Hynafiaethau Nant Nantlle/Hynafiaethau Pen. 4

Hynafiaethau Pen. 3 Hynafiaethau Nant Nantlle

gan William Robert Ambrose

Cofiannau Pen. 1


PENNOD IV.
Parhad Hynafiaethau.

Yn y bennod hon ymdrechwn roddi i'r darllenydd fyr grybwyllion am rai o'r cymeriadau mwyaf cyhoeddus fuont yn dwyn perthynas â'r dyffryn hwn. Er fod pob talent o'r bron wedi ymddangos yma, a rhywrai rhagorol yn mhob cangen o lenyddiaeth wedi bod yn preswylio yma, eto ofer fyddai i ni geisio perswadio y darllenydd mai yma yr ymddysgleiriodd y talentau mwyaf, er y gellir, efallai, honi hyny mewn cysylltiad âg ychydig iawn o niferi. Ni fyddwn yn amcanu at ddim mwy na chrybwyllion, hyd yn oed am y rhai ag y gellir cael defnyddiau hanes. Digon i gyfateb i'n hamgylchiadau ni yn bresennol yw bras-grybwyllion yn unig.

GWILYM DDU O ARFON oedd fardd enwog yn ei flodau o'r flwyddyn 1280 i 1320. Yr oedd yn byw mewn lle a elwir Tyddyn Tudur, yn awr o fewn parc y Glynllifon. Gelwid adfeilion ei gartref yn "Furiau Gwilym Ddu, ac yr oeddent yn weledig hyd tua 30 mlynedd yn ol, pryd y chwalwyd hwy, ac y mae coed yn awr yn tyfu dros y lle yr oedd llawr ty y bardd; a dywedwyd wrthym fod pren gwyrddlas, gwahanol ei rywogaeth i'r rhelyw yn tyfu yn y fan lle 'roedd aelwyd y bardd unwaith. Argraffwyd tair o ganeuon Gwilym Ddu yn y Myv. Arch., dwy o ba rai a gyfansoddwyd i Syr Gruffydd Llwyd, o Dregarnedd Mon, a Llys Dinorwig, yn Arfon. Cafodd Gruffydd Llwyd ei greu yn farwn, oherwydd mai efe oedd y cyntaf i gludo i Iorwerth y 1af y newydd eni mab iddo yn Nghastell Caerynarfon. Rhoddwyd iddo hefyd Lys Dinorwig, yr hwn a berthynai i'r tywysogion Cymreig, ac yn yr hwn y preswylient dros gyfnod yn amser hela fforestydd y Wyddfa. Yn mhen talm o amser cododd Gruffydd wrthryfel yn erbyn y Goron, a gasglodd yn nghyd fyddin o wirfoddolwyr, ac a ddystrywiodd lawer o fanau a berthynent i'r Saeson trwy bob rhan o Wynedd; ond yn y diwedd efe a ddaliwyd ac a garcharwyd. Ar yr achlysur hwn y cyfansoddodd Gwilym Ddu ei "Awdl y Misoedd," yr hon a gynnwysa tua 62 o linellau, ac enw yr awdwr gyda'i ddyddiad (1322) wrthi.

RHYS PENNARDD.—Yr oedd y bardd hwn yn ei flodeu o'r flwyddyn 1460 i 1490. Dywed E. Thomas nad yw yn eglur wrth y cofnodiad a geir am dano pa un ai o Glynnog ai o Gonwy yr oedd; ond y dyb gryfaf ydyw mai o'r lle blaenaf. Y mae amryw o'i gyfansoddiadau ar gael mewn llawysgrifen. Claddwyd ef yn Llandrillo, yn Edeyrnion, Meirionydd.

HYWEL GETHIN oedd fardd ac achyddwr galluog, yn byw rhwng y flwyddyn 1570 a'r flwyddyn 1600. Pwy oedd Hywel Gethin o ran teulu, a pha le yn Nghlynnog yr oedd yn byw, nid wyf yn gwybod; nid ellais ddeall fod un cof na thraddodiad am dano wedi aros yn y plwyf, nid oes neb yn y gymydogaeth y bum i yn ymddyddan a hwynt am dano erioed wedi clywed son am ei enw, er nad oes fawr dros ddau gant o flynyddoedd er pan oedd yn ei flodau; clywais amryw yn crybwyll am un Gutto Gethin oedd yn byw braidd gymaint a hyny o amser yn ol, mi feddyliwn, oblegid dywedir mai saer maen digymar am gryfder ei waith oedd, ac mai efe a adeiladodd y New Inn a Hafod y Wern, yn Nghlynnog, dau hen dy, y gellid dyddio eu hadeiladaeth rywbryd gan belled yn ol ag amser Oliver Cromwell, o leiaf, ac yn darawiadol o debyg yn eu cynllun a'u gweithred. Sonir hyd heddyw am "Bin Gutto Gethin," yr hwn oedd yn ddiarebol o ddiogel, trwy ei fod yn cael ei osod yn yr adeilad a'r pen ffurfaf i fewn. Crybwylla Owen Gruffydd yn ei achau fod un Japheth Gethin (yr hwn, fel y gellid casglu, oedd yn gydoeswr âg) yn disgyn o genedl Rhys Gethin; pa un a oedd y Cethiniaid hyn i gyd wedi deillio oddiwrth yr hen wron gerwin hwnw nis gwn, a bydd arnaf flys garw gwybod tipyn o edryd hen fechgyn fel hyn, oeddynt yn eu dydd yn medru cyflawni tipyn o orchest mewn llenyddiaeth neu law-weithyddiaeth. Dyma fel yr ysgrifenai Mr. Thomas mewn nodiad cysylltiedig â chywydd o eiddo y bardd Hywel Gethin a adysgrifenyd ganddo i'r 'Brython' am 1860.

MICHAEL PRISIART.—Bardd ieuanc athrylithgar a anwyd yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1710. Enw ei dad oedd Risiart Prisiart, o Lanllyfni. Gwehydd oedd Michael wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn ddysgybl barddonel i Owen Gruffudd, o Lanystumdwy, ar ol yr hwn hefyd y cyfansoddodd gywydd marwnad rhagorol, ac a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth yn y 'Gwladgarwr.' Yn yr un cyhoeddiad hefyd ymddangosodd ei Gywydd i'r Wyddfa, yn nghyda lluaws o gyfansoddiadau ereill o'i eiddo.

Dygwyddodd i'r bardd ar ryw achlysur neu gilydd fod mewn swyddfa cyfreithiwr yn Beaumaris, ac yno cyfarfyddodd â'i hen gymydog, Ffowc Jones, yr Udganwr, yr hwn a annerchodd Michael fel hyn:—"Michael, pa le mae'r meichie?" "Y mae wrth law draw'n y dre'," ebai Michael yn ddiymaros. Pwy ddamweiniodd fod yn clywed yr atebiad parod, ond W. Bulkeley, ysw., o'r Bryn du, Mon, yr hwn oedd ei hun yn fardd ac yn achleswr beirdd a barddoniaeth; a chan ei fod yn foneddwr cyfoethog a haelfrydig, efe a gymerodd Michael ato i'r Bryn du yn arddwr iddo. Yn fuan ar ol iddo symud yno daeth angau, yr hwn ni eiriach na bardd na garddwr heibio i'r ardd, ac a dorodd y planigyn tyner hwn i lawr, a Michael druan a fu farw, a chladdwyd ef yn mynwent sech Llanfechell, lle nad oes ond y dywarchen las yn unig yn gorchuddio ei fedd. Cymerodd hyn le yn 1731, cyn iddo gyraedd ei 22ain mlwydd oed. Rhyfedd na buasai y boneddwr hael a charedig yn cyfodi gwyddfa iddo, ac y mae yn anhawdd genym gredu pe claddesid ef yn ei lan enedigol y gadawsai chwarelwyr llenorol Nantlle feddrod un o'u bechgyn athrylithgar heb gof-golofn deilwng o'i enwogrwydd.

ANGHARAD JAMES.—Yr oedd yn byw yn y Gelliffrydau, yn agos i'r Baladeulyn tua 200 mlynedd yn ol ŵr a wraig o'r enw James Davies ac Angharad Humphreys, ac iddynt yr oedd merch a elwid yn ol y drefn Gymreig Angharad James, yr hon oedd yn feddiannol ar raddau uchel o athrylith a dysgeidiaeth. Yr oedd hefyd yn meddu tuedd gref at farddddoniaeth; ac ymddengys iddi gyfansoddi llyfr o farddoniaeth ei hunan, yr hwn ni chyhoeddwyd erioed mor bell ag y deallasom. Nyni a ddyfynwn yr hanes desgrifiadol a ganlyn am y foneddiges awdurol hon o 'Gofiant y Parch. J. Jones, yr hwn oedd yn ddisgynydd o'r un teulu a hithau. Fel hyn y dywed y Parch. O. Thomas:—"Cyfrifid Angharad James yn wraig nodedig yn ei dydd, yn anghyffredin felly o feddwl cryf ac athrylithgar, yn hynod o wrol a phenderfynol, ac wedi cael dysgeidiaeth uchel iawn. Nid ydym yn gwybod yn mha le y derbyniodd ei haddysg; ond yr oedd ei rhieni mewn sefyllfa uchel y byd, ac o bosibl, eu hunain yn gweled gwerth dysgeidiaeth, ac yn ofalus am roddi i'w merch y manteision gereu i hyny. Yr oedd Angharad James, pa fodd bynag, wedi esgyn i'r hyn oedd yn mhell o fod yn gyffredin, nid yn unig yn y dyddiau hyny, ond eto hefyd. Yr oedd yn gwbl hyddysg yn yr iaith Lladin, yn gyfarwydd iawn yn nghyfreithiau y deyrnas, ac yn cael ei chydnabod yn un o wybodaeth dra helaeth. Yr oedd rhai o'i llyfrau Lladin ar gael yn mhlith ei disgynyddion hyd yn ddiweddar, a dichen fod rhai ohonynt eto. Yr oedd hefyd yn dra hoff o farddoniaeth, ac yn arfer cyfansoddi llawer ei hun. Yr oedd llyfr helaeth o'i barddoniaeth ar gael hyd o fewn llai na haner can' mlynedd yn ol yn ei llawysgrifen hi ei hunan. Bu yn menthyg yn nwylaw y diweddar Mr. G. Williams, Braich Talog, Llandegai, (Gutyn Peris) am dymmor, yr hwn a ddywedai ei fod yn hollol hysbys i'r hen feirdd ac y gelwid ef y 'Llyfr Coch,' am mai ag inc coch yr ysgrifenasid ef. Yr oedd gan Angharad hefyd delyn, ac yr oedd yn dra hoff o chwareu arni. Cyn myned i orphwys y nos ar yr awr bennodol, byddai raid i'r holl deulu, y gweision a'r morwynion, ddyfod yn nghyd i ddawnsio am ryw gymaint o amser, tra byddai eu meistres awdurdodol yn chwareu ar y delyn." Dylid crybwyll yma iddi briodi pan oedd tuag 20 oed, a myned i fyw i'r Parlwr Panaman, Dolyddelen, lle yr oedd yn cario yn mlaen yr arferion neillduol at y rhai y cyfeiria Mr. Thomas. "Pan fyddai y gwartheg yn yr haf yn mhell oddiwrth y ty, tuag Aberleinw, elai Angharad gyda'r morwynion i odro, ac wrth ddychwelyd adref, rhoddid y beichiau llaeth i lawr mewn lle pennodol, fel y gallent orphwyso. Yna canai y feistres, tra yr ymroddai y morwynion i ddawnsio. Dyna oedd yr arferiad, pa un ai ar wlaw a'i hindda, nid oedd un gwahaniaeth, yr oedd yn rhaid myned trwy y ddefod, a galwyd y lle hwn yn 'Glwt y Ddawns' hyd y dydd hwn. Yr oedd yn cael ei chyfrif yn wraig nødedig o foesol; ac yn ol syniad yr amseroedd yn dra chrefyddol; ac oblegid y cymeriad oedd iddi am ei dysgeidiaeth, a'i chydnabyddiaeth â chyfreithiau y deyrnas, yn nghyda gwroldeb ei hysbryd, a'r dull arglwyddaidd ac awdurdodol oedd gwbl naturiol iddi, yr oedd gradd o'i harswyd ar yr holl wlad o'i hamgylch.

HYWEL ERYRI.—Hugh Evans, neu Hywel Eryri, oedd fardd cywrain a fu yn byw am y rhan fwyaf o'i oes yn y gymydogaeth hon, er ei fod yn enedigol o Lanfair-mathafarn-eithaf, yn Mon. Gwehydd oedd efe wrth ei alwedigaeth, a lled isel ydoedd ar hyd ei oes o ran ei amgylchiadau tymmorol. Bu fyw am ysbaid yn Abererch, gerllaw Pwllheli, am dros y rhan fwyaf o'i oes mewn lle a elwir Plas Madog, yn agos i Glynnog. Bu fyw y rhan ddiweddaf o'i oes yn Penygroes, lle hefyd y bu farw. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau yn wasgaredig yn ngwahanol gylchgronau a chyfnodolion ei oes. Dywedai Eben Fardd fod rhediad naturiol ei ddawn at duchan; ac y mae ar gof yr ardalwyr luaws mawr o'i gerddi duchan, yn y rhai y dirmygai mewn ymadroddion llym a chyrhaeddgar y cyfryw a'i tramgwyddent. Ganwyd ef o gylch y flwyddyn 1764, a bu farw yn Mhenygroes, yn 1809, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr Albanaidd, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd efe hefyd yn aelod eglwysig.

EDMUND A FFOWC PRYS. —Mewn rhestr o enwogion Arfon a gyhoedd o lawysgrif D. Ddu Eryri yn y 'Brython' am 1860, crybwyllir enwau Edmund a Ffowc Prys, meibion yr Archddiacon Edmund Prys, o'r Tyddyn Du, Maentwrog, ac awdwr byd-enwog y 'Salmau Cân,' Amryw ereill hefyd, megys Iolo Meirion yn ei draethawd buddugol ar enwogion sir Feirionydd a grybwylla am danynt fel meibion i'r Arch. ddiacon. Dywedai y Parch. J. Jones, Llanllyfni ar y pen hwn "fod meibion ac ŵyrion yr Archddiacon Prys wedi bod yn llafurio yn y Nant." Yn ol y rhestr y cyfeirir ati uchod, yr oedd Edmund a Ffowc Prys yn blodeuo tua'r flwyddyn 1702, pryd y dywedir fod yr Archddiacon wedi marw yn y flwyddyn 1624. Ystyrier y gwahaniaeth rhwng 1702 a 1624, a gwelir fod y mab yn blodeuo bedwar ugain mlynedd ond dwy ar ol marwolaeth y tad! Rhaid eu bod wedi myned yn hen iawn cyn blodeuo? Tybiai Eben Fardd, ar sail llythyr o eiddo Goronwy Owain at un William Morys, mai ŵyrion, nid meibion oeddynt y Parchedigion Edmund a Ffowc Prys; y blaenaf yn ficer yn Nghlynnog, a'r olaf yn berson yn Llanllyfni. Ymddengys fod Edmund Prys yn fardd lled enwog fel ei daid, fel y prawf ei englynion i Ellis Wynn, awdwr 'Bardd Cwsg,' y rhai a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a'i gyfieithiad o 'Reol Buchedd Sanctaidd.' Yr oeddynt hefyd yn gyffelyb i'w taid yn ysgolheigion o radd uchel, yr hwn, fel y dywedir, ydoedd yn hyddysg mewn wyth o wahanol ieithoedd. Bu E. Prys, ficer Clynnog farw yn y flwyddyn 1718, ac y mae careg bedd Ffowe Prys i'w gweled yn llawr Eglwys Llanllyfni.

PARCH. RICHARD NANNEY.—Yr oedd y gwr enwog hwn yn berson Llanaelhaiarn, ac yn ficer Clynnog o gylch y flwyddyn 1723. Ganwyd ef yn Cefndeuddwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, Meirionydd. Ei rieni oeddynt Robert Nanney o Cefndeuddwr, a Martha, merch Richard ab Edward o Nanhoron, yn Lleyn. Wedi iddo briodi ag Elizabeth, merch hynaf William Wynn o'r Wern, cymerodd lease ar Elernion, Llanaelhaiarn, ac yno y bu fyw yn fawr ei barch am haner can mlynedd. "Offeiriad hynod am ei dduwioldeb, ac am ei lwyr ymroddiad i'w swydd gysegredig oedd y Parch. Richard Nanney: dywedir y byddai eglwys Clynnog Fawr yn orlawn yn ei amser ef, a'r gynnulleidfa fel tyrfa yn cadw gwyl mewn llais can a moliant, ac adsain defosiwn yn llenwi yr holl le." (E. Fardd yn 'Nghyff Beuno'.) Ceir y desgrfiad canlynol o'r gwr parchedig yma gan awdwr 'Drych yr Amseroedd:'—" Cyfrifid ef fel pregethwr yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr urddasol: nid oedd gofalon bydol yn cael nemawr o le ar ei feddyliau; oblegid nid adwaenai ei anifeiliaid ei hun, ond yr un fyddai efe yn ei farchogaeth. Ond O! er mor foesol a phrydferth oedd ei ymddygiad yn ystod ei fywyd, eto nid oedd pelydr yr efengyl, na'r anadl oddiwrth y pedwar gwynt, yn effeithioli ei weinidogaeth i gyrhaedd calonau ei wrandawyr yr holl amser hyn; ond yn niwedd ei ddyddiau cododd goleuni yn yr hwyr, daeth arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth, a bu fel diferiad diliau mel i lawer o eneidiau trallodedig. Ymgasglai lluaws mawr o amryw blwyfydd i wrando arno, nes y byddai eglwys fawr Clynnog yn haner llawn: byddai raid ei gynnorthwyo i'r pulpud rai gweithiau o achos ei henaint a'i lesgedd. Yn ol pregethu eisteddai i lawr yn y pulpud i aros i'r gynnulleidfa ganu salm neu hymn, a byddai yn fynych dywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi calonau llawer o'r gwrandawyr, nes y byddai y deml fawr yn adseinio yn beraidd o haleluiah i Dduw a'r Oen. Bu farw y gwr parchedig hwn yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau-dros 80 oed."

ROBERT ROBERTS, CLYNNOG. —Tua chanol y ganrif o'r blaen yr oedd yn byw yn Ffridd Baladeulyn wr a gwraig grefyddol o'r enwau Robert Thomas a Chathrine Jones; a bu iddynt ddau o feibion, y rhai a ddaethant yn mhen amser yn weinidogion enwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Yr hynaf o honynt, John, a anwyd yn 1752; a phan yn fachgen oedd o dymer addfwyn, lonydd, a myfyrgar; ac yn mlynyddoedd aeddfedaf ei fywyd oedd yn bregethwr melus ac efengylaidd. Yr ieuengaf o honynt, â'r hwn y mae a fynom yn fwyaf neillduol, a anwyd yn 1762, oedd o dymer fywiog, chwareus, a thanbaid; ac mewn amser dilynol a ddaeth yn un o'r gweinidogion mwyaf tanllyd ac effeithiol a gyfododd erioed, o bosibl, yn Ngwynedd. Bu John dros ryw ysbaid a amser yn cadw ysgol yn Nghlynog, ond symudodd i Langwm, yn sir Feirionydd, lle diweddodd ei yrfa mewn tangnefedd, Tach. 3ydd, 1834, yn 82 mlwydd oed, Efe oedd tad yr athrylithgar ac anffodus Michael Roberts, Pwllheli. Yr oedd iddo ferch hefyd yn meddu ar raddau o athrylith, a dywedir mai hi a gyfansoddodd yr emyn prydferth sydd yn dechreu â'r llinell hon:—-"Mi gysgaf hun yn dawel," &c. Parhaodd y cysylltiad rhwng Robert Roberts a'r ardal hon dros y rhan fwyaf o'i oes. Cychwynodd ei yrfa fel chwarelwr yn y gloddfa; ond pan ymunodd â chrefydd, yn unarbymtheg oed, newidodd ei alwedigaeth, ac a aethi wasanaethu fel gwas ar fferm. Mewn cysylltiad a'r gwaith hwn cyflogodd i fyned i wasanaeth rhieni y Parch. R. Jones, Coed Caed Du, lle bu mab y Parch. R. Jones (y Wern ar ol hyny) yn gymhorth iddo addysgu ei hunan. Bu am ychydig fisoedd wedi hyny gydag Evan Richardson, yn Nghaerynarfon; a dyna gymaint o fanteision addysg a gafodd; er hyny, trwy ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd, meistrolodd yr iaith Saesenaeg i'r fath raddau nes bod yn alluog i ddefnyddio yr awduron Seisnig ar faterion duwinyddol. Yr oedd ei ymddangosiad personol yn wael, ffurf ei gorph yn grwca ac eiddil, yr hyn a achlysurwyd trwy oerfel neu ysigdod. Er yr anfanteision hyn yr oedd rhyw nerth a dylanwad rhyfedd yn canlyn ei weinidogaeth. Treuliai ysbaid o amser cyn pregethu mewn ymdrech gyda Duw, ac ymollyngai dan angerddoldeb ei deimlad i wylo yn hidl. Disgynai ei ymadroddion fel taranfolltau ar glustiau ei wrandawyr, a byddai dyspeidiau disymwth ac annisgwyliadwy yn nghanol ffrydlef danllyd o hyawdledd, yn peri effeithiau annesgrifiadwy. A chan y gall y darllenydd weled desgrifiad cyflawnach o hono, gyda chyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn ei hanes, wedi ei ysgrifenu gan ei nai, ni fydd ini yma ychwanegu. Cyfansoddodd Dewi Wyn farwnad doddedig i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn byw y rhan fwyaf a'r olaf o'i oes wrth y Capel Uchaf a bu farw yn 1802 yn 40 mlwydd oed. Y mae yr englyn canlynol o waith Eben Fardd yn gerfiedig ar ei fedd yn mynwent Eglwys Beuno Sant':

"Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol
Fu'r gwr mewn dylanwad;
Seraph o'r nef yn siarad
Oedd ei lun yn ngwydd ei wlad."

Y PARCH. WILLIAM ROBERTS ydoedd weinidog nid anenwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Ganwyd ef yn yr Hendre Bach, yn agos i Glynnog, lle bu ei deulu yn trigianu er's mwy na 300 mlynedd. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Bedyddwyr, ac yn bobl hynod o grefyddol. Eithr eu mab, pan oedd tuag ugain mlwydd oed, a ymunodd â'r Methodistiaid yn y Capel Uchaf. Efe, oddiar anogaeth a gafodd gan Mr. Charles o'r Bala, a ddechreuodd gadw Ysgol Sabbothol gyntaf yn y lle. Lle hefyd y traddododd ei bregeth gyntaf mewn wylnos un o deulu y Ty'nllwyn. Yr oedd hyny yn y flwyddyn 1804. Ordeiniwyd ef i gyfawn waith y weinidogaeth yn 1819. Ni chafodd William Roberts, mwy na'r mwyafrif yn ei oes, ond ychydig o fanteision addysg foreuol. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth i deithio drwy Dde a Gogledd, a threfydd Lloegr. Yr oedd yn araf a phwyllog yn ei ymddiddanion, yn sych ac ymresymiadol wrth draddodi ei bregethau, ac yn aml iawn yn faith—yn afresymol felly—am ba herwydd ni bu erioed yn boblogaidd ond gydag ychydig o'r dosbarth mwyaf darllengar. Yr oedd yn gyfarwydd iawn mewn hanesiaeth ysgrythyrol ac eglwysig; yn gartrefol yn mhrophwydoliaethau Daniel ac Ioan, a gelwid ef yn fynych yr "Hen Brophwyd o'r Hendre Bach." Yr oedd hefyd yn cael ei gydnabod yn wr o brofiad a synwyr cryf mewn cynadleddau, ac yn sefyll yn uchel mewn parch gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Ei brif lafur fel awdwr oedd ei 'Draethawd ar yr Ordinhad o Fedydd.' Cyhoeddodd hefyd ddetholion o weiehiau y Parch. J. A. James, o Birmingham, ar yr Ysgol Sabbothol. Aeth yn gwbl ddall yn mlynyddoedd diweddaf ei oes: ond parhai i fyned oddiamgylch felly i bregethu. Yr oedd yn wr o gorpholaeth cadarn, ond lled anniben, ac o feddwl cawraidd, ond ei fod yn ddiwres. Bu farw yn nhrigfod ei hynafiaid Hyd. 14eg, 1857, yn 84 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Capel Uchaf, lle gwelir ar ei fedd englyn o waith ei gymydog athrylithgar Eben Fardd.

PARCH. JOHN JONES, TALYSARN. — Y mae cymaint wedi cael ei ysgrifenu am y gwr mawr hwn, yn neillduol yn ei 'Gofiant' anghydmarol gan y Parch. O. Thomas, Liverpool, fel mai mursendod ynom ni fyddai gwneyd un ymgais i gyfeirio at brif amgylchiadau ei fywyd, na phrif nodweddau ei gymeriad. Gellir meddwl ei fod wedi cael cyfiawnder yn y cofiannau, y marwnadau, yr anthemau, yn mha rai y mae prif dalentau Cymru am y cyntaf i dalu gwarogaeth i fawredd a gwerth y cymeriad a ddarlunir ganddynt. Ganwyd ef yn Tanycastell, Dolyddelen, Mawrth 17eg, 1796. Olrheiniai ei achau o dy ei dad i Hedd Molwynog, sylfaenydd un o'r Pymtheg Llwyth; ac o du ei fam i Einion Efell, Arglwydd Cynllaeth. Ymunodd â chrefydd pan yn 22 mlwydd oed, a phregethodd yn gyhoeddus gyntaf yn y Garnedd, yn agos i Dolyddelen, yn 1820, ac ordeiniwyd ef yn y Bala yn 1829. Wedi pregethu am yr ysbaid o 33 o flynyddoedd, bu farw ar y dydd Sabboth, Awst 17eg, 1857. Claddwyd ef y Gwener canlynol, a chynwysai ei angladd tua 70 o weinidogion a phregethwyr, tua 100 o swyddogion eglwysig, 200 o gantorion, 40 o gerbydau, a thua 5000 o bobl ar draed, yr angladd lluosocaf a welwyd erioed o bosibl yn Nyffryn Nantlle. Parhaodd cysylltiad y Parch. John Jones a'r gymydogaeth hon o ddechreu y flwyddyn 1823 hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai y flwyddyn hono priododd â Frances. Edwards, merch Thomas Edwards, Taldrwst, yr hon sydd wedi ei oroesi. Bu Mrs. Jones yn "ymgeledd gymwys" iddo yn mhob ystyr; cymerai ofal masnach a dygiad i fyny deulu lluosog ar ei hysgwyddau ei hunan; a thrwy fendith Duw ar ei llafur hi yn benaf, dygasant i fyny deulu lluosog yn anrhydeddus, a llwyddasant i grynhoi swm mawr o gyfoeth, nes y daeth y teulu hwn gyda'r mwyaf dylanwadol yn y Nant. Yn fuan ar ol iddynt briodi, perchenog y chwarel a adeiladodd dy a shop iddynt yn ymyl y capel. Gerllaw y ty yr oedd gallt goediog, yn yr hon y gellid gweled "pregethwr y bobl" yn cerdded ol a blaen, a'i ddwylaw ar ei gefn o dan ei gõt. Dyma y fan lle y cenhedlwyd y meddylddrychau, ac y lluniwyd y broddegau o dan y rhai yr ysgydwid cynnulleidfaoedd mawrion Cymru fel coedwig o dan yr awel. Buom yn teimlo arswyd cysegredig wrth sangu y llanerch hon, fel pe buasai yr ysbryd mawr fu yn cymdeithasu & Duw yn y fan yma wedi gadael ei ddelw ar y creigiau o amgylch. Yn awr y mae yr hen gapel a'r hen dy wedi eu chwalu, a malurion y cloddfeydd wedi gorchuddio y fan bron yn hollol. Bernir i gysylltiadau agosach y Parch. John Jones a'r byd, yn y rhan olaf o'i oes, trwy iddo ymgymeryd â goruchwyliaeth chwarel, anmharu ar ddysgleirdeb ei weinidogaeth, yr hyn a barodd ofid i'r wlad, a'r hyn, pan ddeallodd yntau, yr ymryddhaodd oddiwrtho. Adeiladodd fasnachdy helaeth wrth y ffordd sydd yn arwain o Benygroes i Nantlle; ac yno diweddodd ei oes ar yr 17eg o Awst, 1857. Mae y bobl hynaf yma yn caru son am dano, yn caru adrodd ei sylwadau mewn cyfeillachau, a'i weddiau ar amgylchiadau neillduol. Bywyd ydoedd yr eiddo ef a adawodd y fath argraff ar holl gylch ei ddylanwad, nad oes ond y dydd mawr a'i dengys. Y mae yr had a hauwyd ganddo yn dwyn ffrwyth yn nghrefyddolder y wlad oddiamgylch. Ni fu neb mwy, os mor boblogaidd ag efe, yn y rhan hon o Wynedd, ac a barhaodd i fwynhau yr unrhyw hyd ei farwolaeth. O ran tuedd ei gredo a'i athrawiaeth cyhuddid John Jones o bregethu Arminiaeth a phethau "croes i athrawiaeth iachus." Addefir i'w weinidogaeth greu cyfnod newydd yn y dull o bregethu yn mysg gweinidogion y cyfundeb y perthynai iddo. Sylwai y Parch. M. Hughes, diweddar o'r Felinheli, mai "John Jones a fu y prif offeryn i greu y dull newydd yn mhlith y Methodistiaid yn Nghymru. Yr hen ddull oedd pregethu ar bynciau athrawiaethol. Teimlodd llawer, nid yn unig yn mysg y Methodistiaid, ond hefyd yn mysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, fod rhyw ddiffyg pwysig yn y dull hwnw, ac y dylasai y pechadur yntau wneyd rhywbeth er sicrhau ei gadwedigaeth." Blaenorid yn y drefn newydd o bregethu yn mysg y Bedyddwyr gan y Parch. J. P. Davies o Dredegar; yn mysg yr Annibynwyr gan Williams o'r Wern; ac yn mhlith y Methodistiaid gan Jones o Talysarn. Derbyniasant ill trioedd wrthwynebiadau cryfion ar y cyntaf. Bu llawer o'r hen flaenoriaid yn doctora uwch eu penau, ond hwynthwy a orfuant, a chydnabyddir yn lled gyffredin, erbyn hyn, mai hwynthwy oedd yn gywir. Ond er ei holl ddefnyddioldeb, ei barch, a'i boblogrwydd, efe a fu farw. Cyfodwyd cofgolofn ysblenydd uwch ei fedd trwy danysgrifiadau ei gyfeillion, ar yr hon y mae crynhodeb o ragoriaethau ei gymeriad. Cyfansoddodd Eben Fardd ddau englyn i'r golofn hon, y rhai a ddodwn ger bron yma:

Jones Talsarn wnaeth yn ddarnau—y cestyll
Castiog lochent ddrygau;
Cliriodd hwynt, er cael rhyddhau—plant pechod
Drwy waed yr amod, o'u diriaid rwymau.

Jones Talsarn—nid barn, nid bedd—a bylant
Belydr ei glaer fuchedd;
Ni ad Duw ei genad hedd-a'i fri tal
I ffawd anwadal, a phw! dinodedd.


Y PARCH. JOHN JONES, M. A.—Y nesaf o ran amser, ac nid y lleiaf o ran teilyngdod, ceir y Parch. John Jones, person Llanllyfni. Ganwyd ef yn y Lleddfa, gerllaw Machynlleth, yn swydd Feirionydd. Derbyniodd ei addysg elfenol yn Ysgol Ramadegol, Bangor. Symudodd drachefn i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle graddiwyd ef yn Athraw yn y Celfyddydau. Priododd âg Elizabeth, merch John Jones, ysw., Bryn Hir, a chwaer y diweddar Owen Jones Ellis Nanney, o'r Gwynfryn; ac y mae hi wedi ei oroesi, ac eto yn byw yn Mhenygroes. Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Eglwys Llanllyfni am yr ysbaid maith o 43 o flynyddoedd. Cyhoeddodd saith o bregethau yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, eithr ei hoff bwnc oedd Hynafiaethau, ac yn y gangen hon o lenyddiaeth Gymraeg gellir ei osod ar ben y rhestr o ddynion ei oes. Ysgrifenodd amryw babyrau yn dwyn cysylltiad â hynafiaethau y wlad hon i wahanol gyfnodolion; ac ymddangosodd erthyglau ysgolheigaidd o'i eiddo yn yr 'Arch. Cambrensis,' yn nghyda'r 'Cymro yr Amserau,' &c. Gadawodd ar ei ol swm mawr o MSS., y rhan fwyaf o ba rai a gyflwynwyd gan ei gymun-weinyddwyr i Gymdeithas y 'Camb. Arch. Association.' Gwasgarwyd llawer o'i lyfrau a'i ysgrifau yn yr arwerthiant fu arnynt; ac yr oedd efe ei hun yn niwedd ei oes mor ddiystyr o ffrwyth ei lafur boreuol, fel y sylwyd arno yn llosgi ei ysgrifau gwerthfawr fel difyrwch iddo ei hun a'i ŵyrion bychain. Bu farw y Parch. John Jones yn mis Chwefror, 1863, yn 77 mlwydd oed, ac y mae ei fedd yn mynwent Eglwys Sant Rhedyw, a drwg genym oedd ei weled heb unrhyw fath o golofn na beddadail, dim ond "careg arw a dwy lythyren dorodd rhyw anghelfydd—law" i ddynodi ei orphwysfa. Tra mae lluosogrwydd o greaduriaid dinod yn eu bywyd wedi eu hanrhydeddu yn eu marwolaeth â chof-golofnau heirdd, y mae yn resyn meddwl fod bedd yr hynafiaethydd hybarch yn cael ei esgeuluso.

D. AB HU FEDDYG. —David William Pughe, ysw., neu D. ab Hu Feddyg, M.R.C.S., oedd fab ieuangaf David Roberts Pughe, Brondirion, Clynnog. Heblaw ei fod yn feddyg clodfawr, yr oedd yn hynafiaethydd craff, ac ysgrifenydd gwir alluog. Ysgrifenodd amryw o gyfrolau yn cynnwys hanes Cestyll Caerynarfon, Conwy, Beaumaris, Harlech, yn nghyda llyfr ar 'Awstralia, neu ar wlad yr aur; ac hefyd ysgrifenodd luaws o erthyglau galluog i'r 'Arch. Camb., yn nghyda chyfnodolion ereill. Yr oedd efe yn gyfaill ffyddlon iawn i Eben Fardd, a'r bardd iddo yntau. Yr oedd hefyd yn feddyg ei deulu, a gwnaeth bob peth oedd yn ei allu er adferyd iechyd, ac achub bywydau anwyliaid y bardd; ond trechai y gelyn diweddaf bob ymdrechion o'i eiddo. Dengys y dyfyniad canlynol y fath feddyliau uchel oedd gan Mr. Thomas am dano, yr hwn a gawsai y fantais oreu i'w adnabod. Rhoddwn y geiriau yma fel eu hysgrifenwyd hwy:—-"The demise of the above gentlemen requires a prominent notice, inasmuch as he was an excellent Literary character, and an author of great aptitude, endowed with a noble, vigorous genius, and possessing talents of rare brilliancy. Being therefore addicted from boyhood to reading and study, he soon became through the accessory influence of habit and taste, a marked Literate, exhibiting a rather immoderate passion for literary enjoyments. Having stored his mind with an infinite variety of knowledge and general information, well digested and arranged in the memory, he seemed always very ready to impart it to others, either through the press, or by oral delivery in lec-turing and conversation." Wedi gwanwyn a haf gwych ac addawol, daeth pruddfeddyliau yn tarddu o afiachusrwydd i orlethu ei enaid athrylithgar, nes ei ddyeithrio bron yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas ac ymdrech am y pedair blynedd diweddaf o'i yrfa. Ar foreu Sadwrn yn mis Tachwedd, 1862, hunodd yn dawel i brofi gwirionedd llinellau a fynych goffeid ganddo yn anterth ei drallodion.

"Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd."

Yn foneddwr o alluoedd anghyffredin fel llenor a chelfyddydwr, ysbeiliwyd Cymru o un o'r rhai mwyaf gobeithiol o'i meibion, trwy ei flynyddoedd o gystudd a'i farwolaeth anamserol. Claddwyd ef yn mynwent Clynnog yn agos i fedd ei gyfaill, Eben Fardd; ac y mae gwyddfa hardd ar ei fedd, a'r ddwy linell a goffâwyd yn gerfiedig arni. Nid oedd ond 41 mlwydd oed.

EBEN FARDD.—Y mae enw Mr. Ebenezer Thomas, neu Eben Fardd, yn gysylltiedig â'r gymydogaeth hon er's llawer o flynyddoedd, ac mor gyhoeddus trwy bob rhan o Gymru, fel mai afreidiol i ni fanylu ar ei. hanes. Dechreuodd ei gysylltiad â'r Nant yma tua'r flwyddyn 1827, pan ddaeth i gadw ysgol ddyddiol i Gapel Beuno yn llanc gwladaidd ac yswil yr olwg arno. Wedi bod yn y lle hwnw am tuag 16eg o flynyddoedd symudwyd yr ysgol i gapel newydd y Methodistiaid gerllaw y pentref, lle bu yntau yn athraw ynddi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd rybydd o'i fwriad i ymadael rai gweithiau—unwaith penderfynodd symud i Borthmadog; ond y wlad a gyfododd ei llais i'w attal, a'r pryd hyny y darfu i gyfarfodydd misol Lleyn, ac Eifionydd, ac Arfon bennodi swm blynyddol o gyflog idde am aros yn Nghlynnog, er mwyn rhoddi cyfleusdra i ymgeiswyr am y weinidogaeth gael addysg ragbarotoawl cyn myned i Athrofa. Prif ddiffyg Eben fel ysgolfeistr oedd tynerwch ei ddysgyblaeth. Byddai weithiau yn ymgolli mor lwyr yn nghanol creadigaethau ysblenydd ei ddychymyg barddonol, nes anghofio pawb a phobpeth o'i amgylch; er hyny yr oedd ar bawb o'i blant ofn ei ddigio fel digio tad; a chof genym weled rhai ohonynt yn wylo yn hidl pan awgrymodd efe iddynt ei fwriad i'w gadael. Efe oedd tad y cyfarfodydd llenyddol; a chynnaliwyd y cyntaf ohonynt yn y wlad hon, yn nghapel y Methodistiaid yn Nghlynnog, lle yr oedd y bardd yn gweithredu fel beirniad a chyfarwyddwr. Ymledodd y meddylddrych yn fuan dros y wlad, ac y maent eto yn hynod o boblogaidd. Cynnelir ef yn flynyddol yn Nghlynnog bob dydd Llun y Sulgwyn hyd heddyw. O ran ffurf ei gorff yr oedd Eben yn dal a lluniaidd, talcen uchel a llydan; ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn gadael ei farf yn llaes a thrybrith. Gwisgai bob amser yn drefnus, ond yn wladaidd. Ymddangosai ar y cyntaf yn annibynol ac oeraidd, ac nid oedd ei serch hyd yn nod at ei deulu, yn drysliog ag arwynebol, ond fel yr eigion yn ddwfn a llonydd. Yr oedd rhyw fath o yswildod yn nglyn wrtho mewn cyfarfodydd cyhoeddus; ond gartref yn ei gynefin traddodai ei sylwadau yn rhwydd a naturiol iawn. Yr oedd ei gyfeillgarwch yn werth cymeryd trafferth i'w feddiannu, oblegid meddiant parhaus fyddai, ac yn sicr o osod bri ar y sawl alwyddai. Cynwysa teulu y bardd unwaith, heblaw ei briod, bedwar o blant, sef tair merch ac un mab. Wedi eu gweled oll yn tyfu i fyny gwanwyn tyner einioes, gorfu arno edrych arnynt i gyd ond un, yn gwywo yn y darfodedigaeth. Yr oedd drylliad y rhwymau tyner â'i hunai, â'i briod, a'i blant yn creu y fath ing meddyliol hiraethus nad all neb o feddwl llai nag a feddai ef ei deimlo. Ei ddwy ferch hawddgar a glan, a'u mam, a'i fab, sef ei unig fab, y dysgedig a'r athrylithgar James Ebenezer Thomas, a gludwyd trwy y porth i fynwent Beuno, lle gorphwysent ar gyfer ei dy. Ei ferch hynaf, Mrs. Davies yr Hendre Bach yn unig a'i goroesoedd, ac y mae hithau er's blynyddoedd bellach wedi eu dilyn i'r un orweddle lonydd. Gadawyd y bardd yn mlynyddoedd olaf ei oes yn unig; ond yn awr y mae yr holl deulu, yn dad, mam, chwiorydd, a brawd, yn ddystaw a thawel wrth fur deheuol Eglwys Beuno Sant. Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o ddyfynu geiriau un o'i fywgraffwyr, y rhai a roddant ddesgrifiad cywir a tharawiadol o gyflwr bardd Clynnog Fawr yn nghanol unigrwydd blynyddoedd olaf ei oes. Yr oedd y pryd hwnw yn nyfroedd dyfnion trallod oherwydd colli ei anwyliaid, yn byw wrtho ei hun, a chadeiriau gweigion o'i ddeutu yn ail enyn ei alar bob edrychiad a roddai arnynt; ac i fagu y pruddglwyf nid oes odid haiach man yn Nghymru na Chlynnog Fawr, pentref bychan cysglyd, beddrodau saint hen a diweddar yn nghor Beuno gerllaw, a thudraw i hyny yr eigion cwynfanus yn ymgyro yn dragyfyth yn erbyn erchwynion ei wely; y Wyddfa benfoel gan henaint yn y pellder o'r tu cefn; ac ar y naill law wastadedd marwaidd yn ymestyn amryw filldiroedd, tra y gwelir ar y llaw arall fynyddau hirddaint yr Eifi cilwgus. Y mae y Llan gwledig, haf a gauaf, fel pe wedi ei offrymu i swyn gyfaredd yr hunllef; ac i ddyn o anianawd ddwys-fyfyriol Eben Fardd, a than ei ofidiau dygn, diau fod ei brudd-der yn ddwfn ac arteithiol yn y fath le. Y mae rhifedi a theilyngdod y rhan fwyaf o gyfansoddiadau Eben Fardd yn adnabyddus i bawb, fel nad rhaid eu crybwyll yma. Eisteddodd dair gwaith yn nghadair yr Eisteddfod, i dderbyn yr anrhydedd uwchaf allai ei genedl roddi iddo, a chydnebydd lluaws mawr o brif lenerion Cymru y dylasai gael gwneyd hyny iddo fwy o weithiau. Fel beirniad ni amheuodd neb erioed ei fedrusrwydd na'i gywirdeb, er fod ei duedd yn gogwyddo yn fwy at ganmol rhagoriaethau nac edliw beiau. Gellid ysgrifenu llawer hefyd am burdeb ei farddoniaeth. Digon yw dyweyd na chyfansoddodd Eben Fardd, hyd y gwyddys, linell erioed y bu achos iddo edifarhau na chywilyddio ohoni yn ei funudau olaf a difrifolaf; ac fel aelod eglwysig a blaenor, yr oedd mor gyson a rheolaidd, hunanymwadol ac efengylaidd ei ysbryd, ag y gall creadur anmherffaith bron fod. Yr oedd ei serch yn angherddol a dwfn at hen fynwent ac Eglwys a Chapel Beuno, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn:—" Yma," medd efe, gan gyfeirio at Eglwys y Bedd—"yma y bu fy meddwl mewn gweithgarwch bywiol gyda rhagolygiadau a gofalon bywyd, tra yr oedd pleth ar ol pleth yn cael eu gwau am danaf o gysylltiadau teuluaidd, y rhai y mae eu dadblethiad buan gan ddwylaw geirwon angau wedi gwaedu fy ysbryd, a'i adael yn dyner a dolurus! Rhwng hen furiau llwydion trwchus ac oedranus Capel Beuno y cyfansoddais y rhan fwyaf o awdl "Cystuddiau ac Amynedd Job," a llawer dernyn ag y mae genyf bleser i edrych drostynt weithiau eto. Ond y rheswm mwyaf dyddorol dros fy serch at hen Eglwys Clynnog Fawr yw, ei bod yn sefyll i fyny trwy oesoedd a chenedlaethau yn gofadail ddangosiadol o'r unig ysmotyn bychan cysegredig, yn yr ardal eang hon, lle bu ymdriniaeth athrawol defosiynol a didor a gair Duw, ac â materion Cristionogaeth er's deuddeg cant o flynyddoedd!" Ond er holl ragoriaethau llenyddol a moesol bardd mawr Clynnog, ei athrylith, a'i dduwioldeb, bu farw Chwef. 17, 1863, gan sibrwd y geiriau prydferth canlynol o'i eiddo ei hun:

"Y nefoedd fydd, yn berffaith ddydd,
O bob goleuni i'w ddysgwyl sydd."

Claddwyd ef wrth fur y gangell, lle mae cof-golofn o farmor gwyn, a gyfodwyd trwy gyfroddion gwirfoddol ei edmygwyr, yn addurno ei fedd. Yr oedd yn 61 mlwydd oed. Y mae llawer o ddarnau gorchestol o'i eiddo heb ymddangos erioed trwy y wasg, a gresyn o'r mwyaf ydyw, na chyhoeddid ei holl weithiau gyda'u gilydd. Nid oes un enw yn perarogli yn fwy hyfryd yn yr ardal hon nag enw cadeirfardd campdlysog Clynnog Fawr. Bydded heddwch i'w lwch.

Gyda'r benned hon dygir y dosbarth cyntaf o'n testyn i derfyniad. Bydd genym achlysur eto i gyflwyno i sylw y darllenydd amryw o gymeriadau neillduol, y rhai y bydd yn fwy manteisiol i ni grybwyll am danynt yn nosbarth y "Cofiannau," am fod y cwbl a wyddys o'r bron am danynt wedi ei gasglu oddiar lafar gwlad ac adgofion hen bobl. Gofidiwn na fuasai ein defnyddiau a'n gallu yn helaethach, i ysgrifenu yn fanylach, ar y rhan bwysicaf, a mwyaf dyddorol o lawer o'r testyn. Ymddengys i ni fod Nant Nantlle wedi cael ei hesgeuluso bron yn hollol gan bob hanesydd, a'i bod yn rhyw gilfach neillduedig, anghysbell, a thawel pan oedd ymrysonau ac ymladdfeydd yn cymeryd lle mewn ardaloedd cylchynol. Gellir casglu i'r grefydd Dderwyddol fod mewn cryn fri yma ryw adeg bell yn ol; ac y mae mewn amrywiol ucheloedd feini mawrion a elwir "meini arwydd," yn dangos fod yma ryw drefniadau rhyfelgar wedi cael eu cario yn mlaen rywbryd. Yr olion adeiladau a welir hyd yr ucheldiroedd a arweiniant i'r penderfyniad fod y lle yma wedi ei boblogi, i ryw fesur, mewn cyfnod boreuol. Gwelir yma ol y Brytaniaid, y Rhufeiniaid, y Gwyddelod, y Saeson, a'r Cymru presennol yn preswylio, a'i fod wedi teimlo i raddau oddiwrth y chwyldroadau fu ar ein gwlad er amser ymsefydliad cyntaf ein hynafiaid yn y rhan hon o Ynys Brydain.

Nodiadau

golygu