machgen I."
PENNOD VII.
Derbyniodd (am waelfodd wall)
Dynged ei ddrygnwyd anghall.
—DIENW.
AETH Huw Huws i chwilio am un o'r tai hyny lle'r arferir gwerthu cawl, bara, cig, &c., ar ddyddiau ffeiriau, ac yr oedd yn rhaid iddo ddefnyddio ei holl nerth i allu ymwthio trwy y torfeydd trwch a lanwent yr heolydd. A phe buasai yn ddyn o ysbyyd chwyrn a diamynedd, buasai wedi gadael i amryw deimlo pwys ei ddwrn, gan fod yn anhawdd myned llathen yn mlaen heb dderbyn un ai sarhad, neu ddyrnod, neu dripiad troed.
Sylwodd fod yr holl dafarnau yn llawnion—eu ffenestri oll yn agored, a heidiau o lanciau a merched yn eistedd ac yn gosod eu hunain o bwrpas i bobl eu gweled oddiallan, a'u gwyrebau yn fflamgochion gan effaith y ddiod a phoethder yr ystafelloedd. Gwelodd rai llanciau yn estyn eu breichiau allan trwy'r ffenestri, gyda gwydrau yn eu dwylaw, gan alw ar rywrai o'r heol i ddyfod "i gael dropyn;" a chlywai ambell eneth yn chwerthin yn uchel am ben ryw esgus digrifwch, er mwyn denu sylw at ei het newydd a'i chap o rubanau cochion.
Rhwystrwyd ef ar ei ffordd, mewn amryw fanau, gan ymladdfeydd, lle na byddai heddgeidwad byth yn dangos ei wyneb nes byddai'r frwydr drosodd; ac wrth sylwi ar hyny wrth ddyn ag yr oedd ef yn ei adnabod, dywedodd hwnw
"Oni wyddost ti beth ydyw glas anweledig?"
"Na wn I," ebe Huw.
"Ond plismon pan fydd ei eisiau."
Cafodd Huw hyd i ymborthdy o'r diwedd, a galwodd am "bowlied o froth.,' Tra yn mwynhau hwnw, sylwodd fod amryw lanciau yn dod i mewn i'r ystafell, gan lygadrythu arno, ac yna yn myned o'r golwg yn ebrwydd; ac yn fuan, rhoddodd ei galon dro yn ei fewn wrth weled Sion Parri'r Waen yn dyfod i'r ystafell.
Yr oedd Huw newydd gael platiad o fara a chig, ar ol y broth, ac yn dechreu bwyta hwnw, pan ddaeth Sion Parri ato, a dywedodd—"I chwilio am beth fel hyn y dois I yma, ac waeth i mi'r platiad yma na phlatiad arall," a chipiodd y bara a'r cig oddiar Huw, gan ddechreu ei fwyta ei hun. Yr oedd dwsin neu ddau o wynebau yn cael eu hestyn heibio i'r wensgod oedd yn ymyl y drws, ac yn chwerthin yn uchel wrth weled gwrhydri Sion Parri."
Ni ddywedodd Huw ddim, ond edrychodd yn graff ar ei sarhawr, a galwodd am dipyn o fara a chaws. Pan ddaethpwyd a hwnw iddo, dywedodd Sion Parri—"Mi welaf fod gin ti ddigon o arian, gwb, a chin mod I'n lled brin o bres, waeth i mi gym'ryd y bara a'r caws yna hefyd," ac estynodd ei ddwylaw i'w gymeryd; ond cydiodd Huw Huws yn dyn yn y plâd, gan benderfynu cadw meddiant o'i eiddo bellach.
"Beth!" meddai Sion Parri, "cha I mono fo? A wyt ti'n meddwl treio dy nerth hefo mi?"
"Sion Parri!" ebe Huw. "Cefais fy rhybuddio ddwy waith, heddyw, i dreio peidio dy gyfarfod di yn y ffair, am dy fod yn ddyn cas a dialgar; ac mi fuasai'n dda genyf beidio bod yn yr un fan a thi. Yrwan, yr wyf yn gofyn i ti—yr wyf yn crefu arnat beidio bod yn gas. Gad lonydd i mi, a boed i ni fod yn ffrindiau. Os nad oes genyt ti bres i dalu am fwyd, mi dalaf fi am bryd i ti; ond chei di mo hwn. Fyni di blatiad ar fy nghost I?"
"Da machgen I, wir," ebe dyn mewn cryn dipyn o oedran, "Mae sens yn dy ben di, pwy bynag wyt ti. Gad lonydd i'r llanc, Sion! Mae'n g'wilydd dy fod bob amser yn chwilio am ryw mewn ffair!"
"Wytti am gym'ryd i bart o?" gofynodd Sion, gan droi at y dyn oedranus.
"Nag ydw I. Ond, ar y fan yma! chei di mo'i faeddu o."
"Tendia dy hun, ynte!" gwaeddodd Sion, gan geiso taro'r hen wr. Cododd hwnw ar ei draed, gan osod ei hun mewn agwedd hunanamddiffynol.
Neidiodd Huw i fyny, a dywedodd "Cawsit fy maeddu fi yn led dost, Sion, cyn y buaswn yn rhoi esgus i ti fy nharo; ond nis gallaf oddef i ti gyffwrdd â'r hen wr yna," a neidiodd rhwng y ddau. Cyda hyny, tarawyd Huw ar ei enau nes oedd y gwaed yn llifo; a gwelodd, bellach, nad oedd modd osgoi neb adael iddo ei hun a'r hen wr glew gael cam. Llamodd Huw at wddf Sion Parri; cydiodd afael yn ei ffunen, a chydag un ysgytiad cryf, tynodd ef ar ei wyneb ar y llawr, a daliodd ef yno am enyd. "A fyddi di'n llonydd, Sion?" gofynodd.
"Cei wel'd yn fuan!" atebodd Sion.
"Chodi di ddim oddiyma hyd nes y gofyni am bardwn!"
Ymwingodd Sion a'i holl nerth, ond yr oedd Huw yn dal i bwyso arno, a phawb o'r edrychwyr yn synu at nerth a glewder un mor ieuanc. Cafodd gic yn ei forddwyd, gan Sion Parri, nes y gwelwyd ei wyneb yn ymliwio, a thybiodd amryw y buasai yn cwympo. Gafaelodd yr hen wr hwnw yn ei fraich, a dywedodd, "gad iddo godi, a dos di o'r neilldu. Er mod I'n hen, gallaf drin hwn eto."
"Na," ebe Huw, "nid wyf yn foddlawni neb ymladd ar fy nghownt I. Daliaf ef ar y llawr cy'd ag y gallaf."
Yr oedd Sion yn cicio, yn gwingo, ac yn ceisio cnoi Huw â'i holl egni.
"Sion Parri!" ebe'r bachgen; "fedraf fi ddim dal ati'n llawer hwy, ac y mae'n rhaid i mi un ai gadael i ti fy mrifo fi, neu i mi wneud cam â thi, os cam hefyd. Wnei di fod yn llonydd bellach?"
Rheg a chic oedd yr unig atebiad a gafodd. Dododd Huw ei ben lin ar frest Sion, gan bwyso arno yn drwm. Tynodd ei ffunen (cadach) ei hun oddi am ei wddf, a dechreuodd rwymo dwylaw ei wrthwynebwr gyda hi, ond nis gallodd wneud hyny heb haner ei dagu yn gyntaf, yr hyn a wnaeth hefyd trwy wthio ei figyrnau i wddf Sion, yr hwn a wanychodd yn ddirfawr dan y driniaeth feddygol hono. Yna llwyddodd Huw i rwymo ei ddwylaw yn dýn, a gadawodd iddo gyfodi. Yr oedd Sion, erbyn hyn, mor gynddeiriog a theigr cythruddedig, ac yn ceisiod datod rhwymyn ei ddwylaw gydai ddanedd, fel y gallai gael ail ymdrech a Huw. Ond yr oedd pobl y tŷ, ar ol i'w braw cyntaf dawelu, wedi myned i chwilio am gwnstabl, a bod mor ffodus, yr hyn oedd yn rhyfedd, a chael hyd iddo mewn pryd. Daeth hwnw i'r lle, a chydag un tarawiad ar fraich Sion gyda'r ffon fér, drom, gwnaeth ef yn dawel fel oen; a chafodd lety, am y prydnawn a'r noson hono, yn yr Heinws. Dyna derfyn helyntion Huw Huws yn y ffair.
PENNOD VIII.
Balchder, ar fyrder a fydd
Yn nod o oes annedwydd.
—O GRONFA'R AWDWR.
Aeth dwy flynedd heibio—"fel chwedl"—yn llawn o amrywiaeth—cymysg o dda a drwg, achosion llawenychu a galaru, pryderu a gobeithio yn amgylchiadau William Huws a'i deulu. Byddai weithiau yn cael gwaith cyson am fisoedd, ac adegau eraill heb waith am wythnosau olynol. Yr oedd hyn yn eu cadw mewn tlodi parhaus, ac yn analluogi William i roddi yr addysg, na'r ymborth, na'r dillad, a ddymunai roddi i'w dair geneth.
Yr oedd Mari, erbyn hyn, wedi myned yn afiach hollol, ac argoelion darfodedigaeth cyflym arni. Yr oedd ei hawydd am fwyd yn parhau, a bu gorfod i'w mham, lawer adeg, ei thwyllo gyda golwg ar lawer tamaid, trwy amddifadu ei hun o hono, ac ar yr un pryd gadael i Mari gredu nad oedd hi yn cael dim mwy na'i chyfran ei hun. Ond nid oedd yr ymborth yn ymddangos yn meithrin dim arni. Daeth yn fwy gwelw, yn fwy diegni, ac egwan. Ond, er hyny, ni chlywyd hi byth yn achwyn, nac yn grwgnach. Daeth e Bibl yn fwy gwerthfawr yn ei golwg, a mynych y clywid hi yn adrodd adnodau melus hyd yn nod yn ngweledigaethau breuddwydion y cyfnos
Ond er fod sylwi ar afiechyd a dadfeiliad eu merch hynaf yn peri gofid calon i William a Marged Huws, eto, yr oedd sylwi ar y cyfnewidiad yn nhymer ac ysbryd Lowri, yr ail eneth, yn ganmil chwerwach iddynt. Ni waethygwyd fawr ddim ar iechyd Lowri; ond tyfodd yn gyflym, a daeth yn dálach na chyffredin o'i hoedran; ac yr oedd harddwch ei pherson yn destyn sylw mynych y sawl a'i gwelai. Oherwydd nad allai ei rhieni dalu am ysgol iddi hi a'i chwaer leiaf, Sarah, yr oedd hi yn mýnu rhyddid i dreulio llawer o'i hamser ar hyd yr heolydd, a thua'r porthladd, a ffurfiodd gydnabyddiaeth ag amryw enethod, rhai mwy, a rhai llai, na hi,—genethod nad ŵyr neb yn iawn pa fodd y maent yn byw. Dylanwadodd cwmniaeth ac ymddyddanion y rhai hyny yn niweidiol ar feddwl y Lowri ieuanc, a phan ddychwelai adref yn yr hwyr, archollid calonau ei rhieni wrth glywed ei hymadroddion isel, ei hatebion chwyrn, a'i geiriau chwerwon wrth ei chwaer glaf. Cymerodd balchder hefyd feddiant o'i chalon. Clywodd, lawer gwaith, ddynion gwagsaw, wrth fyned heibio iddi ar yr heol, yn sylwi ar ei harddwch; a daeth i drachwantu gwisgoedd, ac i ddyheu am wychder.
Dyna gychwyniad peryglus ofnadwy i eneth ieuanc. Ni phallodd William Huws a chynghori a rhybuddio ei eneth, ac efe a offrymodd lawer gweddi ddirgel ar ei rhan. Collodd ei mham hefyd lawer o ddagrau wrth ymddyddan â hi, a gobeithiasant ill dau y byddai i olwyn Rhagluniaeth droi yn fuan, dwyn iddynt well moddion i ddarbod ar gyfer eu plaut, ac y dychwelid Lowri i gyflwr gwell o ran ei hysbryd pan gaffai hi ddillad newydd cyfaddas i fyned i Addoliad Dwyfol ac i'r Ysgol Sul.
Yr oedd y lodes leiaf—Sarah—yn llawn serch a thynerwch, ac yn dangos pryder dwys yn nghylch ei chwaer hynaf, a'r ufudd-dod llwyraf i'w rhieni.
Aeth blwyddyn arall heibio, fel yna, heb i ddim neillduol iawn ddygwydd yn amgylchiadau tylwyth y Cymro gonest a gweithgar, oddigerth fod Mari yn myned yn wanach wanach—Lowri yn tyfu'n falchach falchach, a Sarah yn cynyddu mewn lledneisrwydd a serch.
Un noson oer, tua gwyliau'r Nadolig, yr oedd y teulu, oddigerth Lowri, yn yswatio o gwmpas tân bychan,—rhy fychan i gadw yr oerni allan o'r ystafell wael. "Pa le mae Lowri?" gofynodd y tad.
Ocheneidiodd y fam, a dywedodd "Welais i moni hi er y bore!"
Gallesid gweled gwyneb William Huws yn cael ei ddirdynu megis gan boen ingol wrth glywed hyny; a threiglodd deigryn gloyw dros rudd welw Mari, fel gwlithyn perlawg ar rudd lili benisel.
Aeth awr ar ol awr heibio, ac ni ddychwelodd Lowri. Diffoddodd y tewyn olaf o dân, a danfonwyd Sarah i'w gwely, ac ni ddychwelodd Lowri. Gwelodd y rhieni fod Mari yn edrych yn wanach a mwy lluddiedig nag arferol, a pherswadiwyd hithau hefyd i fyned i orphwyso; hi a aeth, ac ni ddychwelodd Lowri. Clywyd yr awrlais mawr yn y clochdy cyfagos yn taraw unarddeg, ac ni ddychwelodd Lowri. Ond am haner awr wedi unarddeg, hi ddaeth i mewn.
Pe buasai drychiolaeth wedi ymddangos i William a Marged Huws, ni fuasai modd iddynt ddangos arwyddion mwy o syndod a braw nag y gwnaethant wrth weled eu hail ferch yn dyfod i fewn yr adeg hono. Yn lle ei hen fonet gwael, yr oedd ganddi fonet newydd am ei phen, a rhubanau amryliw ynddo; a shawl felyngoch deneu am ei hysgwyddau. Syllasant ill trioedd ar eu gilydd, am enyd, mewn dystawrwydd poenus. O'r diwedd, beiddiodd Lowri ddywedyd, "P'am'r ydach ch'i'n rhythu arna' i fel yna?"
"O! Lowri," ebe'r fam, —"p'le buost ti mor hir? A beth ydyw'r dillad yna sydd am danat ti!"
Gwelwyd arwydd gwan o gywilydd ar wyneb yr eneth, ac yr oedd gwg a gwrid fel yn ceisio meistroli eu gilydd i gael ymddangos ar ei gwedd, yn arwydd fod Dyledswydd a Gwrthryfel yn ymryson am orsedd ei chalon. Ond Gwrthryfel a drechodd. Gorchfygodd yr eneth ei theimlad, a dywedodd "Pa'm y rhaid i chwi edrach mor ddig am mod I wedi cael pethau na fedrwch ch'i mo'u rhoi i mi !"
Sefydlodd William Hughes ei lygaid yn graff ar ei ferch, a daliodd i edrych arni nes yr ymdaenodd gwrid dwfn dros ei gwyneb. Yna dywedodd y tad, "Lowri, eistedd! Yrwan, dywed, ymh'le y buost ti?"
Yn y Partheneon!"
"Beth! yn y Partheneon!--fy ngeneth I'n myn'd i le pechadurus felly! O, Lowri!-a wyt ti am dynu gwarth ar dy dad a'th fam yn ein henaint, ac am ddamnio dy hun!"
"Toes dim drwg yno,—dim ond pobol yn canu, yn chwareu, ac yn dawnsio."
"O! fy ngeneth anwyl I!-gochel y fath le! Ac ymh'le y cefaist ti'r dillad yna?"
"Gin ferch ifanc ffeind a ch'weuthog sy'n dweyd wrtha I bob amser nad oes dim rheswm i mi fod mor aflêr: hi dalodd am y bonét a'r shawl, a hi a aeth a fi i'r play."
Ni wyddai y rhieni beth i'w wneud—pa un ai wylo, ai ceryddu, ai cynghori, ai beth. O'r diwedd, dywedodd William Huws,—"Lowri! ni cheiff y dillad yna fod yn y ty yma am fynud hwy. Tyn nhw, ac mi fynaf eu llosgi'r foment yma!"
Fflachiodd digofaint gwrthryfelgar yn llygaid yr eneth. "Tyn nhw!" ebe'r tad. Ond nacaodd y ferch.
"Tyn nhw!" efe a ddywedodd drachefn.
"Na wnaf!" gwaeddodd yr eneth, a chododd ar ei thraed, "Mi af i ffwrdd cyn g'naf hyny! Mae pawb yn dweyd nad ydyw I ddim yn ffit i fod yma. Mi gaf well parch, gwell bwyd, gwell gwely, a gwell dillad, gin bobol er'ill! Rosaf fi ddim yma'n hwy!" a ffwrdd a hi allan.
Yr oedd y tad a'r fam wedi eu syfrdanu, fel pe buasai taranfollt wedi eu taraw a'u difuddio o reswm a theimlad. Ond daethant i'w pwyll yn fuan. Cododd William Huws; dododd ei het am ei ben, ac aeth allan i'r heolydd, lle y bu yn chwilio am ei ferch hyd doriad y wawr.
PENNOD IX.
Join then each heart and voice to raise
Our harvest song of joyous praise,
As round our feast we meet.
—THOS. FRANK BIGNOLD.
Y mae arferiad drwg yn mhlith rhai o amaethwyr Cymru yn nghyswllt ag anrhydeddu dyogeliad llafur y cynhauaf i ddiddosrwydd. Adwaenir yr arferiad y cyfeiriwn ati, gan bobl Mon, dan y teitl "Boddi'r Cynhauaf." Cesglir y gweision, y morwynion, a rhai cyfeillion, yn nghyd, i fwyta ac i yfed; a'r diwedd, yn fynych, yw, meddwdod, terfysg, ac anfoesoldeb.
Nid oes dim mwy rhesymol nag i ddynion gael rhyw bleser ac adloniant ar ol llafur caled y cynhauaf; ond dylid cysylltu difyrwch â moesoldeb, a phleser â diolchgarwch i'r Hwn sydd yn "rhoddi had i'r hauwr a bara i'r bwytawr."
Y mae dosbarth arall, gwahanol i'r amaethwyr a gadwant y ddefod o "foddi'r cynhauaf,"—dosbarth crefyddol, a gynaliant gyfarfod gweddi a mawl yn eu hamaethdai ar ddiwedd y cynhauaf. Y mae genym y parch mwyaf trylwyr i'r dosbarth hwnw; ond, fel rheol gyffredin, y maent yn hollol ddiystyr o'r angenrheidrwydd am bleser anianyddol i'w llafurwyr, heb feddwl fod yn rhaid i ddyn gael adloniant corfforol a meddyliol cyn y gall fod yn ddedwydd na defnyddiol. Pa bryd y daw y naill ddosbarth i ganfod niwed a phechadurusrwydd cyfeddach a therfysg "boddi'r cynhauaf," a'r dosbarth arall i ddeall y dymunoldeb o wneud diwedd y cynhauaf yn achlysur difyrwch yn gystal a diolchgarwch i gysylltu mwyniant a dyledswydd?
Ond i ddychwelyd at ein hanes.
Yr oedd Tad y Trugareddau wedi cofio ei addewid, na phallai pryd hau na medi-wedi caniatau y cynar-wlaw a'r diweddar-wlaw-wedi gorchymyn i'r ddaear roddi ei ffrwyth yn doreithiog—ac wedi rhoddi "amserol ffrwyth y ddaear," fel y ceffid "mewn amser dyladwy eu mwynhau."
Yr oedd amaethwr Tanymynydd y fferm âgosaf i'r Plas Uchaf—yn un o'r rhai hyny a arferent "foddi'r cynhauaf;" ac ar ddiwedd y tymhor toreithiog y cyfeiriwyd ato, yr oedd gwledda a chyfeddach mwy nag arferol ar ei fferm. Gwahoddodd amryw gyfeillion, yn gystal a'i weinidogion, i gyfranogi o'r difyrwch. Traddodwyd areithiau, yfwyd llwncdestynau,, a datganwyd caniadau crechwenus, a chlywyd y banllefau yn adseinio ceryg ateb y fro. A pha beth bynag am "foddi'r cynhauaf," fe foddodd amryw, y noson hono, eu synhwyrau gyda diodydd meddwol. Dyna gipolwg ar arferiad sydd yn rhy fynych yn ein gwlad. Taflwn drem eto ar olygfa ag y dymunem ei gweled yn fynychach. Deued y darllenydd gyda ni at y Plas Uchaf.
Yr oedd cysgod llydan hen dderwen hybarch yn graddol gynyddu, tra yn gorwedd ar draws llwybr o sofl gwyn, yr hwn oedd wedi ei lyfnhau yn esmwyth gan sangiad llawer o draed ar ei frigau cras. Yr oedd y cae yn un eang, gwastad, yn cael ei amgylchu, ar un llaw, gan fryn llednais, "dan urdd o dderi ac ynn," ar y llaw arall gan nant ddyfriog a hoediog, hoff gyrchfan plant y plwyf ar bererindod i "hel nythod adar," neu gasglu mwyar duon, —a'r gyfran arall o hono yn cael ei warchod gan "y mor mawr llydan." Ac yr oedd, yma ac acw hyd y cae, goed o amryw faintioli ac oedran,—mewn un man, boncyff hen goeden batriarchaidd, gydag ychydig ysbrigau gwyrddion yn ymdarddu o honi, fel plant eiddil henaint, gweddill egwan hen yni grymus ;yn y fan arall, teyrn coediog o gyfnod diweddarach, yn ymdyru fry yn mawreddigrwydd ei falchder deiliog a changhenog; ac mewn manau eraill, coed eraill, iraidd a cheinfalch, yn edrych fel cystadleuwyr awchus a gobeithlawn am fawredd dyfodol, wedi eu mantellu mewn gwyrdd tynerach na'u cymdeithion hŷn.
Yr oedd cynulliad lled luosog o wyr, gwragedd, a phlant, gwyryfon, a llanciau, i'w canfod o gwmpas bôn y dderwen gauadfrig ar ganol y cae. Gwelid y gwladwr gwyneb-felyn, yn ben-noeth, neu gyda'i ffunen gottwm wedi ei chylymu am ei dalcen, gyda chwys pa un y llafuriodd efe'r ddaear ac y medodd ac y casglodd y cynhauaf. Gwelid hefyd y fam brysur, gyda'i chap gwyn a glân, a'i edging llydan, ei ffunen felen wedi ei chroesi yn dwt dros ei hysgwyddau ac ar draws ei bronau, a blaenau'r ffunen yn cael eu diogelu dan fand a llinyn y barclod (arffedog) frith "newydd sbon danlli." Yno yr oedd yr "hoglanc ifanc," cryf a heinif, yn ymfalchio yn foddus o herwydd ei ddyrchafiad diweddar i blith y dosbarth cryfach o lafurwyr; a'r eneth fywiog, yn cydmaru rhifedi y beichiau a loffodd hi, gyd ag eiddo ei chyd-loffesau ieuainc; ac yno hefyd yr oedd ieuenctyd yn ei holl raddau, i lawr at y baban sugno;—i gyd wedi ymgasglu i fwynhau gwledd diwedd y cynhauaf, yn ol dull diwygiedig Mr. Owen o gynal y gyfrvw wledd.
Gan fod enw Mr. Owen wedi ei grybwyll fwy nag unwaith yn ystod y chwedl hon, dichon yr hoffai y darllenydd gael gwybod tipyn yn rhagor am dano. Efe oedd amaethwr mwyaf a chyfoethocaf yn y parth hwnw o'r wlad, ac yr oedd yn cael ei ystyried fel tipyn o dywysog yn y rhandir wledig hono. Yr oedd yn ddyn da yn ol ystyr ehangaf y gair-yn ddyngarwr goleuedig, yn ysgolhaig gwych, yn wladgarwr mawr, ac yn Gristion gloyw. Astudiodd lawer ar y natur ddynol, ac argyhoeddwyd ef mai y ffordd effeithiolaf i'w gwella oedd trwy dynerwch a serch, ac nid trwy sarugrwydd a thaeogrwydd. Cafodd ei foddhau yn fwy nag arferol yn ymddygiadau ei weinidogion a'i gynorthwywyr huriedig yn ystod y cynhauaf oedd newydd gael ei gasglu; a phenderfynodd yntau eu gwobrwyo yn ol eu gweithgarwch a'u hymddygiadau da. A dyna ystyr yr ymgynulliad hwnw dan y dderwen frenhinol ar gae mawr y Plas uchaf.
Pan oedd y byrddau annghelfydd wedi eu hulio ag ymborth helaethlawn a sylweddol, a phawb yn barod i wneuthur pob cyfiawnder â'r bwydydd, gwelwyd dau ddyn yn dynesu at y lle, a dyrchafodd y bobl floedd groesawgar pan welsant mai Mr. Owen oedd yn dyfod, gyda rhyw gyfaill. Adnewyddwyd y floedd, gyda gwresogrwydd mawr, pan adnabyddwyd y boneddwr arall—Mr. Lloyd, hen weinidog hoff yr ardal gyfagos, yr hwn oedd wedi bod cyhyd yn anwylddyn trwy'r holl blwyfi amgylchynol, a'r hwn nad oedd wedi ymweled â'r ardaloedd hyny byth ar ol ei ymadawiad, hyd y tro annysgwyliadwy hwn.
Wedi cyrhaedd y fan, edrychodd Mr. Owen a Mr. Lloyd yn foddus ar y cynulliad dedwydd hwn. Offrymodd y gweinidog weddi fer, fel "Gras Bwyd," cyn i'r gwladwyr siriol ddechreu ar y wledd. Tra'r oeddynt hwy yn mwynhau yr ymborth, aeth Mr. Owen o gwmpas un bwrdd, a Mr. Lloyd o gwmpas bwrdd arall, gan gymell y bobl syml i fwynhau eu hunain, a siaradai Mr. Lloyd â phawb o'i hen gydnabod. Daeth yn fuan at y fan lle'r oedd Huw Huws yn eistedd, a gwelodd fod gwyneb coch y llanc yn ymddysgleirio gan lawenydd wrth weled ei hen feistr yn dynesu ato. Dododd Mr. Lloyd ei law ar ysgwydd y llanc, a dywedodd "Wel, Huw, mae'n dda genyf dy weled. Nid oes angen gofyn pa fodd yr wyt; y mae dy olwg yn ddigon. Yr ydych wedi cael cynhauaf prysur."
"Do, syr," ebe Huw; "a chynhauaf da-y goreu a welais i erioed; ac y mae genym achos mawr i fod yn ddiolchgar i Dduw am hyny. Mi fyddai'n anhawdd genych gredu, syr, pe bawn yn dweyd gynifer o dywyseni a gyfrifais i ar un paladr."
"Na fyddai, machgen I,—ond ni wiw i mi dy alw'n fachgen bellach, ni fyddai'n anhawdd genyf dy gredu, o herwydd y mae trugareddau Duw yn afrifed; ond y mae'n dda genyf dy fod di'n sylwi ar beth felly, ac yn cael dy dueddu i fod yn ddiolchgar. Y mae'n ymddangos i mi dy fod yn dyfod ymlaen yn lled dda yma?"
"Ydwyf, syr; ac ni pheidiaf byth a diolch i chwi am fy nghyflwyno i sylw Mr. Owen."
"Yr oeddwn yn credu y cawsit feistr da ynddo ef." "Nid oes ond un cystal ag ef, syr. Y mae yn ein hadnabod ni fel llafurwyr; nid ydyw yn edrych arnom fel rhyw ddarnau o waith machine, heb fod yn dda i ddim ond cyhyd ag y medrwn wneud y gwaith. Y mae cwlwm agos rhyngom ni ag ef, ac er ei fod ef yn gyfoethog, nid yw'n ceisio gwadu'r berthynas rhyngddo a'i lafurwyr, Y mae'n gwneud i ni gredu, os ydyw ef yn bobpeth i ni, ein bod ninau yn rhyw werth yn ei olwg yntau.’
"Gwyn fyd na fyddai amaethwyr Cymru, yn gyffredinol, yn fwy tebyg iddo! Gan gofio, mi a glywais Mr. Owen yn dyweyd dy fod di wedi cael tipyn o godiad ganddo'n ddiweddar."
"Do, syr, mi gefais orchwyl newydd, i fod o gwmpas y ty, ac i ofalu am yr ardd, a phethau eraill; ac y mae fy nghyflog yn fwy rwan nag erioed, heblaw fod genyf fwy o amser i geisio gwybodaeth, a gwaith ysgafnach."
"Wel, ar ol cael gwaith a hyfforddia fwy o amser i ti ddarllen, yr wyf yn dysgwyl y curi di holl lenorion Cymry o hyn allan. Yr oedd yn dda genyf weled dy enw fel cystadleuwr buddugol yn Eisteddfod M
y dydd o'r blaen. Y mae sylwi ar hanes y cyfarfodydd rhagorol hyn yn ddigon i wneud dyn ymfalchio o bobl dlodion ei wlad—gwlad hefo gwerin lênyddol—crefftwyr, hwsmyn, glowyr, labrwyr, a gweithwyr o bob math, yn cyfoethogi ein llenyddiaeth. Yn wir, y mae anrhydedd mewn bod yn Llafurwr Cymreig; ac yr wyf yn llawenychu fod fy hen was I yn sefyll mor uchel am dalent a gwybodaeth, yn mysg y dosbarth gweithgar Cymreig.""Diolch i chwi, syr," ebe Huw; ac ymdaenodd gwrid ysgafn dros ei wyneb-gwrid cymysg o falchder a gwyleidddra.
"Dos ymlaen, Huw," ebe Mr. Lloyd, —"paid a gadael i mi dy rwystro i fwynhau'r wledd. Gallaf ymddyddan tipyn â thi heb dy amddifadu o'r pleser. Pa bryd y clywaist ti oddiwrth dy rieni?"
"Wel, syr, go anaml y byddaf yn cael llythyr."
"Sut y maent?"
"Y mae arnaf ofn nad yw pethau cystal hefo nhw ag y mynant i mi gredu. Y mae rhyw dôn drist ar bob un o'u llythyrau, er eu bod yn ymdrechu cuddio pob trallod oddiwrthyf fi. Ond y mae serch yn beth pur graff; ac yr wyf yn sicr fod fy nhad a fy mam, a fy chwiorydd truain, wedi dyoddef llawer, os nad yn parhau i ddyoddef;" a llanwodd llygaid y llanc â dagrau breision.
Gwelodd Mr. Lloyd byd ei fod wedi cyffwrdd â chord tyner yn nghalon Huw, a rhag peri ychwaneg o boen iddo, efe a ddywedodd "Paid edrych ar yr ochr dywyllaf i'r cwmwly mae dau du i bobpeth, Yrwan, gorphen dy ymborth, a bydd siriol. Caf dy weled eto'n fuan. Rhaid i mi fyned i ysgwyd llaw ag eraill o fy hen gyfeillion."
Yr oedd Mr. Lloyd a Huw Huws yn ymddyddan yn isel; a chan fod Huw yn eistedd ar gongl un o'r byrddau, yr oeddynt yn gallu siarad heb i braidd neb eu clywed. Ond yr oedd yr ymddyddan wedi cynhyrfu ffynhonell serch y llanc, ac nis gallai atal y gofer rhag tarddu allan trwy ei lygaid. Ni fwytaodd ddim rhagor.
Wedi darfod y wledd, anerchwyd y dyrfa yn syml a serchus gan Mr. Lloyd; offrymwyd gweddi a mawl am y cynhauaf godidog a gafwyd i ddiddosrwydd, ac ymadawodd pawb a'u calonau yn llawen ac ysgafn, oddigerth calon Huw Huws.
PENNOD Χ.
Thus it is that we bear within us an irresistible attraction to our earliest home. * * How familiar was everything before me!—DEVEREUX.
Pan oedd Huw Huws yn yr ardd, bore dranoeth, daeth Mr. Lloyd ato, ac ar ol son am amryw bethau cyffredinol dywedodd y boneddwr parchedig—"Huw, byddai'n ddrwg genyf beri chwaneg o boen i ti, oherwydd mi a welais neithiwr fod meddwl am drallodau dy deulu yn archolli dy galon. Ond, y mae'n rhaid i ni fod yn wrol, ac y mae arnaf eisiau siarad tipyn yn rhagor am danynt; a gwyn fyd na fyddai modd eu cael yn ol i'r wlad!"
"Ie'n wir!" ebe Huw, gyda llais yn crynu gan deimlad dwys. "A gwyn fyd na fuasent erioed wedi myned i Loegr! O! Mr. Lloyd, gwnewch faddeu i mi am fy ngwendid, a chydymddygwch a mi tra'n dweyd fy mhrofiad ar y mater?"
"Gwnaf, was—gwnaf! Yr wyf yn gallu cydymdeimlo'n ddwys â thydi. Dywed dy deimladau yn ddigêl; ac os gallaf dy gynghori a'th gynorthwyo, mi a wnaf hyny yn ewyllysgar."
"Wel, syr, wedi'r ymddyddan neithiwr, daeth llif o hiraeth cryf dros fy meddwl; a chyn gynted ag y gorphenwyd gweddio, teimlais awydd, na's gallwn ei wrthwynebu, am gael ymweled unwaith yn rhagor â hen dy fy nhad. Cerddais yn gyflym ar draws y caeau a'r rhosydd, a chyrhaeddais y fan erbyn tua haner nos. Yr oedd y lleuad naw nos oleu yn arianu'r hen barwydydd, a'i goleuni yn chwareu rhwng dail a changau yr hen goed poplys. Ychydig gyfnewidiad sydd i'w weled yn agwedd allanol y lle; ond, er hyny, ni's gallwn beidio tristâu wrth feddwl nad ydyw mwyach yn gartref i mi. Teflais fy mreichiau plethedig ar draws y llidiart, gan bwyso fy mhen ar y post, a syllais yn brudd ar hen gartref fy maboed—yr hen Dy Gwyn—gan ymollwng i fyfyrdod dwys a byw am enyd yn nghanol gweledigaeth adgofus am yr amser dedwydd gynt, A rhaid i mi ddweyd, syr, fy mod yn teimlo'n siomedig am nad allwn weled yr un gwyneb hapus yn dod i edrych arnaf trwy'r hen ffenestr, neu'n ymddangos yn y drws, yn fy nghroesawu i dŷ fy nhad. Pan yn teimlo'n siomedig felly, gwelwn gi'n dychwelyd at y ty, ar draws y llain, a phan welodd fi, ymddangosodd fel pe buasai'n falch o gael cyfle i wneud iawn am iddo fod yn chware triwant, a chyfarthodd arnaf yn uchel, gan ymddangos i mi fel pe yn fy adgofio nad oedd genyf hawl i fod yn y fan hono bellach."
"Ond, pwy a ŵyr, na fydd y Ty Gwyn yn gartref i ti eto?" ebe Mr, Lloyd yn dyner. " Y mae'r dyn sydd yn byw yno'n awr ar fedr ymadael tua chalangauaf; ac os bydd modd yn y byd, mi a ymdrechaf ei gael yn ol i'r hen aneddwyr. Ond y mae'n rhy fuan i gynllunio am hyny yn awr. Gad wybod sut y terfynodd yr hynt yma o'th eiddo?"
"Wel, syr, pan ymddygodd y ci ataf mor ddigroesaw, ni's gallwn beidio dweyd wrthyf fy hun, 'Wel, wel, mi a welaf mai estron wyf fi yma rwan, a gall unrhyw gi fy ngwahardd rhag sangu ar gartref cyfran fwyaf dedwydd fy oes!' Cyfodais yn araf, a mesurais fy hun yn erbyn hen bolyn a suddwyd yn y Hawr gan fy nhad, ac wrth yr hwn y byddai fy mam yn arfer rhwymo un pen i'r rhaff i ddal dillad i sychu, a gwelais fy mod wedi cyfnewid yn ddirfawr,—wedi dyfod yn ddyn, o ran maint, beth bynag am gymhwysderau dynol; a dywedais wrthyf fy hun—'Wel, rhaid i mi ymdrechu bod yn ddyn o ran calon ac ymddygiad hefyd, a mýnu gweithio o ddifrif er mwyn fy nheulu trallodus.' Troais i fyned i ffwrdd, ond edrychais o fy nghwmpas unwaith drachefn, cofiais am y noson olaf y buom yn y Ty Gwyn —ymweliadau'r cymydogion, a thristwch fy rhieni wrth ffarwelio a hwynt, —daeth y bennod, y weddi, ac ing galarus yr ymadawiad, i gyd i fy fy nghof. Gwesgais fy nwylaw yn dynion, ac ocheneidiais weddi ar ran y rhai anwyl hyny sy'n mhell oddiwrthyf, ac ar fy rhan fy hun, ar fod i mi gael fy nerthu i'w cynorthwyo a'u cysuro. Prysurais adref—y mae'n dda i mi wrth y cartref yma, Mr. Lloyd; ond nid allwn gysgu dim gan dristwch fy myfyrdodau. Maddeuwch i mi, syr, am eich poeni â fy hanes!"
"Nid oes genyf le i faddeu, Huw; y mae'r cyfryw deimladau yn anrhydedd i un o dy oedran a dy sefyllfa di. Ac yn awr, heb ewyllysio peri dim rhagor o boen i ti, y mae'n rhaid i mi ddweyd fy mod yn ofni nad yw pobpeth yn gysurus gyda'th deulu."
"A glywsoch chwi rywbeth, syr?" gofynodd Huw yn bryderus.
"Wel-do. Gwelais hen gyfaill wedi dychwelydo Lerpwl, ac er nad oedd ef yn gwybod fawr i gyd am dy dad, eto, deallais ddigon i fy argyhoeddi nad oedd hi'n gysurus iawn arno; a byddai yn dda genyf wybod yn fanylach sut y mae hi arnynt, a pha olwg sydd ganddynt ar gyfer y gauaf dyfodol. Ac yn awr, gan fod genyf fusnes go bwysig eisiau ei wneud yn Lerpwl, a chan nad allaf fi fyned yno fy hunan, mi a ofynais i Mr. Owen, neithiwr, a wnai ef adael i ti fyned yno hefo parsel a chenadwri droswyf. Addawodd Mr. Owen y cawsit fyned, a bod i ffwrdd am wythnos. Mi a dalaf dy gostau, a gwnaf i fyny am yr amser a golli. Nid oes eisiau gofyn a wyt ti'n foddlon i fyned?"
"Ha!-boddlon, syr! O, Mr. Lloyd!—byth er pan wasgarwyd fy nheulu, chwi, yn nesaf at Dduw, yw'r cyfaill goreu a gefais I; ond dyma'r caredigrwydd mwyaf a wnaethoch i mi erioed erioed erioed!" Ac nid oes achos celu fod Huw wedi tori i wylo fel plentyn.
"Wel, anwyl Huw!" ebe Mr. Lloyd, "yr wyf yn gobeithio y try pethau allan yn well na'n disgwyliad. Cei weled yn mha gyflwr y mae dy deulu, a dichon y gallwn wneud rhywbeth drostynt,"
"Pa bryd y caf fyned, syr?"
"Yn mhen pum diwrnod, sef dydd Llun nesaf."
PENNOD XI.
Ac yno'n cydchwedleua,
A'i reswm gan bob un.
—GWALCHMAI.
Hyderwn fod gan y darllenydd syniad lled gywir, erbyn hyn, am barchusrwydd a dyngarwch Mr. Owen, Plas Uchaf, ac am gymeriad prif wrthddrych ein hanes.
Dichon y taera rhai fod y fath feistr, a'r fath lafurwr, yn anaml yn Nghymru. Rhaid addef nad ydynt mor aml ag y gellid dymuno, ond er hyny, y maent yn gymeriadau Cymreig ag y gellir cyfarfod a'u cyffelyb bob dydd yn ein gwlad. Yr oeddym wedi bwriadu, ar y dechreu, ceisio gwneuthur y Ffugdraith yma yn ddrych o gymeriad meistri a gweithwyr Cymreig yn mhob cysylltiad ac agwedd ag sydd yn eu hynodi fwyaf; ond canfyddwn yn awr fod y terfynau, o ran meithder, a osodasom i'r gwaith, wedi dyfod i'r pen eisoes, ac fod yn rhaid i ni adael allan amryw bethau ag y bwriadwyd eu trin yn y dalenau hyn.
Dichon mai anhawdd fyddai cael golwg cywirach ar gymeriad llafurwyr Cymreig nag wrth y bwrdd, yn nghegin amaethdy, ar ol noswylio. Caiff y darllenydd gipolwg ar Huw Huws, a'i gydweithwyr, yn yr agwedd hono yn awr. Yr ydym yn gorfod bod yn frysiog gyda hyn, er mwyn tynu at y diwedd cyn gynted ag y gallwn.
Yr oedd cyffro difyr diwedd y cynhauaf wedi myned heibio, ac yn mhen deuddydd ar ol y wledd ar gae mawr Plas Uchaf, rhoddodd y gauaf arwydd disymwth ei fod yntau am hawlio ei orsedd am dymhor. Daeth yn dywydd tymhestlog, heb neb yn dysgwyl hyny, ac ymgasglodd gweision a morwynion Plas Uchaf o gwwpas y tân coed, dan y simdde fawr, agored, i aros swper.
"Hei, lads!" ebe un o'r gweision—"glywsoch chi am Ned y Rhos a Wil y Bryn, dau was Tanymynydd?"
"Do," atebodd gwas arall—"mi glywis i bod nhw ar eu spri byth ar ol bod yn boddi'r cynhaua'. O ran hyny, mi gwelis i nhw yn Nhafarn y Fudde Fawr echnos, ar ei chefn hi'n gynddeiriog. Mi fuo gest iawn i mi a myn'd i gwffio hefo Ned. Yr oedd o'n reit gas o hyd, eisio i rhywun gwffio hefo fo; ac mi yfodd 'nglasiad i er mwyn tynu ffrae."
"Wel, Owen, beth neist ti? Ddaru ti ddim cwffio; Mae Ned yn ddyn cryf ofnadwy, ac mi fedar handlio'i ddyrnau'n reit ddel."
"Ie ond y felldith hefo fo," ebe Owen, "ydi, 'i fod o mor chwanog i gnoi. Y fo frathodd glust Wil Jones Tyddyn Bach. Mi faswn i wedi dreio fo oni bai 'i fod o mor ffond o gnoi."
"Thdi wneuthost yn gall iawn i beidio 'medlaeth dim a fo, Owen," ebe'r hwsmon, yr hwn oedd yn hen wr call, gwledig, cryf, a sobr, wedi gweled llawer tro ar fyd. fum i'n ddigon o ffwl, pan yn dy oed ti, i feddwl na fedrwn i ddim bod yn llanc heb gwffio yn mhob man."
"Dyna'r achos fod cimint o greithiau arnoch chi mae'n debyg?" ebe un o'r gweision. "Mi glywais i nhad yn deud lawer gwaith sut y byddach chi'n chwalpio'r llanciau cryfaf ar hyd y ffeiriau ac yn mhob mitting degwm. Sut fuo hi ar argu llyn mawr Mynydd Paris 'stalwm?"
Peth anhawdd ydyw i hen bobl ymwrthod a'r pleser o adrodd am eu hen gampau, ac er fod Rhisiart Prisiart, yr Hwsmon, wedi ymadael, er's llawer o flynyddoedd, a'i hen gymdeithion meddw, ac wedi dyfod yn ddirwestwr selog, eto, gellid tybio fod tipyn o falchder yn llechu yn nghil ei lygaid wrth adgofio am wrhydri ei ddyddiau boreuol.
"Ie, dewch i ni glywed yr hanes hwnw, Rhisiart," ebe amryw o'r gweithwyr ar unwaith.
"Twt, toedd dim byd rhyfedd yn hyny; mi fedrwn i ddeud pethau llawer odiach, tawn i'n leicio. Mi welis ddydd, na fuasai raid i mi ddim troi nghefn ar neb yn y wlad, am daflu trosol, nac ymaflyd codwm, na neidio afon, na hwb-a-cham-a-naid, na rhedeg am deisen priodas, na gwrthod fy ngham. Ond ffolineb ienctid oedd hyny, fechgyn. Ac am y tipyn sgeg hono yn ymyl Mynydd Paris, toedd hi ddim llawer o beth i gyd. Mi eisym i ffair Amlwch—roedd ffeiriau go dda yn Amlwch yr amser hono, er 'u bod nhw gest wedi myn'd i'r gwellt rwan,—ac mi neidiodd rhyw ddau bottiwr mawr yn fy mhen i. Wel, toedd dim i neud ond cwffio neu gym'ryd fy maeddu. Daliodd y ffrindiau un o'r ddau bottiwr, gael i mi gael chwara teg hefo'r llall; ac yn wir ddyn byw hael, un gwydyn oedd o hefyd. Mi gefis gryn drafferth hefo fo. Ond mi gwneisym i o'n ddigon llonydd cyn pen chwarter awr. Ond, toedd na byw na marw i mi heb dreio'i bartner o wedyn. Yr oeddwn i'n gwaedu fel mochyn ar ol y fattal gyntaf; ond, waeth hyny na chwanag, toedd dim llawer o blwc yn yr ail. Dwy slap go dda a wnaeth iddo waeddi 'gildings' am 'i fywyd. Fi oedd pen dyn y ffair wedyn, ac mi faswn yn cael haner dwsin o hogiau merched yn gariadau'n glec. Ac erbyn gyda'r nos, yr oeddwn i wedi dechreu meddwi. Wel, i chi, mi gychwynis adra tuag wyth o'r gloch, ac yr oedd yn rhaid i mi fyn'd trwy Fynydd Paris. Y mae yno ddau lýn mawr o ddwr coppar, a wal fawr yn rhedeg rhyngddyn nhw—argau i neud un llyn yn ddau. Yr oedd yn rhaid i mi fyn'd dros yr argau yma; a phen oeddwn i ar 'i chanol hi, mi welwn ddyn yn dwad i fy nghyfarfod; ac mi ddych'mygis glywed swn traed yn dwad ar f'ol i hefyd. Troais fy mhen, a gwelwn un o'r ddau bottiwr yn dwad gyn ffastiad ag y medra fo. Ac ar y fan yma! y pottiwr arall oedd yn dwad i fy nghyfarfod. Wel, dyma hi yn y pen am danaf!' meddaf fi wrthyf fy hun. Ond mi benderfynis na fynwn i mo fy moddi yn y fan hono gin y ddau sgoundral, heb adael i un o honyn nhw, beth bynag, gadw cwmpeini i mi; ac felly, mi redis hefo fy holl nerth at y dyn oedd yn dwad i nghwarfod i cydiais afael am 'i ganol o, a hefo un hergwd mawr, taflis fy hun a fonta i'r llyn. Yr oedd yn dda iddo fo a finau'n bod ni'n medru nofio,—nofiais i at ben isa'r llyn, a gwelwn y pottiwr arall yn helpu'i bartner o'r dwr. Welis i byth mo'r un o'r ddau wedyn."
Y mae chwedlau fel hyn yn boblogaidd iawn yn mhlith llafurwyr amaethdai, ac ystyrid yr hen Rhisiart Prisiart yn wron gan ei gydweithwyr ar ol adrodd y chwedl uchod, yr hon, yn ddiau, oedd gyn wired â llawer.
"Diawsti!" meddai'r gwas Owen, "y mae'n 'difar arw gin i na faswn wedi dangos i Ned y Rhos mai nid y fo ydi brenhin y wlad!"
"Gwnaethost yn gall peidio, Owen," ebe'r hen hwsmon. "Y mae'n 'difar gin i fy mod wedi difetha cimint ar fy nerth, a fy amser, a fy arian, hefo gweilch fel y fo a'i ffasiwn. A phe daet ti'n cym'ryd fy nghyngor i, was, taet ti byth i'w cwmpeini nhw, ond hyny. Cymer siampal oddiwrth Huw Huws yma, rwan, dyma i ti fachgen yn gwario'i amser yn iawn. Ar y fan yma, mae'n falch gin i fod ar yr un ffarm a fo! Welodd neb erioed mono fo yn y dafarn, nac yn gneud ffwl o hono'i hun. Owen, was, gad i mi ofyn i ti eto i seinio titotal, a pheidio byth myn'd ar gyfyl gweilch fel Ned y Rhos a Wil y Bryn."
"Gin gofio," ebe un arall, "yr oeddwn i am ddeud peth glywis i heiddiw am y ddau gnaf rheiny."
"Wel, beth newydd sydd am danyn nhw."
"Mi wnaf lw nad oes dim dillad newydd am danyn nhw," ebe un o'r morwynion, yr hyn a barodd chwerthin uchel.
"Wel, gad wybod beth glywist ti, Sion."
"Mae'r ddau'n ddigon saff yn Bliwmaras. 'Roeddan nhw wedi gwario'u tipyn arian i gyd, wrth feddwi; a neithiwr, daliwyd y ddau yn tori cist Tafarn y Fudde Fawr, ac yn dwyn yr arian. Cant 'u treio yn y sessiwn nesa."
"Dyna wers i chi, lads!" ebe'r hen Risiart. "Wybod yn y byd beth fasa'n dwad o hono inau, daswn i heb seinio dirwest cyn i'r hen ddiod fyn'd yn drech na mi. Huw, dwad rwbath wrth y bechgyn yma—gwyddost fod dau ne dri o honyn nhw yn rhy ffond o lymeitian."
"Yr ydwyf wedi bod yn ceisio perswadio Owen a Sion lawer gwaith," ebe Huw Huws, i roi'u henwau ar lyfr dirwest—i ymwrthod â chwmpeini drwg—i brynu llyfrau a defnyddio'u horiau segur i ddarllen, ac i roddi eu harian gweddill heibio erbyn amser a ddaw. Yn wir, lads, ddaw byth ddim daioni o fyned i'r tafarnau, a gwastraffu amser yn ofer, a lolian gwirion, a rhodiana'r nos, fel y mae rhai o honoch chwi'n gwneud. Nid oes llanciau yn yr holl wlad yn cael cymaint o amser ag ydym ni, o ran mae Mr. Owen yn lwfio i ni noswylio'n gynarach, ac yn rhoi mwy o fanteision i ni, nag a rydd un meistr yn y Sir i'w weision. Ac yn wir, mi fydd fy nghalon i'n brifo'n aml wrth weled Owen a Sion yma yn gwario'u hamser a'u cyflogau mewn oferedd a wagedd. Bydd yn edifar genych, lads, pan ddowch dipyn hynach. Edrychwch ar Rhisiart Prisiart, rwan,—dyna i chwi hen wr, yn ol ei gyffes ei hun, sy'n ddyledus i sobrwydd am ei fod yrwan yn y sefyllfa y mae. Chwi welsoch yr hen Edward Parri, Ty Cefn yn myn'd i'r workhouse ddydd Llun diweddaf. Beth oedd yr achos? Dim ond yfed. Yr oedd ganddo fywioliaeth daclus unwaith; ond aeth trwy ei dipyn arian, a dyna fo yn y workhouse rwan, yn ddigon gwael ei lun."
"Da machgen i, Huw," ebe'r hen hwsmon. "Ti ddeudist y gwir am dana i, wel'di. Mi ofynodd mistar i mi ddoe Wel Rhisiart,' medda fo, 'rwyt ti'n myn'd yn hen, ac fedri di ddim dal i weithio'n llawer hwy. Beth naet ti 'tawn ni'n dy droi di i ffwrdd oddiar y ffarm rwan?' 'Wel, mistar,' meddaf finau, 'bydda'n bur ddrwg gin i; ond 'rydw i'n treio pyrtoi ar gyfer peth felly, trwy fyw'n sobor a chynil.' Faint sydd er's pan wyt ti'n ddirwestwr?' medda fo. 'Ugain mlynedd a chwech wythnos union,' ebwn inau. 'Wel, faint o les i dy boced di naeth ugain mlynedd o ddirwest?' 'Hyn, syr: Yr oeddwn i'n arfer gwario ceiniog a dimai bob noson waith am gwrw, a thair ceiniog (pris peint wyddoch) bob Sul; heblaw rhagor ar amser gwyliau o sport. Wel, syr,' meddwn i, 'pan seinis i ddirwest, mi benderfynis roi'r pres rheiny i gyd heibio hefo'u gilydd, yn reit saff, o dan glo. Ceiniog a dimai bob diwrnod gwaith o'r wythnos yn gneud naw ceiniog, a thair ceiniog ar y Sul, dyna swllt yn yr wythnos; swllt yr wythnos ydi pedwar swllt y mis; pedwar swllt y mis ydi dwy bunt ac wyth swllt y flwyddyn, a chyfri' dim ond deuddeg mis pedair wythnos yn mhob blwyddyn; ac wrth gyfri'r pedair wythnos arall, dyna ddwy bunt a deuddeg swllt. Mi roddais hyny heibio bob blwyddyn, am ugain mlynedd, syr,' meddwn i wrth mistar; a phan ddaeth yr ugain mlynedd i ben, mi eis i gyfri'r arian, ac yr oedd yno ddeuddeg punt a deugain, syr. A dyna swllt yr wythnos, am chwech wythnos, wedi cael'u rhoi atyn nhw wedyn; ac felly, mae gin i ddeuddeg punt a deigian a chwe swllt. Dyna un dioni naeth dirwest i mi.' 'Wel. Rhisiart,' medda mistar, 'mae'n dda gin y nghalon i glywed hyna. Ac yr ydw i'n meddwl am adael i ti gael gorphwyso'n lled fuan bellach. Rhaid i ti brynu tair buwch reit dda; cant bori ar fy nhir i am ddim, â chei ditha dŷ a gardd yn ddi rent; felly, rhwng y peth a ddaw'r gwartheg i ti, a thipyn o bethau erill, gelli fyw'n reit gysurus heb weithio mor galed.' Dyna i chi, lanciau, beth ydi gwerth bod yn ddirwestwr!"
"Ie," ebe Huw Huws—"heblaw y fantais y mae byw'n sobr yn roddi i ddyn gasglu gwybodaeth, gwrteithio'i feddwl, ac enill carictor da yn y byd."
"Lanciau, dowch at'ch swper," ebe un o'r morwynion.
Cododd pawb yn ebrwydd, gan eistedd ar feinciau o amgylch bwrdd onen hir, praff, wedi ei ysgwrio nes yr oedd yn ysgleinio, ac yn edrych gyn wyned ag eira unnos.
Dodwyd crochan mawr ar y bwrdd, yn yr hwn yr oedd uwd rhynion yn mygu ac yn pwffio fel i'w croesawu i ymddigoni. Yr oedd picyn, sef llestr pren, gyda chlust wrtho, a thri cylch bychan gloew am bob picyn, wedi ei osod ar gyfer pob gweithiwr, a phob picyn yn dri chwarter llawn o lefrith tew digymysg, a llwyau o bren dreinen yn gorwedd wrth ochrau'r picynau.
Neidiodd Owen y gwas at y crochan, gan ddechreu llenwi ei lestr ag uwd; ond dywedodd Rhisiart Prisiart, yr hwn oedd yn eistedd wrth ben y bwrdd "Yn enw pob rheswm, Owen, pryd y dysgi di fanners, dwad? Yr wyt wedi bod yma er's dros dri mis, ac yn fy myw fedraf fi ddim cael gin ti aros heb neidio at y bwyd cyn i rywun ofyn bendith. Tydw i ddim yn broffeswr, ond mae gin i barch i grefydd. a leiciwn i ddim byta pryd o fwyd heb un ai gofyn bendith fy hun neu i rywun arall neud. Huw, gofyn di fendith, was."
Gwnaeth Huw Huws hyny yn syml a dirodres. "Yrwan, lads," ebe'r hen hwsmon—"bytwch eich gwala."
"Yn wir, Rhisiart," ebe Owen, "rhaid i chi fadda i mi—mi fum yn gweini mor hir mewn llefydd nad oes byth weddio, na gofyn bendith, na darllen ynddyn nhw, nes y mae'n anodd i mi gofio'ch dull chi yma. Ond, wir, y mae lle fel hyn yn ddigon a gneud i ddyn dyngu treio peidio pechu na bod yn wyllt ond hyny. A dyma fwyd iawn ydan ni'n gael!"
"Ie, nid fel uwd blawd ceirch teneu, gwael, hefo llaeth enwyn a hwnw ddim gwell na gladwr, fel fum i'n gael am ddau dymor yn Tanymynydd," ebe Sion, y gwas arall, gan daflu llwyaid o uwd i lawr i'w felin rhwng pob tamaid.
"Ddoi di'n ditotal, Sion?" gofynodd Owen.
"Dof fi, myn sebon."
"Dyna ben."
"Hwre!" gwaeddodd Rhisiart Prisiart, a'i safn yn haner llawn o fwyd.
Wedi swpera, aeth yn llawenydd mawr yn y lle oherwydd penderfyniad Sion ac Owen i ddyfod yn ddirwestwyr. Aeth y gweision a'r morwynion i adrodd chwedlau gwledig, ac ddatganu caniadau difyr, hyd nes, am chwarter i ddeg, y daeth Mr. Owen, ei brïod, a'i unig ferch, i'r gegin, a Bibl Mawr Peter Williams dan ei gesail, i gadw dyledswydd cyn i bawb fyned i orphwys. Llawenychodd yr amaethwr yn fawr pan glywodd am benderfyniad Owen a Sion. Wedi darllen pennod, rhoddodd yr hen benill hwnw i ganu
"O estyn eto i barhau Dy drugareddau tirion."
"Yrwan, Huw, dosi weddi, was," ebe'r amaethwr. Gweddioddd ein harwr yn daerach nag arfer y noson hono, heb anghofio ymbil ar ran y ddau lanc
PENNOD XII.
"Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell."—SOLOMON.
Bore dranoeth, synwyd Huw wrth gael ei hysbysu fod llythyr yn y ty, wedi ei gyfeirio iddo ef, o'r America. Aeth i mewn i'w geisio. Gwelodd fod sel ddu arno, a'i fod wedi trafaelio o bost i bost yn Mon, gan nad oedd wedi ei gyfeirio i'r Plas Uchaf, eithr i gartref cyntefig William Huws.
Agorodd Huw y llythyr yn frysiog, ac yr oedd ei law fawr, gyrniog, galed, yn crynu wrth dori'r sel, canys yr oedd yn beth mor annghyffredin cael llythyr o'r America ac yr oedd y sel ddu yn peri i'r llanc deimlo pryder anesponiadwy. Darllenodd Huw'r llythyr, a gwelodd Mr. Owen, yr hwn oedd yn yr ystafell, fod y cynwysiad, gan nad beth oedd, yn cyffroi Huw yn angerddol. Gofynodd iddo-"Yr wyf yn gobeithio nad oes dim newydd drwg, Huw? Os nad oes rhywbeth rhy breifat yn y llythyr, a gaf fi ofyn beth yw'r newydd?"
Yr oedd Huw yn rhy gyffroedig i ateb, ond efe a estynodd y llythyr i'w feistr, yr hwn hefyd a ddangosodd arwyddion o syndod wrth ddarllen yr hyn a ganlyn :
"Huw Huws,—Fy anwyl Fab Bedydd,
Y mae'n sicr mai prin yr wyt ti yn cofio dim am danaf. Y mae blynyddoedd lawer er pan adewais wlad fy ngenedigaeth; nid oeddit ti ond hogyn bach y pryd hwnw, ac, os wyt ti wedi cael bywyd ac iechyd, y mae'n rhaid dy fod yn ddyn mawr erbyn hyn. Yr oedd genyf fi feddwl uchel am danat hyd yn nod pan oeddit yn blentyn, a phenderfynais, os byth y casglwn I dipyn o gyfoeth, y gwnawn rywbeth drosot ti. Fi oedd dy Dad Bedydd; ac er na fedrais I gyflawni, tuag atat, yr addunedau a wnaethym yn y Bedydd, eto, yr wyf wedi parhau i feddwl am danat a gweddio drosot. Yn awr, y mae fy oes yn tynu tua'i therfyn; yr wyf yn gorwedd dan glefyd angeuol, ac nid oes genyf ond ychydig ddyddiau eto i fyw. Buaswn yn ddedwyddach pe'n gallu gwneud mwy drosot, cyn fy myned ac na byddwyf mwy: ond ni fu fy llwyddiant yn y wlad yma yn llawn cymaint ag y dysgwyliais. Er hyny, y mae genyf dipyn o arian wedi eu rhoi heibio i ti, a dyma fi, yn awr, yn danfon awdurdod i ti i fyned i Ariandy Bangor i'w codi—Tri Chant o Bunnau yw'r swm. Gobeithiaf y byddant o gynorthwy parhaol a bendithiol i ti, pa un bynag ai priod a'i sengl ydwyt. Ac yr wyf yn hyderu ar Dduw dy fod wedi dy seilio yn egwyddorion crefydd, fel na fydd y tipyn swm yma yn demtasiwn nac yn niwed yn y byd i ti.
"Os yw dy rieni hefyd yn fyw, dyro fy serch a'm cofion iddynt. Byddaf fi wedi myned Adref, i'r lle nad oes na gofid na galar, na phoen na gwae, na phechod na thristwch, cyn y daw hwn i dy law di. Ydwyf, anwyl Huw, gyda gweddi ddwys dros dy gysur tymhorol a'th gadwedigaeth dragywydddol,
"Dy Dad Bedydd,"
"HARRY PARRY"
"Gynt o'r Ty Coch."
"Huw!" ebe Mr Owen, "dyma brawf newydd o ofal, Rhagluniaeth. Dydd Llun nesaf yr wyt am fyned i Lerpwli ac un neges genyt fydd ymholi i sefyllfa dy deulu, y rhai sydd mewn tlodi. Ac yn awr, dyma Ragluniaeth wedi dy gynysgaeddu â moddion i'w cael yn ol, ac i ddarbod ar gyfer eu cysur rhagllaw; os nad wyt yn bwriadu gwneud rhywbeth arall â'r Tri Chan' Punt?"
"Rhywbeth arall, syr!—Na, na, yr wyf, fel chwithau yn gweled, ac yn dymuno cydnabod Llaw Duw yn yr amgylchad annysgwyliedig yma. A ydych chwi'n meddwl y gallaf gael yr arian cyn cychwyn i Lerpwl, syr?"
"O, gelli'n sicr. Y mae'r awdurdod yna yn ddigon i ti eu codi heddyw, os myni. Ti gei fyned i Fangor i'w ceisio yfory; ac mi roddaf fenthyg y gaseg felen i ti fyned yno."
"Diolch yn fawr i chwi, syr; ond gwell genyf fyned ar fy nhraed. Buasai'n falch genyf gael benthyg y gaseg, oni bai mai myned i nol ffortiwn yr ydwyf; a gwell genyf gerdded rhag ofn i mi gael fy nhemtio i ymfalchio ac annghofio fy hun."
"Purion. Un òd wyt ti. Ond ti wnei'r tro. Y mae'r yspryd gostyngedig yna'n sicr o gael ei wobrwyo. Duw a'th fendithio. Yrwan, nid oes eisiau i ti wneud dim rhagor heddyw. Dos i drefnu dy bethau dy hun ar gyfer myned i Fangor yfory, ac ar gyfer dy fordaith i Lerpwl ddydd Llun."
PENNOD XIII.
"Ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos,"—SOLOMON,
"Cloddiodd bwll, a syrthiodd yn y clawdd a wnaeth.—DAFYDD
Aeth y son, fel tân gwyllt, o Fynydd Bodafon i Fynydd Eilian, ac o Bentraeth i Draeth Dulas, "fod Huw Huws, gwas Plas Uchaf, yn myn'd i gael ffortiwn fawr, ac y byddai ef yn fuan gyn gweuthocced a Syr Richard Bwcle."
Bore ddydd Sadwrn a ddaeth, a bore garw ydoedd. Yr oedd curwlaw'n ymarllwys, a'r gwynt yn cythru, a'r cymylau'n brochi.
Cychwynodd Huw yn fore iawn, tua haner awr cyn toriad y dydd, hefo cleiffon onen braff yn ei law. Yr oedd yn adnabod y ffordd yn dda, a cherddodd trwy lwybrau ceimion, creigiog, ac anhygyrch Llanallgo a'r Marian Glas fel un yn penderfynu gwneud y defnydd goreu o'i nerth.
Yn mhen tuag awr wedyn, yr oedd dau ddyn arall yn cychwyn tua'r un cyfeiriad, gyda'u ffyn hwythau dan eu ceseiliau, a'u cotiau yn cau'n dýn am eu gyddfau, a'u hetiau wedi eu tynu i lawr at eu llygaid, fel pe buasent yn awyddus rhwystro i neb eu hadnabod. Cerddasant yn ochelgar, gan fyned ar hyd dau lwybr gwahanol, ac ni wyddai y naill ddim byd am y llall. Ond ar ben y Marian Glas, gwelodd yr olaf o'r ddau fod rhyw ddyn yn myned o'i flaen. Edrychodd hwnw hefyd o'i ol, a gwelodd yntau fod rhywun yn dyfod yr un ffordd ag ef. Parhaodd y ddau i gerdded; a gallesid gwybod, wrth sylwi ar gildremiad mynych y blaenaf o'r ddau, i edrych a oedd y llall yn ei ddilyn, a'i reg isel, rwgnachlyd, bob tro y gwelai efe ef, nad oedd ei ddyben yn un gonest. O'r diwedd, cyrhaeddodd y dyn blaenaf groesffordd, lle'r oedd llwybr yn tori ar draws y caeau; ac efe a aeth ar hyd y llwybr hwnw, a'r dyn arall ar hyd y ffordd. Felly, collasant olwg ar eu gilydd.
Cyrhaeddodd Huw Huws ddinas Bangor, ac ar ol tipyn o drafferth a cholli amser, cafodd ei dri chan' punt yn ddyogel. Aeth i westy i sychu ei ddillad ac i gael lluniaeth. Arhosodd yno am tuag awr, ac yna cychwynodd tua chartref drachefn, a'i galon yn ysgafn a'i ysprydoedd yn uchel, er gwaethaf meithder y ffordd oedd ganddo o'i flaen, a gerwindeb cethin y tywydd. Aeth trwy Bont y Borth, ac ni thrôdd i unlle, rhag colli amser. Wedi cyrhaedd Pen-ffordd-Croesus, teimlodd fod yn anhawdd iawn iddo gerdded yn gyflym, gan fod y gwynt a'r gwlaw mor arw, a'r ffyrdd mor ddigysgod. Wedi cerdded tua phedair milltir, yr oedd yn falch iawn gweled coed Plas Gwyn yn ymylu y ffordd, ac wrth weled un goeden fawr, fwy na'r lleill i gyd, mewn congl cae yn ymyl y ffordd, penderfynodd fyned dros y clawdd i lechu am enyd dan gysgod y goeden hono. Ond yr oedd y diferion o'r cangau yn gwlychu agos cymaint arno a phe buasai yn y gwlaw ar ganol y ffordd. Edrychodd o'i gwmpas, a gwelodd mai ceubren oedd yr un yr oedd ef yn llechu tani, a dywedodd wrtho'i hun, "Ar y fan yma, dyma le campus i mi lochesu am dipyn; y mae barddoniaeth mewn peth fel hyn, ac y mae'n fy adgofio am yr hen chwedl am Geubren yr Ellyll yn Mharc Nannau;" a dringodd i'r ceubren, a gwelodd fod ganddo siamber ddiddos yn mola'r hen goeden, Yr oedd twll cainc ynddi, trwy ba un y gallai ganfod pobpeth o'r tu allan.
Yn mhen tua chwarter awr, gwelodd ddyn yn dyfod dros y gwrych i'r cae; ac yna gwelodd ddyn arall yn cerdded yn llechwrus gefn y gwrych. Synodd y ddau ddyn wrth ganfod eu gilydd; a safasant, heb ddweyd na gwneud dim, am enyd. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi adnabod eu gilydd, ac adnabyddwyd y ddau gan Huw Huws.
Blinodd y ddau ddyn yn edrych y naill ar y llall felly, ac aethant at eu gilydd. Dywedodd un wrth y llall—" Holo! Twm—ti sydd yna? I b'le'r wyt ti'n myn'd?"
"Dim llawer pellach. I b'le'r wyt ti'n myn'd, Sion?"
"Wel—y—dim pellach—am—am wn I. 'Rydw I'n disgwyl ffrind i 'nghyfarfod I ffordd yma."
"O!—felly'n wir! A ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di. Sion?"
"Beth wyt ti'n feddwl?"
"Dim drwg, was—dim drwg!"
"Wel, beth wnaeth i ti ofyn cwestiwn fath yna?"
"Wala—y—y—a deyd y gwir, Sion, os nad ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di, y mae o'n debyg iawn i'r ffrind ydw inau yn ddisgwyl!"
Bu'r ddau mewn tipyn o benbleth am enyd, heb wybod pa fodd i ymddwyn na siarad. Yr oedd euogrwydd a drwgdybiaeth yn llechu yn nghil llygad pob un o'r ddau. O'r diwedd dywedodd Twm.
"Glywaist ti am ffortiwn fawr Huw'r Plas Ucha?"
"Do," atebodd Sion—"ac mi glyw'is I beth arall hefyd; ac mi ddaliaf bunt dy fod dithau hefyd wedi clywed yr un peth!"
"Beth?—beth?"
"Wel,—fod Huw wedi myn'd i Fangor heiddiw i godi'r arian; a'i fod o am fyn'd adra hefo nhw heno!"
"Mi fydd Huw'n gweuthog ofnadwy bellach. Faint mae o'n myn'd i gael hefyd?"
"Tri chant o bunnau! Dyna i ti bentwr!"
"А—ïe wir!——Digon i neud dau neu dri yn ddiofol am'u hoes. Byddai cant a haner bob un i ni, rwan, yn lot ddel annghyffredin?"
"Diawch a minau! —dyna'r gath o'r cwd! Y gwir am dani hi, Twm—i gwarfod Huw y doist. Ac i hyny y dois inau hefyd. Heblaw gneud'i faich o'n dipyn bach 'sgafnach i fyn'd adref, y mae arnaf fi hen sgôr iddo fo er's blynyddoedd, ac mi leiciwn gael'i thalu rwan!"
"Ho!——'r ydw I'n cofio—eisio talu iddo fo am d'olchi di, 'stalwm, yn Ffair Llan?"
"Paid a son am hyny rwan, Twm—y mae meddwl am y peth yn codi'r cythraul yn 'nghalon I. Y mae peth arall i feddwl am dano rwan; ac os wyt ti am sefyll yn drwmp, purion!—mi safaf inau hefyd. Tafl dy bump!"
Ysgydwodd y ddau ddwylaw, ac yr oeddynt yn deall eu gilydd yn berffaith.
Yr oedd Huw druan yn clywed pob gair, ac yn gweled y cwbl, o'r ceubren; a gall y darllenydd feddwl ei bod yn gyfyng arno wrth wrando. Ond cafodd nerth i fod yn llonydd.
Yr oedd Twm Dafydd a Sion Parri'n ddau ddyn hollol wahanol i'w gilydd—Sion yn ddyn mawr, esgyrniog, cryf, cuchiog, a meddw; a Twm yn ddyn bychan, gwael, wedi cael llawer o drallod a thlodi; ac nid oedd llawer o amser er pan gododd oddiar wely cystudd; a dywedir ei fod ef a'i deulu bron trengu, yn ystod ei salwch, gan eisiau bwyd. Y mae'r darllenydd yn gwybod eisoes ychydig am Sion Parri—sef y Sion Parri'r Waen hwnw ag y bu Huw mewn gafael âg ef yn y ffair er's llawer dydd.
Arhosodd y ddau ddyn yn y gongl hono am tuag awr, gan wrando yn ddyfal ar bob trwst yn y ffordd fawr. A phan ddechreuodd y nos dywyllu, dywedodd Sion Parri—
Wyddost ti beth, Twm, mae arnaf fi ofn na ddaw o ddim, heno. F'allal fod yr arian mawr yma wedi dychrynu ei grefydd o i gyd allan o hono, a'i fod o wedi myn'd ar 'i sbri."
"F'allai hyny, wir," ebe Twm Dafydd. "Ond beth os ydi o wedi cym'ryd ffordd Llansadwrn, ac i lawr y Traeth Coch, ffordd honno?
"Reit siŵr iti! mi fedar groesi'r traeth heno—mae hi'n ddistyll trai rwan. Beth wnawn ni, dywed?"
"Wel, mae gin I blán."
"Gad 'i glywed o."
"Dyma fo: Mi wyddost fod Huw'n cysgu yn y llofft uwchben y Ty Tatws, heb neb yn cysgu'n agos ato fo. Mae o'n siwr o gadw'r arian hefo fo heno; a thua haner nos, beth fyddai haws nag i ni'n dau fyn'd ato fo, gneud ysbryd, a'i ddychrynu o nes cael pob ffyrling? Ac os na fydd yr arian hefo fo yn y llofft, gallwn'i wneud o i ddeud ymh'le y mae nhw. Beth ddyliet ti?"
"Byth o'r fan yma!—mae o'n blan campus."
Cytunodd y ddau ar y cynllun; ac yna aethant ymaith. Cododd Huw Huws ei ben trwy y twll yn y goeden, i edrych a oedd y ddau gymydog wedi myned, a phan welodd fod pob man yn glir, dechasuodd yntau dynu ei gynlluniau. Ac yn mhen enyd, cychwynodd drachefn, gan dori ar draws y caeau, rhag ofn dyfod o hyd i'w ddau "gyfaill." Cyrhaeddodd y Plas Uchat. Neidiodd dros glawdd yr ardd, a llusgodd rywbeth trwm oddi yno, ac aeth ag ef i'r "Ty Tatws," yn llofft pa un yr oedd ef yn arfer cysgu.
Rhoddodd ei arian yn ngofal ei feistr, ac aeth i'w wely, a gofalodd am beidio barrio'r drws.
Wedi gorwedd am tua dwy awr, ac yn fuan ar ol i'r cloc daro haner nos, clywodd Huw y glicied yn cael ei chodi, a'r drws yn agor yn araf. Yna cerddediad ysgafn, araf, fel pe buasai rhywbeth, neu rywun, yn rhoi tri thro o gwmpas y llawr. Peidiodd y cerdded, a dyna lais dwfn, sobr, yn dywedyd—"Huw Huws!—Huw Huws!—Huw Huws! Yr wyt yn cymeryd arnat fod yn ddyn ifanc duwiol, ond yr wyt wedi gwerthu dy hun i'r cythraul! Y mae arian wedi dy ddamnio. Os na thafli di nhw o dy afael, cei fyn'd i uffern cyn y bore! A wyt ti'n clywed rhybudd o wlad yr ysprydion?"
Neidiodd Huw ar ei eistedd, gan agor ei enau a rhythu ei lygaid, i edrych gyn debyced ag y gallai i ddyn mewn braw ofnadwy; a gwelodd wrthddrych mawr yn sefyll wrth erchwyn y gwely—Sion Parri, gyda chap nos merch am ei wyneb, a dau dwll wedi eu tori yn nghoryn y cap, iddo weled trwyddynt; a hen gynfas wen wedi ei thaflu dros ei ysgwyddau.
Gwaeddodd Huw— "O!—O!—beth a wnaf? Arbed fi, O Yspryd!—Arbed fi!"
"Gwnaf, os gwnei di roi'r arian yna i mi!"
"O! cymer nhw—cymer nhw—arbed fy mywyd!"
"P'le mae'r arian?"
"O! dos i lawr i'r Ty Tatws—i'r gongl ar y llaw chwith—dan bentwr o hen frics—cei dy wobr yno, ond i ti f'arbed I!" Aeth "yr yspryd" ymaith. Eisteddodd Huw ar y gwely, am ychydig amser, i wrando. Clywoddd ddrws ystordy'r cloron—"Y Ty Tatws"—yn agor. Yna trwst—clic—ac ysgrech dyn mewn poen. Gorweddodd Huw, a chysgodd yn dawel.
Bore dranoeth aeth i'r Ty Tatws, a chafodd hyd i Sion Parri'r Waen a'i goes yn ddyogel mewn trap dynion. Edrychodd arno am enyd, ac yna dywedodd—"Sion Parri! Dyma'r ail waith i mi dy orchfygu. Yr oeddit wedi bwriadu drwgi mi; ac, am unwaith yn fy oes, mi ymostyngais i chwareu tric, er mwyn dy gywilyddio a chael cyfle i dy geryddu. Ac a weli di'r chwip yma? Yn lle dy draddodi i ddwylaw'r Ustusiaid, mi a noethaf dy gefn, a chaiff dy gnawd brofi blas y fflangell garai yma."
Gwnaeth Huw hyny. Curodd Sion Parri'n dost, nes ei orfodi i erfyn am bardwn. Ar ol tybied ei fod wedi cospi digon arno, efe a'i rhyddhaodd. Dododd Sion ei ddillad am ei gefn briw, a dywedodd Huw wrtho—"Yrwan, Sion, gad i mi roddi cynghor i ti. 1. Paid byth a chroesi fy llwybr ond hyny, oherwydd nid yw proffes grefyddol dyn yn ei wahardd rhag cospi cnafon. 2. Pan ai di i lunio lladrad eto dan gysgod coeden, sowndia hi, rhag ofn ei bod yn holo, a dyn o'r tu fewn yn clywed dy gynlluniau. 3. Ymdrecha droi dalen newydd—bydd yn ddyn sobr, heddychlon, a gonest. Bydd yn anhawdd i ti, bellach, enill parch yn y wlad yma; ond gelli mewn rhyw le newydd. Gan hyny, er mwyn talu da am ddrwg, ac er mwyn dy gynorthwyo i fyw'n well rhagllaw, dyma i ti sofren i fyned i ffwrdd o'r wlad yma. Ffarwel! Cofia'r cynghorion!"
PENNOD XIV.
Chwerw weithian yw y cwpan,
Weithiau mel, ac weithiau maeth;
Amryw yw treialon daear,
Weithiau gwell, ac weithiau gwaeth.
DIENW.
Yna y daw y diwedd."
Ni chymerwn arnom fedru portreadu teimladau Huw Huws wrth ddynesu at Lynlleifiad, yn yr hen "Amlwch Packet," gyda chyfran dda o'r tri chan' punt yn ei feddiant, yr hyn y bwriadai eu defnyddio i bwrcasu dillad newyddion, ac ymborth amheuthyn, i'w rieni a'i dair chwaer, ac i dalu am eu cludiad yn ol, gydag ef, i hen Gymru hoff.
Yr oedd tuag unarddeg o'r gloch y bore, pan gyrhaeddodd y llong borthladd Llynlleifiad. Prysurodd Huw i lanio. Dododd y fasged, yr hon a ddygodd gydag ef o Gymru, yn llawn danteithion gwledig, ar ei ysgwydd gref, a chychwynodd yn gyflym i chwilio am anedd ei rieni. Ni fu'n hir heb gael hyd i'r heol; ac ar ol tipyn o holi, cafodd hyd i'r ty hefyd. Ond wrth sylwi ar fudreddi a chulni'r heol, a golwg truenus y tai a'r trigolion, suddodd ei galon yn ei fynwes, a dywedodd rhyngddo ag ef ei hun—"Ai tybed mai lle fel hyn ydyw cartref fy rhai anwyl! A ydynt wedi eu darostwng gymaint ag i orfod byw yn y lle aflan yma !"
Aeth i mewn i'r ty. Yr oedd golwg druenus ar yr ystafell—dim cadeiriau, dim byrddau, dim tân—un ystôl fechan ar yr aelwyd, a dau bentwr o briddfeini wedi eu dodi ar eu gilydd, fel pe buasai Sibsiwn wedi bod yno yn trefnu lle i eistedd. Safodd Huw am fynud, heb wybod beth i'w wneud, ac yn ofni ei fod wedi cael ei gamarwain. Gollyngodd ochenaid drom, ac ar hyny, clywodd lais gwan, o'r ystafell arall, yn dywedyd
"Pwy sydd yna?"
Aeth Huw i'r ystafell hono, Gwelodd hen gist ffawydd ag yr oedd ef yn ei hadnabod er's lawer blwyddyn, a phentwr o hen ddillad arni.
Safodd fel un wedi ei syfrdanu. Yna dododd y fasged, oedd ar ei ysgwydd, ar y llawr yn ddisymwth, wrth deimlo rhywbeth tebyg i lewyg yn dyfod drosto, oherwydd efe a ganfyddodd wyneb gwelw, fel rhithlun o angeu, yn cyfodi yn araf o ganol y pentwr dillad oedd ar y gist ffawydd; a dau lygad glas, mawr, gloyw, treiddgraff, yn syllu arno gyda thremiad dwys a synedig; a'r foment nesaf clywodd ei enw yn cael ei seinio. Dyrchafodd waedd wyllt o lawenydd, a neidiodd at y gwrthddrych nychedig oedd yn estyn breichiau meinion ato. Yr oedd, mewn amrantiad, ar ei liniau wrth ochr gwely gwael ei chwaer hynaf, a hithau yn gwasgu ei breichiau esgyrniog ac egwan am ei wddf ef.
"Fy chwaer!" ebe Huw— "fy anwyl chwaer!--fy anwyl chwaer Mari! O! fy anwylaf Fari!—a gefais I hyd i ti o'r diwedd? Siarad a dy frawd, fy anwylaf Fari!"
Ond nis gallai gael ganddi ddweyd gair—dim ond dal wasgu ei breichiau am ei wddf gyda nerth mwy nag a allesid ddysgwyl gan freichiau mor feinion a churedig. Gwyrodd Huw ei wyneb ar obenydd ei chwaer, ac wylodd yn groch, gydag angerddoldeb nad oedd ei galon wedi dychymygu ei fodolaeth hyd y foment hono.
Dywedodd Mari o'r diwedd "Rwan, Huw bach, paid crïo fel yna—paid crio mor arw—ti a frifi dy hun, ac yr wyt yn brifo 'nhgalon inau!" a thynodd ei llaw deneu ar draws talcen poeth ei brawd. Ymdawelodd Huw yn ebrwydd wrth ystyried y gallasai ei gyffro ef niweidio ei chwaer. Cyfododd eisteddodd ar ymyl y gist cymerodd afael yn nwylaw ei chwaer—syllodd ar ei dwylaw, ac yn ei gwyneb, gyda golygon tebyg i ddyn wedi colli pob pelydryn o obaith o'i enaid. Daeth ffrwd o ddagrau i'w lygaid drachefn; ond ni chyfnewidiodd yr un gewyn yn ei wynebpryd i fradychu yr ing angerddol oedd yn llosgi yn ei galon. Ond gwelodd Mari y cyfan, a hi a ddywedodd
"Paid poeni dim ar fy nghownt I, Huw. Yr wyf yn ddigon hapus. 'Toes dim posib i neb fod yn fwy dedwydd nag wyf fi rwan. Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu, fy mhardwn wedi ei selio, ac yr wyf am gael myn'd adref at Iesu Grist yn bur fuan bellach. Yr wyf yn foddlon i fyn'd rwan. Yr unig beth oedd yn gwneud i mi ddymuno cael aros tipyn hwy ar y ddaear, oedd, eisio dy wel'd di, Huw; a dyma fy Nhad Nefol wedi gwrando fy ngweddiau i gyd rwan!"
Aeth llais difrifddwys, ond gorfoleddus, ei chwaer, i fewn i galon Huw. Cusanodd ei thalcen gwyn a llaith—rhwbiodd ei dwylaw teneuon yn dyner, a dywedodd
"O! fy anwyl Fari!—ni ddysgwyliais I mo hyn! Maddeu i mi am fod mor gyffrous. Ond pa le y maent i gyd?" "Allan—fy nhad hefo'i waith, a fy mam wedi myn'd i dy ryw Gymraes i olchi, a Sarah hefo hi."
Ni feddyliodd Huw am ofyn yn mha le'r oedd Lowri, gan ei fod yn credu ei bod hithau hefyd yn gweithio yn rhywle.
Estynodd Huw ychydig ffrwythau pêr, yn nghyda theisen gartref, flasus, o'r fasged, gan eu rhoddi i Mari. "Ο! Huw!" ebe hi, wrth fwyta'r ffrwythau-"mae nhw'n dda!--yr wyf yn 'u cyffelybu nhw i'r manna a gafodd Israeliaid yn yr anialwch!"
"Oes yma ddim glo yn y ty, Mari bach?"
"Nid wyf fi'n meddwl fod yma ddim rwan, Huw."
"Oes rhywun yn gwerthu glo yn y lle yma?"
"Oes, mae yna yard ychydig yn is i lawr y stryd."
Prysurodd Huw yno; ac yn fuan, yr oedd tân gwresog yn cynhesu'r ty, a thegell yn canu'n siriol ar y tân. Aeth Huw i siop gyfagos, phrynodd gyflawnder o fara, ymenyn, siwgr, a chig moch. Gwnaeth dê da i'w chwaer; ac yr oedd yn gweini yn brysur arni pan ddychwelodd Marged Huws adref yn ddiarwybod, a chanfod, er ei syndod dirfawr, bentwr o lo yn un gongl o'r gegin, tân mawr yn rhuo yn y grât, ac ymborth lawer ar yr ystôl bren ac ar y pentyrau priddfeini. Clywodd lais y brawd a'r chwaer yn yr ystafell arall, a daeth y dirgelwch yn amlwg iddi. Gyda gwaedd orfoleddus, hi a ymruthrodd i freichiau ei mab. Annghofiwyd pob trallod a blinder yn angerddoldeb serch. Treuliodd Huw awr ddedwydd yn nghwmni ei fam, a'i ddwy chwaer, Mari a Sarah. O'r diwedd efe a ofynodd
"Yn mha le mae Lowri? Yr wyf yn hiraethu am ei gweled?"
Aeth saeth lymach na dagr ddwyfin i galon y fam a'r ferch. Gwelodd Huw eu cyffro, a gofynodd yn frawychus—"Beth? a oes rhywbeth wedi dygwydd iddi?—a ydyw hi ddim yn iach?—ydyw hi—O, fy mam!—-arbedwch fi!—torwch fy mhryder!-a ydyw hi'n fyw?"
Gorchfygodd y fam ei theimladau, a dywedodd "Ydyw, machgen I—gobeithiaf ei bod hi'n fyw ac yn iach; ond y mae hi wedi myn'd o'r cartref. F'alla' daw hi'n ol yn fuan;" a chyda medr merch, hi a drôdd yr ymddyddan at bwnc arall, heb i lygaid meddwl Huw gael eu hagor yn iawn i ganfod yr hyn a ddygwyddasai i'w chwaer Lowri. Yna efe a ofynodd "Pa bryd y daw 'nhad adref?"
"Tua chwech o'r gloch."
"Yn mh'le y mae o'n gweithio?"
"Yn Birkenhead, rwan."
"Sut y mae o?"
"Wel, nid ydi o ddim yn reit iach, ond y mae'n well o lawer yr wythnos yma nag y buo fo."
Wedi treulio amryw oriau fel hyn, a phan oedd hi'n tynu at chwech o'r gloch, dywedodd Huw
"Mi a af am dipyn o dro, i gyfarfod fy nhad. Sut y caf fi hyd iddo?"
"Mi fydd ar y landing stage tua chwech."
Aeth Huw allan, a chyrhaeddodd y landing stage. Wedi bod yno am ychydig fynudau, yn edrych o'i gwmpas, gan ryfeddu at y bywiogrwydd, y gweithgarwch, a'r prysurdeb, cydiodd geneth led ieuanc yn ei fraich, gan ei gyfarch yn ffug-gariadus, a cheisio ei lithio. Syllodd Huw arni am foment, gyda golwg cymysg o lid a thosturi. Gwelodd fod ei olwg yn brawychu'r llances, ac fod ei gwedd yn gwelwi fel pe buasai angau'n tynu yn llinynau ei chalon. Gyda hyny, dyna'r llances yn rhoddi ysgrech uchel, galon—rwygol, fel pe buasai hi yn nghynddaredd gwallgofrwydd; rhedodd at ymyl y landing stage, ac ymdaflodd i ferw llif yr afon Mersey. Dyrchafwyd gwaedd o ddychryn ac alarwn gan y bobl; gwelwyd y corph yn ymgodi i wyneb y dwfr; neidiodd morwr ati, a chafodd afael yn ei gwallt cvn iddi suddo eilwaith; daliodd hi uwchlaw'r dwfr; aeth dynion eraill i'w gynorthwyo, gyda bad, a dygwyd y llances i'r lan. Ymwthiodd pawb, am y cryfaf, i geisio gweled y corph dideimlad, a Huw Huws yn eu plith, ond methodd a myned yn agos. Yn mhen ychydig fynudau, clywodd ryw ddyn yn gwaeddi, mewn Cymraeg croyw
"O, fy Nuw! fy Nuw!-dyma drallod newydd! Fy ngeneth gyfrgolledig I ydyw hi!—fy ail ferch!—fy Lowri!" Atebwyd llefau torcalonus y dyn, gan lef arall, groch, daranol, i'w chlywed uwchlaw pob twrf— "FY NHAD!" a gwelwyd Huw Huws yn cythru trwy'r bobl fel corwynt trwy grinwellt, a chyda chyflymdra meddwl, yr oedd y mab yn ymyl ei dad, a'r ddau yn cydgynal corphyn yr eneth anffodus Lowri!
DIWEDDGLO.
Ehedodd yspryd Mari, y noson hono, at Dduw, a'r geiriau olaf a glywyd o'i genau, oeddynt
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,
Ond fy anwyl Briod Iesu,
'Rhwn fu farw ar y Pren."
Ceisiwyd pob cymorth meddygol i Lowri; ac er iddi gael adferiad i deimladrwydd, ni fu hi byw ddim ond am ddau ddiwrnod. Nid allodd, gan ei gwendid, fynegu ond ychydig o'i hanes. Cyfaddefodd mai ei balchder a'i dirywiodd, a'i bod wedi gwerthu ei diweirdeb am wisgoedd gwychion. Yr oedd ei hangau yn arswydus, —ei chydwybod o'i mewn fel arthes wedi colli ei chenawon, a threngodd mewn dychrynfeydd annesgrifiadwy.
Aeth Huw, gyda'i rieni a'i chwaer fach, Sarah, yn ol i Gymru. Defnyddiodd ei dri chan punt i brynu y Ty Gwyn; ac yno y treuliodd William a Marged Huws weddill eu hoes; machludodd haul eu heinioes mewn tawelwch tangnefeddus. Yno hefyd y cartrefodd Huw Huws dros ystod rhelyw ei fywyd, ac yr oedd ei fuchedd yn tueddu at roddi pwysigrwydd, urddas, a pharchusrwydd ar nodweddiad
Y LLAFURWR CYMREIG.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.