Hynafiaethau Nant Nantlle/Cofiannau Pen. 2

Cofiannau Pen. 1 Hynafiaethau Nant Nantlle

gan William Robert Ambrose

Cofiannau Pen. 3


PENNOD II.
Parhad Cofiannau.

Amcenir i'r bennod hon gynnwys ychydig o grybwyllion am rai o gymeriadau hynotaf y dyffryn hwn mor bell ag y ceir eu hanes ar lafar gwlad. Nis gallwn eu rhestru yn mhlith enwogion ein hardal, eto teimlwn fod yn perthyn i'w hanes ddigon o neillduolrwydd, fel ag i'n cyfiawnhau am neillduo pennod fechan ar eu cyfer.

MARGED UCH IVAN, neu Margaret ferch Evan, alias Peggy Evans, oedd yn gymeriad tra nodedig yn ei dydd. Yn agos i dollffordd y Gelli yr oedd yn weledig islaw y ffordd adfeilion adeilad a elwid gynt y Telyrnia. Yr amser yr oedd gwaith Drws y coed yn flodeuog tua 120 a a mwy o flynyddoedd yn ol, cedwid tafarn yn y lle hwn gan Margaret uch Ivan, fel y gelwid hi. Enw ei gŵr oedd William ab Rhisiart. Yr oedd Marged yn gallu cyflawni pethau anhygol, yn neillduol i ferch. Yr oedd yn medru gwneyd telyn a chrwth, a'u chwareu, a gallesid ei gweled ar brydnawniau hafaidd yn nrws y Telyrnia yn chwareu crwth neu delyn, a'i chwsmeriaid yn dawnsio o'i hamgylch. Wedi i'r gwaith copr farweiddio, ymddengys i'r teulu yma symud i fyw yn agos i Benllyn, Llanberis, lle yr ymgymerodd â chario y copr a gyfodid yn nhroed y Wyddfa i lawr mewn cychod i Benllyn. Ymwelodd Pennant, y teithiwr enwog, â'i thy yn Penllyn yn y flwyddyn 1786; ond gofidiai yn fawr nad oedd yr arwres gartref. Dywed Pennant ei bod hi y pryd hyny tua 90 mlwydd oed, mai hi oedd yr oreu am hela, pysgota, a saethu o neb yn y wlad. Cadwai o leiaf ddwsin o gŵn y pigion o bob rhywogaeth at hela, a sicrheir iddi gael mwy o lwynogod mewn un flwyddyn nag a ddaliodd yr heliwr goreu mewn deng mlynedd. Yr oedd yn medru pedoli ei cheffylau, gwneyd ei hesgidiau, gwneyd ei chychod a'u rhwyfo, ac yr oedd yn hollol hyddysg yn yr holl hen alawon Cymreig, fel y gallai eu chwareu yn gampus ar eu hofferynau. Pan yn 70 mlwydd oed nid oedd neb o'r bron a ymaflai godwm â hi oblegid cyfrifid hi yr oreu yn y wlad. Gelwid hi gan Pennant yn Queen of the Lakes (Brenin y llynoedd). Cenid ei chlodforedd gan holl feirdd y wlad, a chyfansoddwyd y llinellau canlynol gan awdwr Seisnig i'w rhoddi ar ei bedd:

"Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,
Could wrestle, row, fiddle, and hunt a fox too,
Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells,
That would charm your two ears-had there been any bells!
Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,
Commanded the saw-pit, and weilded the saw,
And though she's departed where you cannot find her,
I know she has left a few sisters behind her."


Ymddengys, fodd bynag, i angau ddyfod i ymaflyd codwm â'r fenyw ryfedd hon a'i rhoddi i lawr, lle yr erys o dan ei law hyd adgyfodiad y meirw. Y mae o'n blaen tra yr ydym yn ysgrifenu brint ymenyn cywrain o waith ei llaw feistrolgar. Gellid dyweyd nad oedd dim byd y'mron nad oedd Marged uch Ifan yn alluog i'w gyflawni, gan nad i ba grefft neu gelfyddyd y perthynai. Bu farw yn 92 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1788. Y mae haneswyr er dyddiau Pennant yn crybwyll hanes Marged mewn cysylltiad â Llanberis; ond dylid crybwyll mai yn y Telyrnia, Nantlle, y treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i hoes; ac am hyny gelwid hi yn Marged uch Ivan o'r Telyrnia.

MARTHA'R MYNYDD.—Ychydig gyda chan' mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o son am dani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hyny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dyeithr yn ei thy oddiwrth ryw fodau dyeithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu & phobl ereill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeiliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anweledigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dy Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dy Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fon wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Gutto-wirgast. Yr oedd Gutto wedi amheu mai twyll oedd y cwbl a honai Martha, a phenderfynodd fynu cyfle i wneyd prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed; ac un noswaith yn lled fuan ar ol i'r anffawd ddygwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Gutto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hyny gwaeddai Gutto, "Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Gutto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! Yn fuan ar ol y darganfyddiad yma, modd bynag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddysgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ol hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr twyll ac ofergoelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le yn Lloegr hefyd, pryd yr honai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid lluaws mawr a gredent hefyd i'r cabledd a'r ynfydrwydd hwnw!

ELIN DAFYDD Y GELLI.—Er ys tua 250 o flynyddoedd yn ol, yr oedd yn byw yn y Gelliffryda gwpl ysmala, nodedig o gyfoethog a chybyddlyd. Enw y gŵr oedd Dafydd Gruffydd, ac enw'r wraig oedd Elin Dafydd. Yr oeddynt yn daid a nain i Angharad James, y soniwyd am dani mewn pennod flaenorol. Nid oes genym ddim i'w ddyweyd am yr hen ŵr, amgen na'i fod yn lled gybyddlyd, ac wedi llwyddo i gasglu cyfoeth a ystyrid yn swm mawr yn y dyddiau hyny. Dywedir ei fod, pan yn glaf yn niwedd ei oes, wedi anfon am gyfreithiwr i wneyd ei ewyllys. Dechreuodd y gŵr claf enwi rhyw symiau anferth i hwn a'r llall, fel y penderfynodd y cyfreithiwr mai dyrysu yr oedd. "Mi a alwaf yma yfory," ebe'r cyfreithiwr, "dichon y byddwch yn well." "Y d——- mawr," ebe'r claf, "ai meddwl yr ydych fy mod yn wallgof?" Ac efe a archodd i ryw un agor y drawer oedd yn yr ystafell, lle yr oedd y cyfoeth mawr y cyfeiriai ato yn gorwedd. Wedi ei foddloni fel hyn aeth y cyfreithiwr yn mlaen â'i ddyledswydd. Ond yr oedd Elin Dafydd yn rhagori ar yr hen ŵr mewn cybydd-dra, fel y prawf yr hanes can-lynol:—Un tro danfonodd boneddwr oedd yn perchen tir yn y Nant ei was yma ar neges, ac a roddodd yn ei law haner coron, gan orchymyn iddo ei roddi i'r tylotaf a welai yn Nant Nantlle. Wedi edrych yn ddyfal am wrthddrych priodol i dderbyn yr elusen yma, o'r diwedd gwelai y gwas hen wraig yn hel brigwydd ar y tân. Yr oedd ei gwisg garpiog drosti, ei hosanau yn gandryll, a'r gwas a roddodd iddi yr haner coron, yr hon erbyn edrych, nid oedd yn neb amgen nag Elin Dafydd y Gelli. Pan y byddai yn gwlawio, yn enwedig ar ol sychder, byddai yr hen wraig yn arferol o ymdreiglo o dan fargod y ty, a'r dyferynau breision yn disgyn arni, a hithau yn llefain, "llaeth a menyn i mi." Ar y Suliau gellid ei gweled yn myned i fyny gyda'i rhaw a'i noe rhyngddi a Llyn a Ffynonau, i droi y dwfr o'r ddyfrffos, ac i ddal y pysgod gyda'r noe. Dygwyd aml i lonaid noe i lawr i'r Gelli ar y Sabboth yn y modd hwn. Dywedir mai i Elin Dafydd y daeth tê gyntaf erioed yn y gymydogaeth hon. Yr oedd i'r hen wraig ddwy nîth yn byw yn y Werddon, y rhai a ddaethant i ymweled â hi i'r Gelli, a chyda hwy dygasant bwys o dê yn anrheg i'w mhobryb. Pan ddaeth amser gwneyd y tê, yr hen wraig, gan na wyddai pa fodd i'w goginio yn well, a'i rhoddes i gyd mewn crochan i'w ferwi, ac wedi tywallt ymaith y dwfr a gyfododd y dail ar y treiswriau coed i'w fwyta! yr hyn a greodd gryn hwyl i'r boneddigesau, a cholled anaele ar y pwys tê. Ond gwele'n fod Elin Dafydd yn myned a mwy na'i rhan o'n gofod. Yr oedd i'r hen gwpl ddau o feibion, un o ba rai a briododd ferch Tan y castell, Dolyddelen, ac o'r briodas hon y deilliodd Angharad James, y wraig athrylithgar y cyfeiriwyd ati.

SION CAERONWY.—Uwchlaw y Gelliffryda y mae Caeronwy, lle yr oedd hen brydydd rhagorol yn byw tua dechreu y ganrif bresennol. Yr oedd John Jones, neu Sion Caeronwy, yn berchen awen rwydd a pharod; ond nid oedd ond dyn pur anllythyrenog; a phan y byddai wedi cyfansoddi rhyw ddernyn a ystyriai o werth, byddai yn myned dros y mynydd i'r Waenfawr, at Dafydd Ddu, i gael ei hysgrifenu. Ystyriai Dafydd Ddu ef fel yn tra rhagori arno ef am fywiogrwydd awenyddol, a'i allu i gyfansoddi yn ddidrafferth; ond o ddiffyg addysg briodol, ni chyrhaeddodd y drefn a'r coethder sydd yn nodweddu barddoniaeth 'Corph y Gainc." Y mae llawer o gerddi Duchan ar gof y bobl hyny sydd yn awr yn fyw; gallesid casglu llyfryn bychan bron ohonynt. Y maent yn hyned am swn cydseiniaid yn clecian," a buasai yn dda genym roddi un gerdd duchan a gyfansoddodd pan osodwyd treth ar Caeronwy; ond cymerai ormod, efallai, o le. Ar yr achlysur hwnw rhoes yr hen fardd Caeronwy i fyny, ac a adeiladodd dy ar y Common, a elwir yn awr Castell Caeronwy, lle bu y prydydd yn byw weddill ei ddyddiau.

SIAN FWYN.—Tua'r un adeg a Chaeronwy yr oedd Jane Roberts, neu fel yr adnabyddid hi gan y cyffredin Sian Fwyn, yn blodeuo. Yr oedd yn byw ar fynydd y Cilgwyn, yn y lle a elwir Samaria, ac yr oedd yn meddiannu tuedd gref, a llawer o allu prydyddol. Cyfansoddodd doraeth o emynau, amryw o ba rai a welir yn arffraffedig yn nghasgliad câr iddi, sef y Parch R. Jones. Darlunir hi fel hen wraig grefyddol iawn, yn llawn o hwyl moliannu bob amser; ac er ei bod yn dylawd, ac yn ymddibynu i gryn raddau ar elusenau at ddiwedd ei hoes, eto yr oedd yn dra chymeradwy gan ei chymydogion oll, a gair da iddi gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd hi yn mynwent y Bedyddwyr, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd hefyd yn aelod crefyddol. Ei diwedd oedd tangnefedd. Cyhoeddwyd cyfrol fechan o'i barddoniaeth, yn cynnwys caniadau moesol ac emynau.

WILLIAM OWEN. — Yn agos i'r man lle saif Hyfrydle, capel y Methodistiaid, yr oedd craig serth a neillduedig, a elwid Pulpud William Owen. Paham y galwyd y lle ar yr enw hwn a eglurir gan yr hanes canlynol: Tua phedwar ugain mlynedd yn ol yr oedd yn byw mewn bwthyn bychan gerllaw Talysarn hen lencyn neillduol o'r enw William Owen. Pan yn ieuanc cafodd ei frathu gan sarff yn agos i ffynon yr Hafodlas, yr hyn a'i hanalluogodd i gerdded ond wrth ei ffon weddill ei oes. Ymddengys ei fod yn Eglwyswr brwdfrydig; ac wedi iddo fethu dilyn y gwasanaeth yn Eglwys Llanllyfni, byddai yn dringo i'r graig y cyfeiriwyd ati i olwg yr eglwys, gyda'i Feibl a'i Lyfr Gweddi Cyffredin, ac yno darllenai yn fanwl y gweddiau a'r llithoedd a ddarllenid ar yr un adeg yn Llanllyfni. Dilynodd yr arferiad yma yn ddifeth am lawer o flynyddoedd gyda'r fath gysondeb nes y deuwyd i adnabod y graig fel Pulpud William Owen hyd heddyw. Yr oedd ganddo hefyd le yn agosach i'w dy, lle yr arferai gyda'r un cysondeb fyned dros y gwasanaeth hwyrol a'r gosber! Yr oedd William Owen yn byw yn unig mewn ty bychan o'r enw Ty'n y Coed, muriau yr hwn a welid hyd yn ddiweddar, a byddai ymarfer sicrhau y drws trwy osod pilar mawr o lechfaen i bwyso yn erbyn y ddor o'r tu mewn. Un diwrnod sylwai rhai oedd yn gweithio ar ei gyfer nad oedd mwg yn esgynody yr hen lanc, ac ofnasant nad oedd pob peth yn iawn; ac wedi llwyddo trwy anhawsdra i fyned i mewn, cawsant ef yn farw a fferedig yn ei wely! Mor druenus yw bywyd yr unig!


ROBERT YR AER.—Yr oedd yn byw yn Talysarn Uchaf gymeriad hynod a elwid Robert yr Aer, ac efe oedd aer neu berchenog y lle hwnw. Yr oedd amryw arferion digrif gan Robert, un o ba rai oedd y canlynol:—Cymerai bleser mawr mewn dal pren yn y tan nes y byddai wedi haner llosgi, wedi ei gael i'r cyflwr hwnw rhedai ag ef nerth ei draed er mwyn ei daflu i'r afon oedd gerllaw, er mwyn clywed y pren tanllyd yn ffrio wrth ddyfod i gyffyrddiad â'r dwfr? Yr aer hwn a drosglwyddodd ei holl direodd, ar y rhai y mae cloddfeydd llechau cyfoethog yn awr, i Mr. Garnons, ar yr amod fod iddo roddi £50 yn y flwyddyn iddo ef tra byddai efe byw; ond bu farw yr aer yn mhen tua blwyddyn ar ol y cytundeb hwn, a disgynodd ei dir yn eiddo Mr. Garnons, yr hwn nid oedd na châr na pherthynas iddo; ac felly y difuddiodd ei hiliogaeth ei hun o'r hyn a ddylasai eto fod yn meddiant rhai o'r teulu. Hen lanc oedd Robert ei hun, ac yr oedd yn byw y rhan olaf o'i oes mewn ystafell allan, berthynol i dy Talysarn Uchaf. Amryw ereill a haeddant gael eu crybwyll yn y dosbarth hwn, ond gan ein bod wedi enwi y rhai mwyaf nodedig, dichon mai terfynu y rhan yma o ddosbarth y Cofiannau fyddai cymhwysaf, er mwyn ini fyned rhagom at bethau mwy dyddorol a phwysig.

Nodiadau

golygu