Hynafiaethau Edeyrnion/Llansantffraid Glyn Dyfrdwy

Sylwadau Arweiniol Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Corwen


LLANSANTFFRAID GLYN DYFRDWY

Y mae y plwyf, yr hwn oedd gynt yn gysylltiedig â Chorwen, yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain yn sir Feirionydd, yn taro ar sir Ddinbych, ac yn cael ei ddyfrhau gan yr afon Dyfrdwy. Cynwysa bedwar cant a haner o erwau o dir llafur a phorfa, Cauwyd yr holl dir anniwylliedig drwy gyd-ddealltwriaeth heddychol rhwng y tirfeddianwyr yn y flwyddyn 1807. Ymunir â'r Dyfrdwy yn y plwyf hwn gan yr afon fechan Morwynion, sydd yn llifo i lawr o'r Morfydd. Y mae y golygfeydd amgylchynol yn dra amrywiol. Wrth syllu ar y dyffryn o safle fanteisiol uwchlaw Rhagad, gellir gweled yr afon yn ymdroelli fel sarff:

"Darwena'n swynol ar y doldir tonog,
Y llwyni hardd a'r bronydd mân twmpathog."-GLASYNYS

Gellir gweled dyffryn a mynydd, dôl a bryn, bob un yn ei brydferthwch ei hun, yn chwareu ei ran yn yr olygfa geinferth. Y mae Eglwys y plwyf yn ei ffurf bresenol wedi ei hadeiladu yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, gan i orlifiad y Dyfrdwy lwyr ysgubo yr adeilad blaenorol, gan ei roddi yn anrheg i'r môr. Ceir y penill canlynol ar lafar gwlad:-

"Dyfrdwy, Dyfrdwy fawr ei naid,
Aeth ag Eglwys Llansantffraid,
Y llyfrau bendigedig,
A'r gwpan arian hefyd."

Gobeithir fod awdwr y penill yn fwy cywir fel hanesydd nag ydyw o gywrain fel bardd. Ceir tair ywen o dyfiant ardderchog, a hen yr olwg arnynt, yn y fynwent, pa rai ydynt wedi gollwng eu dagrau i eneinio beddau llawer cenedlaeth. Darfu un Griffith Roberts, yr hwn a fu farw yn 1812, adael £20 yn ei ewyllys, llogau yr hyn sydd i'w rhanu rhwng tlodion yr ardal ar foreu dydd Nadolig. Ceir tai ar fin y Dyfrdwy, yn agos i gapel y Bedyddwyr, yn dwyn yr enw "Carchardy Owain Glyndwr;" a dywedir y byddai yr hen wron enwog hwnw yn cadw ei garcharorion rhyfel yn y lle. Yr ochr arall i'r afon, yn nghyfeiriad Llangollen, mae cae a elwir Dôl Penni, a'r traddodiad ydyw fod Owain unwaith wedi gosod nifer o bolion yn y maes hwn, a gwisgo pob un o honynt mewn gwisg filwraidd, er mwyn twyllo byddin y Sacson. Llwyddodd y ddyfais. Ymosodwyd yn ddidrugaredd ar y milwyr pren, y rhai nad oeddynt fymryn gwaeth; ac wedi i'r gelyn ddarfod ei saethau, ymosodwyd arno gan Owain. Bu brwydrau gwaedlyd rhwng Owain Glyndwr ac Arglwydd Grey o Ruthyn yn y parthau hyn, ond o'r diwedd gorfu i'r diweddaf dalu deng mil o farciau i'r blaenaf, a phriodi Jane ei bedwaredd ferch. Priodas ryfedd oedd hòno, ac nid oes genym ond gobeithio eu bod wedi byw yn ddedwydd hyd wahaniad angeu. Wele yn canlyn restr o Berigloriaid y plwyf o'r flwyddyn 1537 hyd yn awr:-Thomas ap Howel Vychan, 1537; Thomas ap John, 1556; David Labenton, 1560; Edward Jones, 1570; Maurice Davies, 1573; J. Ellis, 1587; R. Griffith, 1642; Thomas Jones, 1660; Edward Lloyd, 1664; Jenkin Maesmore, 1664; William Williams, 1702; James Langford, 1720; E. V. Pughe, 1771; Owen Lewis, 1781; Robert Prichard, 1798; Edward Roberts, 1799; John Hughes, 1812; J. Williams, 1835; D. Evans, 1862. Yr enwadau eraill yn y plwyf ydynt y Methodistiaid Calfinaidd, y rhai a ddechreuasant trwy gynal Ysgol Sul tua dechreu y ganrif hon. Adeiladasant gapel yn gynar yn y ganrif hon. Codasant gapel newydd hardd yn 1872. Y Bedyddwyr a ddechreuasant gynal Ysgol Sul yn llofft y Grouse. Codwyd capel yn 1832, yr hwn a helaethwyd yn 1850. Yn gysylltiedig â'r capel hwn ceir mynwent helaeth. Poblogaeth y plwyf, yn ol deiliadeb 1871, oedd 202.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llansanffraid Glyndyfrdwy
ar Wicipedia