Hynafiaethau Edeyrnion/Syr Rhys o Drewyn

Hywel Cilan Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Cynfrig Hir

SYR RHYS O DREWYN.—Bardd yn blodeuo tua 1460, ac yn byw gerllaw Corwen.[1] Bu mewn ymryson barddonol gyda Gutto'r Glyn, bardd abat Glynegwestl, ger Llangollen, yr hwn a'i triniai yn arw, er y dywed—

"Offisiol a chyffeswr,
A meddyg im' oedd y gwr."

Cafodd Syr Rhys gynorthwy Tudur Penllyn, ond ymddengys fod Gutto yn drech na'r ddau. Arferid gynt alw gwŷr eglwysig with yr enw Syr fel y defnyddir y gair Parch, yn ein dyddiau ni.

Nodiadau

golygu
  1. Mae'n debyg mae Syr Rhys o'r Dre Wen ger Croesoswallt ydoedd nid Drewyn, Corwen (gw CPC Cymru Guto—Syr Rhys)