Hynafiaethau Edeyrnion/Parch. R. B. Clough, M.A.
← Elis Cadwaladr | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Hywel Cilan → |
PARCH. R. B. CLOUGH, M.A.[1], oedd Ficer Corwen. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 ml. oed. Yr oedd Mr. Clough wedi astudio y mesurau caethion, ac yn gallu canu yn lled gywrain ynddynt.
"Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd;
Modrwch glymu ymadrawdd,
Goleu teg o gload hawdd,"
meddai R. Davies, Nantglyn, wrtho. Dyma ddau englyn o'i waith ar farwolaeth y Parch. D. Richards (Dewi Silin), Periglor Llansilin-
"Dybenwyd, claddwyd mewn cledd—ein cyfaill,
Ow! cofiwn y tostedd;
Cri colli ein câr callwedd,
Dydd blin dwyn Silin o'i sedd.
"Dyn ardduag o ran urddau—un parchus
Yn perchen iach foesau;
Heb serthedd dygasedd gau
Anfoesawl o'i wefusau."
Yr oedd Mr. Clough yn hynod am ei nawdd i awenyddion, ac am
feithrin llenyddiaeth. Efe yn gyffredin fyddai y llywydd mewn
mân Eisteddfodau a gynelid yn Edeyrnion yn y chwarter cyntaf
o'r ganrif hon. Ceir yn yr hen Wyliedydd amryw farwnadau ar
ei ol gan Peter Llwyd, o Gwnodl Fawr, E. Jones (Britwn Ddu),
&c. Gosodir yma englynion buddugol ar ei ol, a enillasant mewn
Eisteddfod fechan yn y Ddwyryd, yn fuan ar ol ei farwolaeth.
Yr awdwr oedd Iolo Gwyddelwern, ac nid ydym yn credu iddynt
erioed fod yn argraffedig o'r blaen. Copïwyd hwy i'r ysgrifenydd
gan Rhuddfryn, yr hwn sydd yn fab yn nghyfraith i'r bardd
Iolo:—
"Pwy all ddal, cynal mewn co—mawr alar
Marwolaeth fath Gymro;
Perl ac enaint, braint ein bro,
Bu les mawr, heb lesmairio.
"Och! erfawr dirfawr derfyn—ar einioes
Wr enwog mor sydyn;
Offelriad, gwir offeryn,
I'wyllys Duw a lles dyn.
"Colofn deg, cofn ar g'oedd—i'r eglwys
Trwy eglur welthredoedd;
Colofn ein gwlad fad ef ydoedd,
I'n cu, lefn iaith—colofn oedd.
Gwnai farn yn gadarn gydiol—cytundeb
Mewn cyfiawnder deddfol;
Pwyllys wr, pell a siriol,
O destun fals dystion ffol,
"Ar ol ei siriol bwyllus araeth—gwag
Yw'r eglwys osywaeth;
Gwag Eisdeddfod, syndod saeth,
Mor o alar marwolaeth.
"Llais ddyrchai, erchai eirchion—mal utgorn
Aml atgof i ddynion;
Lles o air, ewylly's Ion,
Gwr—bugailiwr o galon.
"Ow! noddwr awenyddion—Ow! collwyd
Y calla' fardd tirion;
Mae'n rhwygiad a brathiad bron,
Ow! darniwyd nerth Edeyrnion.
"Bu farw i bob oferedd—holl ofwy
Hyll ofd a llygredd;
Byw wedi hyu byd o hedd,
Eiddo ei Dduw yn ddiddiwedd
"I'n goror neb hawddgarachi—oi pherl oedd,
Ffarwel iddo bellach;
E alwodd Ior i wledd iach,
Fywyd ef o fyd afiach."
—IOLO GWYDDELWERN.
Nodiadau
golygu- ↑ Roger Butler Clough