Hynafiaethau Edeyrnion/Bettws Gwerfil Goch
← Lanfihangel Glyn Myfyr | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Enwogion Edeyrnion → |
BETTWS GWERFIL GOCH
Mae llawer o fanau yn Nghymru yn dwyn yr enw Bettws, megys Bettws yn nghwmwd Iscenin, yn agos i Landeilo Fawr; Bettws yn Rhos, ger Abergele; Bettws yn nghwmwd Uwch-hanes, yn nghantref Cydewain ar làn Hafren; Bettws Tir Iarll, yn Morganwg; Bettws Bledrws, yn nghwmwd Caewedros; Bettws Ieuan, yn nghwmwd Iscoed, yn Ngheredigion; Bettws Claerwy, yn nghwmiwd Penwyllt; Bettws Diserth, yn nghwmwd Llech Ddyfno, yn Maesyfed; Bettws Garmon; Bettws y Coed, yn Nant Conwy; a Bettws Gwerfil Goch. Am ystyr yr enw dywed Cynddelw fel hyn:"Myn rhai mai gair Cymraeg yw Bettws, yn golygu lle canolog rhwng mynydd a dyffryn; ond nis gallwn gael gwreiddyn Cymraeg iddo. Tebycach mai Eglwysair o'r canol oesoedd ydyw. Yr oedd gan y Pabyddion Lan, Capel, a Bettws. Y Llan oedd y prif grefydd-dy. Cangen ddibynol ar y Llan oedd y Capel. Chapel of ease—capel diogi, capel anwes. Nid yw yr athraw Rees, yn ei Welsh Saints, yn gwneud fawr o wahaniaeth rhwng Capel a Bettws. Mae tarddiad y gair yn ansicr ganddo ef, ond awgryma mai Bead House yw ei dadogair. Eraill a'i tarddant o Abbot House—ty Abad. Beads yw gleinian, neu baderan y Pabyddion; a thebygol mai lle i fyned i gyfrif eu paderau oedd y Bettws, yn yr hen amser, neu fan i droi ar eu teithiau wrth fyned ar bererindod o'r naill fan i'r llall," (Greal, Ebrill, 1869.)
Saif pentref y Bettws ryw 5 milldir o Gorwen, yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, Plwyf lled fynyddig yw y plwyf hwn ar y cyfan, yn cynwys ond rhyw 258 o drigolion. Ond cynwysa rai golygfeydd prydferth dros ben. Yn Bottegir, ffermdy yn yr ardal, y preswyliai yr enwog Filwriad Salusbury, yr hwn a amddiffyn. odd Gastell Dinbych gyda dewrder nodedig dros bedair wythnos ar ddeg.
Y mae yr Eglwys wedi ei chysegru i Mair, a chynwysai gynt hen gerfwaith mewn coed yn cynrychioli y croeshoeliad. Bu y cerflun hwn ar goll am amser maith, ond ar ol hir ymchwiliad fe'i cafwyd yn gladdedig mewn hen ysbwrial yn y twll dan y grisiau. Y mae wedi ei gyfleu uwchben yr allor yn bresenol yn ei gyflwr adferedig, ac oddiwrth y llythyrenau sydd yn aros— "Ecce Homo, Maria, Johannea,"—gellid barnu fod y cerfiad wedi ei wneud tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg neu y bymthegfed. Y mae yn y fynwent amryw brenau yw o agwedd tra hynafol, lle y clywir cryglais y gwynt o flaen ystormydd; ac y mae yr olwg arnynt yn dangos eu bod wedi blino yn ymladd brwydrau canrifoedd.
Wele restr o Berigloriaid y Bettws:-D. ap Ieun, 1537; H. ap Robert, 1566; E. Griffiths, 1589; T. Adkin, 1626; G. Hughes, 1660; D. Edwards, 1661; H. Owens, 1683; D. Wynne, 1684; S. Morgan, 1688; Edward Samuel, 1702; E. Jones, 1720; L. Jones, B.A., 1728; W. Jones, B.A., 1755; T. Owen, M.A., 1760; J. Lloyd, B. A., 1766; J. Hughes, 1794; J. Morgan, 1800; E. Edwards, 1822; W. Hnghes, 1851; W. Jones, 1877.