I'r Aifft ac yn Ol/Ar Fin yr Anialwch

Lle bu'r Mab Bychan I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ychydig o Friwfwyd Gweddill

PENOD XXII.

AR FIN YR ANIALWCH.

 I'R rhan fwya' o bobl y Gorllewin, mae'r Aifft yn gyfystyr â dau beth, a deubeth yn unig—y Nile a'r Pyramidie. Ac nid y'nt y'mhell o'u lle. Yr wyf wedi cysegru penod i'r blaena'; beth pe bawn yn cyflwyno darn o hon i'r ola'?

Ni fydde'r hanes y peth y dyle fod heb ynddo gyfeiriad at y Pyramidie. Pwy sy' heb glywed sôn am danynt? Pwy sy' heb wel'd eu llunie? A phwy sy' heb dybied ei fod yn gwybod y cwbl yn eu cylch? Ond dyna sy'n òd— y blynydde diwedda' mae henafiaethwyr wedi d'od o hyd i ben llinyn eu hanes. Os oes rhywun yn gwybod mwy am danynt na neb arall sy'n fyw, dyn o'r enw Petrie yw hwnw. Efe gafodd afel ar y fynedfa i'r 'stafelloedd sy'n y Pyramid mwya', ac efe sy' wedi bod yn darllen ei eis a'i ddeint er mwyn d'od o hyd i'w oedran. Ac eto dywed Petrie nad yw efe wedi meistroli hyd y'nod y wyddor o honynt! Maent wedi herio gwybodeth a dychymyg dyn am filoedd o flynydde, a synwn i ddim na pharant i'w herio am filoedd o flynydde i dd'od.

Ond mi adwaenwn ambell un ddigwyddodd dreulio dam diwrnod yn eu golwg, ac a ddaeth adre' i Gymru a'r Pyramidie ar ei fenydd! 'Doedd dim na wydde am danynt. Hwyrach y syne llawer cynulleidfa pe gwydde leied ŵyr y darlithydd trwy sylwadeth bersonol am y pethe y sieryd mor wych a thafod-lithrig am danynt. Nid yw y sylw yna'n ysgubol, ond y mae'n cynwys nifer fwy nag a feddyliech. Mi glywes ragor na siwrne gan ffrindie yn Cairo, taw yn y tŷ lle'r arosent y treulie dau ŵr enwog allaswn enwi, eu hamser c'yd ag y buont yn y ddinas. Nid oedd y ddau yno'r un pryd; ond yr oedd mor anodd codi'r ddau allan o'r tŷ ag oedd i godi'r tŷ dros eu pene. Hwyrach yn fwy anodd. A thaere'r ffrindie dd'wedent y gyfrinach wrthyf, taw ofn oedd yn eu caethiwo felly! Pan yn gwrando arnynt ar lwyfan y ddarlith, hawdd fydde madde i chwi am dybied taw hwy ddarganfyddodd y wlad! Tir cynil yw hwn i gerdded drosto, a rhag ofn ffrwydriade, gwell i mi ymgilio.

Cystal i chwi dd'we'yd eich bod wedi bod yn Llunden heb wel'd St. Paul's, neu yn Llanberis heb wel'd y Wyddfa, a d'we'yd eich bod wedi bod yn yr Aifft heb wel'd y Pyramidie. Felly, mi benderfynes y b'aswn yn treulio peth amser ar fin yr anialwch, lle maent yn sefyll, a'r Sphinx yn warcheidwad drostynt.

Pwy ddaw hefo mi? Nid am nad all'swn fyn'd fy hun, tae fater am hyny; ond cwmni gwael i ddyn mewn lle dieithr yw ei gysgod. Peth arall, nid o'wn am osod fy hun at drugarredd yr Arabied lladronllyd a heidient y lle yn enw arweinwyr, rhag ofn yr ystripid fi o gyment ag a feddwn, y dygid fi i'r anialwch ar gefn dromedari, ac y gwerthid fi'n gaethwas yn un o farchnadoedd y Sahara! Bum yn darllen llyfre Mayne Reid 'stalwm, pan oedd corff a meddwl dipyn yn a'mrwd; ac un o'r pethe rhyfedda' i mi oedd, fod y darlleniade hyny y'mynu d'od i'r wyneb ar ol dros ddeng mlynedd ar hugen o fedd.

Bid fyno, heb ragor o ymdroi, gwnaeth Jones ei feddwl i fyny i dd'od gyda mi; ac ar ol derbyn caniatad ei feistr, ni chym'rodd hyny ragor o amser nag a f'asech yn gym'ryd i rifo bysedd eich dwylo. 'Doedd dim posib' gwneud heb Ali chwaith. Yr oedd yn rhaid ini wrtho'n bena' fel amddiffyniad rhag beiddgarwch poenus y brodorion: ac er fod Jones yn gwybod mwy o Arabeg na mi, nid oedd yn gwybod cyment ag Ali. O ganlyniad, yr oedd yn rhaid ini wrtho fel dehonglydd hefyd.

Mae'r cerbyde trydanol y'myn'd a chwi bron at draed y Pyramidie. Onid oes yma gymysgfa ryfedd? Bron nad aech ar eich llw fod y cymysg-bla gynt heb fyn'd o'r wlad byth! Taith ardderchog y w hon! Allan o'r dre', drwy'r maesdrefi cywreinia', lle mae mẁd-gaban

—————————————


—————————————

y llafurwr a phalasdy'r pendefig yn edrych i wynebe'u gilydd—i ganol y wlad, lle mae gwastadedde llwydwyn a gerddi sychedig yn disgwyl am gynhyrfiad y dw'r. Rhed y cerbyde bob cam fin-fin â'r brif-ffordd, ac yma drachefn y cewch y golygfeydd dieithraf. Sgoroedd o gamelod yn dilyn eu gilydd yn un llinyn—rhai yn llwythog o feichie, ac erill heb ond y gyrwr yn eistedd ar yr hwmp. Crëadur cyfrwys yw'r camel. Os gosodir swm mawr o gelfi ar ei gefn, ai tybied yr ydych y caria efe fôd dynol gyda hyny? Na thwyller chwi. Mae camelod at gario celfi i'w cael, a chamelod at gario dynion; ond arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall. Mae camel y celfi yn gwybod ei fusnes i drwch y blewyn; ac os meiddia'r gyrwr ymguddio y'mysg y dodrefn fry, buan y ca ei hun y'nghanol y llwch obry. Mi weles olygfa felly wrth basio'r bore' hwnw. Tybies i fod y dyn wedi ei anafu'n dost, os nad wedi ei ladd; ond ce's brawf i'r gwrthwyneb heb aros yn hir. Rhwng ei flagardieth ef a difyrwch trystiog y finte, 'roedd yno Eisteddfod!

Y'nes y'mlaen, mi glywes ddyn a dynes yn ffraeo mewn gardd, ac yr oedd y ddau'n bur gyfartal yn y gystadleueth. Ni ddeallwn eu geirie, ond deallwn eu symudiade, y rhai o'ent debyg i symudiade pobl y ffordd hon pan wedi ymgolli'n eu pwnc. Cymere fy nghyd-deithwyr ddyddordeb mawr yn yr helynt, a chalonogent y ddynes â bloeddiade a churo dwylo. Ai tybed I ffrae gynta'r byd gymeryd lle mewn gardd? Ai rhwng dyn a dynes y hu hono? Os gwn i a fynodd Adda ac Efa hi allan ar ol gadel Eden? P'run o'r ddau ga'dd y gair ola' tybed? Mi wn i 'sgrechfeydd y ddynes hon ein dilyn am bellder wedi iddi hi a'i Hadda fyn'd o'r golwg. Onid oes rhyw feddylie diddeddf yn tramwy drwy'r galon weithie?

Yr o'em y'nghysgod y Pyramidie o hyd. Tyfent arnom fel y nesem atynt, ac ymddangosent i mi fel pe blotient y ffurfafen i'r cyfeiriad hwnw allan o'r golwg. Ar ol cydredeg am yn agos filldir â'r darn prydfertha o'r ffordd, a choed talion y palmwydd yn tyfu bob ochr iddi o fewn pellder mesuredig i'w gilydd, cyraeddasom yr orsaf. Yr oedd y gwres yn fawr, ond nid yn llethol. Rhuthrwyd i gael tamed o fwyd cyn troedio'r tywod, ond yr oedd yno erill can newynog a nine. Ni weles gynifer o glêr yr un pryd erioed yn fy mywyd. A'r fath glêr! Prin y gwelech y plât, heb sôn am y bwyd arno. Dilynent y tamed i'r gene, ac yr oedd ambell un yno o'i flaen. Nid wyf am wadu na lynces o honynt y pymtheng munud hwnw ddigon i ffurfio gwladfa gysurus. Yr oedd eu sŵn yn boddi'r siarad, a phrysurasom ymaith ar ol talu am y clêr.

Yr o'em yn y tywod er's meityn; ac yr oedd mor sych, a meddal, a thrwchus, nes gwneud cerdded drosto'n gryn dasg. O'r diwedd, dyma ni yn sefyll o flaen y mwya' o'r Pyramidie Cheops wrth ei enw. Paham y gelwir ef felly, nis gwn, os nad dyna enw'r dyn a'i cododd. Mae 'beitu haner dwsin o honynt yn sefyll heb fod y'mhell oddiwrth eu gilydd. Gorchuddiant arwynebedd mawr o dir cydrhyngddynt; ac o'r gwaelod i fyny meinhânt yn raddol, nes fod y pwynt ucha'n ymddangos fel llygad aderyn. Gwneir hwy i fyny o gerig hirion a phreiffion, wedi eu trefnu'n risie, y rhai oedd yn gofyn tipyn o hŷd mewn coes i'w cwmpasu. Yr oedd ochre'r hen ffrind Cheops yn frith o deithwyr ar eu ffordd i fyny ac ar eu ffordd i lawr, ac Arabied cyflogedig yn eu helpu. Efe oedd yr unig un a ddringid i'w ben hyd y diwrnod yr o'wn i yno. Bid siwr, yr oedd Jones wedi bod yma droion, ac edryche o'i gwmpas yn ddifater tra'r o'wn i'n agor fy safn o flaen Cheops. Ond yn sydyn, cyfeiriodd fy sylw at un o'r lleill, a gwelwn ddynion ar ben hwnw. Ac erbyn holi, hwy oedd y cynta i'w goncro, o fewn terfyne gwybodeth pawb oedd yn bresenol. Nid diffyg cymhelliad barodd i mi aros i lawr, ond bwrw'r draul a wnes, a oedd genyf ddigon o nerth i'w hebgor i ymgymeryd â'r anturieth. Mi ddes i'r casgliad yn fuan nad oedd, ac ni allodd holl ddonie plant Ismael fy symud.

Heb fod y'mhell o'r gym'dogeth, yr oedd gweddillion teml wedi cael ei dwyn i'r golwg. Es i lawr, a bum yn crwydro am amser drwy'r ystafelloedd a ddygent olion dyddie'r Pharöed—heibio'r colofne trwchus a'r meini mawrion, gan ryfeddu'r nerth a'r medr oedd wedi bod wrth y gwaifch. Argyhoeddid chwi bob cam a ro'ech fod a fyne caethion rywbryd â'r lle. Yr oedd y slabie anferth yn ffitio i'w gilydd fel morteisie, ac yr oedd un o honynt fel talcen tỳ cymedrol. Pe d'wedse rhywun wrthyf gydag awdurdod taw gwaith yr Hebrëwyr oedd y cwbl, ni f'aswn yn synu dim.

Pwy na chlywodd sôn am y Sphinx? Pen, gwyneb, ac ysgwydde dyn wedi eu tori allan o'r graig, a marcie tywydd canrifoedd arnynt. D'wedir ei fod yn hynach na'r Pyramid hyna'. Pwy sy'n gwybod? Wyneba i'r anialwch, a gwylia byrth toriad gwawr. Mae'n ara' falurio drwy'r oese, ond erys digon o hono ar ol i oroesi oese lawer eto. Mor ddystaw y mae! ac mor oer a stoicedd! Nid yw pelydre haul y cyhydedd, na gerwin gorwyntoedd yr anialwch wedi gwneud iddo syflyd ei emrynt gyment ag unweth drwy'r hirfeth genedlaethe, ond pery i ddisgwyl, disgwyl mor ddyfal heddyw ag erioed. Am ba beth, 'sgwn i? Mae hen draddodiad am y Sphinx ei fod yn gofyn cwestiwn i bawb ele heibio, ac yn lladd pawb a fethent ei ateb. Ond i ryw ddyn dd'od heibio ar ei dro, a'i ateb ar ei gyfer; ac i'r Sphinx dori ei galon mewn canlyniad, a throi'n gareg yn y fan. Y cwestiwn oedd hwn: Beth oedd y crëadur a gerdde yn y bore' ar bedwar, yn y prydnawn ar ddau, ac yn yr hwyr ar dri? Ai atebiad oedd Dyn—ei fod pan yn blentyn y'more'i oes yn ymgripian ar ei draed a'i ddwylo, pan yn ddyn y'nawnddydd bywyd yn cerdded yn unionsyth ar ei ddeudroed, a phan yn henafgwr y'mỳnu ei ffon i'w helpu. Ond 'rwy'n meddwl taw am Sphinx arall tua gwlad Groeg y d'wedir y 'stori yna, er fod hwn yn edrych yn ddigon creulon i ddilyn hobi o'r fath.

Fe ga'dd y Sphinx fwy o effeth arnaf na'r Pyramidie, ac nid heb iase'n ymsaethu drosof yr edrychwn arno dros f'ysgwydd wrth ffarwelio â'r lle. Dyma lle mae anialwch tywodlyd y Swdan yn dechre' o du'r gogledd, ac nid oedd genyf nemor ffansi i'r morgrug duon a'r ysgorpione a redent drosto.