Hynafiaethau Nant Nantlle/Hynafiaethau Pen. 2

Hynafiaethau Pen. 1 Hynafiaethau Nant Nantlle

gan William Robert Ambrose

Hynafiaethau Pen. 3


PENNOD II.
Parhad Hynafiaethau.
LLANLLYFNI.

Yn y bennod ganlynol ymdrechwn osod o flaen y darllenydd ychydig o grybwyllion am y lleoedd hynaf a hynotaf fel lleoedd addoliad crefyddol. Pa bryd y diflanodd Derwyddiaeth o'r wlad yma, ac y gwelwyd y Derwydd gyda'i farf wenllaes yn gweinyddu wrth allorau y Cilgwyn, yr esgynodd y fflam ddiweddaf oddiar allor Pennardd, neu y sychodd cwpanau gwaedlyd Cromlech Bachwen, nid i gael eu llenwi mwyach gan waed ebyrth, nis gallwn benderfynu, nag ychwaith fyned i mewn i'r amgylchiadau allent ein cynnorthwyo i gasglu; digon yw crybwyll fod genym seiliau cryfion i gasglu fod Cristionogaeth wedi blodeuo yn ardal Llanllyfni mor foreu a'r bedwaredd ganrif. Gwyddom i eglwysi Cristionogol gael eu sefydlu, a'u bod yn flodeuog iawn o dan lywodraeth Cystenyn. Yr had a hauwyd yn yr erlidigaeth blaenorol, ac a ddyfrhawyd â gwaed y merthyron o dan Rufain baganaidd a wreiddiodd ac a ddygodd ffrwyth toreithiog. Ac yn mysg ereill, cafodd y wlad hon fwynhau o'r tawelwch a'r adfywiad yn amser Cystenyn. Cynheuwyd lamp yn Llanllyfni na ddiffoddwyd eto, er iddo ymgolli o'n golwg ni yn nghanol niwl a thywyllwch y canol-oesoedd; ac y mae yn ddilys genym mae dyma y lle cyntaf o fewn terfynau ein testyn a fendithiwyd â "thy i Dduw," ac ar y cyfrif hwn y mae Eglwys Llanllyfni yn haeddu ein sylw blaenaf.

Mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru i Sant Rhedyw, neu Rhedicus, yr hwn a flodeuodd tua'r flwyddyn O.C. 316. Am y sant hwn dywed y Dr. W. O. Pugh nad oes dim o'i hanes ar gael; ond os oes rhyw bwys i'w roddi ar adroddiadau, y mae y rhai hyn yn rhoddi lle cryf i gasglu mai brodor o Arfon ydoedd, neu mai efe a blanodd eglwys Gristionogol gyntaf yn Llanllyfni. Ar un cyfnod o'i oes ceir ei fod yn llenwi lle uchel yn yr eglwys yn Augustodunum (Autwn) yn nhir Gâl (Ffrainc). Mae ei enw yn adnabyddus fel ysgrifenydd o gryn enwogrwydd, oblegid cymerodd ran neillduol yn nadl heresi Arius o Alexandria, yn nechreu y bedwerydd ganrif. Yr oedd yr eglwys yn Gâl yn blodeuo y pryd hyn o dan nawdd Constantius, gwr Helena, a thad Cystenyn Fawr. Heblaw fod yr eglwys bresennol yn gysegredig i'r sant hwn, y mae gerllaw yr eglwys ffynon neillduol a elwir Ffynon Rhedyw, a thyddyn hefyd a elwir Tyddyn Rhedyw. Ac heb fod neppell o'r lle yma, y mae lle arall a elwir Eisteddfa Rhedyw, lle y dywedir fod y sant yn byw am ryw gymaint o amser.

Yno dangosir gweddillion ei gadair, a phethau ereill perthynol iddo. Dangosir hefyd ôl traed ei geffyl, yn nghydag ôl ei fawd yntau ar gareg. Efe hefyd oedd tad Garmon, neu Germanus, arwr brwydr enwog Maes Gaermon, i'r hwn y mae amryw o eglwysydd yn Nghymru wedi eu cysegru i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn Eglwys Llanllyfni er's llawer o flynyddau yn ol fedd neillduol tu cefn i'r allor, tua dwy droedfedd yn uwch na'r llawr, a elwid Bedd Rhedyw; ond ar adgyweiriad yr eglwys gostyngwyd ef, ac y mae y maen oedd yn ei orchuddio wedi ei guddio yn awr gan yr eisteddleoedd, o flaen y ddarllenfa, yn nghorff yr eglwys.

Y mae un ran o'r eglwys hon o ymddangosiad pur henafol, ac ymddengys oddiwrth y dyddiad a gafwyd uwchben ffenestr ddwyreiniol y Gangell ei bod wedi ei helaethu i'w maint presennol yn y flwyddyn 1032; ond y mae y rhan arall ohoni yn hyn o lawer, ac o bosibl yr adeilad hynaf yn y wlad. Ar dalcen yr eglwys, o'r tu allan, yr oedd delw o Sant Rhedyw, yr hwn a berchid yn fawr gan yr addolwyr. Gyferbyn a'r ddelw yr oedd camfa, y ffordd y deuid i'r fynwent, ac ar ben y gamfa hon yr oedd careg wedi ei chafnio gan ôl gliniau yr addolwyr a ddeuent i'r gwasanaeth, oblegid ymgrymai pob un â'i lin ar y gareg hon o flaen delw y sant cyn myned i mewn i'w eglwys i addoli. Gellir gweled y gareg hon yn aros yn mur y fynwent, a llech uwch ei phen, a'r ymadrodd hwn yn gerfiedig arni:—" Y gareg a lefa o'r mur;" a buom yn ofalus i osod ein glin yn ol gliniau yr hen addolwyr o barch i'w defosiwn, er nad oes ar y pryd hwn unrhyw ddelw o'r nawdd-sant yn aros. Gwerth y fywioliaeth yn llyfrau y brenin yw £7 17s. 6d., gyda chynnysgaeth freninol o £200. Noddwr, Esgob Bangor.

CLYNNOG FAWR.

Y mae yr eglwys henafol ac ardderchog hon wedi ei chysegru i Sant Beuno, yr hwn oedd fab i Huwgi ab Gwynlliw Filwr, o'i wraig Penfferen, merch Llewddyn Lüyddog, o ddinas Eiddin (Edinburgh). Sylfaenold Beuno fangor neu fynachlog yma tua'r flwyddyn O.C. 616, ar dir a roddwyd iddo gan Gwyddeint, cefnder y brenin Cadwallon. Am yr amgylchiadau a arweiniasant i sylfaeniad y fangor, neu Eglwys St. Beuno, dichon mai priodol fyddai i ni adysgrifio y traddodiad yn eu cylch, yr hon sydd fel y canlyn:

"Ond y gŵr, penaf yn y ffydd oedd Cadfan, brenin Gwynedd, yr hwn a roes i Beuno lawer o dir. Ac wedi marw Cadfan aeth Beuno i ymweled â Chadwallon ei fab, yr hwn a'i dilynodd fel brenin Gwynedd. A deisyfodd Beuno gael y tir a addawsai Cadfan, oherwydd nad oedd ganddo yno le i addoli Duw, nac i breswylio ynddo. Yna y brenin a roddes i Beuno le yn Arfon a elwid Gwaredog, a'r sant a roddes i'r brenin deyrnwialen aur, yr hon a roisai Cynan ab Brochwel iddo ef wrth farw; a'r deyrnwialen oedd yn werth triugain muwch; ac yna Beuno a adeiladodd eglwys, ac a ddechreuodd wneyd mur o'i hamgylch; ac ar ddydd gwaith, pan oedd efe yn gwneyd y mur hwn, a'i ddisgyblion gydag ef, daeth atynt wraig a baban yn ei breichiau, gan erfyn ar y sant ei fendithio, ac yr oedd y plentyn yn wylo, ac ni chymerai ei dawelu. Yna gofynodd Beuno, 'Paham y mae y plentyn yn wylo?" 'Sant da,' ebai y wraig, rheswm da paham, canys y tir hwn wyt ti yn ei feddiannu, ac yn adeiladu arno, treftadaeth y plentyn hwn ydyw. Beuno, pan glywodd, a orchymynodd i'w ddysgyblion dynu eu dwylaw o'r gwaith, a pharotoi cerbyd iddo, fel y gallai gymeryd y wraig a'i baban o flaen y brenin i Gaer Saint; a phan gyrhaeddasant at y brenin, llefarodd Beuno wrth y brenin, gan ddywedyd, 'Paham y rhoddaist i ni dir gŵr arall?" "Pwy," ebai y brenin, 'sydd yn meddu hawl iddo?" Ebai Beuno wrth yntau, "y plentyn sydd yn mreichiau y wraig hon yw etifedd y tir; ac ychwanegai, 'Dyro i'r plentyn ei dir, a dyro i mi dir arall yn ei le, neu dyro i mi yn ol y deyrnwialen aur a roddaist i ti. Ond y brenin balch a gorthrymus a atebodd, 'Ni newidiaf y tir, ac am yr anrheg a roddaist i mi, myfi a'i rhoddais i arall." A Beuno a ddigiodd yn fawr, ac a ddywedodd wrth y brenin, "Mi a weddiaf ar Dduw na byddo genyt ti yn mhen ychydig dir yn y byd; ac aeth Beuno ymaith gan adael y brenin yn felldigedig. Yn awr, yr oedd yn bresennol ar y pryd gefnder i'r brenin Cadwallon a elwid Gwyddeint, yr hwn a ganlynodd ar ol y sant, ac a'i goddiweddodd ef ar y tu arall i afon Saint yn eistedd ar gareg. A Gwyddeint a roddes i Beuno dros ei enaid ei hun, a'r eiddo ei gefnder Cadwallon, dreflan Celynog am byth, heb na moel nac ardreth, ac a wnaeth hawl iddo ar y tir; ac yno yr adeiladodd Beuno ei fangor neu ei Eglwys."

"Bangor Beuno" a ddarlunir yn achau saint Ynys Prydain fel y glodforusaf o'r holl fangorau am ddwyfoldeb a gwybodau; ac wedi hyny y gwnaethpwyd hi yn fynachlog, a chafodd ei gwaddoli o bryd i bryd gan dywysogion Gwynedd. Yn ychwanegol at dref Celynog a roddwyd gan Gwyddeint, rhoddwyd Graianog gan y brenin Cadwaladr; Porthamel, gan Tegwared; Carn y Gewach, gan Merfyn; Bodweiliog a Bodfel yn Lleyn, Cadwgan ab Cynfelyn; Deneio, gan Rodri ab Merfyn; rhanau o Neigwl a Maestref, gan Gruffydd ab Tangwyn; Penrhos a Chlynnog Fechan, gan Idwal; a lluaws ereill o diroedd a gyfranwyd iddi gan y tywysogion, o ddyddiau Cadwallon hyd Gruffydd ab Llewelyn. Yn mhen ysbaid wedi i'r Eglwys gael ei gwneyd yn fynachlog, ymsefydlodd urdd y Carmeliaid, neu y Mynachod Gwynion yma; ond gwasgarwyd hwy rywbryd yn flaenorol i'r flwyddyn 1291. Bu yr Eglwys ar ol hyny yn Golegol, yn gynnwysedig o bump o brebenduriaid hyd amser Harri yr 8fed, pan y rhoddwyd y berigloriaeth i benaeth Coleg yr Iesu yn Rhydychain, a'r ficeriaeth i nawdd Esgob Bangor. Gwerth y berigloriaeth yn llyfrau y brenin yw £24, a'r ficeriaeth yn £6; ond y mae y flaenaf yn bresennol uwchlaw £900, a'r olaf dros £200.

Bernir i'r Eglwys bresennol gael ei hadeiladu tuag amser Edward y 4ydd, neu Harri y 7fed. Ei ffurf sydd ar lun croes, ac yn harddwych a chadarn ei hadeiladwaith. Mesura o hyd, o ddwyrain i orllewin, 138 o droedfeddi. Ei nen sydd doedig a phlwm, ac yn cael ei amgylchu â mur-ganllawiau. Y brif ffenestr yn y pen dwyreiniol oedd o amddangosiad gwych, yn cynnwys amrywiol ddarluniau mewn gwydr lliwiedig. Yn y pen gorllewinol ymgyfyd twr ysgwar, yn 75 troedfedd o uchder. Ar y muriau, yn neillduol tu fewn i'r gangell, y mae amryw o gof feini heirdd. O amgylch y gangell, ar gyfer yr allor, y mae 14 o hen eisteddleoedd mynachaidd, a llun gwyneb mynach wedi ei gerfio ar du blaen yr astell sydd rhwng pob eisteddle. Yn y mur, ar y tu dehau i'r allor y mae y noe yr hon a ddaliai y dwfr sanctaidd, a cherllaw iddi dri o dyllau addurnedig yn y mur, yn y rhai yr eisteddai yr offeiriaid gweinyddol. Yr oedd gynt, rhwng corff yr eglwys a'r gangell, lofft yn cael ei chynnal gan golofnau addurnol a rhwydwaith fwaog, yr hon, modd bynag, erbyn hyn sydd wedi ei thynu ymaith. Addurnir y muriau gan amryw gofddalenau caboledig, ac y mae yr oll yn gwasanaethu er gwneyd yr adeilad hon yn un o'r temlau helaethaf a godidocaf yn y Dywysogaeth.

Wrth ystlys ddeheuol yr eglwys y mae Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd. Y mae yr adeilad yma yn cael ei gysylltu â'r eglwys gan fynedfa dywell tua phum' llath o hyd, yn doedig a cheryg mawrion, ac o ymddangosiad llawer henach na'r eglwys na'r capel. Ymddengys mai yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol yr eglwys yr adeiladwyd y capel:— oblegid y mae Leland, with son am yr eglwys, yr hon oedd bron yn newydd yn ei amser ef, yn cyfeirio at yr hen eglwys adfeiliedig yn yr hon y gorweddai llwch y nawdd sant enwog. Yr oedd yn weledig yn nechreu y ganrif hon feddfaen mawr yn nghanol y capel, a elwid Bedd Beuno; ond tua yr adeg hono darfu i Arglwydd Newborough osod dynion ar waith i gloddio iddo, mewn gobaith dyfod o hyd i esgyrn y sant a rhyw greiriau cysegredig ereill. Drylliwyd y maen oedd arno i ryw raddau; ac y mae golygydd 'Cyff Beuno' yn crybwyll iddo ef weled rhanau o'r hen faen gan ryw grydd o'r pentref yn galan hogi! Yr oedd ffenestr fawr Capel Beuno yn addurnedig ar y cyntaf gan amrywiol ddarluniau o'r pethau hynottaf a gymerasant le yn mywyd y sant; yn awr, modd bynag, gwydr cyffredin sydd yno.

Ychydig i'r gorllewin y mae Ffynon Beuno, yr hon sydd wedi ei hamgylchu â mur pedair onglog, uwchlaw dwy lath o uchder. Amgylchir hi hefyd gan eisteddleoedd a grisiau, ond yn awr y mae y muriau yn adfeiliedig. Yn y ffynnon hon arferid trochi babanod, ac ereill ag y byddai rhyw nychdod neu afiechyd arnynt, ac wedi hyny gosodid hwy i orwedd dros nos ar fedd-faen Beuno yn ei gapel; oblegid yr oedd y werin gynt yn ddigon ofergoelus i gredu fod rhyw fath o gyfaredd yn perthyn i'r bedd, fel yr iachai pob clefyd wrth i'r dyoddefydd gael ei ddwyn i gyffyrddiad fel hyn âg ef. Y cyfryw oedd eu cred mewn arferiad ag a ystyrid yn awr yn ddigonol achos o drancedigaeth. O'r ffynnon hon y mae trigolion presennol pentref Clynnog yn cael dwfr i'w yfed, ac y mae o'r ansawdd iachusaf a phuraf.

Yn y festri berthynol i'r eglwys hon cedwir hen ddodrefnyn rhyfedd a elwir Cyff Beuno. Cist ydyw, wedi ei gwneyd o un darn o bren, a'i gafnio oddimewn, a rhan ei arwyneb wedi ei lifio allan i fod yn gauad arno. Y mae clasbiau cryfion o haiarn am y gwyneb a'r ochrau, a bollt o haiarn yn rhedeg trwy dair o hespenau, ar y rhai y mae tri o gloiau, a'r agoriadau a gedwid gan yr offeiriad a'r ddau Warden, ac ni ellid ei hagor heb fod y tri yn bresennol. I'r hen gist hon y bwrid rhoddion gwirfoddol y bobl, y rhai a ddefnyddid at wasanaeth crefydd, ac i'w cyfranu yn mhlith y rhai mwyaf anghenus. Agorwyd y cyff hwn yn mis Rhagfyr, 1688; a chafwyd ynddo, mewn gwahanol fathiadau, y swm o £15 8s. 3c. Agorwyd ef y tro diweddaf trwy orchymyn Deon Bangor, a chafwyd ynddo benadur ac amryw ddarnau llai. Y tro hwn bu raid galw gwasanaeth gof i dori yr hesbenau, gan fod yr agoriadau wedi myned ar goll ac heb eu hadferyd. Bu yr hen arch yma yn cael ei gadw yn y gangell, lle yr offrymid rhoddion ynddo; ond y mae yn awr yn ddiddefnydd ond fel crair hynafol yn unig. Nid yw gwerin Clynnog mwyach yn credu yn nghyfaredd y cyff, na'r bedd ychwaith; ond achwynai ysgrifenydd yn chwerw mewn erthygl yn yr 'Arch. Camb.' na fuasai pobl Clynnog yn dangos mwy o barch i'w hynafiaeth, trwy ei symud o'r festri i'r lle y gellir ei weled, heb gymeryd y drafferth o'i lusgo o'i sefyllfa laith i oleuni, yr hyn nid yw yn bleserus i neb, nac yn fanteisiol i'r hen gyff ei hunan. Yr oedd gan y werin yma ddiareb, wedi ei sylfaenu ar gadernid yr hen gist hon, canys pan gynnygid at rywbeth anhawdd neu anmhosibl, dywedid, "Byddai cystal i chwi geisio tori Cyff Beuno."

Ni fyddai yn briodol ini adael yr eglwys hon heb grybwyll am "Tiboeth," neu "Dibeeth," sef hen lyfr mewn llawysgrifen a gedwid yn yr eglwys hon. Cynnwysai hanes eglwysig tra henafol, yn benaf, fe ddichon, mewn cysylltiad â'r sefydliad hwn ei hunan. Galwyd ef "Diboeth" am iddo gael ei ddiogelu rhag llosgi, er i'r eglwys losgi fwy nag unwaith. Yr oedd cloriau haiarn am dano, ac felly mae yn debyg y diogelwyd ef rhag llosgi. Gwelwyd y llyfr hwn gan Dr. Thomas Williams o Drefriw yn 1594; ar ol hyny ni chlybuwyd dim am dano; ond tybiwyd unwaith i Iolo Morganwg ddyfod o hyd iddo, yr hyn mae yn ddiau oedd gamgymeriad, pe amgen buasai rhyw gyfeiriad ato yn ei lawysgrifau, a'i gynnwysiad wedi ei gyhoeddi. Cyfrifir fod mynwent Clynnog yn filldir o amgylchedd. Y mae yn tyfu ynddi luaws o goed cedyrn, hynafol, goruwch brigau y rhai, modd bynag, y mae clochdy yr eglwys yn ymddyrchafu er eu gwaethaf. Y mae yma le tawel, neillduedig, fel gorphwysfa meirwon; ac O! y fath dorf sydd wedi eu cludo yma er dyddiau y sylfaenydd enwog Beuno, hyd ddyddiau Eben Vardd, pa rai oeddynt ill deuoedd yn teimlo serch ac ymlyniad angherddol at y llanerch neillduedig, a phob peth oedd yn dal cysylltiad ag addoliad o'r Gwir Dduw o fewn y deml henafol a pharchedig. Y mae hyd yn nod pen llwydni a dadfeiliad hen sefydliadau fel hyn yn hawlio iddynt ein parch a'n hedmygedd penaf.

BETTWS GWERNRHIW.

Yn agos i borthordy Glynllifon y mae adfeilion eglwys fechan a elwir Bettws Gwernrhiw, eto yn weledig. Nid ydym yn gwybod mwy am hanes yr eglwys yma nag a ellir ei gasglu oddiwrth yr enw. Nid yw hynafiaethwyr, mae yn wir, yn cytuno am ystyr a tharddiad yr enw "Bettws." Deillia, medd rhai, o'r Saesneg, Bead House (Ty Gweddi). Ereill a dybiant mai gair Cymraeg am lawrbant, neu le isel rhwng dau fryn, ydyw. A'r mwyafrif fe ddichon a'i holrheiniant i Ys-bwyd-ty, sef y gair Cymraeg am Hospitium neu Hospital; ond cytunant oll i olrhain sefydliad yr eglwysydd a elwir Bettws i gyfnod y "Crwysgadau" neu Ryfeloedd y Groes. Daeth i'r wlad hon urdd fynachaidd o'r enw "Knight Hospittalus" yn amser y rhyfeloedd uchod, a dybenion blaenaf yr urdd hon oedd noddi y rhyfelwyr neu y pererinion ar eu mynediad neu eu dychweliad o'r Tir Sanctaidd.

Yn amser Hari yr 2il a Richard y laf ffurfiwyd cymdeithas a elwid "Cymdeithas Marchogion Ioan o Gaersalem," amcan proffesedig yr hon oedd ymgeleddu a chynnorthwyo y pererinion a ymwelent â'r Tir Sanctaidd. Ac mewn cysylltiad â'r amcan hwn codasant ar hyd y wlad amryw ysbytai ac addysgdai ar ddull eglwysydd, lle cyfrenid addysg ysbrydol, o dan lumanau y gwananol urddau; ac fe fernir yn gyffredinol fod yr eglwysydd a gyfenwir Ysbwyd-ti, neu Bettws, yn perthyn i'r cyfnod hwn, ac wedi eu sylfaenu gan y gymdeithas hono, o ba rai y mae Bettws Gwernrhiw, gerllaw Glynllifon, yn un. Ymddengys y gair Bettws gyntaf yn amser trethiad y bywiolaethau drwy orchymyn y Pab Nicolas, tua'r flwyddyn 1292. Yr oedd yr yspytwyr yn arfer gwisgo hugan neu wisg wen, gyda chroes goch ar ei chefn a'i gwyneb. Tybir i eglwys y Bettws Gwernrhiw gael ei defnyddio fel capel teuluaidd perthynol i deulu y Wynniaid o'r Glynllifon. Gelwir y lle weithiau yn Ysbyty y Plas Newydd, am yr hwn y ceir y crybwylliad canlynol yn y 'Brython' am 1861:—" Thomas Wynn, ab Thomas Wynn, ab Syr Ricy Person Gwyn, ab Robert ab Robyn, ab Meredydd. Bu y Person Gwyn yn Abad Aberconwy, ac yn ei amser ef y troes y ffydd ac y colles ef ei le ac a briododd."

CAPEL LLEUAR.

Yr oedd hyd yn ddiweddar adfeilion eglwys neu gapel teuluaidd ar dir Lleuar a elwid yn Capel Lleuar. Safai ar lechwedd-dir uwchlaw yr afon mewn cae a elwir Cae-y-capel. Bu yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â theulu Lleuar, ac yr oedd degwm yr etifeddiaeth yn cael ei gyflwyno at ddwyn traul y gwasanaeth ynddi. Deallwn i ymgais gael ei wneyd yn ddiweddar gan ficer Clynnog am gael y degwm at wasanaeth eglwys y plwyf; ond trwy ymyriad y perchenog, yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, ni lwyddwyd i'w gael, o ba herwydd y mae y ddwy fferam a elwir Lleuar Fawr a Lleuar Bach yn rhydd oddiwrtho.

Y rhai a enwyd ydynt yr oll o'r eglwysydd o fewn terfynau ein testyn, y rhai a haeddant sylw neillduol ar gyfrif eu hynafiaeth. Ond cyn gadael y pwnc hwn, efallai y byddai yn briodol ini grybwyll am yr elusenau a roddwyd at wahanol achosion mewn cysylltiad â'r eglwysydd hyn. Mewn adroddiad a anfonwyd i'r Senedd yn 1786, mynegid fod Jonathan Edwards, D.D., wedi gadael £10, a'r Parah. Philip Twisleton £20 i'w rhanu i dlodion plwyf Clynnog. Ac yn ol cofnodiad yn llyfr y plwyf, ymddengys fod yr arian wedi eu rhoddi allan ar log i George Twisleton, Ysw., dan ammod ysgrif, dyddiedig Mai 4ydd, 1716, yr hon ysgrif a ddodwyd yn nghadwraeth y Parch. Edmund Price, ficer Clynnog, ac a aeth ar goll, fel nad oes mwyach ddim o'i hanes ar gael, a'r tlodion wedi eu hymddifadu o bob budd oddiwrthi.

Yn ei ewyllys dyddiedig yn y flwyddyn 1820, gadawodd David Ellis Nanney, Ysw., y swm o £30 i ficer Clynnog a'i olynwyr, fel y gallent eu rhoddi allan ar log, yr hwn oedd i gael ei ranu rhwng y tlodion mwyaf haeddiannol perthynol i'r plwyf uchod ar Ddydd Gwyl Domos bob blwyddyn. Y swm hwn a dalwyd i'r ficer, ac yntau a'u rhoddes dan amodrwym i blwyfolion Clynnag am log o 30s., yr hyn a renir gan y ficer bob blwyddyn mewn symiau bychan o 6c. ac uchod, yn ol trefniad yr ewyllys.

Mewn tir-lyfr perthynol i blwyf Llanllyfni y mae cofnodiad, dyddiedig yn 1776, yn rhoi ar ddeall ddarfod i un Richard Evans adael 10s. yn y flwyddyn i dlodion y plwyf yma. Yr arian a ddeillient oddiwrth dyddyn a elwid y Felin Geryg; ac yr oeddynt i gael eu rhanu ar yr 21ain o Ragfyr, gan y person a'r wardeniaid. Deallwn fod y tlodion wedi cael eu hysbeilio o'r elusen hon eto, gan na chawsant eu rhanu bellach er's amryw flynyddoedd. Daeth y tyddyn yn ddiweddar i feddiant Mr. Owen Rogers, Talysarn; ond nid ydym yn gwybod a ydyw yr awdurdod sydd yn trosgwlyddo yr arian i'r tlodion wedi ei ymddiried i'w ofal. Os ydynt nid oes ynom unrhyw amheuasth na fydd i'r boneddwr uchod gyflawni y rhan yma o ewyllys. y gwladgarwr ffyddlawn Richard Evans, trwy adferyd y 10s. blynyddol i dlodion y plwyf.

Nodiadau

golygu