Hynafiaethau Edeyrnion/Edward Jones 2il
← Thomas Jones, Corwen | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Edward Jones (Bardd y Brenin) → |
EDWARD JONES, gweinidog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn agos i Gorwen, yn y flwyddyn 1775. Yn 1805 aeth i'r weinidogaeth deithiol, gan ddilyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg gyda chymeradwyaeth uchel yn Ngogledd a Dehau Cymru. Dyoddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn fardd lled wych. Bu farw yn 1838, yn 63 mlwydd oed.-(Enwogion Meirion).