Hynafiaethau Edeyrnion/Owain Brogyntyn
← Owain Gwynedd | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Thomas Jones, yr Almanaciwr → |
OWAIN BROGYNTYN.—Pendefig urddasol tua diwedd y 12fed canrif. Mab ydoedd i Madog ap Meredydd ap Bleddyn, tywysog Powys Fadog; a'i fam ydoedd ferch Y Maer Du o Rug, yn Edeymion. Rhoddes ei dad iddo arglwyddiaeth Edeyrnion, a'r cwmwd gerllaw a elwir Dinmael. Yr oedd ei balas yn Mrogyntyn (Porkington), gerllaw Croesoswallt, ac y mae olion ei aneddle i'w weled hyd y dydd hwn. Gwelir el achau yn ngwaith Lewis Dwn.